Toglo gwelededd dewislen symudol

Canfod metel yn Abertawe

Rhaid i unigolyn gael caniatâd cyn mentro i unrhyw barc neu fan agored sy'n eiddo i'r cyngor. Mae hyn yn cynnwys Bae Abertawe a'r rhan fwyaf o'r traethau o amgylch Gŵyr.

Mae'r cyngor wedi llunio'r arweiniad canlynol ar gyfer defnyddio canfodyddion metel ar dir sy'n eiddo i'r cyngor.

Caniatâd i ddefnyddio canfodyddion metel ar dir sy'n eiddo i'r cyngor 

Gellir cael caniatâd drwy lenwi'r ffurflen ar-lein isod.

Fel rhan o'r broses bydd rhaid i chi gyflwyno'r canlynol:

  • Copi o'ch Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus 
  • Llun cyfredol
  • a copy of your National Council for Metal Detecting insurance

Os nad ydych yn aelod o'r National Council for Metal Detecting (NCMD), gwnewch gais yma: Join and Renew (National Council for Metal Detecting)

Sylwer: 

  • Ni fydd y cyngor yn awdurdodi defnyddio canfodydd metel ar unrhyw un o'i gaeau chwaraeon, ei ardaloedd chwarae ffurfiol ac anffurfiol, ei lawntiau bowlio ynghyd â'i welyau blodau, ei welyau llwyni a'i forderi.
  • Byddai unrhyw ganiatâd a roddir ar gyfer unigolyn ac nid grŵp.
  • Rhaid i ddeiliad y drwydded adael y tir yn yr un cyflwr ag yr oedd ar y dechrau e.e. sicrhau bod unrhyw laswellt etc y mae wedi'i gloddio yn cael ei roi yn ôl a mynd ag unrhyw sbwriel i ffwrdd gydag ef
  • Rhoddir trwyddedau am uchafswm o 12 mis a rhaid eu hadnewyddu'n flynyddol.
  • Rhaid i ddeiliad y drwydded gadw ei lythyr awdurdodi gydag ef i ddangos prawf bod ganddo awdurdodiad a'i fod wedi darparu ei fanylion yswiriant

Ardaloedd cyfyngedig

O bryd i'w gilydd bydd y cyngor yn cyfyngu ar rai ardaloedd lle na chaniateir canfod metel, a gall hyn fod o ganlyniad i sensitifrwydd lleol, gorddefnydd o ganfodyddion metel neu adborth arall. Dylech wirio'r dudalen hon yn rheolaidd am unrhyw ddiweddariadau.

  • Parc Dynfant

Ledled Abertawe mae hefyd safleoedd lleol sy'n sensitif lle efallai na fydd y cyngor yn caniatáu i chi ddefnyddio canfodyddion metel. Mae'n anghyfreithlon i unrhyw un ddefnyddio canfodydd metel ar ardal warchodedig (e.e.Safleoedd archeolegol cofrestredig, Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) neu eiddo'r Weinyddiaeth Amddiffyn) heb ganiatâd gan yr awdurdod priodol. Ni all y cyngor roi caniatâd ar gyfer tir preifat, gan fod yn rhaid cael caniatâd gan y tirfeddiannwr. Gellir cadarnhau perchnogaeth tir yn: the Land Registry

Darllenwch amodau a thelerau Canfod Metel y cyngor cyn cwblhau'r ffurflen gais ar-lein. Hefyd, sicrhewch eich bod yn gwirio'r Code of Practice for Responsible Metal Detecting in England and Wales (2017)

Gwneud cais am hawlen canfod metel Gwneud cais am hawlen canfod metel

Amodau a thelerau ar gyfer defnyddio synhwyrydd metel ar dir sy'n eiddo i Gyngor Abertawe Amodau a thelerau ar gyfer defnyddio synhwyrydd metel ar dir sy'n eiddo i Gyngor Abertawe

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 08 Mai 2025