Amodau a thelerau ar gyfer defnyddio synhwyrydd metel ar dir sy'n eiddo i Gyngor Abertawe
Mae Cyngor Abertawe'n gweithredu cynllun trwyddedau ar gyfer defnyddio synwyryddion metel ar rai tiroedd sy'n eiddo i'r cyngor. Gallwn gyflwyno trwydded i olrheinwyr metel unigol (nid grwpiau neu glybiau), yn amodol ar yr amodau canlynol:
- Bydd y drwydded i ddefnyddio synhwyrydd metel yn weithredol am gyfnod o flwyddyn a gallwch ei hadnewyddu'n flynyddol.
- Mae'r drwydded yn gallu cynnwys hyd at bum lleoliad (ond gweler amod 6).
- Bydd y drwydded yn benodol i'r lleoliad/lleoliadau a nodir ar y drwydded ac ni ellir ei throsglwyddo i ardal arall heb ganiatâd ysgrifenedig y cyngor. Caiff yr ardal(oedd) sy'n berthnasol i'r drwydded ei nodi ar y drwydded awdurdodi.
- Mae'n rhaid i'r ymgeisydd gario'r drwydded bob tro byddant yn ymweld â'r lleoliad(au) gyda synhwyrydd metel a rhaid ei chyflwyno os gofynnir iddynt wneud hyn gan swyddog awdurdodedig o Gyngor Abertawe.
- Bydd trwyddedau'n benodol i ymgeisydd unigol ac nad oes modd ei throsglwyddo.
- Mae'n rhaid i'r ymgeisydd ddarparu tystiolaeth o Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus digonol.
- Bydd deiliad y drwydded yn cymryd gofal i leihau difrod i blanhigion a bywyd gwyllt arall a rhaid iddynt gadw at unrhyw gyfyngiadau, dros dro neu fel arall, fel a hysbyswyd iddynt gan Gyngor Abertawe.
- Er mwyn osgoi niwsans sŵn i ddefnyddwyr eraill yr ardal, dylid gwisgo clustffonau bob amser wrth ddefnyddio synhwyrydd metel.
- Dylid ail-lenwi unrhyw dyllai a wneir gan ddeiliad y drwydded yn brydlon, yn ofalus ac yn ddiogel, a rhaid ailosod unrhyw fawn sy'n cael ei symud.
- Mae'n rhaid cadw a symud unrhyw wrthrychau a darnau arian a ddarganfuwyd. Bydd y rhain ar gael i Gyngor Abertawe, a fydd yn cadw gwrthrychau a darnau arian o'r fath am yr amser angenrheidiol er mwyn eu harchwilio a'u cofnodi'n ddigonol.
- Disgwylir y bydd y rhan fwyaf o wrthrychau hynafol, a rhai mwy diweddar, yn cael eu cadw gan y cyngor i'w dyrannu i amgueddfa neu gasgliad parhaol arall yn y dyfodol. Gall y cyngor, yn ôl eu disgresiwn, ddychwelyd gwrthrychau neu ddarnau arian i'r darganfyddwr.
- Bydd yr holl wrthrychau a darnau arian a ddarganfyddir (ac eithrio darganfyddiadau a gynhwysir yn amodau'r Ddeddf Trysor) yn parhau i fod yn eiddo i Gyngor Abertawe, a chânt eu gwaredu yn ôl ei ddisgresiwn.
- Mae'n rhaid i ddeiliad y drwydded fod yn gyfarwydd â Chod Ymarfer y Ddeddf Trysor (1996) a rhaid iddynt gadw at delerau'r Ddeddf ac unrhyw ddiwygiadau dilynol a allai, o bryd i'w gilydd, ddod i rym. Os caiff darganfyddiad ei ddatgan fel Trysor a'i gadw gan yr Amgueddfa Brydeinig neu gasgliad arall, bydd unrhyw daliad a roddir i'r darganfyddwr fel gwobr yn cael ei dalu i'r cyngor. Os caiff darganfyddiad ei wrthod, bydd yn parhau i fod yn eiddo i'r cyngor a chaiff ei gadw ganddo. Gall y cyngor, yn ôl ei ddisgresiwn, ddychwelyd y darganfyddiad, neu unrhyw daliad a roddir fel gwobr, i'r darganfyddwr.
- Os bydd deiliad y drwydded yn credu ei fod wedi darganfod casgliad (boed wedi'i wasgaru neu heb ei gyffwrdd) neu unrhyw ddeunydd arall o ddiddordeb archeolegol heb ei gyffwrdd, dylid dod â'r gwaith i ben ar unwaith ac adrodd am y mater cyn gynted â phosib i Gyngor Abertawe a swyddogion Darganfyddiadau Cymru (Nicola Felly Nicola.Kelly@museumwales.ac.uk) fel y gallant drefnu gwaith cloddio rheoledig neu arolwg arall os oes angen.
- Mae'n rhaid i ddeiliad y drwydded gadw cofnod da o'r canlyniadau chwilio. Dylai deiliad y drwydded nodi'r holl fannau lle darganfuwyd yr eitemau o ddiddordeb archeolegol mor agos â phosib, gyda Chyfeirnod Grid Cenedlaethol sy'n fanwl gywir i o leiaf 8 ffigur (gan ddefnyddio GPS yn ddelfrydol), a dylent gofnodi dyfnder y darganfyddiad a chadarnhau a ddaeth o dir aredig, cyflwyno'r canlyniadau ar fap neu gynllun wedi'u nodi a darparu'r wybodaeth hon i Gyngor Abertawe a swyddogion Darganfyddiadau Cymru (Nicola Kelly Nicola.Kelly@museumwales.ac.uk).
- Rhoddir y drwydded hon ar yr amod bod cofnod o weithgaredd canfod a darganfyddiadau'n cael ei gyflwyno i ni ar ddiwedd cyfnod y drwydded. Dylai'r cofnod hwn gynnwys y dyddiadau lle gwnaed gwaith olrhain a chrynodeb o unrhyw ddarganfyddiadau arwyddocaol neu hanesyddol. Ni chaiff trwyddedau eu hadnewyddu oni bai bod y cofnod hwn wedi'i gyflwyno.
- Os caiff yr amodau a thelerau uchod eu torri, bydd y drwydded yn annilys.
CYNGOR: Os ydych chi'n credu eich bod chi wedi dod o hyd i fwledi a chetris neu wrthrych marwol arall, cynghorir deiliad y drwydded i beidio â'i ddatgelu'r eitem ymhellach ac i farcio'r fan yn glir ac adrodd am y mater i'r tîm Digwyddiadau Arbennig a'r Heddlu ar unwaith
Dewis iaith
Addaswyd diwethaf ar 08 Mai 2025