Toglo gwelededd dewislen symudol

Canlyniadau Arolwg Boddhad Tenantiaid

Ar ddiwedd 2023 gofynnom i denantiaid gwblhau Arolwg Boddhad Tenantiaid fel y gallem glywed eich barn ac i'n helpu ni i wella'r gwasanaethau rydych chi'n eu derbyn.

Gwnaeth 1,337 o denantiaid lenwi'r arolwg.

Gallwch weld y canlyniadau llawn isod:

Pa mor fodlon neu anfodlon ydych chi ar y gwasanaeth a ddarparwyd gan y cyngor fel eich landlord?

  • Bodlon iawn - 29%
  • Bodlon - 44%
  • Ddim yn fodlon nac yn anfodlon - 14%
  • Anfodlon - 9%
  • Anfodlon iawn - 5%

Pa mor fodlon neu anfodlon ydych chi ar gyflwr cyffredinol eich cartref?

  • Bodlon iawn - 27%
  • Bodlon - 46%
  • Ddim yn fodlon nac yn anfodlon - 15%
  • Anfodlon - 8%
  • Anfodlon iawn - 4%

Yn gyffredinol, pa mor fodlon neu anfodlon ydych chi ar y ffordd y mae'r gwasanaeth tai yn ymdrin ag atgyweiriadau a gwaith cynnal a chadw?

  • Bodlon iawn - 27%
  • Bodlon - 38%
  • Ddim yn fodlon nac yn anfodlon - 15%
  • Anfodlon - 13%
  • Anfodlon iawn - 7%

Pa mor fodlon neu anfodlon ydych chi ar y gymdogaeth fel lle i fyw?

  • Bodlon iawn - 32%
  • Bodlon - 42%
  • Ddim yn fodlon nac yn anfodlon - 15%
  • Anfodlon - 7%
  • Anfodlon iawn - 4%

Pa mor fodlon neu anfodlon ydych chi fod eich rhent yn darparu gwerth am arian?

  • Bodlon iawn - 27%
  • Bodlon - 46%
  • Ddim yn fodlon nac yn anfodlon - 18%
  • Anfodlon - 6%
  • Anfodlon iawn - 3%

Pa mor fodlon neu anfodlon ydych chi fod eich taliadau gwasanaeth yn darparu gwerth am arian?

  • Bodlon iawn - 27%
  • Bodlon - 44%
  • Ddim yn fodlon nac yn anfodlon - 21%
  • Anfodlon - 5%
  • Anfodlon iawn - 3%

Pa mor fodlon neu anfodlon ydych chi bod y gwasanaeth tai yn gwrando ar eich barn ac yn ymateb iddo?

  • Bodlon iawn - 14%
  • Bodlon - 38%
  • Ddim yn fodlon nac yn anfodlon - 36%
  • Anfodlon - 8%
  • Anfodlon iawn - 5%

Pa mor fodlon neu anfodlon ydych chi fod y gwasanaeth tai yn darparu cartref sy'n ddiogel?

  • Bodlon iawn - 31%
  • Bodlon - 45%
  • Ddim yn fodlon nac yn anfodlon - 13%
  • Anfodlon - 7%
  • Anfodlon iawn - 4%

Pa mor fodlon neu anfodlon ydych chi ar y ffordd y mae'r gwasanaeth tai yn ymdrin ag ymddygiad gwrthgymdeithasol?

  • Bodlon iawn - 17%
  • Bodlon - 41%
  • Ddim yn fodlon nac yn anfodlon - 27%
  • Anfodlon - 9%
  • Anfodlon iawn - 6%

Pa mor fodlon neu anfodlon ydych chi ar y cyfleoedd a roddir i chi i gymryd rhan ym mhrosesau gwneud penderfyniadau'r gwasanaeth tai?

  • Bodlon iawn - 12%
  • Bodlon - 41%
  • Ddim yn fodlon nac yn anfodlon - 42%
  • Anfodlon - 4%
  • Anfodlon iawn - 2%

Pa mor fodlon neu anfodlon ydych chi fod y gwasanaeth tai yn rhoi cyfle i chi ddweud eich dweud ynghylch sut caiff gwasanaethau eu rheoli?

  • Bodlon iawn - 12%
  • Bodlon - 38%
  • Ddim yn fodlon nac yn anfodlon - 43%
  • Anfodlon - 4%
  • Anfodlon iawn - 3%

I ba raddau wyt ti'n cytuno â'r datganiad canlynol "Rydw i'n ymddiried yn fy landlord".

  • Bodlon iawn - 28%
  • Bodlon - 49%
  • Ddim yn fodlon nac yn anfodlon - 16%
  • Anfodlon - 5%
  • Anfodlon iawn - 3%

 

Rydym yn cymryd eich adborth o ddifrif ac rydym wedi nodi 3 maes y mae angen i ni eu gwella:

  1. Atgyweiriadau a chynnal a chadw
    Rydym yn gweithio i wella'r gwasanaeth atgyweiriadau. Roedd rhesymau pobl dros fod yn anfodlon ar hyn yn cynnwys atgyweiriadau yn cymryd rhy hir, galwadau ffôn a gollwyd, atgyweiriadau heb eu cwblhau etc. Rydym yn gweithio i gwblhau atgyweiriadau yn gynt ac rydym wedi cyflwyno system apwyntiadau wedi'u monitro ynghyd ag arolygon bodlonrwydd atgyweiriadau ar gyfer atgyweiriadau o ddydd i ddydd.
     
  2. Ymddygiad Gwrthgymdeithasol
    Mae bodlonrwydd ar y ffordd rydym yn ymdrin ag ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi gwella ers yr arolwg diwethaf yn 2021. Mae ein Tîm Cyswllt â'r Gymuned wedi cael ei ddatblygu yn ddiweddar i adlewyrchu ein perthynas gadarnhaol â thenantiaid yn well. 
  3. Cyfleoedd i gymryd rhan mewn gwneud penderfyniadau, gwrando ar farn a gweithredu arni, a chael cyfle i ddweud eich dweud am sut y caiff gwasanaethau eu rheoli
    Roedd y lefelau bodlonrwydd isaf yn ymwneud â chyfranogiad - cyfleoedd i ddweud eich dweud am y ffordd y caiff gwasanaethau eu rheoli, gwrando ar eich barn a chyfleoedd i gymryd rhan mewn prosesau gwneud penderfyniadau. Fodd bynnag, rydym yn falch bod 2 o'r meysydd hyn wedi gwella o ran bodlonrwydd o gymharu â 2021.
    Mae gennym Strategaeth Cyfranogiad ac Ymgysylltu adnewyddedig er mwyn adlewyrchu sut yr hoffech chi fel tenantiaid ymgysylltu â ni yn well. Rydym wedi cyflwyno digwyddiadau dros dro mwy anffurfiol am bynciau sy'n achosi pryder, y mae gan nifer ohonynt amrywiaeth o wasanaethau i'w cynnig e.e. ailgylchu, diogelwch cymunedol, gofalwyr ystadau etc. Mae tudalen Facebook newydd yn benodol ar gyfer cyfranogiad wedi cael ei chreu.

 

Mae'n angen i holl landlordiaid cymdeithasol Cymru lenwi arolwg boddhad tenantiaid bob 2 flynedd ac mae Llywodraeth Cymru'n cyhoeddi'r canlyniadau ar ei gwefan - gallwch weld y canlyniadau a'u cymharu yma: https://www.llyw.cymru/landlordiaid-cymdeithasol-arolwg-boddhad-tenantiaid-2024-html

Diolch i bawb a oedd wedi llenwi'r arolwg a chymryd yr amser i'w ddychwelyd i ni; mae eich barn yn bwysig iawn i ni.

Cynhelir yr Arolwg Boddhad nesaf yn 2025.

Llongyfarchiadau hefyd i'r 3 thenant lwcus sydd wedi ennill y gystadleuaeth.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 12 Rhagfyr 2024