Tenantiaid a lesddeiliaid y Cyngor - cymryd rhan
Hoffech chi gael y cyfle i ddweud eich dweud am sut rydym yn cyflwyno'r gwasanaethau rydym yn eu darparu ar gyfer ein tenantiaid a sut gellir eu gwella? Mae nifer o ffyrdd o gymryd rhan a sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed.
Rydym am i gynifer o'n tenantiaid â phosib ddweud eu dweud a helpu i lunio'n gwasanaethau ar gyfer y dyfodol, gweithio ochr yn ochr â ni ar bob cam o'r ffordd a rhoi gwybod i ni beth sy'n bwysig i chi - yn eich cartref a'ch cymdogaeth. Rydym am i denantiaid gael y pŵer i wneud y canlynol:
- amlygu meysydd i'w gwella
- awgrymu atebion
- helpu'n staff i wrando ar adborth
- rhoi gwybodaeth leol i ni
- ein helpu ni i roi awgrymiadau a syniadau ar waith lle bynnag y bo'n bosib
Mae hefyd gynifer o fuddion personol i'r rheini sydd am gymryd rhan, fel:
- dysgu sgiliau newydd
- helpu i fagu hyder
- gwneud ffrindiau newydd
Gall fod yn brofiad difyr hefyd!
Ffyrdd o gymryd rhan
Mae 3 lefel o gymryd rhan felly gallwch ddewis yr un sydd fwyaf addas i chi:
1.Cymryd rhan o bryd i'w gilydd
Mae gennym ddetholiad eang o arolygon, ymgynghoriadau a digwyddiadau untro y gallwch gymryd rhan ynddynt pryd bynnag y mynnwch:
- digwyddiadau galw heibio yn eich ardal
- materion lleol a drafodir wrth iddynt godi
- pynciau llosg fel sbwriel ac ailgylchu
- arolygon ar-lein a thrwy'r post
- hyfforddiant ymgysylltu ad hoc
- cyfarfodydd ar-lein
- digwyddiadau a gweithdai sgiliau
2. Cymryd rhan yn rheolaidd
Mae sawl grŵp a phanel sy'n ymdrin â materion sy'n ymwneud â maes gwasanaeth penodol:
- panel ymgynghorol y tenantiaid
- grŵp adeiladau ac atgyweirio
- grŵp rheoli a gofalu am ystadau
- grŵp byw'n annibynnol (llety pobl hŷn)
- grŵp adborth tŷ agored
- grŵp llywio tenantiaid
3. Cymryd rhan yn amlach
Mae croeso i chi gymryd rhan yn y broses cyfranogiad yn amlach, fel tenant ac fel cynrychiolydd ar gyfer eich ardal a/neu denantiaid eraill. Gofynnwch i ni am ragor o fanylion am sut gallwch helpu, a byddwn yn eich cefnogi bob cam o'r ffordd!
Sut i gymryd rhan
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am unrhyw un o'r uchod, ymuno â'n grŵp cyfranogiad tenantiaid ar Facebook (Yn agor ffenestr newydd) neu ddod i un o'n cyfarfodydd grŵp, cysylltwch â'r Swyddog Cyfranogiad.
Strategaeth Cyfranogiad ac Ymgysylltu 2024-2028
Mae Strategaeth Cyfranogiad ac Ymgysylltu 2024 - 2028 yn amlinellu ein nodau a'r camau gweithredu sydd eu hangen i alluogi ac annog cyfranogiad ac ymgysylltiad tenantiaid a lesddeiliaid dros y 4 blynedd nesaf.
Mae cyfranogiad yn ffordd i denantiaid a lesddeiliaid wneud y canlynol:
- Rhannu syniadau a chydweithio gyda'r gwasanaeth tai (eu landlord).
- Bod yn rhan o'r prosesau penderfynu sy'n effeithio'n uniongyrchol ar y gwasanaethau maent yn eu derbyn a'r cymunedau maent yn byw ynddynt.
- Defnyddio'r cyfleoedd amrywiol sydd ar gael i gymryd rhan a dweud eu dweud am yr hyn sy'n bwysig iddynt.
Mae ymgysylltu yn gyfle i denantiaid a lesddeiliaid:
- Gymryd rhan a dweud eu dweud mewn sefyllfaoedd llai ffurfiol fel sesiynau galw heibio.
- Defnyddio'r holl offer cyfathrebu sydd ar gael gan gynnwys cyfryngau cymdeithasol/cynnwys digidol i hysbysu tenantiaid a chaniatáu iddynt ddweud eu dweud.
- Profi dull mwy hamddenol a hyblyg o ymgysylltu sy'n ceisio sicrhau bod pawb yn cael cyfle i gymryd rhan mewn materion sy'n bwysig iddyn nhw.
Os hoffech gael copi o'r strategaeth lawn, fersiwn hawdd ei darllen neu grynodeb, cysylltwch â'r Swyddog Cyfranogiad gan nodi'ch fformat a'ch iaith a ffefrir.
Swyddog Cyfranogiad (Tai)
- Enw
- Alison Winter
- E-bost
- alison.winter@abertawe.gov.uk
- Rhif ffôn
- 01792 635043
- Rhif ffôn symudol
- 07775 221453