Canu yn y stryd yng nghanol y ddinas
Does dim byd fel sŵn cerddoriaeth fyw neu weld perfformwyr stryd yn diddanu'r cyhoedd er mwyn ychwanegu at yr awyrgylch wrth fynd o siop i siop yng nghanol y ddinas.
Os ydych yn berfformiwr stryd proffesiynol, yn adroddwr straeon, yn ddawnsiwr, yn gerddor brwd neu'n fyfyriwr drama, mae ein cynllun canu yn y stryd ac adloniant stryd canol y ddinas, Canu'r Dydd a Chanu'r Nos, yn llwyfan diogel a hygyrch wedi'i reoleiddio i berfformwyr er mwyn iddynt gael profiad amhrisiadwy o ddiddanu'r cyhoedd ynghyd ag ychydig o incwm drwy berfformio yn y stryd.
Mae'r cynllun hefyd, sydd wedi bod ar waith ers 2009, yn sicrhau bod gweithgareddau'n cael eu cydlynu, eu hyrwyddo a'u cefnogi gan gerddorion stryd a masnachwyr canol y ddinas.
Cyflwyno cais am hawlen perfformio yn y stryd Cyflwyno cais am hawlen perfformio yn y stryd
Lleoliadau perfformio
Mae lleoliadau perfformio swyddogol ar gael yng nghanol y ddinas yn yr ardaloedd gyda llawer o ymwelwyr sy'n darparu cyfleoedd yn ystod y dydd a min nos.

- Pen uchaf Stryd Rhydychen/mynedfa Sgwâr y Castell
- Cyffordd Stryd Rhydychen a Stryd Portland
- Stryd Rhydychen Isaf - y tu allan i hen siop Poundland
- Cyffordd Sgwâr y Santes Fair/Whitewalls
- Stryd yr Undeb - gyferbyn â mynedfa'r farchnad
- Y tu allan i Orsaf Drenau Abertawe
- Blaengwrt Castell Abertawe
- Cyffordd Gwaelod Stryd y Gwynt/Stryd y Gwynt Fach
- Gorsaf Fysus Abertawe*
- Stryd Rhydychen - o dan y canopi rhwng River Island a Sports Direct*
- Cyffordd Stryd Rhydychen/Whitewalls - o dan y canopi ger hen siop Topshop*
- Sgwâr y Santes Fair - o dan y canopi ger New Look*
* lleiniau tywydd gwlyb mewn lleoliadau cysgodol
Cefnogaeth
Mae ceidwaid canol y ddinas yn goruchwylio'r cynllun ar y safle ac yn helpu i ddelio ag unrhyw ymholiadau neu faterion a allai godi.
Mae tabardau 'Diddanu Abertawe' swyddogol hefyd ar gael gan y ceidwaid.