Cofrestru i wneud cais ar-lein ar gyfer derbyniadau i'r dosbarth Derbyn neu Flwyddyn 7
Cyn i chi allu llenwi cais ar-lein, bydd angen i chi gofrestru gyda chyfeiriad e-bost dilys.
Cofrestru ar borth derbyiadau ysgolion
1. Agorwch yr URL (a ddarperir i chi gan yr awdurdod lleol) mewn porwr gwe.
2. Cliciwch ar y ddolen 'Cofrestru cyfrif newydd'.

3. Nodwch eich cyfeiriad e-bost a chliciwch

Anfonir neges atoch i wirio eich manylion. Cliciwch ar y ddolen yn yr e-bost i gwblhau eich cofrestriad.
4. Ar ôl i chi gwblhau'r camau uchod, bydd angen i chi gofrestru eich manylion.
Nodwch yr wybodaeth y gofynnwyd amdano a'ch côd post (mae hwn yn faes gofynnol), yna cliciwch ar 'Dod o hyd i gyfeiriad'.
Cliciwch ar y gwymplen a dewiswch eich cyfeiriad.

Os nad ydych yn gallu dod o hyd i'ch cyfeiriad yn y gwymplen, gallwch ei deipio drwy ddewis yr opsiwn 'cyfeiriad ansafonol'.
5. Ar ôl chi nodi'ch manylion a dewis eich cyfeiriad, bydd angen i chi greu cyfrinair.

Rhaid i gyfrineiriau gynnwys o leiaf 8 nod a rhaid iddynt gynnwys o leiaf 3 o'r canlynol:
Llythrennau bach,
Llythrennau mawr,
Rhifau a nod arbennig.