Toglo gwelededd dewislen symudol

Cwestiynau cyffredin am werthu seddi gwag ar gludiant ysgol

Cwestiynau cyffredin am Gynllun Gwerthu Seddi Sbâr y cyngor.

  1. Beth yw cost sedd sbâr?
  2. Sut mae gwneud cais i brynu sedd sbâr?
  3. Pryd gallaf wneud cais am sedd sbâr?
  4. Sut gallaf ddarganfod pa wasanaeth contract sy'n pasio agosaf at fy nghartref?
  5. Os yw fy nghais yn llwyddiannus, a fydd gwasanaeth contract yn dargyfeirio i wasanaethu fy ardal i?
  6. Oes seddi sbâr ar gael ar bob bws contract?
  7. Pryd y caf glywed os yw fy nghais am sedd sbâr wedi bod yn llwyddiannus?
  8. Pam nad oes seddi sbâr yn cael eu gwerthu o wythnos gyntaf mis Medi pan fydd yr ysgolion yn dychwelyd?
  9. Fe brynais sedd sbâr mewn blynyddoedd academaidd blaenorol. Fyddai'n gallu prynu sedd sbâr yn awtomatig y flwyddyn academaidd hon?
  10. Rwy'n deall er y gallaf fod yn llwyddiannus wrth brynu sedd sbâr, fod posibilrwydd y bydd yn rhaid i'm plentyn fforffedu'r sedd ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn academaidd.
  11. Os yw fy amgylchiadau'n newid ar ôl prynu sedd sbâr, ydw i'n gallu cael ad-daliad?

Beth yw cost sedd sbâr?

Gellir prynu sedd sbâr ar gyfer blwyddyn academaidd am daliad untro o £527.00.

Sut mae gwneud cais i brynu sedd sbâr?

Gellir gwneud ceisiadau ar y dudalen Prynu sedd wag ar fws cludiant ysgol. Os oes angen cymorth arnoch gyda'ch cais gallwch fynd i Ganolfan Gyswllt y cyngor yn y Ganolfan Ddinesig lle bydd staff y cyngor yn gallu'ch cynorthwyo neu gallwch ffonio'r Tîm Cludiant ar 01792 636347

Pryd gallaf wneud cais am sedd sbâr?

Gallwch wneud cais o fis Medi ymlaen. Os yw'r cyngor yn gwybod yn bendant na fydd modd gwerthu sedd i chi ar eich bws contract dewisol, bydd yn cysylltu â chi'n fuan ar ôl i'ch cais gael ei dderbyn er mwyn i chi ystyried gwneud trefniadau eraill. Bydd unrhyw daliad rydych wedi'i wneud yn cael ei ad-dalu os yw'ch cais yn aflwyddiannus.

Sut gallaf ddarganfod pa wasanaeth contract sy'n pasio agosaf at fy nghartref?

Mae rhestr o wasanaethau contract y gellir prynu seddi sbâr arnynt ar gael. Os ydych yn byw mewn ardal lle nad yw cludiant yn cael ei ddarparu i ysgol eich plentyn, bydd angen i chi ganfod pa fws contract sy'n stopio agosaf at eich cartref. Os oes angen unrhyw gymorth arnoch, cysylltwch â Thîm Cludiant y cyngor (rhif ffôn: 01792 636347).

Os yw fy nghais yn llwyddiannus, a fydd gwasanaeth contract yn dargyfeirio i wasanaethu fy ardal i?

Yn anffodus nid yw hyn yn bosib. Fodd bynnag, os yw gwasanaeth contract yn mynd drwy'ch ardal ar y llwybr i'r ysgol ac oddi yno, gellir gwneud trefniadau i'ch plentyn deithio arno, ar yr amod nad yw hyn yn golygu bod yn rhaid i'r bws ddargyfeirio oddi ar y llwybr.

Oes seddi sbâr ar gael ar bob bws contract?

Nac oes, yn anffodus. Mae nifer y gwasanaethau contract yn gyfyngedig iawn ac mae rhestr o'r gwasanaethau contract y gellir prynu seddi sbâr arnynt ar gael. 

Pryd y caf glywed os yw fy nghais am sedd sbâr wedi bod yn llwyddiannus?

Cewch eich hysbysu yn ystod wythnos olaf mis Medi.

Pam nad oes seddi sbâr yn cael eu gwerthu o wythnos gyntaf mis Medi pan fydd yr ysgolion yn dychwelyd?

Rhaid i'r cyngor fod yn sicr bod lle i bob plentyn sydd â hawl i gludiant am ddim ar y bysus contract cyn y gellir gwerthu unrhyw seddi sbâr. Mae'r broses yn cymryd nifer o wythnosau o ystyried y miloedd o blant y mae'n rhaid i'r cyngor ddarparu cludiant am ddim ar eu cyfer. Yn ystod wythnosau cyntaf tymor yr hydref, mae'n rhaid i'r cyngor ystyried newidiadau sydd wedi digwydd yn ystod gwyliau ysgol yr haf, fel newidiadau i gyfeiriadau a phenderfyniadau disgyblion yn dilyn canlyniadau arholiadau. Felly, mae'n rhaid gohirio gwerthu seddi sbâr nes i'r broses hon gael ei chwblhau.

Fe brynais sedd sbâr mewn blynyddoedd academaidd blaenorol. Fyddai'n gallu prynu sedd sbâr yn awtomatig y flwyddyn academaidd hon?

Na fyddwch, yn anffodus. Bydd angen i chi ailymgeisio. Gwerthir seddi sbâr dim ond os ydynt ar gael, ac nid oes modd gwarantu y byddant ar gael o flwyddyn i flwyddyn oherwydd newidiadau mewn niferoedd disgyblion.

Rwy'n deall er y gallaf fod yn llwyddiannus wrth brynu sedd sbâr, fod posibilrwydd y bydd yn rhaid i'm plentyn fforffedu'r sedd ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn academaidd.

Mae hynny'n gywir. Os yw plentyn sydd â hawl i gludiant am ddim yn symud i'r ardal ddalgylch yn ystod y flwyddyn, efallai bydd yn rhaid i'r cyngor ddarparu ar gyfer y plentyn hwnnw ar fws contract yn hytrach na phlentyn sy'n prynu sedd sbâr. Os yw sedd eich plentyn yn cael ei disodli, byddwch yn derbyn ad-daliad am y gyfran o'r flwyddyn pan nad yw'ch plentyn yn gallu teithio.

Os yw fy amgylchiadau'n newid ar ôl prynu sedd sbâr, ydw i'n gallu cael ad-daliad?

Gallwch. Cyfrifir yr ad-daliad ar y gost fesul mis llawn o'r adeg pan fydd y pàs bws a ddychwelwyd yn cael ei dderbyn gan y Tîm Cludiant. Os bydd pàs bws wedi'i brynu ar gyfer y flwyddyn a'r taliad llawn wedi'i dderbyn, yna mi fydd yr ad-daliad am y misoedd llawn sy'n weddill yn cael ei wneud ar ôl derbyn y pàs. Os bydd y pás wedi'i brynu ar sail fisol, bydd taliadau'n cael eu canslo ar ôl i'r Tîm Cludiant dderbyn y pás.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 14 Awst 2023