Cyllid Angori Gwledig
Yn 2023 gwnaethom dderbyn cyllid gan Lywodraeth y DU dan y Gronfa Ffyniant Gyffredin, fel rhan o'r agenda Ffyniant Bro.
Erbyn dechrau 2024, yn dilyn proses ymgeisio, roeddem wedi dyfarnu'r cyllid llawn i 34 o brosiectau gwledig ledled Abertawe, sef cyfanswm o £486,756.16.
Dan y prosiect Angori Gwledig a ddatblygwyd yn lleol, roedd arian grant ar gael i gymunedau gwledig Abertawe ar gyfer prosiectau sy'n cefnogi'r themâu canlynol:
- yr economi wledig a phrofiad i ymwelwyr
- yr amgylchedd naturiol a'r argyfwng hinsawdd
- iechyd a lles
- arloesedd
O fewn y themâu hyn, mae'r prosiectau'n cyflawni yn erbyn o leiaf un o'r ymyriadau canlynol:
- buddsoddi mewn ynni adnewyddadwy,
- bioamrywiaeth,
- gwirfoddoli,
- astudiaethau dichonoldeb,
- marchnadoedd lleol a
- llwybrau i
Gwnaeth prosiectau refeniw dderbyn hyd at £15,000 a gwnaeth prosiectau cyfalaf dderbyn hyd at £25,000.
Y wardiau a oedd yn gymwys am gymorth oedd:
- Llandeilo Ferwallt
- Clydach (yn cynnwys Craig-cefn-parc)
- Fairwood
- Gorseinon a Phenyrheol
- Gŵyr
- Tregŵyr
- Llangyfelach
- Casllwchwr
- Pen-clawdd
- Penllergaer
- Pennard
- Pontarddulais (yn cynnwys ward Mawr)
- Pontlliw a Thircoed
Mae prosiectau mewn wardiau eraill yn cael eu cefnogi fesul achos os ydynt ar ymylon daearyddol y wardiau a enwir uchod, neu mewn amgylchiadau eithriadol, ardaloedd ag amgylcheddau naturiol helaeth mewn wardiau eraill.
Aseswyd yr holl geisiadau gan Banel Cynghori Gwledig, y mae ei arbenigedd ar draws amrywiaeth eang o faterion gwledig wedi profi'n amhrisiadwy.
Prosiectau
1. Rhwydwaith Gwybodaeth a Chyngor i Wirfoddolwyr Gwledig - Age Cymru Gorllewin Morgannwg - £15,000
Sefydlu gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chyfeirio wedi'i achredu gan AQS sydd wedi'i deilwra ar gyfer pobl hŷn a'u gyrfaoedd yng nghymunedau gwledig Abertawe. Caiff y gwasanaethau eu lleoli'n uniongyrchol o fewn y cymunedau a'u darparu gan wirfoddolwyr lleol.
www.facebook.com/AgeCymruWestGlamorgan
https://www.ageuk.org.uk/cymru/west-glamorgan/
2. Ynni Adnewyddadwy Doethach, Glanach ym mhenrhyn Gŵyr - Down to Earth - £22,250
Prosiect ynni adnewyddadwy i geisio gwella'r hyn sydd gennym yn ein hadeilad cymunedol ym Murton a Little Bryn Gwyn, Gŵyr drwy ddarparu storfa fatris i ategu'n haraeau solar sy'n darparu pŵer i'r adeiladau ac ar gyfer cyfleusterau gwefru ceir / e-feiciau.
www.facebook.com/downtoearthswansea
www.downtoearthproject.org.uk
3. Prosiect a Llwybr Ymwelwyr y Fenyw Goch - Twristiaeth Bae Abertawe - £15,000
Prosiect llwybr ac arddangosfa sy'n nodi deucanmlwyddiant darganfod Arglwyddes Goch Pen-y-fai (Pafiland) gyda gŵyl ddathliadol.
www.facebook.com/TourismSwanseaBay
www.tourismswanseabay.co.uk/red-lady-of-paviland-project/
4. Marchnad Gymunedol Eco Petallica - Cwmni Budd Cymunedol Petallica Flower Farm - £9,687.97
Sefydlu marchnad flodau fisol sy'n gwerthu cynnyrch amgylcheddol, moesegol i werthwyr blodau lleol a'r cyhoedd, gan geisio lleihau cadwyni cyflenwi a sefydlu cyflenwad lleol.
www.facebook.com/profile.php?id=100087732730079
www.petallica.org
5. Dadansoddiad Ymrwymiad ac Anghenion Amaethyddiaeth a Ffermwyr Mawr - Bwyd Abertawe - £14,990
Astudiaeth dichonoldeb sy'n cyflogi ymgynghorydd dwyieithog i ymchwilio i, a mapio gweithgarwch amaethyddol ar draws ardal Mawr, a fydd yn cysylltu â ffermwyr a busnesau / rhanddeiliaid amaethyddol.
www.facebook.com/bwydabertawe
www.environmentcentre.org.uk/bwydabertawe
6. Dylunio Man Storio Afalau Mesuradwy ar gyfer Perllannau Abertawe - Cyfoeth y Coed - £10,626
Astudiaeth i ddylunio storfa / storfeydd afalau y gellir eu hadeiladu ar y safle a defnyddio nodweddion amgylcheddol buddiol ar eu cyfer, megis adeiladu'r storfa/storfeydd gan ddefnyddio deunyddiau wedi'u hailgylchu, gan ganiatáu i berllannau lleol gynnig darpariaeth fesul cam, ac felly sicrhau'r ddarpariaeth fwyaf posib i'r farchnad leol ac ehangu'r ddarpariaeth i fannau gwledig megis ysgolion a banciau bwyd.
www.environmentcentre.org.uk/cyfoethycoed
www.facebook.com/groups/cyfoeth
7. Gosod Pympiau Gwres Ffynhonnell Aer - Eglwys Gymunedol Bont Elim - £25,000
Prosiect ynni adnewyddadwy i osod pympiau gwres ffynhonnell aer i leihau ôl troed carbon yr adeilad a'i wneud yn fwy ynni effeithlon.
8. Cefnogi Gwirfoddoli ym Mhenllergare - Ymddiriedolaeth Penllergare - £15,000
Prosiect sy'n canolbwyntio ar gynyddu nifer y gwirfoddolwyr yn Ymddiriedolaeth Penllergare drwy ariannu Cydlynydd Gwirfoddolwyr.
www.facebook.com/penllergare
https://penllergare.org/
9. Head Forward with Nature: Rhaglen les er mwyn i bobl a'r amgylchedd elwa gyda'i gilydd - Cwmni Budd Cymunedol Happy Headwork - £14,900
Rhaglen dysgu a gwirfoddoli gyfunol gyda'r nod o wella iechyd a lles yn y gymuned leol a'r amgylchedd naturiol o'i hamgylch.
www.facebook.com/happyheadwork
https://happyheadwork.com/
10. Ailwampio Neuadd Les - TG a bleinds - Cyngor Tref Llwchwr - £6,203.92
Prosiect dwy elfen gydag un elfen yn ceisio cyfrannu at leihau'r defnydd o danwydd drwy osod bleinds rholio thermol, a'r ail yn ceisio cynnig mwy o gyfleoedd ar gyfer cynhwysiant digidol drwy gaffael offer TG a hyfforddi hyfforddwyr gwirfoddol.
11. Cynyddu Bioamrywiaeth a'r Gallu i Wrthsefyll Newid yn yr Hinsawdd er lles cyffredinol yr Amgylchedd a'r Gymuned - Cwmni Budd Cymunedol amaethyddiaeth â chymorth y gymuned Cae Felin - £15,000
Prosiect wedi'i leoli ar safle Cae Felin i adfer bywyd gwyllt ac ailadeiladu cymuned drwy gysylltu pobl â'u hamgylchedd naturiol, i ddathlu amrywiaeth ecolegol a diwylliannol, wrth wella lles cymdeithasol, iechyd corfforol ac iechyd sy'n gysylltiedig â deiet, drwy wirfoddoli.
www.facebook.com/profile.php?id=100085366365598
www.caefelincsa.co.uk
12. Lleisiau Cymunedau Gwledig: astudiaeth dichonoldeb ar gyfer Craig-cefn-parc - Cyngor Cymuned Mawr - £9,725
Astudiaeth Ddichonoldeb i alluogi pentrefi Garnswllt a Chraig-cefn-parc i addasu a symud ymlaen fel cymunedau gwledig gweithredol, sy'n pontio'r cenedlaethau. Bydd yr astudiaeth ddichonoldeb yn mapio ffordd ymlaen ar gyfer gweithredu cymdeithasol ac adeiladu gallu.
www.mawrcommunitycouncil.org.uk
13. Prosiect Ynni Adnewyddadwy ar gyfer Neuadd Llanmorlais - Ymddiriedolaeth Neuadd Gymunedol Llanmorlais a'r Cylch - £14,580
Prosiect ynni adnewyddadwy ar gyfer Neuadd Llanmorlais sy'n cynnwys paneli solar a storfa fatris, gyda'r opsiwn i werthu'n ôl i'r grid cenedlaethol.
14. A Bug's Life: Prosiect Bioamrywiaeth 2.0 Mawr - Cyngor Cymuned Mawr - £14,265.75
Prosiect olynol i brosiect Bioamrywiaeth Cynllun Datblygu Gweledig a ariannwyd yn flaenorol ar draws dau safle, gan ddiogelu'r swydd Cydlynydd Prosiect Bioamrywiaeth a'r gallu i barhau i recriwtio, ymgysylltu a datblygu sgiliau'r gwirfoddolwyr yn ogystal â chyflwyno elfennau o ddysgu awyr agored a chwarae natur.
www.facebook.com/people/Mawr-Community-Council/100078414536658/
www.mawrcommunitycouncil.org.uk
15. ClearFlood - Llifoleuadau LED newydd - Cyfeillion Craig-cefn-parc - £14,500
Gosod llifoleuadau 'ClearFlood' ynni effeithlon a llygredd isel mewn ardal gemau aml-ddefnydd cymunedol pob tywydd mynediad agored y disgwylir iddi gael ei gosod (cyllid wedi'i sicrhau).
www.facebook.com/groups/1801623270130744
16. Gosod Paneli Solar a Storfeydd Batris Trydan - Cyngor Cymuned Y Crwys - £15,303.57
Gosod paneli solar, gyda chyfleuster batri ar gyfer storio pŵer yng Nghanolfan Gymunedol Y Crwys.
17. Crwydro Creadigol Gŵyr: Crwydro Myfyriol ym mhenrhyn Gŵyr - Gower Ministry Area - £15,000
Troeon natur llesol a gweithgareddau creadigol yn seiliedig ar adeiladau hanesyddol yr eglwys sy'n rhan o lwybr llwyddiannus Ffordd Pererindod Gŵyr, a sefydlwyd yn 2022 ar gyfer cerddwyr a beicwyr. Bydd y cyllid yn cael ei ddefnyddio i gyflogi cydlynydd digwyddiadau amser llawn i archwilio'r prosiect fel cynllun peilot, ac adeiladu canolfan wirfoddoli, gyda'r nod o gynllunio cynllun pum mlynedd.
www.facebook.com/wonderwellbeinggower
www.wonderofwellbeinggower.org
18. Marchnad Bwyd a Chrefftau Felindre - Neuadd Les Felindre - £13,183
Prosiect sy'n ceisio cyllid ar gyfer offer sylfaenol (matiau, biniau ac uned storio) i helpu i hwyluso marchnad leol lwyddiannus iawn sydd wedi arwain at fuddion profedig i breswylwyr a chynhyrchwyr lleol. Heb y grant hwn, byddai'r elfennau hyn yn anfforddiadwy.
www.facebook.com/people/Felindre-Food-Crafts-Market/100091451748144/
19. Astudiaeth Dichonoldeb Ailwampio ac Ôl-osod Effeithlonrwydd Ynni - Neuadd Bentref Llanmadog a Cheriton - £15,000
Astudiaeth ddichonoldeb i sefydlu opsiynau a chostau ar gyfer ailwampio ac ôl-osod neuadd y pentref fel ei bod yn arbed ynni.
www.llanmadocvillagehall.co.uk
20. Llwybr Cymdogaeth Nature Quest - Cwmni Budd Cymunedol Bantani Cymru - £14,699.94
Nod y prosiect yw ysbrydoli dysgwyr cynradd 8-11 oed ar draws 10 ysgol gynradd i ddarganfod, archwilio, ymchwilio a chreu llwybr natur ger eu hysgol, a chefnogi'r gwaith o'i hyrwyddo neu ei greu gydag adnoddau ar arddull arweinydd teithiau. Mae'r dysgwyr yn gyfrifol am greu neu gyfuno taith natur leol, dysgu am y natur sydd yno a pharatoi canllawiau digidol a hygyrch i ymwelwyr i hyrwyddo cefnogaeth a gwella'r profiad o gerdded ar hyd y llwybr natur arfaethedig.
www.facebook.com/BantaniEdu
www.bantani.cymru
21. Casglu, storio a defnyddio ynni solar ac inswleiddio thermal ychwanegol i leihau/ddisodli'r defnydd o drydan o'r prif gyflenwad yn neuadd y pentref - Cyngor Cymuned Cilâ Uchaf - £24,655
Yn ceisio cyflwyno mesurau lleihau carbon yn Neuadd Gymunedol Cilâ Uchaf, gan gynnwys gwelliannau i'r inswleiddio yn y neuadd, gosod paneli solar ar y to a gosod system storio batris i bweru'r goleuadau.
www.facebook.com/UpperKillayCC/
22. Prosiect Paneli Solar / Batri ac LED - Cyngor Cymuned Llandeilo Ferwallt - £24,335
Prosiect ynni adnewyddadwy ar gyfer Cymuned Llandeilo Ferwallt sy'n cynnwys paneli solar a batris storio, gyda'r opsiwn i werthu'n ôl i'r grid cenedlaethol. Goleuadau LED ychwanegol ar sail iechyd a diogelwch.
www.facebook.com/BishCC
www.bishopstoncc.com
23. Gŵyl Bwyd a Diod Gŵyr 2024 - Cyngor Cymuned Pennard - £7,000
Gŵyl bwyd a diod ym mhenrhyn Gŵyr, i'w chynnal ar un diwrnod ym mis Medi 2024.
www.facebook.com/PennardCommunityCouncil
https://pennardcc.gov.wales/
24. Surf To Success - Cwmni Budd Cymunedol Surf Therapy - £14,640
Prosiect sy'n defnyddio Rhaglen Therapi'r Môr i weithio gydag unigolion rhwng 18 a 25 oed sy'n ymwneud â'r system cyfiawnder troseddol. Bydd y cynllun yn addysgu cyfranogwyr i syrffio ac yn sicrhau eu bod yn caffael y sgiliau sydd eu hangen i ddod yn fentoriaid syrffio, gyda'r bwriad o gael cyflogaeth yn y sector.
www.facebook.com/surftherapyCIC
www.surf-therapy.org
25. Prosiect Coetir Graig y Coed - Cyngor Cymuned Llanrhidian Uchaf - £10,080
Prosiect sy'n seiliedig ar wirfoddoli i glirio a dechrau datblygu safle coetir diffaith a brydleswyd yn ddiweddar gan Gyngor Abertawe i greu parc natur sydd o fewn cyrraedd agos i bawb.
https://www.facebook.com/graigycoedwoodlandproject
26. Cydweithfeydd a Gweithio ar y Cyd ar gyfer Busnesau Bwyd yn Abertawe Wledig - Cyngor Abertawe - Partneriaeth Bwyd Abertawe - £14,627
Astudiaeth ddichonoldeb i sefydlu sut y gallai cwmnïau cydweithredol bwyd lleol weithio i gynorthwyo ffermwyr a gwneuthurwyr bwyd ar raddfa fach yng nghefn gwlad Abertawe.
www.swansea.gov.uk/foodpartnership
27. Gwella'n Man Gwyrdd - 6ed Grŵp Sgowtiaid Llangyfelach - £5,364.82
Nod y prosiect yw datblygu'r llain hon o dir ymhellach a gwella'i bioamrywiaeth fel y gall y grŵp Sgowtiaid, yn ogystal â grwpiau Sgowtiaid eraill a'r gymuned ehangach ddefnyddio'r tir at ddibenion hamdden / addysgol.
www.facebook.com/p/6th-Llangyfelach-Scout-Group-100093683193348/
28. Datblygu Gardd Gymunedol a Thir Parc Coed Gwilym gan Wirfoddolwyr - Cyfeillion Parc Coed Gwilym - £3,345.30
Datblygu gardd gymunedol er budd fflora a ffawna brodorol, y gwirfoddolwyr sy'n gweithio ynddi ac aelodau'r gymuned sy'n ymweld â hi.
www.friendsofcoedgwilympark.co.uk
29. Prosiect Paneli Solar Ffotofoltaig a Storio Batris - Cynllun Ymddiriedolaeth Lles Glowyr Pengelli - £25,000
Prosiect ynni adnewyddadwy gyda phaneli solar a storfa fatris ar gyfer Neuadd Gymunedol Pengelli.
30. Prosiect Adfer Dyfrgwn a Llygod y Dŵr - Ymddiriedolaeth Penllergare - £14,049.12
Prosiect bioamrywiaeth sy'n canolbwyntio ar gynefinoedd dyfrgwn a llygod y dŵr ar y safle.
www.facebook.com/penllergare
www.penllergare.org/about-us/thepenllergaretrust
31. Gower Loaf Flour Milling Project - Y Felin Ddwr Charitable Trust - £15,000
Prosiect trawsnewidiol i roi bywyd newydd i felin flawd o'r 12fed ganrif a'i defnyddio fel menter hunangynhaliol drwy gyflogi melinydd rhan-amser i adeiladu tîm o wirfoddolwyr sy'n dysgu i weithredu'r offer melin, a gweithio gyda nhw i ddatblygu cynnyrch newydd yn ein siop felin drwy ailgyflwyno cymysgedd blawd ar gyfer gwneud bara, gweithgarwch na welwyd ym mhenrhyn Gŵyr ers 200 mlynedd - y Dorth Gŵyr draddodiadol.
https://www.gowerheritagecentre.co.uk/
32. Ffermio a Theuluoedd; Y Mwmbwls i Landeilo Ferwallt - Gower Unearthed - £15,000
Prosiect i gynhyrchu archif ddigidol newydd am hanes amaethyddol a gwledig y Mwmbwls, yn benodol ei gysylltiadau â phentrefi bach gwledig Llandeilo Ferwallt. Bydd yr archif yn cynnwys wyth recordiad llafar am ei hanes, casglu a chyhoeddi achresi a ffotograffau o fywyd gwledig nas cyhoeddwyd o'r blaen.
www.facebook.com/GowerUnearthed
https://www.storyofmumbles.org.uk
33. Prosiect Batri Solar - Cymdeithas Neuadd Bentref Reynoldston - £10,450
Prosiect i osod batris a bwerir gan yr haul i gyflwyno system defnydd o ynni mwy cynaliadwy a chost-effeithiol.
34. Paneli Solar ar Adeilad Ystafelloedd Newid Presennol - Cyfeillion Parc Coed Gwilym - £13,294.77
Gosod 12 o baneli solar a batri storio cysylltiedig i gyflenwi ynni i'r pafiliwn cymunedol, a phwyntiau gwefru i bweru bws mini/car trydan cymunedol arfaethedig.
www.friendsofcoedgwilympark.co.uk
Cysylltwch â ruralanchorspf@abertawe.gov.uk am ragor o wybodaeth.