Toglo gwelededd dewislen symudol

Prosiect Angori Gwledig

Olynydd-brosiect i'r Rhaglen Datblygu Gwledig sy'n darparu cyllid ar gyfer datblygu cymunedol gwledig, gweithgareddau wedi'u seilio ar y newid yn yr hinsawdd a sero net a gweithgareddau busnes gwledig.

Bydd y Prosiect Angori Gwledig yn darparu arian grant yng nghymunedau gwledig Abertawe er mwyn gwneud y canlynol:

  • buddsoddi mewn prosiectau cyfalaf ynni adnewyddadwy ar raddfa fach
  • cynyddu bioamrywiaeth drwy brosiectau glasu gwledig, mentrau tyfu cymunedol ac ailddefnyddio ardaloedd nad ydynt yn cael eu defnyddio
  • cefnogi prosiectau gwirfoddoli er mwyn cynnwys gwahanol randdeiliaid mewn cymunedau gwledig
  • comisiynu astudiaethau dichonoldeb â chynlluniau wedi'u costio er mwyn sicrhau bod cymorth ariannol ar gael ar gyfer y dyfodol
  • creu marchnadoedd gwledig a llwybrau gwledig i ymwelwyr, mentrau a fyddai'n cynyddu nifer yr ymwelwyr â strydoedd mawr mewn ardaloedd gwledig

Bellach ar gau (Ionawr 2024)