Cynllun Gweithredu Strategaeth y Rhaglen Cymorth Tai 2022-2026
Rhoddwyd y Cynllun Gwaith Cychwynnol ar waith yn 2022/23
| Blaenoriaeth Strategaeth y Rhaglen Cymorth Tai | Camau gweithredu sydd eu hangen i gyflawni'r flaenoriaeth | Amserlenni
| Arweinydd | Canlyniad/Allbynnau |
1 | Cryfhau a chynyddu gwasanaethau ar waith i atal digartrefedd.
| Sicrhau cynnydd priodol yn yr adnoddau ar gyfer gwasanaeth digartrefedd statudol i ddelio â chynnydd yn y galw a darparu'r gallu i sicrhau ffocws newydd ar waith ataliol.
| Byr
| Rheolwr Opsiynau Tai
| Penodi swyddi newydd yn y Tîm Opsiynau Tai.
|
1 | Cryfhau a chynyddu gwasanaethau ar waith i atal digartrefedd. | Datblygu protocolau cyn troi allan gyda'r holl ddarparwyr tai a thai â chymorth, a deall rhesymau dros denantiaethau a adawyd, gan wreiddio dulliau amgylcheddau a hysbysir gan seicoleg (PIE) a dulliau a hysbysir gan drawma.
| Canolig | Swyddog Perfformiad a Datblygiad Cynllunio'r Grant Cymorth Tai / Rheolwr Gweithrediadau ar gyfer Tai Cymunedol
| Dim troi allan i ddigartrefedd ar draws y sector tai â chymorth a thai cymdeithasol.
|
1 | Cryfhau a chynyddu gwasanaethau ar waith i atal digartrefedd. | Datblygu ymhellach gyfres o fesurau dangosfwrdd a fydd yn llywio anghenion, bylchau a blaenoriaethau ac adrodd yn gywir am gynnydd tuag at ddod â digartrefedd i ben a chefnogi Fframwaith Canlyniadau Digartrefedd newydd Llywodraeth Cymru.
| Byr
| Tîm Comisiynu'r Grant Cymorth Tai (HSG) / Rheolwr Gweithrediadau ar gyfer Tai Cymunedol
| Mesurau ar waith ar gyfer:
|
1 | Cryfhau a chynyddu gwasanaethau ar waith i atal digartrefedd. | Mynd ati i hyrwyddo gwasanaethau digartrefedd, cyngor ar dai a chymorth tenantiaeth Opsiynau Tai ar-lein, yn y cyfryngau cymdeithasol a'r wasg.
| Byr | Rheolwr Opsiynau Tai/Rheolwr yr Uned Cymorth Tenantiaeth/ Tîm Comisiynu'r Grant Cymorth Tai
| Mae'r holl wasanaethau priodol yn gwbl hygyrch ac mae cymorth a chyngor ar gael ar y cyfle cyntaf.
|
1 | Cryfhau a chynyddu gwasanaethau ar waith i atal digartrefedd.
| Sicrhau bod targed yn cael ei gyrraedd ar gyfer atal digartrefedd. Monitro'r defnydd o gronfa Atal i sicrhau ei bod yn cyfrannu'n llwyddiannus at denantiaethau cynaliadwy, gan gynnwys data ar ddefnyddio Cronfa Caledi Tenantiaeth.
| Byr/canolig
| Rheolwr Opsiynau Tai
| Monitro data'r Gronfa Atal a Chaledi Tenantiaeth.
|
1 | Cryfhau a chynyddu gwasanaethau ar waith i atal digartrefedd.
| Monitro rhesymau dros golli llety rhent preifat i ddeall yn well yr hyn sy'n sbarduno'r achos hwn o ddigartrefedd a datblygu mesurau i fynd i'r afael â materion a nodwyd.
| Byr | Rheolwr Opsiynau Tai | Data rhentu preifat wedi'i goladu a'i fonitro. Gostyngiad mewn achosion o droi allan rhentu preifat. |
1 | Cryfhau a chynyddu gwasanaethau ar waith i atal digartrefedd.
| Comisiynu a chynnal lefel ac ystod briodol o wasanaethau cymorth yn y gymuned i ymgymryd ag ymyrraeth gynnar ac atal digartrefedd
| Canolig
| Tîm Comisiynu'r Grant Cymorth Tai gyda Rheolwr yr Uned Cymorth Tenantiaeth a Chydlynydd Plant sy'n Derbyn Gofal.
| Mae lefelau gwasanaethau a gomisiynir yn sicrhau bod cymorth ar gael yn gyflym ar gyfer ymyrraeth ac atal cynnar er mwyn atal anghenion rhag gwaethygu i gyflwyniadau digartrefedd. |
1 | Cryfhau a chynyddu gwasanaethau ar waith i atal digartrefedd. | Sicrhau bod yr holl wasanaethau a gomisiynir yn cysylltu â'r ffynonellau/partneriaid atgyfeirio priodol e.e., landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, Swyddogion Tai, meddygon teulu ar gyfer cyfleoedd i ymyrryd ac atal yn gynnar. | Byr
| Tîm Comisiynu'r Grant Cymorth Tai gyda Rheolwr yr Uned Cymorth Tenantiaeth a'r Cydlynydd Plant sy'n Derbyn Gofal. | Mwy o ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o gynnig y Gwasanaeth Cymorth Cysylltiedig â Thai. Ystod eang o ffynonellau atgyfeirio. |
2 | Sicrhau bod cymorth priodol ar gael ar yr adeg gywir i bobl sydd mewn perygl neu sy'n dioddef o ddigartrefedd.
| Adolygu'r Strategaeth Symud Ymlaen:
| Canolig
| Rheolwr Gweithrediadau ar gyfer Tai Cymunedol
| Mae Strategaeth Symud Ymlaen yn cyfrannu at y dull Ailgartrefu Cyflym a'r adolygiad Llwybr Llety Dros Dro. Nid yw pobl yn treulio mwy o amser nag sydd ei angen arnynt mewn Tai â Chymorth Dros Dro.
|
2 | Sicrhau bod cymorth priodol ar gael ar yr adeg gywir i bobl sydd mewn perygl neu sy'n dioddef o ddigartrefedd. | Datblygu llwybr symlach cyson i unigolion gael mynediad i lety â chymorth dros dro: Ystyried argymhellion yr adolygiad o feddwl trwy systemau. Cefnogi'r Cynllun Pontio Ailgartrefu Cyflym
| Byr | Rheolwr Gweithrediadau ar gyfer Tai Cymunedol/Tîm Comisiynu'r Grant Cymorth Tai a Darparwyr | Datblygu llwybr llety dros dro gan sicrhau bod yr opsiynau sydd ar gael yn addas ar gyfer llety ac anghenion cymorth unigolyn. Proses ac ystod o ddarpariaeth sy'n cefnogi'r Cynllun Pontio Ailgartrefu Cyflym.
|
2 | Sicrhau bod cymorth priodol ar gael ar yr adeg gywir i bobl sydd mewn perygl neu sy'n dioddef o ddigartrefedd.
| Lleihau'r rhwystrau rhag cael llety â chymorth dros dro a mwy hirdymor. E.e. Lefelau taliadau Rhent a Gwasanaeth. Diffyg gallu i ddarparu ar gyfer pobl ag anifeiliaid anwes. Diffyg llety â chymorth addas i barau. Gwaharddiadau troi allan blaenorol. Y gallu i reoli risgiau uchel mewn lleoliadau. Diffyg darpariaeth i ferched yn unig (lle mae cyfleusterau a rennir)
| Byr | Tîm Comisiynu'r Grant Cymorth Tai/Rheolwr Opsiynau Tai. | Chwalu rhwystrau rhag mynediad. |
2 | Sicrhau bod cymorth priodol ar gael ar yr adeg gywir i bobl sydd mewn perygl neu sy'n dioddef o ddigartrefedd.
| Datblygu cynllun caffael i ddarparu ystod o Lety â Chymorth Dros Dro sy'n cyfrannu at bontio i Ddull Ailgartrefu Cyflym/a Arweinir gan Dai ac sy'n sicrhau canlyniadau gwell ac yn cwtogi ar achosion o droi allan | Byr/canolig | Tîm Comisiynu'r Grant Cymorth Tai / Tîm Atal Digartrefedd. | Cyflawni nod y Cynllun Ailgartrefu Cyflym. |
2 | Sicrhau bod cymorth priodol ar gael ar yr adeg gywir i bobl sydd mewn perygl neu sy'n dioddef o ddigartrefedd. | Sicrhau bod Cydlynu Ardal Leol yn cwmpasu'r gymuned gyfan.
| Byr/canolig. | Cydlynydd Plant sy'n Derbyn Gofal/Tîm Comisiynu'r Grant Cymorth Tai. | Gwasanaeth ymyrraeth gynnar yn cwmpasu pob cymuned yn llawn. |
2 | Sicrhau bod cymorth priodol ar gael ar yr adeg gywir i bobl sydd mewn perygl neu sy'n dioddef o ddigartrefedd. | Mae Cymorth Ailgartrefu Cyflym ar gael ac yn cael ei gynnig i gefnogi mewn Gwely a Brecwast yn syth ar leoliad neu cyn gynted â phosibl. | Byr | Tîm Comisiynu'r Grant Cymorth Tai/Rheolwr Gweithrediadau ar gyfer Tai Cymunedol. | Cynigir cymorth yn gyflym i bawb sy'n cael eu rhoi mewn Llety Dros Dro Brys. |
1 ac 2 | Cryfhau a chynyddu gwasanaethau ar waith i atal digartrefedd. Sicrhau bod cymorth priodol ar gael ar yr adeg gywir i bobl sydd mewn perygl neu sy'n dioddef o ddigartrefedd. | Adrodd yn rheolaidd am restri aros yr Uned Cymorth Tenantiaeth ar draws yr holl grwpiau cleientiaid, a'u monitro.
| Byr | Rheolwr yr Uned Cymorth Tenantiaeth
| Sicrhau bod amser aros am gymorth tenantiaeth yn cael ei leihau cymaint â phosibl a bod cymorth argyfwng cyflym ar gael. |
3 | Datblygu a mabwysiadu dull Ailgartrefu Cyflym mewn partneriaeth â rhanddeiliaid.
| Datblygu Tîm Cymorth Ailgartrefu Cyflym pwrpasol mewnol yn yr Uned Cymorth Tenantiaeth
| Byr
| Cydlynydd yr Uned Cymorth Tenantiaeth
| Cymorth Ailgartrefu Cyflym wedi'i ymgorffori o fewn Gwasanaeth mewnol yr Uned Cymorth Tenantiaeth
|
3 | Datblygu a mabwysiadu dull Ailgartrefu Cyflym mewn partneriaeth â rhanddeiliaid. | Cwblhau Cynllun Pontio Ailgartrefu Cyflym a'i weithredu.
| Byr
| Swyddog Cynllunio, Perfformiad a Datblygu Grant Cymorth Tai / Rheolwr Gweithrediadau ar gyfer Tai Cymunedol
| Bod Cynllun Pontio Ailgartrefu Cyflym ar waith, a'i weithredu'n destun monitro.
|
3 | Datblygu a mabwysiadu dull Ailgartrefu Cyflym mewn partneriaeth â rhanddeiliaid. | Sefydlu grŵp partneriaeth strategol i ddatblygu Cynllun Pontio Ailgartrefu Cyflym. Parhau i gefnogi grŵp misol Ailgartrefu Cyflym gweithredol presennol. | Byr | Tîm Grant Cymorth Tai / Rheolwr Gweithrediadau ar gyfer Tai Cymunedol | Bod Cynllun Pontio Ailgartrefu Cyflym ar waith wedi'i ddatblygu mewn partneriaeth. |
3 | Datblygu a mabwysiadu dull Ailgartrefu Cyflym mewn partneriaeth â rhanddeiliaid. | Cwblhau Adolygiad Comisiynu Tai â Chymorth Llety Dros Dro gan gynnwys manyleb gwasanaeth a chynllun caffael sy'n mynd i'r afael â'r Cynllun Pontio Ailgartrefu Cyflym. | Canolig
| Tîm Grant Cymorth Tai / Rheolwr Gweithrediadau ar gyfer Tai Cymunedol
| Manyleb gwasanaeth a chynllun caffael ar waith sy'n mynd i'r afael â'r cynllun pontio Ailgartrefu Cyflym. |
3 | Datblygu a mabwysiadu dull Ailgartrefu Cyflym mewn partneriaeth â rhanddeiliaid. | Monitro'r defnydd o lety dros dro i aelwydydd digartref, a'r amser a dreulir yno, ac adrodd am hyn.
|
Canolig
|
Rheolwr Opsiynau Tai
| Mesurau ar waith ar amser a dreulir mewn llety dros dro. Gostyngiad yn y defnydd o lety dros dro a'r amser a dreulir yno.
|
3 | Datblygu a mabwysiadu dull Ailgartrefu Cyflym mewn partneriaeth â rhanddeiliaid. | Monitro'r amser a dreulir mewn Tai â Chymorth Dros Dro cyn symud ymlaen, ac adrodd amdano. | Byr | Tîm Comisiynu'r Grant Cymorth Tai | Tueddiadau'n cael eu monitro
Amser a dreulir mewn Tai â Chymorth Dros Dro yn cael ei leihau yn ôl yr angen. |
3 | Datblygu a mabwysiadu dull Ailgartrefu Cyflym mewn partneriaeth â rhanddeiliaid. | Adolygu a Gwerthuso Prosiect Tai yn Gyntaf
| Canolig
| Swyddog Cynllunio Perfformiad a Datblygu / Rheolwr Gweithrediadau ar gyfer Tai Cymunedol
| Cyrraedd targedau Tai yn Gyntaf.
|
4 | Parhau i ddatblygu a gwella gwaith partneriaeth gyda rhanddeiliaid allweddol er mwyn sicrhau dull cydgysylltiedig o atal digartrefedd.
| Parhau i hwyluso a chefnogi Cell Digartrefedd Aml-Asiantaeth Abertawe
| Byr/canolig
| Swyddog Cynllunio Perfformiad a Datblygu / Rheolwr Gweithrediadau ar gyfer Tai Cymunedol
| Cyfarfodydd rheolaidd gyda phresenoldeb da gan bartneriaid a chamau gweithredu dynamig parhaus o ganlyniad i waith y grŵp.
|
4 | Parhau i ddatblygu a gwella gwaith partneriaeth gyda rhanddeiliaid allweddol er mwyn sicrhau dull cydgysylltiedig o atal digartrefedd. | Parhau i gefnogi a hwyluso'r Fforwm Cydweithredol Digartrefedd a'r Grant Cymorth Tai
| Byr / Canolig
| Swyddog Cynllunio Perfformiad a Datblygu / Rheolwr Gweithrediadau ar gyfer Tai Cymunedol
| Cyfarfodydd rheolaidd gyda phresenoldeb da gan randdeiliaid. Cyfle i randdeiliaid allweddol lywio a dylanwadu ar ddatblygiad blaenoriaethau ac ymatebion strategol i atal a lleddfu digartrefedd.
|
4 | Parhau i ddatblygu a gwella gwaith partneriaeth gyda rhanddeiliaid allweddol er mwyn sicrhau dull cydgysylltiedig o atal digartrefedd. | Gweithio gyda phartneriaid landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i amlinellu a chytuno ar ddisgwyliadau i nodi sut y bydd y sector tai cymdeithasol yn gweithio gyda'i gilydd i leddfu digartrefedd.
| Byr/canolig
| Rheolwr Gweithrediadau Tai Cymunedol
|
|
4 | Parhau i ddatblygu a gwella gwaith partneriaeth gyda rhanddeiliaid allweddol er mwyn sicrhau dull cydgysylltiedig o atal digartrefedd. | Gyda phartneriaid, mapio'r ddarpariaeth ar waith i gynorthwyo a chynghori unigolion nad ydynt yn gymwys am gymorth tai a digartrefedd. E.e. Y rhai na allant fynd ar ofyn arian cyhoeddus.
| Canolig
| Rheolwr Gweithrediadau Tai Cymunedol Gwasanaethau Cymdeithasol
| Partneriaethau ar waith i gefnogi'r holl aelwydydd anghymwys
|
4 | Parhau i ddatblygu a gwella gwaith partneriaeth gyda rhanddeiliaid allweddol er mwyn sicrhau dull cydgysylltiedig o atal digartrefedd. | Gweithio gyda'r Gwasanaeth Prawf a phartneriaid allweddol yn y sector gwirfoddol i adolygu pa mor effeithiol yw'r Llwybr Carcharorion yn flynyddol.
| Byr
| Rheolwr Opsiynau Tai Prawf
| Trefniadau effeithiol ar waith i leihau digartrefedd ymhlith cyn-droseddwyr a lleihau aildroseddu.
|
4 | Parhau i ddatblygu a gwella gwaith partneriaeth gyda rhanddeiliaid allweddol er mwyn sicrhau dull cydgysylltiedig o atal digartrefedd. | Adolygu Polisi Dyraniadau Tai y Cyngor
| Canolig/Hir
| Rheolwr Gweithrediadau Tai Cymunedol
| Polisi dyrannu newydd ar waith sy'n adlewyrchu'r newidiadau mewn deddfwriaeth a blaenoriaethau.
|
4 | Parhau i ddatblygu a gwella gwaith partneriaeth gyda rhanddeiliaid allweddol er mwyn sicrhau dull cydgysylltiedig o atal digartrefedd. | Mynychu'r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol a'r Fforwm Tai Rhanbarthol i lywio a chefnogi datblygiad blaenoriaethau strategol ar draws tai, iechyd a gofal cymdeithasol sy'n darparu trawsnewid rhanbarthol a lleol.
| Byr/ Canolig
| Pennaeth Tai ac Iechyd y Cyhoedd
| Sicrhau bod Strategaeth y Rhaglen Cymorth Tai yn cydredeg â blaenoriaethau'r Strategaeth Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Thai i sicrhau canlyniadau gwell i ddinasyddion. |
4 | Parhau i ddatblygu a gwella gwaith partneriaeth gyda rhanddeiliaid allweddol er mwyn sicrhau dull cydgysylltiedig o atal digartrefedd. | Ymrwymo i ddefnyddio'r Grant Cymorth Tai ar gyfer ymyriadau iechyd anstatudol hanfodol i'r rhai mewn Llety Dros Dro Brys a Llety â Chymorth Dros Dro
| Byr
| Swyddog Cynllunio Perfformiad a Datblygu / Rheolwr Gweithrediadau ar gyfer Tai Cymunedol
| Bod tîm amlddisgyblaethol lleiafswm rhithwir ar waith i gefnogi niferoedd digynsail mewn llety dros dro brys tra bod nod tymor canolig yn cael ei weithredu.
|
4 | Parhau i ddatblygu a gwella gwaith partneriaeth gyda rhanddeiliaid allweddol er mwyn sicrhau dull cydgysylltiedig o atal digartrefedd. | Mynd ati i chwilio am opsiynau cyllid arbenigol eraill e.e. ICF neu gyllid Bwrdd Cynllunio Ardal ac iechyd arall i sefydlu a chynnal tîm anghenion cymhleth aml-asiantaeth.
| Canolig
| Tîm Comisiynu'r Grant Cymorth Tai/Opsiynau Tai
| Sefydlu tîm anghenion cymhleth i ddarparu gwell mynediad a mwy o allu i gefnogi pobl â phroblemau iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau er mwyn iddynt allu cynnal cartref sefydlog.
|
4 | Parhau i ddatblygu a gwella gwaith partneriaeth gyda rhanddeiliaid allweddol er mwyn sicrhau dull cydgysylltiedig o atal digartrefedd. | Sicrhau bod Adolygiad Comisiynu o Wasanaethau Camddefnyddio Sylweddau yn cael mewnbwn gan Gymorth Digartrefedd a Thai a thîm rhithwir anstatudol i gyfrannu anghenion pobl sy'n ddigartref.
| Byr
| Prif Swyddog Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu Bwrdd Cynllunio Ardal, gan gynnwys cynrychiolwyr o'r Gwasanaeth Digartrefedd a Thîm y Grant Cymorth Tai.
| Chwalu'r rhwystrau a nodwyd i bobl ddigartref rhag cael at y gwasanaethau cymorth a thrin camddefnyddio sylweddau, a hwythau'n gallu cynnal eu llety yn well.
. |
4 | Parhau i ddatblygu a gwella gwaith partneriaeth gyda rhanddeiliaid allweddol er mwyn sicrhau dull cydgysylltiedig o atal digartrefedd. | Cwblhau'r adolygiad comisiynu Iechyd Meddwl i lywio opsiynau caffael ar gyfer llety a chymorth arbenigol Iechyd Meddwl. Darparu unedau hunangynhwysol gwasgaredig/clwstwr tymor hwy ychwanegol a llety a rennir gan fenywod yn unig.
| Canolig
| Tîm Comisiynu'r Grant Cymorth Tai/Gwasanaethau Cymdeithasol/Iechyd/ Digartrefedd
| Bod gwasanaethau'n addas ar gyfer y dyfodol gan ddarparu gwasanaethau arbenigol sy'n canolbwyntio ar adferiad ac sy'n cael eu llywio gan drawma a seicoleg, gan baratoi pobl i symud ymlaen i lety mwy sefydlog a chynaliadwy gyda chymorth. Diwallu anghenion heb eu diwallu
|
4 | Parhau i ddatblygu a gwella gwaith partneriaeth gyda rhanddeiliaid allweddol er mwyn sicrhau dull cydgysylltiedig o atal digartrefedd. | Datblygu protocol effeithiol rhyddhau o'r ysbyty ar gyfer pobl sy'n cael problemau iechyd meddwl o ysbytai/wardiau Cyffredinol a Seiciatrig ac adolygu'r effeithiolrwydd yn flynyddol.
| Byr | Opsiynau Tai Iechyd | Bod protocol clir ar waith ar gyfer dull arfaethedig o asesu llety ac opsiynau cymorth i bobl sy'n gadael yr ysbyty |
5 | Gweithio mewn partneriaeth i gryfhau'r ddarpariaeth gymorth i bobl sydd ag anghenion cymhleth, gan gynnwys iechyd meddwl, anabledd dysgu, camddefnyddio sylweddau a VAWDASV. | Ymestyn cymorth a llety arbenigol VAWDASV i bobl sy'n ei chael yn anodd cael at wasanaethau cyfredol.
| Canolig
| Arweinydd Strategol VAWDASV / tîm y Grant Cymorth Tai
| Sicrhau bod yr un gwasanaethau ar gael yn gyfartal i ddioddefwyr, a'r gwasanaethau hynny wedi'u hadnoddu'n briodol, o ansawdd uchel, wedi'u harwain gan anghenion, yn seiliedig ar gryfder, ac yn ymatebol i rywedd.
|
6 | Parhau i gynyddu'r cyflenwad o lety addas a fforddiadwy. | Mae Rhaglen Mwy o Gartrefi wedi gosod uchelgais cyflawni 10 mlynedd ar gyfer 1000 o gartrefi newydd y Cyngor o 2021-2031 Mae'r 4 Landlord Cymdeithasol Cofrestredig presennol sydd wedi'u gosod i ddatblygu yn Abertawe rhyngddynt yn rhagfynegi darparu dros 4000 o gartrefi newydd dros y 10 mlynedd nesaf. Parhau â rhaglen gaffael yr ALl, gan gynnwys cynllun yn blaenoriaethu fflatiau 1 ystafell wely er mwyn delio â'r argyfwng uniongyrchol a lleihau nifer yr aelwydydd sengl mewn llety gwely a brecwast mor gyflym â phosib. D.S. Mae'r rhaglen hefyd yn caffael fflatiau a thai mwy o faint i gynyddu'r cyflenwad cyffredinol mewn ardaloedd o angen ar gyfer aelwydydd mwy o faint.
| Tymor Hir
Canolig | Rheolwr Datblygu a'r Strategaeth Tai
| Adeiladu 1000 o gartrefi cyngor newydd erbyn 2031. 4000 o dai fforddiadwy newydd ychwanegol erbyn 2031. Cynyddu eiddo 1 ystafell wely ar gael yn syth i'w osod yn stoc yr ALl. Gostwng nifer yr aelwydydd mewn llety gwely a brecwast.
|
6 | Parhau i gynyddu'r cyflenwad o lety addas a fforddiadwy. | Parhau i gynyddu'r cyflenwad o eiddo rhentu preifat addas a fforddiadwy drwy sefydlu cynllun gosodiadau cymdeithasol ar gyfer eiddo'r sector preifat.
| Canolig | Rheolwr Gweithrediadau Tai Cymunedol / Tîm Sector Rhentu Preifat Wallich | Sefydlu Asiantaeth Gosodiadau Cymdeithasol Abertawe erbyn 2023. Nifer darged yr eiddo i'w chyhoeddi
|
6 | Parhau i gynyddu'r cyflenwad o lety addas a fforddiadwy. | Sicrhau bod llety gwely a brecwast yn cael ei ddefnyddio ar gyfer teuluoedd mewn argyfwng yn unig ac nad eir heibio'r targed hwnnw.
| Hir
| Rheolwr Datblygu a'r Strategaeth Tai
| Cyrraedd targed y dangosydd perfformiad
|
6 | Parhau i gynyddu'r cyflenwad o lety addas a fforddiadwy. | Atal defnyddio llety gwely a brecwast ar gyfer pobl 16 a 17 oed.
| Byr
| Rheolwr Digartrefedd Ieuenctid /Rheolwr Opsiynau Tai
| Cyrraedd targed y dangosydd perfformiad
|
6 | Parhau i gynyddu'r cyflenwad o lety addas a fforddiadwy. | Cynyddu'r ddarpariaeth llety dros dro sydd ar gael i bobl sengl a theuluoedd
| Byr | Rheolwr Gweithrediadau Tai Cymunedol | Defnyddio llai o lety gwely a brecwast |
7 | Gweithio gyda defnyddwyr gwasanaeth a rhanddeiliaid i gyflwyno mecanweithiau rheolaidd ar gyfer ymgysylltu a chyd-gynhyrchu i lywio datblygiad a gwelliant gwasanaethau
| Ymgorffori egwyddorion cyd-gynhyrchu wrth gynllunio a darparu gwasanaethau.
| Byr/ canolig Hir | Swyddog Cynllunio Perfformiad a Datblygu'r Grant Cymorth Tai Rheolwr Opsiynau Tai Rheolwr Opsiynau Tai | Gweithredu dulliau cyd-gynhyrchu yn ystod adolygiadau comisiynu gan wneud gwahaniaeth i ganlyniadau cynllunio gwasanaethau. Ymgorffori cyd-gynhyrchu mewn manylebau tendr a'i fesur yn rhan o ddarparu gwasanaethau effeithiol.
|
7 | Gweithio gyda defnyddwyr gwasanaeth a rhanddeiliaid i gyflwyno mecanweithiau rheolaidd ar gyfer ymgysylltu a chyd-gynhyrchu i lywio datblygiad a gwelliant gwasanaethau | Cynnal arolygon boddhad gyda: · Chleientiaid Opsiynau Tai (digartrefedd a chyngor ar dai) · Aelwydydd mewn llety dros dro · Nodi ffyrdd o sicrhau ymgysylltu gan grwpiau sydd â "nodweddion gwarchodedig"
| Canolig |
| Cwblhau arolygon ac adrodd am ganfyddiadau i'r Gell Ddigartrefedd a'r Fforwm Digartrefedd/Grant Cymorth Tai.
Nodi gwelliannau a chamau gweithredu gwasanaeth ychwanegol i'w cynnwys yng nghynllun gweithredu'r Rhaglen Cymorth Tai.
|
7 | Gweithio gyda defnyddwyr gwasanaeth a rhanddeiliaid i gyflwyno mecanweithiau rheolaidd ar gyfer ymgysylltu a chyd-gynhyrchu i lywio datblygiad a gwelliant gwasanaethau | Cyflwyno dull cydgynhyrchiol gyda defnyddwyr gwasanaeth er mwyn datblygu'r canlynol:
| Canolig |
| Cynhyrchu a chyhoeddi Safonau Gwasanaeth ar gyfer Opsiynau Tai a llety dros dro |
8 | Cryfhau'r ddarpariaeth cymorth a llety i bobl ifanc. | Gweithredu canfyddiadau Adolygiad o Feddwl trwy Systemau
| byr/canolig | Rheolwr Digartrefedd Ieuenctid Prif Swyddog - Gwasanaethau'r Glasoed a Phobl Ifanc
| Mwy o gymorth ar gael i helpu i gefnogi annibyniaeth a phontio i fod yn oedolyn
|
8 | Cryfhau'r ddarpariaeth cymorth a llety i bobl ifanc. | Cwblhau'r Cyd-adolygiad Comisiynu ar Gymorth a Llety i Bobl Ifanc. | Byr /Canolig
| Tîm y Grant Cymorth Tai / Prif Swyddog - Gwasanaethau'r Glasoed a Phobl Ifanc
| Adolygiad wedi'i gwblhau a chynllun comisiynu ar waith
Adolygiad wedi'i gwblhau a model wedi'i ddatblygu. |
8 | Cryfhau'r ddarpariaeth cymorth a llety i bobl ifanc.
| Adolygu a gwerthuso cynllun Tai yn Gyntaf a ariennir gan Llywodraeth Cymru ar gyfer pobl ifanc. Ystyried cynyddu nifer yr unedau.
| Byr
| Rheolwr Digartrefedd Ieuenctid Prif Swyddog - Gwasanaethau'r Glasoed a Phobl Ifanc
| Adolygiad wedi'i gwblhau a model wedi'i ddatblygu.
Tymor hwy - cynnig sy'n unol â'r hyn sy'n bwysig i bobl ifanc yn Abertawe ac sy'n adlewyrchu mwy o ddewis a rheolaeth
|
8 | Cryfhau'r ddarpariaeth cymorth a llety i bobl ifanc.
| Hyrwyddo a sicrhau gweithredu Siarter Digartrefedd Ieuenctid o fewn y Cyngor ac ymhlith partneriaid. | Byr/ Canolig | Rheolwr Digartrefedd Ieuenctid
| Siarter Digartrefedd Ieuenctid wedi'i gwreiddio yn y gwasanaeth.
|
8 | Cryfhau'r ddarpariaeth cymorth a llety i bobl ifanc.
| Gwreiddio'r gwasanaeth fflat hyfforddi pontio fel rhan o'r cynnig lleol ac archwilio ehangu model Tai yn Gyntaf i ieuenctid yn Abertawe ar ôl ei werthuso fel rhan o'r adolygiad o lety â chymorth a chymorth fel y bo angen
| Byr/ Canolig | Rheolwr Digartrefedd Ieuenctid Prif Swyddog - Gwasanaethau'r Glasoed a Phobl Ifanc
| Mwy o bobl ifanc yn cael at wasanaethau'r Awdurdod Lleol neu fyw'n annibynnol yn y sector rhentu preifat.
Mwy o opsiynau ar gael i Bobl Ifanc
|
8 | Cryfhau'r ddarpariaeth cymorth a llety i bobl ifanc.
| Parhau i ddefnyddio Grant Cymorth Ieuenctid i gydredeg â'r Grant Cymorth Tai a chryfhau ein ffocws ar atal Digartrefedd Ieuenctid drwy ddefnyddio gwaith atal Troi Allan ar gyfer y rhai sy'n gadael gofal, swyddogaeth cydlynu gweithdrefn asesu safonol a chynnig blaen tŷ i bobl ifanc y mae angen cymorth a chyngor arnynt ar unwaith
| Canolig | Rheolwr Digartrefedd Ieuenctid Prif Swyddog - Gwasanaethau'r Glasoed a Phobl Ifanc
| Gostwng y niferoedd sy'n cael eu troi allan Gwella niferoedd symud Gwell paru a chynigion lleoliad
|
8 | Cryfhau'r ddarpariaeth cymorth a llety i bobl ifanc.
| Parhau i ddatblygu swyddogaeth 'Pan Wyf yn Barod' o fewn gwasanaethau'r Glasoed a Phobl Ifanc i sicrhau bod pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal yn cael y cyfle i aros gyda gofalwyr maeth/ffrindiau a theulu.
| Byr | Rheolwr Digartrefedd Ieuenctid Prif Swyddog - Gwasanaethau'r Glasoed a Phobl Ifanc
| Cynyddu niferoedd y bobl ifanc sy'n aros mewn amgylchiadau 'Pan Wyf yn Barod' a hyrwyddo mwy o sefydlogrwydd a chanlyniadau gwell fel aros mewn hyfforddiant ac addysg am gyfnod hirach
|
8 | Cryfhau'r ddarpariaeth cymorth a llety i bobl ifanc.
| Defnyddio cyllid atal i barhau i leihau risgiau troi allan a hybu llety a / neu sefydlogrwydd tenantiaeth i bobl ifanc.
| Byr | Rheolwr Digartrefedd Ieuenctid Prif Swyddog - Gwasanaethau'r Glasoed a Phobl Ifanc
| Lleihau niferoedd troi allan, sylwi ar sbardunau, anghenion yn gynharach, ac ymyrryd yn gynharach i atal problemau rhag gwaethygu |
8 | Cryfhau'r ddarpariaeth cymorth a llety i bobl ifanc.
| Parhau i ddefnyddio'r Grant Cymorth Tai i gefnogi gweithrediad parhaus rôl atal digartrefedd haen 3 fel rhan o atal ac ymyrraeth gynnar
| Byr | Rheolwr Digartrefedd Ieuenctid Prif Swyddog - Gwasanaethau'r Glasoed a Phobl Ifanc
| Atal digartrefedd yn gynnar Gwell cyfryngu gyda theuluoedd ac atal yr angen i ddod o hyd i lety
|
9 | Darparu ymatebion cadarn i gefnogi pobl sy'n cysgu ar y stryd a dileu'r angen i unigolion gysgu ar y stryd. | Parhau i weithredu'r ymateb brys parhaus i bobl sy'n cysgu ar y stryd yn ystod y pandemig
| Byr
| Rheolwr Gweithrediadau Tai Cymunedol
| Monitro data cysgu ar y stryd a'i adrodd yn fisol i Gell Ddigartrefedd, cadw'r niferoedd sy'n cysgu ar y stryd mor isel â phosibl.
|
9 | Darparu ymatebion cadarn i gefnogi pobl sy'n cysgu ar y stryd a dileu'r angen i unigolion gysgu ar y stryd. | Cwblhau adolygiad amlasiantaethol o'r ddarpariaeth a'r gwasanaethau sydd ar gael i osgoi'r angen i gysgu ar y stryd.
| Canolig
| Tîm Comisiynu'r Grant Cymorth Tai/ Rheolwr Gweithrediadau ar gyfer Tai Cymunedol
| Sicrhau bod gwasanaethau a gomisiynir yn cwrdd â nodau cyrraedd pawb sy'n cysgu ar y stryd gyda 24 awr o hysbysu a dileu'r angen i gysgu ar y stryd.
|
9 | Darparu ymatebion cadarn i gefnogi pobl sy'n cysgu ar y stryd a dileu'r angen i unigolion gysgu ar y stryd. | Adolygiad o Wasanaethau Grant Atal Digartrefedd yn pontio i brif raglen y Grant Cymorth Tai i sicrhau addasrwydd at y diben a chyfrannu at Gynllun Pontio Ailgartrefu Cyflym.
| Byr
| Tîm Comisiynu'r Grant Cymorth Tai/ Rheolwr Gweithrediadau ar gyfer Tai Cymunedol | Cyrraedd safbwynt clir wedi amddiffyniad wedi'i glustnodi ar gomisiynu blaenoriaeth strategol fel rhan o brif raglen y Grant Cymorth Tai. |
9 | Darparu ymatebion cadarn i gefnogi pobl sy'n cysgu ar y stryd a dileu'r angen i unigolion gysgu ar y stryd. | Cynnal adolygiad blynyddol o'r Cynllun Tywydd Garw.
| Byr | Rheolwr Opsiynau Tai/ Tîm Comisiynu'r Grant Cymorth Tai
| Wedi cwblhau adolygiad a chynllun yn cael ei ddiweddaru'n flynyddol.
|
Sylwch y gallai rhai camau gweithredu gyfrannu at fwy nag un flaenoriaeth.