Strategaeth Y Rhaglen Cymorth Tai 2022-2026
Ein strategaeth i helpu'n nod o sicrhau bod digartrefedd yn brin, yn fyrhoedlog ac nad yw'n cael ei ailadrodd.
Strategaeth y Rhaglen Cymorth Tai 2022 - 2026 (Word doc, 697 KB)
Cynnwys
- Pwrpas y Strategaeth
- Crynodeb o'r Asesiad Anghenion
- Blaenoriaethau Strategol
- Ymgysylltu â Rhanddeiliaid
- Asesiad o Effaith
- Gweithredu, monitro a adolygu y Strategaeth
- Cynllun Gweithredu Strategaeth y Rhaglen Cymorth Tai
Rhagair
Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd a Thrawsnewid, y Cynghorydd Andrea Lewis
Aelod Cabinet dros Wasanaethau Gofal, y Cynghorydd Louise Gibbard
Rydym yn falch o gyflwyno Strategaeth Rhaglen Cymorth Tai (RhCT) newydd Abertawe. Cynllun pedair blynedd yw'r Strategaeth, sy'n rhoi'r cyfeiriad strategol ar gyfer atal digartrefedd a gwasanaethau cymorth tai yn Abertawe.
Mae'r Strategaeth yn uchelgeisiol ac fe'i datblygwyd ar adeg dyngedfennol i Abertawe a gweddill Cymru. Mae'n meithrin ymhellach y cynnydd sylweddol a wnaed ers mis Mawrth 2020 pan ddaeth pandemig Covid19 i'r amlwg ac fe gyfarwyddodd Llywodraeth Cymru bob Cyngor i fabwysiadu'r dull "Pawb i mewn" o ddiogelu pobl ddigartref a'r rheini mewn perygl o gysgu ar y stryd. Cynyddodd hyn nifer y bobl mewn llety dros dro a nifer y bobl yn cael eu cefnogi i adael digartrefedd ac mae wedi cynyddu'r galw am wasanaethau tai a chymorth yn sylweddol.
Mae ein cymunedau yn dal i adfer o effaith Pandemig Covid19 ac, ar yr un pryd, maent bellach yn wynebu argyfwng costau byw gyda phrisiau bwyd, tanwydd a nwyddau hanfodol eraill yn cynyddu'n gynt nag incwm aelwydydd, sy'n arwain at fwy o angen am dai fforddiadwy a gwasanaethau cymorth. Yn fwy nag erioed o'r blaen mae'r cymorth a roddir i aelwydydd agored i niwed yn hanfodol i sicrhau eu bod yn gallu cyflawni eu potensial drostynt eu hunain a'u teuluoedd a ffynnu yn eu bywydau.
Y Cyngor sy'n gyfrifol am gyhoeddi'r Strategaeth hon, ond mae'n ffrwyth ymrwymiad y sector digartrefedd a chymorth i fynd i'r afael â digartrefedd yn Abertawe ac rydym yn estyn ein diolch i'r holl sefydliadau ac unigolion sydd wedi cyfrannu. Mae ystod enfawr o bartneriaid yn ymwneud â darparu'r gwasanaethau a'r cymorth a amlinellir yn y Strategaeth hon, gan gynnwys: darparwyr cymorth a llety, asiantaethau cynghori, y Bwrdd Iechyd, meddygon teulu, yr Heddlu, y Gwasanaeth Prawf, y trydydd sector a gwasanaethau awdurdodau lleol fel Tai, Gwasanaethau Cymdeithasol, Addysg a Thlodi ac Atal.
Dylid llawn werthfawrogi hyd a lled a chymhlethdod y materion sy'n wynebu'r Cyngor a'i bartneriaid dros y pedair blynedd nesaf. Fodd bynnag, byddwn yn ymdrechu i fynd i'r afael â'r heriau hyn mewn partneriaeth, gan sicrhau bod pobl Abertawe yn gallu cael at lety diogel a chynaliadwy.
1. Cyflwyniad
1a Pwrpas y Strategaeth
Mae'r ddogfen hon yn nodi hyd a lled yr heriau sy'n wynebu Abertawe yn ei nod o wneud Digartrefedd yn Brin, yn Fyr a Heb ei Ailadrodd. Mae'n nodi nad mater Tai yn unig mohono, ond ei fod hefyd yn gofyn bod ystod o bartneriaid statudol megis y Bwrdd Iechyd, Gofal Cymdeithasol, y Gwasanaeth Prawf, yn ogystal â sefydliadau trydydd sector eraill a sefydliadau dielw gan gynnwys Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, yn cydweithredu i ddarparu triniaeth a chymorth i'r bobl fwyaf agored i niwed sy'n ddigartref gael at gartref sefydlog a'i gynnal. Mae gan y strategaeth gynllun gweithredu penodol sy'n egluro ymhellach sut mae'n bwriadu mynd i'r afael â'r heriau hyn gyda phartneriaid dros y pedair blynedd nesaf.
Mae Strategaeth y Rhaglen Cymorth Tai (RhCT) yn cyflawni'r gofyniad a ddisgrifir yng nghanllawiau'r Grant Cymorth Tai a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2020 (a ddiweddarwyd ym mis Ebrill 2021) i ddatblygu cynllun strategol ar gyfer y system dai gyfan.
Mae Strategaeth y Rhaglen Cymorth Tai (RhCT) yn cynnwys Strategaeth Ddigartrefedd 2018-2022 wedi'i hadolygu a'i diweddaru a gynhyrchwyd yn rhan o ddyletswydd statudol yr awdurdod lleol o dan Ran 2 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014, a chynlluniau strategol i ddefnyddio'r Grant Cymorth Tai (cyfuniad o dri grant presennol sef Grant y Rhaglen Cefnogi Pobl, y Grant Atal Digartrefedd a Grant Gorfodi Rhentu Doeth Cymru).
Mae'r Strategaeth hon a'r cynllun gweithredu cysylltiedig yn pennu cyfeiriad sengl, strategol yr awdurdod lleol ar gyfer atal digartrefedd a gwasanaethau cymorth cysylltiedig â thai am y pedair blynedd nesaf (2022 - 2026). Mae'n nodi'r blaenoriaethau allweddol ar gyfer yr awdurdod lleol a'i bartneriaid yn seiliedig ar ganfyddiadau o asesiad anghenion cynhwysfawr ac ymgysylltu â rhanddeiliaid.
1b Cyd-destun deddfwriaethol a pholisi
Cyd-destun cenedlaethol
Deddf Tai (Cymru) 2014
Deddf Tai (Cymru) 2014 yw darn cyntaf Cymru o ddeddfwriaeth dai, a'i diben yw gwella cyflenwad, ansawdd a safonau tai yng Nghymru. Roedd hyn yn cynnwys diwygio'r gyfraith ddigartrefedd, gan osod dyletswydd gryfach ar awdurdodau lleol i atal digartrefedd (o fewn 56 diwrnod) a chaniatáu defnyddio'r sector rhentu preifat i gyflawni dyletswyddau digartrefedd statudol. Mae'r Ddeddf hefyd yn rhoi cyfrifoldeb ar bob awdurdod lleol i lunio Strategaeth Digartrefedd yn 2018, a fydd yn amlinellu sut mae'n bwriadu mynd i'r afael â digartrefedd yn ei ardal dros gyfnod o bedair blynedd.
Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015
Mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus gyflawni eu swyddogaethau mewn modd cynaliadwy, sy'n gwella lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol. Mae atal a mynd i'r afael â digartrefedd yn elfen hanfodol wrth sicrhau lles cenedlaethau'r dyfodol. Atal digartrefedd yw un o ddangosyddion cenedlaethol Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, felly mae'n cyfrannu'n allweddol at nodau cenedlaethol Llywodraeth Cymru. Y rhain yw: Cymru lewyrchus; Cymru gydnerth; Cymru sy'n fwy cyfartal; Cymru o gymunedau cydlynus; Cymru â diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu; Cymru iachach; Cymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang. Mae'r Ddeddf hefyd yn nodi pum ffordd o weithio:
- Atal problemau rhag digwydd neu rhag gwaethygu: mae cyflwyno Deddf Tai (Cymru) 2014 wedi rhoi pwyslais cadarn ar atal digartrefedd. Mae'r Gwasanaeth Digartrefedd a'r gwasanaethau a ariennir gan y Grant Cymorth Tai wedi addasu'n dda i fodloni'r gofynion newydd ac mae'r strategaeth yn atgyfnerthu hyn gydag amcan i flaenoriaethu ymyrryd ac atal digartrefedd yn gynnar.
- Mynd i'r afael â heriau tymor hir: Mae'r Strategaeth yn sicrhau pwyslais ar helpu aelwydydd i sicrhau llety cynaliadwy, hirdymor sy'n briodol i'w hanghenion a chynnal eu tenantiaethau trwy gymorth effeithiol. Mae gan y Strategaeth hefyd ffocws penodol ar gysgu ar y stryd sef y math mwyaf eithafol o ddigartrefedd.
- Gweithio mewn partneriaeth ag eraill: Mae gweithio mewn partneriaeth yn hanfodol i'r Strategaeth hon. Mae gan lawer o bobl anghenion lluosog sy'n estyn y tu hwnt i'r angen sylfaenol am gartref. Nid yw'n bosibl i'r Cyngor ddiwallu'r anghenion hynny ar wahân. Felly mae'n hanfodol gweithio mewn partneriaeth er mwyn atal digartrefedd a chynnig atebion tai cynaliadwy.
- Osgoi gwrthdaro rhwng amcanion cyrff cyhoeddus: Mae'r Cyngor yn ymwybodol y gallai unrhyw newidiadau i'w wasanaethau gael effaith ar ei bartneriaid a chyrff cyhoeddus eraill. Roedd y broses ymgynghori a gafodd ei chynnal i ddatblygu'r strategaeth yn gyfle i bartneriaid ddylanwadu ar gynnwys y strategaeth ac yn benodol y flaenoriaeth strategol, a gofynnwyd iddynt nodi ymhle y gallent gyfrannu at gyflawni'r blaenoriaethau.
- Cynnwys pobl: Mae'r Strategaeth yn cydnabod pwysigrwydd cynnwys pobl trwy amcan penodol i osod defnyddwyr gwasanaeth wrth wraidd darparu gwasanaethau, ac ymrwymiad i sicrhau bod egwyddorion cyd-gynhyrchu yn cael eu hymgorffori wrth gynllunio a darparu gwasanaethau.
Strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd 2018 a Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd yng Nghymru: Cynllun gweithredu lefel uchel 2021-2026
Mae Strategaeth Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd Llywodraeth Cymru yn nodi pum egwyddor sy'n sail i'w dull o atal digartrefedd a bydd yr egwyddorion hyn hefyd yn sail i waith yr Awdurdod Lleol a'i bartneriaid cyflawni trwy ddatblygu a gweithredu'r Strategaeth hon. Dyma nhw:
- Yr ataliadau cynharaf yw'r rhai mwyaf effeithiol a'r mwyaf cost effeithiol, a'r rhain ddylai fod y dewis cyntaf o ran ymyriadau bob amser.
- Mater gwasanaethau cyhoeddus yw mynd i'r afael â digartrefedd a'i atal - yn hytrach na 'mater tai' yn unig.
- Dylai'r holl wasanaethau hoelio sylw ar yr unigolyn a chydweithio mewn ffordd sy'n cael ei llywio gan drawma.
- Y dyletswyddau yn Rhan 2 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 ddylai fod y dull amddiffyn olaf - nid y cyntaf - a dylai pob gwasanaeth weithio yn unol ag ysbryd nid llythyren y ddeddf yn unig.
- Dylai polisi, darparu gwasanaethau ac ymarfer gael eu llywio a'u llunio mewn modd cydgynhyrchiol a chan y rhai sydd â phrofiad byw.
Roedd Strategaeth a Chynllun Gweithredu Llywodraeth Cymru yn nodi dau gam allweddol, fydd yn hanfodol i roi diwedd ar ddigartrefedd:
- Ymrwymiad i ddiwygio gwasanaethau digartrefedd yn sylfaenol i ganolbwyntio ar atal ac ailgartrefu cyflym; ac
- Adeiladu 20,000 o gartrefi cymdeithasol carbon isel newydd i'w rhentu.
Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi'r blaenoriaethau allweddol canlynol ar gyfer mynd i'r afael â digartrefedd yng Nghymru:
- 'Prin' - Mae sicrhau bod digartrefedd yn brin yn golygu atal pobl rhag bod yn ddigartref yn y lle cyntaf
- 'Byr' - sut bydd ffocws cenedlaethol ar ailgartrefu cyflym yn arwain at Gymru lle mae digartrefedd yn fyr
- 'Heb ei ailadrodd' - Sicrhau bod gennym system sy'n rhoi'r bobl gywir yn y cartrefi cywir yn y cymunedau cywir gyda'r cymorth cywir, er mwyn i bobl lwyddo a ffynnu
- Gwaith partneriaeth - Mae Strategaeth Digartrefedd Llywodraeth Cymru yn egluro nad ellir atal digartrefedd trwy dai yn unig a bod gan bob gwasanaeth cyhoeddus a'r trydydd sector ran i'w chwarae, gan weithio gyda'i gilydd i atal digartrefedd ac, os nad ellir ei atal, sicrhau ei fod yn brin, yn fyr a heb ei ailadrodd. Felly mae'n rhaid i waith partneriaeth fod wrth wraidd popeth a wnawn.
Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016
Mae'r Ddeddf Rhentu Cartrefi (a weithredir yn ystod 2022) yn effeithio ar atal digartrefedd mewn ffordd gadarnhaol drwy gynyddu diogelwch deiliadaeth i rentwyr, yn enwedig yn y sector rhentu preifat, drwy gynyddu'r cyfnod rhybudd o ddeufis o gyfnod rhybudd i chwe mis o gyfnod rhybudd. Mae hefyd yn cyfyngu ar roi rhybudd nes bod y tenant wedi bod yn ei denantiaeth am chwe mis. Mae hyn yn rhoi diogelwch deiliadaeth i denantiaid am 12 mis. Mae nifer o ddarpariaethau eraill hefyd a fydd yn effeithio ar wasanaethau tai â chymorth er enghraifft y gallu i wahardd unigolyn am hyd at 48 awr. Bydd gofyn cydweithio agos rhwng darparwyr llety a chymorth a Chyngor Abertawe i sicrhau bod y ddarpariaeth hon o'r Ddeddf wedi'i rheoli'n dda ac nad yw'n arwain at fwy o achosion o gysgu ar y stryd.
Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
Mae Deddf Gwasanaeth Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yn pwysleisio pwysigrwydd dull cydlynol o ymdrin â gwaith ataliol o fewn ein cymunedau ac mae'n diffinio beth mae disgwyl i'r gwasanaethau hyn eu cyflawni:
- Helpu teuluoedd i aros gyda'i gilydd yn ddiogel
- Mae ffocws allweddol ar gyfer yr holl wasanaethau yn dechrau drwy adnabod angen yn gynnar ac ymyrraeth gynnar effeithiol.
Mae egwyddorion sylfaenol y Ddeddf yn darparu fframwaith cyfreithiol ar gyfer gwella lles pobl y mae angen gofal a chymorth arnynt. Dyma nhw:
- Llais a rheolaeth - gosod yr unigolyn a'i anghenion wrth wraidd ei ofal, gan roi llais a rheolaeth iddo er mwyn gyrraedd ei ganlyniadau sy'n ei helpu i gyflawni lles.
- Atal ac ymyrraeth gynnar - cynyddu gwasanaethau ataliol o fewn y gymuned i leihau'r cynnydd mewn angen critigol.
- Lles - cefnogi pobl i gyflawni eu lles eu hunain a mesur llwyddiant gofal a chymorth.
- Cyd-gynhyrchu - gan annog unigolion i ymwneud mwy â'r gwaith o gynllunio a darparu gwasanaethau
Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015.
Pwrpas y ddeddf hon, sef VAWDASV, yw gwella gwaith atal, amddiffyn a chefnogi pobl y mae VAWDASV yn effeithio arnynt ledled Cymru. Gosodir dwy ddyletswydd ar gyrff cyhoeddus o fewn y Ddeddf, a fydd yn cryfhau gwasanaethau, sef:
- Fframwaith Hyfforddiant Cenedlaethol - Fframwaith hyfforddiant i helpu gweithwyr proffesiynol i ymdrin â datgeliadau cam-drin a sicrhau dull gweithredu cyson ar draws gwasanaethau
- 'Gofyn a Gweithredu' - Dull syml a fydd yn ei gwneud yn ofynnol i weithwyr proffesiynol nodi symptomau cam-drin, gofyn i ddefnyddwyr gwasanaeth a ydynt yn destun cam-drin, a gweithredu'n briodol ar unrhyw ddatgeliadau
Cyd-destun Lleol / Rhanbarthol
Strategaeth Digartrefedd Abertawe
Cafodd Strategaeth Digartrefedd Abertawe ei datblygu yn 2018 mewn ymateb i ganfyddiadau Adolygiad Digartrefedd 2017, a oedd yn cynnig dealltwriaeth gynhwysfawr o ddigartrefedd ym mhob rhan o Abertawe, gan gynnwys adnabod materion a bylchau yn y ddarpariaeth wasanaethau, y mae'r Strategaeth yn ceisio mynd i'r afael â nhw. Datblygwyd y Strategaeth hefyd o ganlyniad i ymgynghori'n helaeth â defnyddwyr gwasanaeth a rhanddeiliaid i sicrhau ei bod yn cyfleu anghenion a dyheadau pawb sy'n gysylltiedig â digartrefedd ac sy'n cael profiad o ddigartrefedd yn Abertawe. Mae'n nodi'r egwyddorion arweiniol ar gyfer datblygu a darparu gwasanaethau digartrefedd yn Abertawe dros gyfnod o bedair blynedd rhwng mis Rhagfyr 2018 a mis Rhagfyr 2022. Ond oherwydd y newid yng nghanllawiau Llywodraeth Cymru, fe fydd y Strategaeth Digartrefedd nawr yn cael ei hymgorffori yn y gofyniad newydd am Strategaeth Rhaglen Cymorth Tai.
Cwblhawyd adolygiad canol cyfnod o'r Strategaeth Digartrefedd ym mis Mawrth 2021, a ddaeth i'r casgliad bod nodau ac amcanion y Strategaeth yn parhau'n gadarn ac yn addas i'r diben a bod cynnydd da wedi'i wneud ar draws y pum amcan, gyda lefelau uchel o atal digartrefedd yn cael eu cynnal.
Pan ddatblygwyd y Strategaeth, ni ragwelwyd byth y byddai digwyddiad mor ddifrifol â'r pandemig yn digwydd, sydd wedi arwain at heriau enfawr i sefydliadau a'r cyhoedd eu goresgyn. Cafwyd newidiadau sylweddol yn y ffordd y mae gwasanaethau'n cael eu darparu ac mae mwy o alw am wasanaethau digartrefedd a chymorth, gan gynnwys newidiadau sylweddol ym mholisi Llywodraeth Cymru.
Er gwaethaf heriau diweddar, mae'r Strategaeth wedi rhoi ffocws clir i'r Cyngor a'i bartneriaid fynd i'r afael â digartrefedd yn Abertawe, ac wedi parhau'n ddogfen ddeinamig a hyblyg â'r gallu i addasu i newid blaenoriaethau a heriau. Mae trefniadau gwaith partneriaeth presennol gyda'r sector gwirfoddol, darparwyr cymorth, Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, Iechyd, Llywodraeth Cymru a Gwasanaethau Cyngor eraill wedi bod yn hanfodol er mwyn ateb heriau cyflwyno'r Strategaeth, ac mae'r partneriaethau hyn wedi'u cryfhau a'u hestyn yn ystod y pandemig.
Felly, mae Strategaeth Digartrefedd 2018-22 yn sail gref i ddatblygu Strategaeth Rhaglen Cymorth Tai newydd ac o'r herwydd mae'r pum amcan cyffredinol yn parhau mewn grym. Fodd bynnag, bydd y Strategaeth yn cael ei hintegreiddio i'r Rhaglen Cymorth Tai newydd ac mae ganddi ffocws o'r newydd er mwyn ystyried newidiadau allweddol gan gynnwys galw cynyddol am ddigartrefedd a gwasanaethau cymorth, effeithiau'r pandemig a blaenoriaethau/polisïau Llywodraeth Cymru a ddatblygwyd mewn ymateb i'r rhain.
Diwygiwyd y weledigaeth o ran atal digartrefedd yn Abertawe i adlewyrchu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru i ddigartrefedd fod yn "brin, yn fyr a heb ei ailadrodd," ac mae Strategaeth y Rhaglen Cymorth Tai bellach yn cynnwys amcanion strategol i wasanaethau'r Grant Cymorth Tai yn rhan o 'Raglen Cymorth Tai' gyffredinol sy'n cwmpasu'r ddyletswydd digartrefedd statudol a ariennir drwy'r setliad refeniw a gwasanaethau ataliol anstatudol a ariennir drwy'r Grant Cymorth Tai.
Strategaeth Tai Lleol Abertawe
Nodir blaenoriaethau tai strategol Abertawe yn ei Strategaeth Tai Lleol, sef:
- Cynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy o ansawdd da
- Mynd i'r afael ag anghenion grwpiau penodol
- Datblygu cynaliadwy
Mae'r Strategaeth Tai Lleol yn cael ei diweddaru ar hyn o bryd, ac fe fydd strategaeth newydd ar waith yn ystod 2022. Bydd y strategaeth newydd yn sicrhau ei bod yn cefnogi'r blaenoriaethau strategol a nodwyd ar gyfer Strategaeth y Rhaglen Cymorth Tai.
Bwrdd Gwasanaeth Cyhoeddus Abertawe a'r Cynllun Llesiant Lleol
Yn rhan o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, mae'n ofynnol yn gyfreithiol i bob cyngor yng Nghymru gael Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, sef partneriaeth o asiantaethau gwasanaethau cyhoeddus, gyda'r diben o gydweithio i wella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol lleol. Mae gofyn i bob Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus gynnal Asesiad o les i ddeall lefelau cyfredol o lesiant a'r hyn sydd bwysicaf i gymunedau lleol a llunio cynllun er mwyn gwella llesiant.
Yn dilyn yr Asesiad o Les yn Abertawe, cynhyrchwyd y Cynllun Llesiant Lleol, sy'n cynnwys y blaenoriaethau lefel uchel y mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe wedi'u nodi ymhlith y pwysicaf, sef:
- Y Blynyddoedd Cynnar - Gwneud yn siŵr bod plant yn cael y dechrau gorau mewn bywyd i fod y gorau y gallant fod
- Byw'n Dda, Heneiddio'n Dda - Gwneud Abertawe yn lle gwych i fyw a heneiddio'n dda
- Gweithio gyda Natur - Gwella iechyd, gwella bioamrywiaeth a lleihau ein hôl troed carbon
- Cymunedau Cryf - Grymuso cymunedau gan hyrwyddo balchder a pherthyn
Mae tai yn thema allweddol o fewn y cynllun ac mae'r Strategaeth yn cefnogi cyflwyno rhai o'r sbardunau a nodwyd i gyflawni'r amcanion Llesiant, gan gynnwys:
- Sicrhau bod plant yn cael y dechrau gorau mewn bywyd drwy alluogi teuluoedd i fyw mewn safon dda o dai
- Cyfrannu at sicrhau bod pobl yn byw yn dda ac yn heneiddio'n dda trwy alluogi pobl i fyw mewn cartrefi diogel o ansawdd da a darparu cymorth er mwyn i bobl gael gwybodaeth, cyngor a help.
Gweledigaeth a Blaenoriaethau Corfforaethol
Atal digartrefedd yw un o swyddogaethau sylfaenol y Cyngor ac mae'n elfen hanfodol o gyflawni gweledigaeth Abertawe "Creu Abertawe fwy diogel, gwyrdd, call, teg, iach a chyfoethog." Mae'r strategaeth yn adlewyrchu blaenoriaethau corfforaethol:
- Diogelu pobl rhag niwed - i sicrhau bod ein dinasyddion yn rhydd o niwed a cham-fanteisio
- Gwella Addysg a Sgiliau - fel bod pob plentyn a pherson ifanc yn Abertawe yn ennill y sgiliau a'r cymwysterau sydd eu hangen arnynt i lwyddo mewn bywyd
- Trawsnewid ein Heconomi a Seilwaith - fel bod gan Abertawe Ganol Dinas defnydd cymysg ffyniannus ac economi leol a fydd yn cefnogi ffyniant ein dinasyddion
- Mynd i'r afael â Thlodi - er mwyn i bob person yn Abertawe gyflawni hyd eithaf ei allu
- Cynnal a gwella adnoddau naturiol a bioamrywiaethAbertawe - er mwyn inni gynnal a gwella bioamrywiaeth, lleihau ein hôl troed carbon, gwella ein gwybodaeth a dealltwriaeth o'n hamgylchedd naturiol a bod o fudd i iechyd a lles
- Trawsnewid a Datblygu Cyngor y Dyfodol - er mwyn i ni a'r gwasanaethau rydyn ni'n eu darparu fod yn gynaliadwy ac yn addas ar gyfer y dyfodol
Yn benodol, mae'r Strategaeth yn cyfrannu at fynd i'r afael â thlodi a diogelu pobl rhag niwed. Mae'n hanfodol bod y Cyngor yn darparu gwasanaethau digartrefedd a chymorth tai o safon uchel er mwyn iddo allu amddiffyn y bobl fwyaf agored i niwed yn Abertawe.
Dolenni at Raglenni, Strategaethau, Prosiectau
Ceir hefyd nifer o ryngwynebau a dibyniaethau sy'n cysylltu â Strategaeth y Rhaglen Cymorth Tai er mwyn iddi fod yn gwbl effeithiol gan gynnwys:
- Strategaeth Digartrefedd
- Strategaeth Tai Lleol
- Asesiad o'r Farchnad Dai Leol
- Rhaglen Darparu Mwy o Gartrefi
- Strategaeth Iechyd, Tai a Gofal Cymdeithasol
- Bwrdd Cynllunio Ardal
- Cynllun Ardal Bae'r Gorllewin 2018-23
- Cynllun Gweithredu Plant a Chymunedau
- Cynllun Gweithredu Iechyd y Digartref a Grwpiau Agored i Niwed
- Strategaeth Tlodi
- Strategaeth Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol
- Strategaeth Abertawe Fwy Diogel
Datblygwyd y Strategaeth a'r Cynllun Gweithredu mewn ymgynghoriad â'r rhanddeiliaid sy'n gyfrifol am y rhaglenni, y strategaethau a'r prosiectau hyn ac maent yn adlewyrchu anghenion a blaenoriaethau a nodwyd ganddynt.
1c Gweledigaeth ac egwyddorion
Gweledigaeth gyffredinol Abertawe ar gyfer gwasanaethau atal digartrefedd a chymorth tai yw:
"Gweithio mewn partneriaeth i sicrhau bod gan bob unigolyn fynediad at gyngor, llety a chymorth o ansawdd da ar y cyfle cyntaf posib fel bod digartrefedd yn brin, yn fyr a heb ei ailadrodd".
Gosododd Strategaeth Digartrefedd Abertawe 2018-22 bum amcan i gefnogi'r weledigaeth i atal digartrefedd. Adolygwyd y rhain ac maent yn parhau'n gadarn ac yn addas i'r diben a byddant yn darparu'r strwythur a'r cyfeiriad cyffredinol ar gyfer Strategaeth y Rhaglen Cymorth Tai newydd a'r blaenoriaethau strategol a nodir yn adran 3.
Bwriad y Strategaeth hon yw cynyddu gallu'r Cyngor a'i bartneriaid i atal digartrefedd lle bo hynny'n bosibl. Bydd atal drwy adnabod ac ymyrraeth gynnar, yn ogystal â mynediad teg a hawdd at wasanaethau, yn lleihau digartrefedd. Lle na ellir ei atal, nod y Strategaeth yw lleihau trallod y profiad drwy ymatebion gwasanaeth cyflym a chadarn. Gwneir hyn trwy fabwysiadu'r pum amcan canlynol:
Amcan 1: Sicrhau bod defnyddwyr gwasanaeth wrth wraidd darparu gwasanaethau
Amcan 2: Blaenoriaethu ymyrryd ac atal digartrefedd yn gynnar
Amcan 3: Sicrhau bod llety addas ar gael i bobl sy'n ddigartref neu a allai ddod yn ddigartref
Amcan 4: Sicrhau bod cymorth priodol ar gael i bobl sy'n ddigartref neu a allai ddod yn ddigartref
Amcan 5: Darparu ymatebion cadarn i gefnogi pobl sy'n cysgu ar y stryd a dileu'r angen i unigolion gysgu ar y stryd
Prif egwyddorion
Er mwyn gwireddu ei gweledigaeth a'i hamcanion bydd y strategaeth hon:
- Yn gosod ataliad wrth wraidd gwasanaethau
- Yn diogelu pobl rhag niwed
- Yn sicrhau mynediad cydradd at wasanaethau ac yn hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol a chydlyniant cymunedol
- Yn sicrhau bod cynifer â phosibl o adnoddau ar gael i ymdrin â digartrefedd
- Yn annog a hyrwyddo partneriaeth leol a gweithio rhanbarthol, lle bo hynny'n briodol, er mwyn gwneud y defnydd gorau o adnoddau a hyrwyddo'r ethos bod digartrefedd yn fusnes i bawb
2. Asesiad o anghenion
2a Proses Asesu Anghenion
Mae asesiad anghenion cynhwysfawr wedi digwydd i lywio datblygiad y Strategaeth. Disgrifir esboniad o'r dulliau a'r data a gynhwysir yn fanwl o fewn yr adran ganlynol. Disgrifir ymateb gwasanaeth i ganfyddiadau'r asesiad anghenion yn y "Datganiad o Angen" a fydd hefyd yn llywio datblygiad Cynllun Cyflawni'r Grant Cymorth Tai.
Mae dogfen 'Datganiad o Angen' lawn ar gael ar gais.
Adolygiad o Ddigartrefedd
Cynhaliwyd dadansoddiad bwrdd gwaith o'r data digartrefedd sydd ar gael ar gyfer y cyfnod 2016/17 i 2020/21. Bu hwn yn gyfle i edrych yn fanwl ar effaith pandemig Covid ar y galw am wasanaethau digartrefedd, a lefelau digartrefedd yn Abertawe, a bu'n fodd o ragfynegi lefelau angen yn y dyfodol. Defnyddiwyd y data canlynol:
- Aelwydydd yn cael cymorth yn ystod y flwyddyn - canlyniadau digartrefedd a66, a73, a75
- Cyfradd atal digartrefedd
- Chwalu demograffig aelwydydd
- Achosion digartrefedd
- Camau a gymerwyd i atal a lleddfu digartrefedd
- Achosion o Gartrefu A75 mewn angen blaenoriaeth, gan gynnwys chwalu demograffig
- Penderfyniadau bwriadol o ddigartref
- Data llety dros dro:
- Aelwydydd mewn llety gwely a brecwast
- Mathau eraill o lety dros dro
- Defnyddio llety dros dro i deuluoedd
- Symud ymlaen o lety dros dro
- Ffigurau cysgu ar y stryd
- Argaeledd llety parhaol gan gynnwys
- Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig
- Data gosodiadau ac eiddo gwag y Cyngor
- Sector rhentu preifat - gan gynnwys cymharu rhenti canolrifol a lwfans Tai lleol
- Lefelau troi allan o dai cyngor
- Galw am dai cymdeithasol
- Asesiad o Farchnad Dai Leol Abertawe - angen yn y dyfodol
- Galw am gymorth tenantiaeth fel y bo'r angen
- Asesu lefelau digartrefedd yn y dyfodol
Adolygiad o Ddata Anghenion Cymorth
Casglir amrywiaeth o ddata drwy broses gomisiynu'r Grant Cymorth Tai sy'n cynnwys:
Monitro Contract y Grant Cymorth Tai
Newidiodd y dull o fonitro darparwyr y Grant Cymorth Tai yn sylweddol yn ystod blwyddyn ariannol 2020-2021 yn sgil y pandemig a'r cyfyngiadau yn dilyn hynny. Cynhaliwyd gwaith monitro rhagweithiol trwy sgyrsiau rheolaidd gyda sefydliadau darparwr naill ai dros y ffôn neu drwy TEAMS.
Cafodd cyfnodau cyswllt eu hasesu am risg a'u hamrywio; fodd bynnag, cyswllt bob pythefnos oedd y sefyllfa ddiofyn i bob darparwr. Yn ystod y sgyrsiau hyn, codwyd ystod o faterion, gan gynnwys absenoldeb staff (cysylltiedig â Covid a heb fod yn gysylltiedig â Covid), recriwtio, materion diogelu, cyfradd feddiannaeth, materion cleientiaid megis diffyg cydymffurfio â chyfyngiadau Covid, a ffigurau brechu yn olaf. Roedd materion lles cleientiaid yn ystod y cyfnod clo ac yn absenoldeb gweithgareddau a gwasanaethau cymorth allanol hefyd yn thema gyffredin.
Mae datblygu meddalwedd a datblygu arbenigedd ynghylch gweithio o bell wedi galluogi ailddechrau cyfarfodydd monitro mwy ffurfiol gan ddefnyddio TEAMS, a fu'n digwydd fesul cam ers mis Mai 2021. Cynhaliwyd Cyfarfodydd Cyswllt Contract hefyd â darparwyr, gan ganolbwyntio ar faterion ariannol, strategol, a sefydliadol gan gynnwys newidiadau ac addasiadau arfaethedig i wasanaethau.
Mewn ymateb i'r pandemig dechreuodd tîm y Grant Cymorth Tai hefyd ofyn am wybodaeth wythnosol am rai materion allweddol gan ddefnyddio matrics safonol. Mae elfennau monitro pellach yn cynnwys:
- Taenlen o ganlyniadau bob chwe mis sy'n darparu gwybodaeth am gynnydd cleientiaid ar draws ystod o ganlyniadau a ddymunir ar raddfa safonol o 1-5 a ddiffinnir gan Lywodraeth Cymru ac sy'n cael ei defnyddio ar draws pob darparwr a ariennir gan y Grant Cymorth Tai yng Nghymru. Mae hefyd yn darparu gwybodaeth am statws digartrefedd cleientiaid adeg ymuno â gwasanaethau ac adeg eu gadael. Darperir rhagor o wybodaeth am ddadansoddi canlyniadau yn yr adran nesaf.
- Gofynnir hefyd am daflenni gwybodaeth symud tenantiaid misol. Mae'r rhain yn rhoi darlun cyfredol o gyfraddau meddiannaeth a statws symud ymlaen cleientiaid, yn ogystal â gwybodaeth am nodweddion gwarchodedig.
- Gofynnir hefyd am 'Daflen Crynhoi Canlyniadau' yn flynyddol. Mae hyn yn darparu gwybodaeth fanylach i dîm y Grant Cymorth Tai ar themâu sy'n dod i'r amlwg, rhwystrau rhag cynnydd cleientiaid a beth oedd yn gweithio a beth nad oedd yn gweithio yn yr ymdrechion i ddatblygu annibyniaeth cleientiaid, ac i'w galluogi i symud ymlaen i lefel is o gymorth, lle bo hynny'n bosibl ac yn briodol. Mae hyn hefyd yn cael ei ystyried yn gyfle i ddarparwyr fyfyrio ar eu gwasanaethau eu hunain.
- Rydym hefyd yn gofyn am astudiaethau achos unigol, i ddarparu cyd-destun naratif i'r wybodaeth feintiol y gofynnwyd amdani.
Fframwaith Canlyniadau'r Grant Cymorth Tai
Mae Fframwaith Canlyniadau'r Grant Cymorth Tai yn offeryn casglu gwybodaeth a ddatblygwyd i helpu i ddeall beth mae Gwasanaethau'r Grant Cymorth Tai yn ei gyflawni a'r effaith a gafodd y cymorth a'r dilyniant ar y rhai sy'n cael gwasanaethau. Mae asesiadau/cynlluniau cymorth defnyddwyr gwasanaeth wedi'u targedu at ddeall y nodau y maent am eu cyflawni mewn perthynas â'r meysydd canlyniadau canlynol:
Hyrwyddo Diogelwch Personol a Chymunedol
- Teimlo'n ddiogel
- Cyfrannu at ddiogelwch a lles eraill
Hyrwyddo Annibyniaeth a Rheolaeth
- Rheoli llety
- Rheoli perthnasoedd
- Teimlo'n rhan o'r gymuned
Hyrwyddo Cynnydd Economaidd a Rheoli Ariannol
- Rheoli arian
- Ymgysylltu ag addysg/dysgu
- Cymryd rhan mewn cyflogaeth/gwaith gwirfoddol
Hyrwyddo Iechyd a Lles
- Iach yn gorfforol
- Iach yn feddyliol
- Ffordd iach ac egnïol o fyw.
Caiff 'taenlen Canlyniadau' ar gyfer pob cynllun unigol ei chwblhau a'i dychwelyd i dîm y Grant Cymorth Tai. Gofynnir hefyd am ffurflen ansoddol canlyniadau atodol ac astudiaethau achos yn flynyddol i ddarparu cyd-destun pellach ar yr wybodaeth a gyflwynir ar y daenlen Ganlyniadau. Mae Tîm y Grant Cymorth Tai hefyd wedi datblygu taenlen 'canlyniadau ysgafn' fel mecanwaith amgen i gasglu gwybodaeth am gymorth a ddarperir gan gynlluniau nad ydynt yn cwblhau taenlen ganlyniadau oherwydd eu model gwasanaeth h.y., allgymorth, galw heibio.
Adolygiad Comisiynu o Lety â Chymorth Dros Dro
Mae adolygiad o Lety â Chymorth Dros Dro ar y gweill i ailffurfio ac ailwampio llety â chymorth dros dro. Nod yr adolygiad fydd nodi cyfleoedd i dargedu atal yn gynharach, lleihau'r amser sy'n cael ei dreulio mewn llety dros dro a gwella'r llwybr i gael at dai mwy hirdymor i bobl sy'n ddigartref drwy symud at ddull ailgartrefu cyflym.
Yn rhan o'r adolygiad o lety dros dro, bu Cyngor Abertawe yn ymgysylltu ag ymgynghorwyr Vanguard er mwyn hwyluso adolygiad o feddwl trwy systemau i ailwampio'r llwybr llety â chymorth dros dro presennol i bobl sy'n dioddef o ddigartrefedd. Cynhaliwyd gweithdy chwe diwrnod gydag ystod o randdeiliaid yn cynnwys darparwyr cymorth a llety'r trydydd sector, gwasanaethau statudol, Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, Iechyd, a darparwyr camddefnyddio sylweddau.
Roedd adolygiad Vanguard yn gyfle i ymgysylltu ag amrywiaeth o randdeiliaid i werthuso'r llwybr presennol ac adeiladu ar y cynnydd gyda ffyrdd newydd o weithio sydd eisoes wedi'u cyflawni yn ystod y pandemig. Mae dysgu o'r adolygiad wedi helpu i lywio datblygiad Strategaeth y Rhaglen Cymorth Tai, y Cynllun Cyflawni a'r Cynllun Pontio Ailgartrefu Cyflym.
Adolygiad Comisiynu o Ddigartrefedd Ieuenctid
Mae Gwasanaethau Oedolion, Gwasanaethau Plant a Theuluoedd a digartrefedd yn cynnal adolygiad comisiynu ar y cyd o'r gwasanaethau Llety â Chymorth a Chymorth Lle bo'r Angen i bobl ifanc yn Abertawe.
Datblygwyd Porth Gwasanaeth Integredig Sengl (Llwybr Llety â Chymorth) i gefnogi pobl ifanc i gael y cymorth llety cywir, ac ar yr adeg gywir, a sicrhau bod yr adnoddau yn Abertawe'n cael eu defnyddio'n briodol i wella canlyniadau i bobl ifanc. Ers 2019 mae'r data o Lwybr Llety â Chymorth (SAP) wedi'i gasglu a'i ddadansoddi.
Bu gwybodaeth SAP ar y cyd â data digartrefedd yn ganolog wrth sefydlu dealltwriaeth glir o broffil yr angen, a'r gofynion am ddarpariaeth gwasanaethau. Defnyddiwyd y data i ddatblygu asesiad gwasanaeth i lywio'r adolygiad comisiynu digartrefedd ieuenctid a'r opsiynau comisiynu a chaffael a ffafrir.
Cell Cydgysylltu Gwasanaethau Digartrefedd Abertawe
Mewn ymateb i Ganllawiau Llywodraeth Cymru, sefydlwyd Cell Cydlynu Gwasanaethau Digartrefedd aml-asiantaeth i helpu i gydlynu ymateb y sector digartrefedd i'r heriau sy'n codi oherwydd y pandemig. Mae'r Gell wedi datblygu gan roi ffocws gweithredol a strategol a bu'n ganolog i nodi materion / ymatebion / blaenoriaethau / camau gweithredu i'w cynnwys o fewn strategaethau, yn enwedig mewn perthynas â chysgu ar y stryd, camddefnyddio sylweddau a chael at wasanaethau iechyd meddwl.
Adroddiadau Sefydlogrwydd y Farchnad Gwasanaethau Oedolion a Gwasanaethau Plant a Theuluoedd
Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol baratoi a chyhoeddi adroddiadau sefydlogrwydd y farchnad ar gyfer y farchnad gofal cymdeithasol. Mae'r adroddiadau'n darparu data ar ddigonedd, patrymau galw a chyflenwi, tueddiadau cyfredol a rhai a ragfynegir, yr heriau, risgiau, cyfleoedd a ffactorau eraill sy'n effeithio ar y farchnad. Mae'r adroddiadau'n cynorthwyo i gynllunio a helpu i lunio strategaethau comisiynu a datganiadau safle'r farchnad ar gyfer gofal a chymorth.
Strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol Abertawe
Mae strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV) Abertawe yn gynllun cyffredinol sy'n amlinellu'r meysydd blaenoriaeth a'r cyfeiriad strategol ynghylch perthnasoedd iach a gweithredu Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 yn Abertawe. Mae gwaith yn parhau hefyd ledled Rhanbarth Bae'r Gorllewin i nodi elfennau o'r cynllun hwn a ddarperir orau ar sail ardal ehangach.
Mae Cyngor Abertawe a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe'n gweithio gydag ystod eang o asiantaethau partner drwy Grŵp Arwain VAWDASV i ddatblygu a chyflawni'r gwaith o weithredu'r strategaeth.
Mae fframwaith monitro ar waith i grisialu'r galw, asesu anghenion, a nodi bylchau yn y ddarpariaeth a thueddiadau sy'n dod i'r amlwg. Mae gwybodaeth yn cael ei choladu a'i dadansoddi a'i chyflwyno i Grŵp Arwain VAWDASV i lywio cynlluniau strategol.
Cyfleoedd am Lety a Chymorth yn Abertawe (OASIS)
Ar gyfer unigolion sy'n cael eu cefnogi gan y Tîm Iechyd Cymunedol mae dull panel/porth canolog o ddyrannu a rhestri aros am lety a chymorth. Defnyddir dadansoddiad o ddata gan gynnwys rhestri aros a hyd yr amser mewn llety dros dro i gefnogi a llywio blaenoriaethau strategol a phenderfyniadau comisiynu.
Defnyddiwyd yr wybodaeth ychwanegol ganlynol hefyd wrth ddatblygu'r Adolygiad o Ddigartrefedd a Strategaeth y Rhaglen Cefnogi Tai:
- Adolygiad pwynt canol y Strategaeth Digartrefedd - adroddiad i'r Cyngor mis Mawrth 2020.
- Adolygiad o Newidiadau Polisi Llywodraeth Cymru - gan gynnwys Strategaeth LlC ar gyfer Atal a Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd (Hydref 2019), Cynllun Gweithredu Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd, Canllawiau Ailgartrefu Cyflym Drafft
- OASIS (Cyfleoedd am Lety a Chymorth yn Abertawe)
- Asesiad o Farchnad Dai Leol Abertawe
- Mae Asesiad Anghenion Poblogaeth ac Asesiad Llesiant Abertawe yn cael eu hadnewyddu ar hyn o bryd - ystyrir y canfyddiadau pan fyddant ar gael.
Arolygon Cleientiaid a Rhanddeiliaid
Er mwyn gwella'r data a ddefnyddir yn yr adolygiad digartrefedd a'r asesiad anghenion, cwblhawyd ymarfer ymgynghori gyda defnyddwyr gwasanaeth. Pwrpas yr ymgynghoriad oedd deall a dysgu oddi wrth brofiadau defnyddwyr gwasanaethau yn ystod y pandemig a meithrin ein dealltwriaeth o'r hyn sydd wedi gweithio i ddarparu gwasanaethau a'r hyn sydd heb weithio - fel bod barn defnyddwyr gwasanaethau yn gallu dylanwadu ar gynlluniau i ddarparu gwasanaethau yn y dyfodol.
Anfonwyd arolwg hefyd at ystod eang o randdeiliaid gan roi'r cyfle iddynt gyfrannu at yr amcanion strategol ar gyfer y strategaeth hon a hefyd nodi lle y gallant gymryd camau i helpu i'w cyflawni. Mae'r agwedd hon yn arbennig o bwysig ac yn rhan o gynllun yr Awdurdod Lleol i gefnogi nod Llywodraeth Cymru i sicrhau bod digartrefedd yn cael ei ystyried yn fusnes i bawb. Defnyddiwyd canfyddiadau'r ymgynghoriad i gwblhau amcanion a chynllun gweithredu'r strategaeth.
Cynhaliwyd fforwm rhanddeiliaid ym mis Mawrth 2022 i drafod y canfyddiadau a darparu cyfleoedd pellach i randdeiliaid ddylanwadu ar ddatblygiad y Strategaeth.
2b Canfyddiadau allweddol
Canfyddiadau Allweddol yr Adolygiad Digartrefedd
Lefelau digartrefedd yn Abertawe
Ar y cyfan, cafwyd cynnydd mewn digartrefedd yn Abertawe ers 2016/17, gyda nifer y canlyniadau digartrefedd yn cynyddu o 2661 yn 2016/17 i 3060 yn 2019/20 - cynnydd o 15%. Gostyngodd y ffigur hwn rywfaint yn 2020/21 oherwydd mesurau a roddwyd ar waith i leihau digartrefedd yn ystod y pandemig, a hefyd oherwydd bod llai o ganlyniadau i'r rheini mewn llety dros dro o hyd, ond arhosodd ar yr un lefel â 2016/17. Yn achos tua 30% o'r ceisiadau cychwynnol hyn, nid ydynt yn ddigartref nac o dan fygythiad digartrefedd ac maent yn cael mathau eraill o gyngor a chymorth tai.
2016/17 | 2661 |
---|---|
2017/18 | 2642 |
2018/19 | 2596 |
2019/20 | 3060 |
2020/21 | 2648 |
Dengys y data cychwynnol ar gyfer dau chwarter cyntaf 2021/22 (Ebrill - Medi) fod ceisiadau digartrefedd yn parhau i godi gyda 250 ychwanegol o geisiadau wedi'u gwneud o gymharu â'r un cyfnod yn 2020/21. Mae hyn yn golygu y gallai Abertawe yn 2021/22 fod ar y trywydd i gael y nifer uchaf o geisiadau am fwy na phum mlynedd.
Bu gostyngiad bychan yn y gyfradd atal yn ystod 2020/21 (gan leihau o 72% yn 2019/20 i 69.4%), sy'n adlewyrchu'r anawsterau cynyddol o ran cael at lety parhaol, fforddiadwy yn ystod y pandemig.
Er bod gostyngiad cyffredinol wedi bod yn y penderfyniadau digartrefedd yn 2020/21, roedd y gostyngiadau yn nifer yr aelwydydd y canfuwyd eu bod dan fygythiad digartrefedd o fewn 56 diwrnod (a.66), ond canfuwyd bod niferoedd uwch o aelwydydd yn wirioneddol ddigartref (a.73).
Pan na fu'n bosibl atal digartrefedd, bydd aelwyd yn cael cynnig cymorth gan Gyngor Abertawe i helpu sicrhau llety arall er mwyn lleddfu eu digartrefedd. Mae nifer yr aelwydydd yr oedd angen y cymorth hwn arnynt wedi cynyddu'n sylweddol ers 2016/17 ac roedd ffigurau ar gyfer 2020/21 65% yn uwch nag yn 2016/17, sef 257 o aelwydydd ychwanegol. Digwyddodd y cynnydd mwyaf rhwng 2017/18 a 2018/19 gyda chynnydd o 40% mewn aelwydydd digartref. Roedd cynnydd pellach o 20% yn 2019/20 gan arwain at lefelau sylweddol uwch o ddigartrefedd yn 2020/21. Aelwydydd sengl digartref oedd y mwyafrif o'r rhain.
Mae cynnydd cyson a73 yn dangos ei bod yn mynd yn anoddach atal digartrefedd.
2016/17 | 2017/18 | 2018/19 | 2019/20 | 2020/21 | |
---|---|---|---|---|---|
a66 | 1143 | 1152 | 1173 | 1115 | 939 |
a73 | 395 | 364 | 509 | 610 | 652 |
Mae'r rhesymau dros y cynnydd hwn yn cael eu dangos yn achosion digartrefedd, a ddangosodd gynnydd sylweddol mewn achosion ariannol o ddigartrefedd ar gyfer 2018/19, ac mae'r tabl isod yn dangos y cynnydd mwyaf sylweddol mewn achosion digartrefedd yn ystod 2018/19, sy'n cyfrif am y cynnydd mewn aelwydydd y canfuwyd eu bod yn ddigartref (a73).
Achos digartrefedd a66 a 73 | 2017/18 | 2018/19 | % cynnydd |
---|---|---|---|
Cam-drin domestig | 195 | 263 | 35% |
Eiddo presennol yn anfforddiadwy | 28 | 42 | 50% |
Ôl-ddyledion morgais | 13 | 31 | 138% |
Ôl-ddyledion rhent ar anheddau'r sector preifat | 33 | 50 | 51% |
Ôl-ddyledion rhent ar: Anheddau sector cymdeithasol | 26 | 63 | 142% |
Cafwyd cynnydd sylweddol hefyd yn nifer yr achosion angen blaenoriaeth y mae dyletswydd darparu llety dros dro iddynt. Roedd y cynnydd mwyaf rhwng 2018/19 a 2019/20.
2016/17 | 54 |
---|---|
2017/18 | 58 |
2018/19 | 76 |
2019/20 | 138 |
2020/21 | 169 |
Digwyddodd y cynnydd mwyaf sylweddol mewn aelwydydd yr oedd dyletswydd iddynt o dan a75 rhwng 2018/19 a 2019/20 (45%). Dangosir y rhesymau dros y cynnydd hwn yn y tabl isod. Mae'r cynnydd pellach yn 2020/21 yn rhannol adlewyrchu'r amserlenni hirach y mae'n eu cymryd i aelwydydd gael eu hailgartrefu'n barhaol, oherwydd y ffactorau sy'n effeithio ar argaeledd llety parhaol. Mae hyn yn arwain at gyfnodau hirach mewn llety dros dro ac felly mae mwy o aelwydydd wedi disgyn o dan y ddyletswydd a75.
Mae'r tabl isod yn darparu achosion digartrefedd i aelwydydd y mae dyletswydd a75 iddynt. Mae'n dangos bod modd gweld y cynnydd mwyaf sylweddol yn y rhai sy'n gadael y carchar, cam-drin domestig ac aelwydydd sy'n gadael sefydliadau/gofal.
Achosion digartrefedd a 75 | 2016/17 | 2017/18 | 2018/19 | 2019/20 | 2020/21 |
---|---|---|---|---|---|
Rhai sy'n gadael y carchar | 24 | 13 | 15 | 33 | 43 |
Cam-drin domestig | 1 | 2 | 16 | 25 | 23 |
Arall e.e. digartref mewn argyfwng, wedi dychwelyd o dramor, cysgu ar y stryd, mewn hostel | 3 | 8 | 7 | 11 | 23 |
Nid yw perthnasau/ffrindiau eraill yn fodlon neu'n gallu cynnig llety rhagor | 5 | 4 | 11 | 13 | 22 |
Mewn sefydliad neu ofal | 5 | 7 | 3 | 17 | 17 |
Rhiant heb fod yn fodlon nac yn gallu cynnig llety rhagor | 4 | 2 | 9 | 8 | 15 |
Wedi colli llety rhent neu lety clwm | 2 | 13 | 6 | 10 | 8 |
Chwalu perthynas â phartner (Di-drais) | 4 | 7 | 4 | 8 | 8 |
Trais neu aflonyddu | 2 | 0 | 3 | 5 | 6 |
eiddo presennol yn anaddas | 2 | 1 | 1 | 2 | 3 |
Eiddo presennol yn anfforddiadwy | 0 | 0 | 0 | 0 | 1 |
Ôl-ddyledion morgais | 0 | 0 | 0 | 3 | 0 |
Ôl-ddyledion rhent ar anheddau'r sector Preifat | 0 | 0 | 0 | 1 | 0 |
Ôl-ddyledion rhent ar: Anheddau sector cymdeithasol | 2 | 1 | 1 | 2 | 0 |
CYFANSWM | 54 | 58 | 76 | 138 | 169 |
Rhesymau dros angen blaenoriaeth
Fel yr amlinellwyd uchod, mae'r newidiadau rhwng 2016/17 a 2020/21 yn dangos cynnydd yn nifer yr achosion angen blaenoriaeth a gafodd lety dros dro, sy'n adlewyrchu'r cynnydd mewn achosion cymhleth y mae angen cefnogaeth a chymorth arnynt. Ar y cyfan, mae nifer yr achosion angen blaenoriaeth yn 2020/21 (169) dair gwaith yn uwch nag yn 2016 (54), gyda chynnydd sydyn i'w weld rhwng 2018/19 (76) a 2019/20 (138). Adlewyrchir y cynnydd hwn ledled Cymru (er nad yw cymaint), a oedd hefyd yn dangos cynnydd mewn achosion blaenoriaeth dros yr un cyfnod rhwng 2073 a 2631. Nid oes gwybodaeth genedlaethol ar gael ar gyfer 2019/20 a 2020/21 er mwyn cymharu ymhellach.
Y prif resymau dros angen blaenoriaeth yw aelwydydd sy'n agored i niwed oherwydd salwch meddwl/ anableddau dysgu neu oherwydd anabledd corfforol. Aelwydydd un person sy'n cyfrif am fwyafrif y cynnydd a nhw o hyd yw nifer uchaf yr achosion angen blaenoriaeth - sef 89%. Bu cynnydd hefyd yn nifer y rhieni sengl rhwng 2016/17 a 2019/20 wedi cynyddu o 0 i 19 aelwyd, gyda gostyngiad bychan yn 2020/21.
Er bod rhywfaint o'r cynnydd o ganlyniad i'r diffyg opsiynau symud ymlaen, mae yna ffactorau eraill sydd wedi cyfrannu at y cynnydd sydyn hwn. Dylid nodi bod yr Awdurdod cyn y pandemig wedi dechrau cymryd agwedd lawer mwy cytbwys tuag at y 'prawf angen blaenoriaeth' a dechrau symud tuag at ddileu angen blaenoriaeth yn y dyfodol. Er enghraifft, cymerwyd dull 'pawb-i-mewn' yn 2020/21, lle'r oedd unrhyw un a ganfuwyd yn cysgu ar y stryd yn cael cynnig llety dros dro ac yn debygol iawn o gael ei ddosbarthu mewn angen blaenoriaeth.
Mae'r dystiolaeth yn dangos yn glir yr her a wynebir gyda'r cynnydd yn y nifer sy'n agored i niwed ac sydd ag anghenion cymhleth a ddaw'n ddigartref ac sydd yna'n aros mewn llety dros dro yn rhy hir. Mae angen dadansoddi ymhellach, ond mae arwydd cryf ein bod yn gweld nifer o achosion gydag anghenion iechyd meddwl lle nad yw'r prosiect tai â chymorth y maent ynddo yn diwallu eu hanghenion gan arwain at eu troi allan. Yn ogystal, y rhai sydd â phroblemau camddefnyddio sylweddau difrifol yn aml yw'r rhai anoddaf dod o hyd i lety addas iddynt ac, os ydym am fynd i'r afael â'r cylch o ailadrodd digartrefedd, rhaid i ni gymryd dull amlasiantaethol.
Hefyd, mae achosion o bobl sy'n agored i niwed oherwydd anableddau corfforol hefyd wedi dyblu a rhagor dros y 5 mlynedd diwethaf. Mae hwn yn faes ffocws i ni wrth symud ymlaen a thystiolaeth bod angen i ni sicrhau ein bod yn cynyddu lefel eiddo hygyrch, a hynny o safbwynt dros dro a pharhaol.
Disgrifiad | 16/17 | 17/18 | 18/19 | 19/20 | 20/21 |
---|---|---|---|---|---|
Agored i niwed oherwydd salwch meddwl/anableddau dysgu | 23 | 25 | 30 | 50 | 49 |
Agored i niwed oherwydd rhesymau arbennig eraill | 4 | 3 | 3 | 14 | 40 |
Agored i niwed oherwydd anabledd corfforol | 14 | 16 | 17 | 30 | 32 |
Person sy'n ffoi rhag cam-drin domestig neu fygythiad o gam-drin | 3 | 2 | 16 | 21 | 25 |
Cyn-garcharor sy'n agored i niwed o ganlyniad i fwrw dedfryd o garchar | 4 | 8 | 3 | 5 | 10 |
Aelwydydd â phlant dibynnol | 3 | 2 | 6 | 14 | 9 |
Rhywun sy'n gadael gofal neu berson mewn perygl arbennig o gam-fanteisio rhywiol neu ariannol (18 oed neu hŷn ond o dan 21 oed) | 1 | 1 | 1 | 1 | 3 |
Aelwydydd yn ddigartref mewn argyfwng | 0 | 0 | 0 | 0 | 1 |
Aelwydydd lle mae aelod yn feichiog a heb blant dibynnol arall | 2 | 0 | 0 | 0 | 0 |
Person sy'n gadael y lluoedd arfog | 0 | 1 | 0 | 0 | 0 |
Agored i niwed oherwydd henaint | 0 | 0 | 0 | 3 | 0 |
Person ifanc 16 neu 17 oed | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 |
Achosion digartrefedd
Newidiodd prif achosion digartrefedd yn ystod y pandemig oherwydd polisïau Llywodraeth Cymru a roddwyd ar waith i atal troi allan a lleihau digartrefedd yn ystod y pandemig. Yn benodol, cafwyd gostyngiadau mewn digartrefedd oherwydd troi pobl allan o dai cymdeithasol neu lety rhent preifat oherwydd ôl-ddyledion rhent. Dangosir hyn hefyd gan y niferoedd a drowyd allan gan y cyngor am ôl-ddyledion rhent sef dim yn ystod 2020/21. Serch hynny, dylid nodi bod achosion o droi allan gan y cyngor eisoes wedi gostwng yn sylweddol yn 2019/20 (o 99 yn 2018/19 i 67 sef 32%) am fod Tîm Rhenti'r Cyngor wedi mabwysiadu ethos newydd wedi'i lywio gan drawma ac Amgylchedd wedi'i Lywio gan Seicoleg (PIE) newydd. Y nod parhaus yw cadw achosion o droi allan oherwydd ôl-ddyledion rhent mor isel â phosibl.
Ers 2017 mae ôl-ddyledion rhent cyffredinol wedi parhau i gynyddu. Er bod cydberthynas rhwng y gostyngiad mewn troi allan a'r cynnydd mewn ôl-ddyledion cyffredinol mae'n heriol mesur manylion yr effaith. Yn ogystal â hyn, mae ffactorau cyfrannol sylweddol eraill o ran yr ôl-ddyledion cynyddol gan gynnwys cyflwyno parhaus fesul dipyn gwasanaeth llawn Credyd Cynhwysol; a ddechreuodd yn Abertawe ym mis Rhagfyr 2017, hinsawdd economaidd gyffredinol, mesurau caledi a diwygiadau lles eraill, nifer cynyddol y bobl sy'n agored i niwed gydag anghenion cymorth cymhleth heb eu diwallu, heriau o ran diffyg manteisio ar gymorth a gynigir ac effeithiau parhaus pandemig COVID19. Wrth symud ymlaen, er na ragwelir dychwelyd i lefelau troi allan cyn y pandemig, rhagwelir y bydd lefelau ôl-ddyledion yn cynyddu ymhellach a chydnabyddir y gall fod angen goddef lefelau uwch o ôl-ddyledion, ochr yn ochr â'r dull sy'n datblygu o ran troi allan, ond eu hystyried hefyd yng nghyd-destun gostyngiadau mewn gwariant costau llys ac effeithiau ariannol ehangach troi allan.
Rhagwelir y bydd achosion o droi allan yn y sector rhentu preifat yn cynyddu am fod landlordiaid bellach yn gallu ailddechrau achosion llys, ac oherwydd effeithiau economaidd hirdymor y pandemig a chynnydd costau byw, dileu'r codiad o £20 yr wythnos mewn Credyd Cynhwysol, cynnydd prisiau tanwydd ac ati a fydd yn cael effaith andwyol ar fforddiadwyedd rhenti preifat.
Bu gostyngiad hefyd mewn achosion lle'r oedd aelwydydd yn ddigartref oherwydd gadael sefydliad neu ofal - cyfrifir am hyn gan y saib mewn symud ymlaen o lety'r Swyddfa Gartref ar gyfer ffoaduriaid sydd wedi cael penderfyniad lloches - bydd hyn yn cynyddu, am fod y broses symud ymlaen wedi ailddechrau ym mis Hydref 2021.
Gostyngodd hefyd nifer yr achosion lle cam-drin domestig oedd achos y digartrefedd. Mae'r rhesymau dros hyn yn aneglur ond yn ystod chwe mis cyntaf 2020/21, cyfyngwyd ar wasanaethau oherwydd mesurau cyfnod clo, ac roedd llai o weithgarwch a symud ar draws y boblogaeth. Gallai hyn fod wedi arwain at drafferthion i bobl sy'n destun cam-drin domestig gael gwasanaethau yn ystod y cyfnod clo gan olygu bod ganddynt lai o gyfleoedd i adrodd neu adael. Efallai bod llai o gyswllt wyneb yn wyneb wedi arwain at lai o gymorth ac anogaeth i symud ymlaen.
Nododd llochesau hefyd anawsterau yn ystod y pandemig gan gynnwys yr angen i amddiffyn iechyd goroeswyr bregus eisoes yn y gwasanaeth, a rhai ohonynt yn hunanynysu efallai, ochr yn ochr â'r angen am gyfarpar diogelu personol ychwanegol a glanhau mannau cymunedol a lloches yn ddwfn cyn y gellid darparu llety i oroeswr newydd. Gall yr anawsterau hyn arwain at ostwng y llefydd sydd ar gael.
Fodd bynnag, cafwyd cynnydd yn y galw am gyngor a chymorth VAWDASV yn y gymuned. Mae fframwaith monitro VAWDASV Abertawe wedi nodi cynnydd sylweddol mewn atgyfeiriadau i gynlluniau VAWDASV, sy'n cynnig cymorth ffôn ac wyneb yn wyneb (cyfyngedig yn ystod Pandemig), a chyngor i fenywod sy'n destun cam-drin domestig.
Roedd cynnydd mawr mewn digartrefedd am nad oedd teulu neu ffrindiau/perthnasau eraill yn fodlon cynnig llety rhagor - sy'n adlewyrchu'r pwysau teuluol a gynyddodd yn ystod y pandemig a chyfyngiadau llymach ar aelwydydd yn cymysgu gan olygu na allai trefniadau anffurfiol barhau.
Mae'r siart isod yn dangos y newidiadau o'r cyfnod cyn y pandemig. Hyd at 2019/20 roedd achosion digartrefedd wedi aros yn gymharol sefydlog gyda cholli llety rhent preifat yn gyson yn brif achos digartrefedd, ond bellach hwn yw'r 6fed prif achos, sy'n newid sylweddol ac yn dangos yn glir effaith y gwaharddiad ar droi allan.
2019/20 (%) | 2020/21 (%) | |
---|---|---|
Nid yw rhiant bellach yn fodlon neu'n gallu lletya | 13 | 19 |
Nid yw perthnasau/ffrindiau eraill bellach yn fodlon neu'n gallu lletya | 12 | 17 |
Perthynas gyda phartner (di-drais) wedi dod i ben | 11 | 12 |
Cam-drin domestig | 13 | 12 |
Wedi gadael y carchar | 10 | 11 |
Colli llety rhent neu glwm | 14 | 10 |
Mewn sefydliad neu ofal | 10 | 7 |
Eiddo presennol yn anaddas | 3.5 | 4 |
Eiddo presennol yn anfforddiadwy | 2.5 | 2 |
Trais neu aflonyddu | 2.5 | 2 |
Ôl-ddyledion rhent ar: anheddau sector preifat | 4 | 1.75 |
Ôl-ddyledion rhent ar: anheddau sector cymdeithasol | 1 | 1.75 |
Ol-ddyledion morgais | 2 | 1 |
Arall, fel digartrefedd oherwydd argyfwng, wedi dychwelyd o dramor, cysgu ar y stryd, mewn hostel | 1 | 0.5 |
Defnyddio llety dros dro
Mae defnyddio llety dros dro wedi cynyddu'n sylweddol a hwn yw un o'r pwysau mwyaf sy'n wynebu Adran Dai Cyngor Abertawe ar hyn o bryd. Daw'r cynnydd yn rhannol oherwydd y pandemig a'r gofyniad i ddarparu llety i bob aelwyd ni waeth ei statws angen blaenoriaeth. Fodd bynnag, roedd nifer yr achosion angen blaenoriaeth hefyd yn cynyddu cyn y pandemig, a arweiniodd at gynnydd sylweddol mewn defnyddio llety gwely a brecwast rhwng 2017/18 a 2019/20.
2016/17 | 2017/18 | 2018/19 | 2019/20 | 2020/21 | |
---|---|---|---|---|---|
Aelwydydd angen blaenoriaeth | 173 | 178 | 244 | 319 | 212 |
Lleoliadau gaeaf / lleoliadau covid | 131 | 293 |
D.S. Dechreuodd darpariaeth Cynllun Gaeaf yn 2018/19 ond ni chasglwyd y niferoedd ar wahân i ffigurau angen blaenoriaeth.
Ar y cyfan, yn 2020/21 roedd 585 o aelwydydd wedi'u gosod mewn llety gwely a brecwast, sy'n gynnydd o 238% o'r 173 o aelwydydd a osodwyd yn ystod 2016/17.
Nid gwely a brecwast mo'r math a ffafrir o lety dros dro ac mae Cyngor Abertawe yn darparu llety dros dro i aelwydydd angen blaenoriaeth o'i stoc llety ei hun, gan gynnwys llety dros dro i deuluoedd mewn sawl lleoliad drwy'r ddinas a llety sengl drwy gynllun ABBA (Dewis yn Lle Gwely a Brecwast) lle defnyddir eiddo'r cyngor a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig dros dro ar gyfer llety brys. Mae aelwydydd sy'n ffoi rhag cam-drin domestig hefyd yn cael llety gan Cymorth i Fenywod, naill ai drwy loches neu dŷ diogel.
Fodd bynnag, defnyddio llety gwely a brecwast fu'r unig ffordd o letya'r cynnydd sylweddol mewn pobl a oedd yn gymwys i gael llety dros dro yn ystod y pandemig o ganlyniad i gyfarwyddeb Llywodraeth Cymru fod pob aelwyd a ddaeth yn ddigartref yn ystod y pandemig i'w hystyried mewn Angen Blaenoriaeth. Ni fu'n bosib cynyddu nifer y fflatiau ABBA a ddefnyddiwyd fel llety dros dro yn sylweddol gan fod llety dros dro fel hwn yn gwaredu llety parhaol y mae mawr ei angen o'r cyflenwad tai.
Defnyddiwyd cyllid Cam 2 Llywodraeth Cymru i gynyddu maint y llety â chymorth dros dro ar gyfer aelwydydd sengl, er enghraifft Tŷ Tom Jones (24 uned) a Chabanau Tŷ Bryn (4 uned) ond nid yw'n ddigon i fodloni'r galw.
Defnyddir llety gwely a brecwast fel dewis olaf i deuluoedd, ac mae'r awdurdod wedi llwyddo i gadw nifer y teuluoedd sy'n defnyddio'r math hwn o lety yn isel. Rhoddwyd nifer anarferol o uchel o deuluoedd mewn llety gwely a brecwast yn ystod 2019/20, a hynny'n bennaf am fod gwaith adnewyddu'n digwydd yn y llety dros dro i deuluoedd a weithredir gan y Cyngor.
2016/17 | 2017/18 | 2018/19 | 2019/20 | 2020/21 | |
---|---|---|---|---|---|
Cyfanswm y diwrnodau | 30 | 3 | 9 | 64 | 7 |
Nifer y teuluoedd | 8 | 2 | 5 | 14 | 4 |
Nifer cyfartalog y diwrnodau | 3.3 | 1.5 | 1.8 | 4.6 | 1.75 |
Cysgu ar y Stryd
Gellir priodoli'r gostyngiad sylweddol mewn cysgu ar y stryd yn Abertawe i raddau helaeth i Lywodraeth Cymru yn rhyddhau canllawiau ym mis Mawrth 2020 i'r holl awdurdodau lleol ystyried bod pob aelwyd ddigartref yn agored i niwed yn ystod y pandemig. Felly, roedd llety dros dro ar gael i'r aelwydydd hynny na fyddent fel arfer mewn angen blaenoriaeth ac i aelwydydd heb y gallu i droi at arian cyhoeddus. Gwnaed hyn er mwyn sicrhau bod gan bobl sy'n cysgu ar y stryd, neu sydd mewn perygl o gysgu ar y stryd, y cymorth a'r adnoddau sydd eu hangen i ddiogelu eu hunain a chadw at ganllawiau iechyd y cyhoedd ar hylendid neu ynysu. Dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd hyn yn parhau hyd y gellir ei ragweld, a'i bod yn bwriadu deddfu er mwyn gwneud y newid polisi yn barhaol.
O ran hyd a lled y mater, cyn y pandemig, roedd nifer y bobl yn cysgu ar y stryd yn Abertawe ar gyfartaledd rhwng 15 a 20 y noson. Ar ôl mis Mawrth 2020, gostyngodd niferoedd y rhai yn cysgu ar y stryd yn fawr, yn enwedig yn y ddau gyfnod clo lle nad oedd unigolion yn cysgu ar y stryd o gwbl yn Abertawe ar adegau. Ers ailagor yr economi ddydd a nos a llacio mesurau clo llym, mae nifer y bobl sy'n cysgu ar y stryd wedi dechrau cynyddu ac ym mis Tachwedd 2021 roedd 6 o bobl ar gyfartaledd yn cysgu ar y stryd bob nos, wedi'i fesur dros y cyfnod misol. Gwelir brigau o ran cysgu ar y stryd yn ystod misoedd yr haf, yn enwedig mis Awst, gyda lefelau isel iawn yn ystod y cyfnodau clo.
Apr-20 | 4 |
---|---|
May-20 | 5 |
Jun-20 | 5 |
Jul-20 | 5 |
Aug-20 | 7 |
Sep-20 | 9 |
Oct-20 | 4 |
Nov-20 | 2 |
Dec-20 | 2 |
Jan-21 | 1 |
Feb-21 | 2 |
Mar-21 | 3 |
Apr-21 | 2 |
May-21 | 3 |
Jun-21 | 6 |
Jul-21 | 6 |
Aug-21 | 12 |
Sep-21 | 10 |
Oct-21 | 6 |
Nov-21 | 6 |
Ers y pandemig casglwyd cryn dipyn o ddata soffistigedig ar gysgu ar y stryd. Mae hyn wedi dangos pryderon mewn nifer o feysydd gan gynnwys.
- Nifer y bobl 'newydd' yn cysgu ar y stryd nad fuont yn hysbys i wasanaethau digartrefedd o'r blaen.
- Nifer y bobl sy'n cysgu ar y stryd sydd eisoes â thenantiaeth.
- Nifer y bobl sy'n cysgu ar y stryd sydd wedi dod o'r tu allan i'r ardal.
Galw am dai cymdeithasol
Mae'r galw am dai cymdeithasol yn cynyddu gyda chynnydd o 26% yn nifer y ceisiadau rhestr aros rhwng 2016/17 a 2020/21. Dengys arwyddion ar gyfer hanner cyntaf 2020/21 fod nifer y ceisiadau rhestr aros yn parhau i gynyddu.
2013/14 | 2730 |
---|---|
2014/15 | 2541 |
2015/16 | 2381 |
2016/17 | 3026 |
2017/18 | 3296 |
2018/19 | 2881 |
2019/20 | 2780 |
2020/21 | 3430 |
Mae cipolwg ar restr aros y Cyngor (Medi 2021) yn dangos bod 4,639 o aelwydydd yn aros am lety:
- Roedd 26% yn aelwydydd a oedd yn ddigartref neu dan fygythiad digartrefedd
- Roedd 43% yn ymgeiswyr rhestr aros gyda mathau eraill, llai difrifol o angen tai
- Roedd 31% yn denantiaid cyngor sydd wedi gwneud cais i drosglwyddo i eiddo/ardal arall
Mae'r galw uchaf am fflatiau un gwely gyda 40% o aelwydydd ar y rhestr aros am y math hwn o eiddo. Mae'r angen am fflatiau un gwely yn uwch ymhlith aelwydydd digartref, ac angen y math hwn o eiddo ar 65%. Mae galw mawr am dai 2 a 3 ystafell wely hefyd.
Argaeledd llety parhaol
Mae lefelau uchel o angen am dai cymdeithasol ac nid yw'r cyflenwad yn ateb y galw ar hyn o bryd. Mae cael cyflenwad rhesymol o lety fforddiadwy o ansawdd yn hanfodol wrth fodloni gofynion digartrefedd statudol a bydd yn hanfodol i gyflawni nod LlC o symud at fodel o ailgartrefu cyflym dros y pum mlynedd nesaf. Mae lefelau cyflenwi presennol yn rhwystr sylweddol rhag cyflawni hyn. Mae'r prif ffactorau sy'n cyfrannu at y diffyg cyflenwad yn cynnwys:
- Llai o osodiadau/trosiant stoc ar draws pob daliadaeth o ganlyniad i ffactorau a achoswyd gan y pandemig, er enghraifft mae gosodiadau tai cyngor wedi gostwng 30% yn ystod y pandemig oherwydd argaeledd.
- Blaenoriaethu adnoddau i gael eiddo un ystafell wely yn barod yn y sector tai cymdeithasol i'w hailosod yn ystod y pandemig a chyfnodau clo wedi arwain at lai o argaeledd llety teuluol.
- Cau asiantau gosod, a rhoi staff ar ffyrlo yn ystod cyfnodau clo
- Cynyddu diffyg fforddiadwyedd y sector rhentu preifat
- Dim digon o dai cymdeithasol i ateb y galw, gyda phrinder penodol o lety 1 ystafell wely
- Mae rhenti yn y sector preifat yn cynyddu'n gyflymach na'r lwfans tai lleol a chyflogau.
1 ystafell wely | 2 ystafell wely | 3 ystafell wely | 4 ystafell wely | |
---|---|---|---|---|
Lwfans tai lleol | £126 | £154 | £162 | £276 |
Rhent canolrifol | £103 | £114 | £121 | £166 |
Yn ogystal, mae'r galw cynyddol am dai cymdeithasol gan aelwydydd digartref yn ystod y pandemig wedi effeithio'n sylweddol ar y gallu i aelwydydd ar y rhestr aros sydd â mathau llai difrifol o angen tai gael tenantiaeth cyngor ac mae hefyd wedi lleihau'n sylweddol allu tenantiaid i drosglwyddo o fewn stoc y Cyngor. Gallai hyn arwain at waethygu amgylchiadau i aelwydydd wrth iddynt aros am gyfnodau hirach am lety ac mae'n peryglu creu'r canlyniad anfwriadol lle daw cais digartrefedd yn brif lwybr at gael tai cymdeithasol.
Mae'r siart isod yn dangos yr atebion llety sydd wedi eu cyrchu i atal neu liniaru digartrefedd. Sylwer yn arbennig ar y gostyngiad cyffredinol mewn atebion llety; fodd bynnag gyda chynnydd sylweddol yn nifer yr aelwydydd wedi'u cartrefu gan landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a hefyd niferoedd cynyddol yn cael llety gyda chymorth - gan adlewyrchu'r cynnydd yn y ddarpariaeth a alluogwyd gan gyllid cam 2 Llywodraeth Cymru er enghraifft, mae Tŷ Tom Jones wedi darparu 24 uned ychwanegol o lety. Un gostyngiad amlwg yw defnyddio'r sector preifat fel ateb. Os ydym am atal digartrefedd i bobl sengl a theuluoedd wrth symud ymlaen, yna mae'n rhaid i ni oresgyn yr heriau sy'n ein hwynebu wrth ddod o hyd i eiddo rhentu preifat fforddiadwy ac addas.
2016/17 | 2017/18 | 2018/19 | 2019/20 | 2020/21 | |
---|---|---|---|---|---|
Tai cymdeithasol - ALI | 376 | 568 | 658 | 553 | 453 |
Llety rhentu preifat | 287 | 247 | 275 | 302 | 202 |
Tai cymdeithasol - LCC | 40 | 53 | 66 | 70 | 102 |
Llety a chymorth | 78 | 64 | 65 | 68 | 98 |
Asesiad o Farchnad Dai Leol Abertawe - galw am dai yn y dyfodol
Yn ogystal â lefelau presennol y galw a'r angen am dai, dangosodd Asesiad o Farchnad Dai Leol Abertawe yn 2019 y bydd angen 15,365 o unedau llety ychwanegol rhwng 2018 a 2033, gyda 31% o'r rhain yn dai fforddiadwy.
O ran poblogaeth rhwng 2018 a 2033 - bydd 28% o gynnydd yn y bobl 65+ oed a 58% o gynnydd yn y bobl 80+ oed. Mae hyn o ganlyniad i boblogaeth sy'n heneiddio yn hytrach na mudo. Yn yr un modd, bydd gostyngiad yn y niferoedd yn y grwpiau oedran iau oherwydd mudo allan.
O ran y math o eiddo, bydd yr angen mwyaf am eiddo 1 a 2 ystafell wely ac o ystyried y cynnydd uchod yn y grŵp dros 65 oed mae angen ystyried cynyddu nifer yr eiddo hygyrch.
Anghenion cymhleth - cael at gymorth iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau
Ar draws yr holl wasanaethau, mae tystiolaeth o niferoedd cynyddol o unigolion ag anghenion cymhleth, gan gynnwys ceisiadau digartrefedd gyda nifer uwch o bobl yn cael eu hasesu fel rhai â blaenoriaeth oherwydd materion iechyd meddwl, atgyfeiriadau VAWDASV yn cyflwyno gyda lefelau uwch o angen a niferoedd cynyddol o bobl ifanc ag anghenion cymhleth.
Yn arbennig mae angen cymorth iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau ar niferoedd mawr o unigolion, ac mae ystod eang o sefydliadau cymorth yn crybwyll anawsterau wrth gael at y math hwn o gymorth. Casglwyd astudiaethau achos yn dystiolaeth o hyn.
Cymorth tenantiaeth
Mae'r galw am wasanaethau cymorth fel y bo'r angen yn Abertawe wedi aros yn gyson uchel. Crëwyd pwysau ychwanegol ar wasanaethau cymorth yn 2018/19 oherwydd y diwygiadau lles a arweiniodd at fwy o alw am gyngor ar fudd-daliadau lles a chymorth cyllidebu.
Yn ystod 2020/21, cafodd 1649 o gartrefi eu cefnogi gan yr Uned Cefnogi Tenantiaeth ac asiantaethau partner.
Dengys y tabl canlynol nifer yr aelwydydd a gafodd gymorth wedi'u rhannu yn ôl math o gymorth ers 2017/18. Cefnogwyd nifer uwch o aelwydydd yn 2018/19 oherwydd rhyddhau adnoddau ychwanegol i liniaru effeithiau diwygio lles.
Disgrifiad | 2017 - 2018 | 2018 - 2019 | 2019 - 2020 | 2020- 2021 | Sylwadau |
---|---|---|---|---|---|
Generig ar gyfer pobl sengl (cynaliadwyedd tenantiaeth) | 379 | 452 | 533 | 561 | Yn cynnwys cymorth i ffoaduriaid |
Teuluoedd (dros 25 oed) | 261 | 342 | 346 | 379 |
|
Person Hŷn | 208 | 207 | 296 | 221 |
|
Cam-drin Domestig | 100 | 78 | 97 | 106 |
|
Gofal yn y Gymuned (Anawsterau dysgu a materion iechyd meddwl) | 74 | 108 | 90 | 138 |
|
Person Ifanc | 80 | 83 | 110 | 107 |
|
Cymorth Sector Rhentu Preifat (yn fewnol) | 79 | 102 | 14 | Amh. |
|
Y teulu ifanc (o dan 25 oed) | 112 | 82 | 62 | 78 |
|
Cyllidebu Personol Credyd Cynhwysol (yn fewnol) | 53 | 424 | Amh. | Amh. | Contract wedi dod i ben yn 2019 |
Ymateb Cyflym (yn fewnol) | 72 | 91 | 67 | 59 |
|
Cyfanswm | 1418 | 1969 | 1615 | 1649 |
|
Am ba hyd roedd aelwydydd yn cael cymorth
Hyd yr amser |
2016/17 | 2017 - 2018 | 2018 - 2019* | 2019 - 2020 | 2020 - 2021 |
---|---|---|---|---|---|
0-3 mis | 36% | 47% | 55% | 34% | 34% |
3 mis -6 mis | 21% | 21% | 17% | 25% | 22% |
6 mis-1 flwyddyn | 25% | 19% | 13% | 24% | 28% |
Dros 1 flwyddyn | 18% | 13% | 10% | 17% | 16% |
Rhestr aros yr Uned Cymorth Tenantiaeth (UCT)
Mae dadansoddiad o'r grwpiau cleientiaid yn dangos bod y nifer uchaf sy'n aros am gymorth ar ddiwedd y flwyddyn yn dod o'r grŵp cleientiaid "teuluoedd dros 25 oed". Y grŵp cleientiaid mwyaf nesaf ar y rhestr aros yw pobl sengl. Mae'r rhain yn adlewyrchu'r niferoedd uchaf o ddarpariaeth cymorth fel y dangosir yn y tabl uchod.
Un o nodau allweddol Strategaeth Digartrefedd 2018-22 oedd lleihau rhestri aros yr UCT. Cyflawnwyd hyn drwy gwtogi 64% ar niferoedd rhestri aros rhwng 2016/17 a 2020/21 o 232 i 83 fel y dangosir yn y siart isod. Y prif resymau dros hyn yw bod y tîm mewnol wedi ymgymryd â mwy o achosion oherwydd newid i gymorth dros y ffôn yn ystod y pandemig. Bydd model Hybrid o gymorth yn cael ei gymryd wrth symud ymlaen.
Bu cynnydd yn nifer yr aelwydydd a gefnogir dan y contract gofal Cymunedol, sy'n ymwneud yn bennaf ag iechyd meddwl. Yn yr UCT, gwelwyd mwy o atgyfeiriadau ar gyfer cymorth iechyd meddwl. Gellid priodoli hyn i straen y pandemig (pryder, unigrwydd, colli incwm ac ati), ynysu cymdeithasol, a diffyg mynediad at wasanaethau Iechyd Meddwl Cymunedol / meddygon teulu.
Yn ogystal, cafwyd cynnydd bach yn rhestr aros pobl hŷn sy'n aros am gymorth. Mae'n debygol fod y cynnydd o ganlyniad i'r pandemig yn yr ystyr na allai ffrindiau/teulu ymweld i gynorthwyo pobl hŷn, roedd angen cymorth ar lawer o bobl hŷn gydag integreiddio cymdeithasol/cymunedol, sef rhywbeth nad allem ei ddarparu yn ystod y pandemig ond gallem gyfeirio pobl at wasanaethau a allai siarad a rhoi amser ar y ffôn.
Nifer yr aelwydydd ar restr aros am gymorth a gofnodwyd ar 31 Mawrth yn flynyddol.
Angen arweiniol | 2016 - 2017 | 2018 - 2019 | 2019 - 2020 | 2020 - 2021 |
---|---|---|---|---|
Teuluoedd (dros 25 oed) | 68 | 16 | 15 | 22 |
Generig (sengl / parau dros 25 - 54) | 65 | 38 | 32 | 24 |
Pobl Ifanc | 30 | 10 | 4 | 6 |
Cam-drin Domestig | 28 | 4 | 0 | 3 |
Teuluoedd Ifanc | 13 | 2 | 0 | 2 |
Camddefnyddio Sylweddau | 13 |
|
|
|
Gofal yn y Gymuned | 12 | 6 | 5 | 13 |
Pobl Hŷn | 4 | 6 | 6 | 13 |
Ffoaduriaid | 1 |
|
|
|
Cyfanswm | 232 | 82 | 62 | 83 |
D.S. Mae camddefnyddio sylweddau a chymorth i ffoaduriaid bellach yn rhan o'r contract cymorth generig. Nid oes data rhestr aros ar gael ar gyfer 2017/18 oherwydd newid cronfa ddata.
Cydweithio/gwaith partneriaeth
Un o ganlyniadau cadarnhaol y pandemig fu'r cynnydd sylweddol yn effeithiolrwydd y cydweithio â'r sector tai a chymorth. Mae enghreifftiau penodol yn cynnwys:
- Datblygiad llwyddiannus y Gell Ddigartrefedd
- Gwell cydweithio â landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn ystod y pandemig, yn enwedig mewn ymateb i ofynion ariannu Cam 2 a'r angen i flaenoriaethu llety 1 ystafell wely ar gyfer aelwydydd sengl.
- Trafodaeth yn digwydd ynghylch datblygu pwynt mynediad cyffredin ar gyfer tai cymdeithasol yn Abertawe
Fodd bynnag, mae meysydd i'w datblygu ymhellach o hyd, yn enwedig y cysylltiadau â gwasanaethau iechyd meddwl a'r angen i symleiddio'r broses pan fo angen brys i bobl gael at wasanaethau camddefnyddio sylweddau.
Lefelau digartrefedd yn y dyfodol
Mae'r Adolygiad Digartrefedd wedi ystyried pa ffactorau allai gael effaith ar lefelau digartrefedd yn y dyfodol. Yn gyffredinol mae disgwyl i lefelau digartrefedd gynyddu a bydd y galw am lety a gwasanaethau cymorth yn parhau i godi.
Mae'r pandemig wedi arwain at lawer o heriau, yn benodol cynnydd mewn materion iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau, cynnydd mewn cam-drin domestig a chwalu perthynas, yn ogystal â'r effeithiau economaidd anochel. Mae hyn yn rhoi cryn straen ar wasanaethau digartrefedd, cymorth a llety. Yn ystod y 18 mis diwethaf, cafwyd gostyngiad yn nifer yr eiddo sydd ar gael i'w osod ym mhob math o ddaliadaeth, ac felly mae'n debygol y bydd pobl yn treulio cyfnodau hirach mewn llety dros dro dros y misoedd nesaf.
Bydd pwysau eraill sy'n deillio o'r pandemig yn cael effaith ar y galw am wasanaethau digartrefedd a chymorth, gan gynnwys:
- Parhau â'r dull angen blaenoriaeth i bawb, ac mae Llywodraeth Cymru wedi cynghori y bydd yn deddfu yn y dyfodol i barhau â'r dull hwn.
- Diffyg eiddo fforddiadwy, un ystafell wely.
- Llai o drosiant stoc tai cymdeithasol parhaol oherwydd llai o denantiaethau'n dod i ben yn ystod y pandemig.
- Disgwylir cynnydd mewn troi pobl allan o'r sector rhentu preifat am fod y gwaharddiad ar droi allan wedi dod i ben bellach.
- Diwedd y cynllun ffyrlo, y disgwylir iddo arwain at gynnydd mewn diweithdra, gan achosi trafferthion ariannol.
- Lefelau cynyddol o gam-drin domestig a chwalu teuluoedd.
- Cynnydd mewn aelwydydd y mae angen cymorth arnynt yn dilyn penderfyniad y Swyddfa Gartref ar ei statws mewnfudo.
- Galw cynyddol am gymorth iechyd meddwl sy'n deillio o bryderon am iechyd meddwl pobl, yn sgil unigrwydd a straen y pandemig ac aros yn hirach mewn Llety Brys Dros Dro.
- Effaith ar staff ar draws y sector digartrefedd a chymorth, gan gynnwys lefelau straen uchel, beichiau achosion uwch, amodau gwaith anoddach i staff rheng flaen oherwydd rheoli pellter cymdeithasol a mwy o fesurau iechyd a diogelwch gyda grwpiau cleientiaid heriol.
- Diffyg fforddiadwyedd parhaus y sector rhentu preifat i bobl dan 35 oed sy'n cael eu cyfyngu i daliadau Credyd Cynhwysol/Budd-dal Tai lwfans rhent rhannu ystafell.
- Diffyg llety un ystafell wely, ac yn benodol opsiynau tai fforddiadwy ar gyfer pobl dan 35 oed (er enghraifft diffyg tai a rennir priodol), sy'n debygol o arwain at gynnydd mewn pobl sengl ifanc yn methu â datrys eu problemau tai eu hunain.
- Yr effaith ar fforddiadwyedd i bob aelwyd a achosir gan renti preifat yn cynyddu ar gyfradd uwch na chyflogau ac effaith rhewi cyfradd y Lwfans Tai Lleol ar gyfer hawlwyr Credyd Cynhwysol.
- Cynnydd mewn lefelau tlodi yn dilyn diwedd y cynnydd dros dro o £20 yr wythnos i Gredyd Cynhwysol a Chredyd Treth Gwaith.
- Cyn y pandemig roedd eisoes lefelau uchel a chynyddol o alw am dai cymdeithasol ac nid yw'r cyflenwad yn ateb y galw ar hyn o bryd - mae cael cyflenwad rhesymol o lety fforddiadwy o ansawdd yn hanfodol i fodloni gofynion digartrefedd statudol ac i gefnogi rôl atal yn effeithiol.
- Mae niferoedd cynyddol o bobl ag anghenion cymorth cymhleth heb eu diwallu - gan gynnwys, er enghraifft, pobl ag iechyd meddwl gwael, problemau camddefnyddio sylweddau, troseddu, anawsterau dysgu.
- Her barhaus nifer fechan o bobl anodd eu cyrraedd. Er bod cysgu ar y stryd wedi lleihau'n sylweddol gyda chanlyniadau da i lawer, mae yna bobl o hyd ag anghenion hynod gymhleth y mae'r gwasanaethau yn ei chael yn anodd ymgysylltu â nhw ac mae atebion ar gyfer y garfan hon yn lleihau.
Blaenoriaethau Llywodraeth Cymru
Yn ogystal â ffactorau allanol sy'n effeithio ar lefelau ac achosion digartrefedd, mae'r adolygiad hefyd wedi ystyried blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer digartrefedd. Mae Llywodraeth Cymru wedi ailystyried ac adolygu ei blaenoriaethau o ran digartrefedd er mwyn addasu i effeithiau'r pandemig. Mae'r rhain yn cynnwys:
- Ffocws parhaus ar ddileu cysgu ar y stryd gydag ymrwymiad i archwilio'r angen posibl i ddiwygio'n ddeddfwriaethol y "prawf angen blaenoriaeth" fel rhan o'r camau nesaf. Mae hyn yn golygu y bydd pob aelwyd/unigolyn digartref yn parhau i fod yn gymwys am lety dros dro a ddarperir gan y Cyngor waeth pa mor agored i niwed y mae.
- Gofyniad newydd gan Lywodraeth Cymru i bob awdurdod lleol ddatblygu Cynlluniau Pontio Ailgartrefu Cyflym, a fydd yn dangos sut mae'r Cyngor yn bwriadu symud i ffwrdd o ddefnyddio llety dros dro dros gyfnod o bum mlynedd er mwyn trosglwyddo at fodel digartrefedd Ailgartrefu Cyflym. Er bod Abertawe wedi datblygu gwasanaethau cyn ac yn ystod y pandemig sy'n defnyddio'r dull hwn, mae hwn yn newid polisi sylweddol gan Lywodraeth Cymru. Mae'n disgwyl gweld cynlluniau manwl a chostus gan Awdurdodau Lleol yn nodi sut y byddant yn sicrhau bod aelwydydd/unigolion yn treulio'r amser lleiaf posibl mewn llety dros dro, neu'n ei osgoi'n gyfan gwbl os oes modd, drwy symud yn syth i gartrefi parhaol, gyda chymorth yn ôl yr angen. Datblygodd Llywodraeth Cymru ganllawiau manwl i gynorthwyo Awdurdodau Lleol i ddatblygu eu cynlluniau ac mae disgwyl iddynt fod ar waith erbyn mis Hydref 2022.
- Mwy o ffocws ar y sector preifat. Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i ddod o hyd i ffyrdd o wella mynediad a lleihau achosion o droi allan yn y sector Rhentu Preifat, er enghraifft sefydlu Cynlluniau Gosod Cymdeithasol a weithredir gan y Cyngor.
- Cynyddu faint o gartrefi parhaol sydd ar gael. Hwn yw un o'r materion mwyaf sy'n wynebu'r Cyngor o ran datrys digartrefedd. Mae diffyg eiddo un ystafell wely
- ar draws pob daliadaeth.
Blaenoriaethau ychwanegol i Abertawe
- Ceiswyr Lloches a ffoaduriaid - mae Abertawe yn un o'r pedair ardal wasgaru yng Nghymru. Ceir pwysau cynyddol gan y Swyddfa Gartref i'r ardaloedd gwasgaru gymryd ceiswyr lloches ychwanegol i'w hardaloedd. Mae mwy o alw hefyd yn dechrau dod gan y ffoaduriaid hynny sydd wedi cael penderfyniad cadarnhaol ar eu cais am loches, a oedd yn parhau i fyw mewn llety gan y Swyddfa Gartref yn ystod y pandemig ond y mae bellach angen eu symud i'r ardaloedd gwasgaru.
- Gweithio rhanbarthol - mae'r pandemig wedi cynhyrchu mecanweithiau newydd ar gyfer gweithio'n agosach gydag Awdurdodau Lleol cyfagos yn enwedig Awdurdod Lleol Castell-nedd, Port Talbot. Er enghraifft, sefydlwyd grŵp aml-asiantaeth y Gell Ddigartrefedd yn ystod y pandemig. Mae angen cynnal a datblygu hyn wrth symud ymlaen.
Mae data Adolygiad Digartrefedd Llawn ar gael yn y Datganiad o Angen.
Dadansoddiad o Anghenion Cymorth Tai
Arian grant Cymorth Tai yw ffynhonnell gyllid y mwyafrif ar gyfer darparu gwasanaethau cymorth i amryw o grwpiau o bobl gan gynnwys pobl hŷn, pobl ifanc agored i niwed, rhai sy'n gadael gofal, teuluoedd/ unigolion sy'n ffoi rhag cam-drin domestig, pobl â phroblemau iechyd meddwl, pobl ag anableddau dysgu, pobl â phroblemau camddefnyddio sylweddau ac aelwydydd sy'n ddigartref neu dan fygythiad digartrefedd.
Dengys y graff giplun lefel uchel o'r ffordd y caiff cyllid y Grant Cymorth Tai ddosbarthu ar gyfer gwasanaethau a gomisiynwyd yn ôl angen arweiniol yn unig (gan ddefnyddio fformat Llywodraeth Cymru)
Dosbarthiad y grant cymorth tai 2021/22
- Menywodsy'n destun cam-drin domestig - 6%
- Poblag anableddau dysgu - 20%
- Pobla phroblemau lechyd meddwl - 20%
- Pobla phroblemau camddefynddio sylweddau (cyffuriauac alcohol) - 4%
- Poblag anabledd corfforola/neu synhwyraidd - 1%
- Pobl ifancag anghenion cymarth (16-24) - 14%
- Teuluoeddag anhenion cymorth - 5%
- Anghenion cymorth generig (25-54) - 9%
- Pobl dros 55 oedag arghenion cymorth - 9%
- Cymforth fely bo'r angen generigi atal digartrefedd - 12%
Nid oes gwasanaethau wedi'u comisiynu ar gyfer dynion sy'n destun Cam-drin Domestig yng nghyfnod 2021/2022, ond cafodd dau wasanaeth cymorth arbenigol eu comisiynu'n ddiweddar mewn ymateb i flaenoriaethau strategol VAWDASV. Bydd un gwasanaeth yn arbenigo mewn cefnogi dynion sy'n destun Cam-drin Domestig, a gweithiwr cymorth tai cyflawnwyr i fynd i'r afael â materion tai a lleihau risg aildroseddu.
Nid yw'r graff yn dangos bod anghenion cymorth ynghylch iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau yn sylweddol bresennol fel anghenion cymorth eilaidd ymhlith grwpiau fel Pobl Ifanc a Chymorth Generig. Dangosir hyn yn gliriach o ddata a gafwyd o fonitro Canlyniadau a gyflwynwyd gan wasanaethau a gomisiynwyd. Tynnwyd y data Canlyniadau o gynlluniau cymorth unigol ac mae'n dangos cynnydd ar draws yr holl setiau o feysydd canlyniadau a nodwyd.
Yn y cyfnod adrodd canlyniadau rhwng mis Ebrill 2021 a mis Medi 2021, adroddwyd bod 3251 o unigolion yn Abertawe naill ai ar Ddechrau, Diwedd neu'n cael Adolygiad o'u cynlluniau cymorth, drwy Fframwaith Canlyniadau'r Grant Cymorth Tai, a bydd y rhain yn sail i'r crynodeb o ddadansoddiad asesu angen.
Nid yw tua 30% o'r gwasanaethau a ariennir gan y Grant Cymorth Tai yn cymryd rhan yn Fframwaith Canlyniadau'r Grant Cymorth Tai oherwydd y model cymorth. Felly, nid yw'r ffigur 3251 yn llawn gynrychioli nifer y bobl sy'n cael cymorth, a rhagwelir bod y nifer yn llawer uwch. Enghreifftiau o wasanaethau nad ydynt yn cyflwyno canlyniadau yw gwasanaethau Galw Heibio, Cydlynu Ardal Leol a staff y Bwrdd Iechyd Allgymorth. Mae'r gwasanaethau hyn yn cyflwyno 6 ffurflen 'Canlyniadau Ysgafn' fisol, wedi'u cynllunio gan Dîm Comisiynu Abertawe neu Adroddiadau Blynyddol er mwyn dangos y cymorth a roddwyd ganddynt. Mae mecanweithiau casglu data sy'n cynnwys y canlyniadau gwybodaeth ysgafn ac sy'n crisialu cyfanswm y bobl sy'n cael cymorth ar draws yr holl fodelau gwasanaeth yn cael eu datblygu i ddangos gwerth Rhaglen y Grant Cymorth Tai i breswylwyr Dinas a Sir Abertawe.
Yn ystod y 6 mis a werthuswyd, daeth 799 o unigolion i ben â'r cymorth gyda thros 60% heb fod angen cymorth bellach gan fod eu hanghenion cymorth wedi'u diwallu, ond gall y ganran hon fod yn uwch gan fod 11% wedi cofnodi "arall" fel rheswm dros ddod i ben. Y bwriad yw cynnal dadansoddiad pellach i archwilio rhesymau 'eraill' dros ddod i ben.
Rhesymau dros gymorth yn dod i ben
- Anghenion cymorth cysylltiedig a thai wedi'u bodloni - 322
- Angen lechyd wedi sefydlogi - 6
- Wedi symud i lety cynaliadwy - 61
- Trosglwyddo i asiantaeth gefnogi arall - 12
- Wedi smyud i dai a chymorth tymor hir - 27
- Wedi smyud i dai a chymorth tymor byr - 30
- Wedi symud i dai gwarchod - 9
- Wedi symud allan o'r ardal - 16
- Wedi symud i gartref gofal - 13
- Wedi mynd i ysbyty / hosbis arhosiad hir - 5
- Wedi mynd i uned lechyd meddwel - 6
- Diffyg ymgysylltu - 142
- Wedi marw - 48
- Wedi mynd i'r carchar - 13
- Arall - 89
Statws Digartrefedd ar ddechrau a diwedd y cymorth
Mae trosolwg cyffredinol yn dangos i ni, mewn cyfnod o 6 mis, fod 2159 o ddefnyddwyr gwasanaeth wedi cael cymorth i aros yn llwyddiannus yn eu cartref eu hunain, gan eu hatal rhag bod yn ddigartref. Rydym yn parhau i gryfhau ein dull ataliol o ymdrin â digartrefedd, gan ymyrryd yn gynnar i leihau cyfranogiad y gwasanaethau statudol ac osgoi uwchgyfeirio materion gan arwain at sefyllfaoedd argyfyngus. Mae hyn wedi cynnwys cynnydd yn y cymorth sy'n gysylltiedig â thai i atal digartrefedd i bobl sydd heb eu cynrychioli'n ddigonol neu sy'n anoddach eu cyrraedd, drwy amrywiaeth o wasanaethau ychwanegol.
Dechrau | Diwedd | |
---|---|---|
digartref | 315 | 50 |
Dan fygythiad digartrefedd o fewn 56 diwrnod | 153 | 15 |
Mewn llety dros dro | 351 | 110 |
Angen cymorth i aros yn eu cartref eu hunain | 2389 | 230 |
Yn cynnal llety sefydlog yn annibynnol am 6+ mis | 0 | 363 |
Crynodeb o'r Fframwaith Canlyniadau
Mewn cyfnod o 6 mis cafodd 2159 o bobl gymorth i aros yn llwyddiannus yn eu cartref eu hunain, gan atal eu digartrefedd ac efallai atal eu hangen am lety dros dro.
Gofynnodd bron yr holl unigolion a gafodd gymorth drwy'r Rhaglen Cymorth Tai am gymorth i helpu i reoli eu llety a'u harian, boed hynny mewn llety safle sefydlog neu yn eu cartrefi eu hunain. Mae effaith ariannol y pandemig, cynyddu costau llety rhentu preifat, cynyddu costau byw a chynyddu costau ynni yn cyfrannu at y rhesymau pam nad yw pobl wedi gallu cynnal llety'n llwyddiannus ac ymdopi'n ariannol. Comisiynwyd adnodd Hawliau Lles arbenigol yn benodol ar gyfer darpariaeth a ariennir gan y Grant Cymorth Tai a'r Gwasanaethau Digartrefedd i wella mynediad at gymorth a chyngor gyda budd-daliadau lles.
Datgelodd dros hanner (56%) y defnyddwyr gwasanaeth mewn llety dros dro tymor byr, a llety yn lle gwely a brecwast, broblemau camddefnyddio sylweddau. Roedd tri chwarter o'r rhai a oedd yn cael problemau camddefnyddio sylweddau yn ddefnyddwyr cyffuriau, a dim ond chwarter oedd yn camddefnyddio alcohol. Mae data a ddadansoddwyd wedi dangos gostyngiad mewn camddefnyddio alcohol ymhlith oedolion iau a chynnydd yn y nifer sy'n cam-drin amryw o gyffuriau. Datgelodd 33% o'r garfan hon hefyd ymddygiad troseddol.
Gwelwyd cydberthynas arbennig o uchel rhwng dynion 30-45 oed ag anghenion cymorth camddefnyddio sylweddau ac anghenion cymorth iechyd meddwl wedi'u hunanddatgelu. Datgelodd traean o fenywod sy'n destun Cam-drin Domestig hefyd fod ganddynt broblemau iechyd meddwl, a hunanddatgelodd 44% o bobl ifanc rhwng 16 a 24 oed broblemau iechyd meddwl. Mae'n flaenoriaeth parhau a chryfhau partneriaethau gyda gwasanaethau iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau drwy gysylltiad â Bwrdd Cynllunio Ardal Gorllewin Morgannwg, gwasanaethau Iechyd a rhai a ariennir gan y Grant Cymorth Tai i atal digartrefedd i bobl sy'n wynebu heriau ychwanegol wrth geisio cael at gymorth a llety a'u cynnal.
Mae dadansoddiad llawn o'r data Canlyniadau a'r Grant Cymorth Tai ar gael yn y ddogfen Datganiad o Angen
Dadansoddiad o Anghenion Llety Dros Dro
Defnyddir data a gwybodaeth am ddigartrefedd a gesglir gan dîm y Grant Cymorth Tai i ddeall galw ac anghenion pobl sy'n cael at lety â chymorth dros dro.
Cafwyd cynnydd cyson yn yr amser y mae unigolion yn ei dreulio mewn llety gwely a brecwast bob blwyddyn, yn ogystal â chynnydd yn niferoedd unigolion 'angen blaenoriaeth' mewn llety gwely a brecwast. Ym mis Mawrth 2020 fe gynyddodd y pwysau gyda llety brys dros dro wrth i'r rhai na fyddent wedi cael llety yn y gorffennol gael eu lletya fel lleoliadau Covid yn sgil atal angen di-flaenoriaeth.
Y rhai sy'n gadael y carchar sydd wedi cynrychioli'r nifer uchaf o'r rhai y ceir dyletswydd adran 73 iddynt i'w helpu i sicrhau llety bob blwyddyn ers 2016. Felly, mae'r angen i weithio gyda Gwasanaeth Carchardai EM a Gwasanaethau Prawf Cymru yn ogystal â phartneriaid allweddol yn y sector gwirfoddol i adolygu pa mor effeithiol yw'r Llwybr Carcharorion yn hanfodol wrth wella'r opsiynau llety a chymorth i garcharorion o'u rhyddhau o'r carchar.
Awgryma dangosyddion cynnar y bydd y newid i ddull Ailgartrefu Cyflym yn cynorthwyo i leihau'r amser a dreulir mewn llety dros dro, gan ei gadw mor fyr â phosibl. Er mwyn hwyluso treulio llai o amser mewn llety â chymorth dros dro ymhellach, mae angen cynyddu'r llety un ystafell wely addas a fforddiadwy sydd ar gael. Heb hyn, ni fydd y newid strategol i ddull Ailgartrefu Cyflym a arweinir gan dai yn ymarferol.
Trwy ddadansoddi'r galw ar brosiectau llety â chymorth dros dro, canfuwyd bod 74% o ddefnyddwyr y gwasanaeth ar gyfartaledd yn ddynion, a'r mwyafrif yn 35 oed +. Nodwyd bod problemau iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau wedi'u hunanddatgelu yn anghenion cymorth ar gyfer bron i hanner y rhai mewn llety â chymorth dros dro.
Mae model cymorth Tai yn Gyntaf wedi profi ei lwyddiant gyda grŵp bach o unigolion ag anghenion cymhleth, gyda'u sefyllfa dai yn fwy sefydlog nag oedd cyn defnyddio'r model hwn. Byddwn yn parhau i ddefnyddio'r dull hwn o wella canlyniadau i bobl ag anfanteision lluosog, gyda'r nod o leihau digartrefedd mynych a dileu'r angen i unigolion gysgu ar y stryd.
Mae dadansoddi mwyfwy'r rhesymau dros symud ymlaen a throi allan wedi rhoi gwell dealltwriaeth o'r pwysau o ddydd i ddydd yn y sector hwn. Bydd parhau i weithio mewn partneriaeth rhwng rhanddeiliaid drwy fecanweithiau megis cyfarfodydd Cell Cydlynu Gwasanaethau Digartref Abertawe yn parhau i wella datblygiad gwasanaethau.
Mae'r dadansoddiad data llety dros dro llawn ar gael yn y ddogfen Datganiad o Angen.
Adolygiad o Feddwl trwy Systemau
Roedd y broses adolygu Meddwl trwy Systemau dros chwe diwrnod yn gydgynhyrchiol gyda'r mynychwyr yn cymryd rhan yn llawn mewn dull sy'n canolbwyntio ar atebion, gan gynnig llawer o syniadau ac awgrymiadau i wella'r cynnig sydd ar gael a goresgyn rhwystrau i bobl sy'n ddigartref. Er bod chwe diwrnod yn ymrwymiad mawr roedd yn werthfawr dros ben cael yr amser penodedig i gynhyrchu dewisiadau amgen a phosibiliadau, gan helpu gyda chreadigrwydd wrth ddatrys problemau a dod o hyd i gyfleoedd i wella gwasanaethau. Amlinellir y themâu allweddol canlynol o'r adolygiad isod.
- Cyflenwad Tai - diffyg llety un ystafell wely addas a fforddiadwy. Mae diffyg cyflenwad ac argaeledd yn arwain at aros yn hirach mewn llety dros dro a mwy o bobl yn aros yno.
- Dyrannu - eglurder gwahanol opsiynau, meini prawf mynediad symlach, argaeledd llety â chymorth dros dro / methu cael at lety dros dro y tu allan i oriau arferol / angen cael gwely iechyd meddwl brys i bobl sydd mewn argyfwng.
- Cymorth Tai- anhawster yn cael gafael ar y cymorth cywir ar yr adeg gywir. Roedd hyn yn cynnwys cymorth iechyd meddwl proffesiynol mewn argyfwng. Pwysleisiwyd y byddai hyn o fudd hyd yn oed petai ond am gyngor ar weithredu strategaethau effeithiol. Cymorth i bobl â phroblemau camddefnyddio sylweddau a phroblemau iechyd meddwl sy'n cyd-ddigwydd. Targedu cymorth / llwybrau yn gynnar i grwpiau risg uchel, gan atal digartrefedd a lleihau digartrefedd mynych.
- Rhannu Gwybodaeth - eglurder ar rolau a chyfrifoldebau, hoffai pobl sy'n defnyddio'r gwasanaethau adrodd eu stori unwaith yn unig/ gwell mecanweithiau ar gyfer rhannu gwybodaeth / cyfathrebu / ymwybyddiaeth o amserlenni/ pwy i gysylltu ag ef ac ati.
Sefydlwyd amrywiaeth o weithgorau llai o faint i fwrw ymlaen â rhai o'r atebion posibl a fydd yn cyfrannu at ailffurfio ac ailwampio'r ddarpariaeth gyfredol, a'u datblygu ymhellach, ac i ddatblygu Strategaeth y Rhaglen Cymorth Tai a'r Cynllun Pontio Ailgartrefu Cyflym.
Pobl Ifanc
Mae Gwasanaethau Oedolion, Gwasanaethau Plant a Theuluoedd a Digartrefedd yn cynnal adolygiad comisiynu ar y cyd o lety â chymorth â chymorth fel y bo'r angen i bobl ifanc. Cwblhawyd asesiad gwasanaeth gan ystyried opsiynau llety a chymorth presennol i bobl ifanc 16-25 oed gan gynnwys y rhai sy'n gadael gofal a phobl ifanc sy'n cyflwyno eu hunain yn ddigartref. Roedd yr asesiad gwasanaeth yn cynnwys cyfeirio at adroddiadau, strategaethau a deddfwriaeth allweddol, dadansoddi data ac ystadegau o ddigartrefedd, canlyniadau'r Grant Cymorth Tai, y Llwybr Llety â Chymorth (SAP), digwyddiad ymgysylltu â darparwyr ac arolwg gyda rhanddeiliaid, ac ymgynghori â phobl ifanc.
Daeth yr asesiad gwasanaeth i'r casgliad mai llety addas a'r cymorth cywir ar yr adeg gywir yw'r amcan cyffredinol ar gyfer pobl ifanc, rhanddeiliaid, a chomisiynwyr. Drwy gydol yr ymgynghori, mae pobl ifanc yn cydnabod gwerth perthnasoedd â'r staff, a llety diogel, hygyrch gyda dewis a chyfleoedd. Mae'r trafodaethau gyda phobl ifanc hefyd yn nodi eu bod yn chwilio am gartref i aros ynddo yn hytrach na symud o gwmpas. Bydd gwaith ychwanegol yn gydgynhyrchiol gyda phobl ifanc i archwilio beth mae cartref yn ei olygu yn galluogi modelau gwasanaeth i ddatblygu ymhellach yn unol â disgwyliadau pobl ifanc.
Cafwyd 259 o atgyfeiriadau i'r Llwybr Llety â Chymorth yn 2019 a 2020. Tri angen cymorth uchaf y bobl ifanc a atgyfeiriwyd i'r llwybr hwn oedd pobl ifanc ac agored i niwed, perthnasoedd teuluol a digartrefedd, gyda 59% o bobl ifanc yn cael eu hatgyfeirio oherwydd teulu'n chwalu. Mae'r rhan fwyaf o bobl ifanc sy'n cael at y llwybr yn cael eu hatgyfeirio gan y gwasanaeth digartrefedd ieuenctid. Yn 2019, o blith 138 o atgyfeiriadau, roedd 58 o bobl ifanc yn ieuenctid digartref, gyda 29 o'r bobl ifanc a gafodd eu hatgyfeirio yn blant sy'n derbyn gofal a 26 ohonynt yn gadael gofal.
Dangosodd y data fod 72% o'r atgyfeiriadau wedi dewis llety â chymorth dros dro. Mae llawer o'r gwasanaethau hyn wedi hen ennill eu plwyf ac yn adnabyddus i bobl ifanc a'r gweithwyr proffesiynol sy'n eu cefnogi. Mae'n bwysig nodi bod y dewisiadau llety wedi'u cyfyngu gan feini prawf cymhwysedd y gwasanaeth, canllawiau ymarferwyr, ar adegau oedran neu statws ac yn bwysicaf oll capasiti pob gwasanaeth h.y. a yw'n llawn pan ofynnir amdano.
Mae'r canlyniadau dymunol yn cynnwys byw'n annibynnol, dychwelyd i'r teulu a lleihau'r cymorth sydd ei angen h.y., symud ymlaen i gymorth fel y bo'r angen, gweithio tuag at y gallu i fod yn annibynnol heb ddibynnu ar wasanaethau ffurfiol. Ar gyfer 2019 a 2020, dengys y data fod 58%o bobl ifanc a gafodd eu hatgyfeirio drwy'r Llwybr Llety â Chymorth wedi cael canlyniad dymunol.
Mae'r llwybr llety presennol yn blaenoriaethu anghenion llety pobl ifanc 16 a 17 oed. Yn ystod 2019 a 2020, dengys data'r Llwybr Llety â Chymorth fod 78% o bobl ifanc yn 16 neu 17 oed adeg atgyfeirio. Wedi 18 oed, mae'r galw'n gostwng, ond yn aml dim ond i bobl ifanc dros 18 oed y gall darparwyr gynnig llety. O hyn ymlaen, mae angen gwaith pellach i ddeall beth sy'n digwydd i bobl ifanc dros 18 oed gan sicrhau bod llety a gwasanaethau cymorth yn ateb anghenion pob grŵp oedran.
Mae data a chyswllt gyda rhanddeiliaid yn dangos cynnydd yn nirywiad iechyd meddwl pobl ifanc. Mae'r gwaith wedi dechrau i ymgorffori dulliau therapiwtig o fewn modelau gwasanaeth i sicrhau bod y cymorth neu'r hyfforddiant ar waith i gadw ac uwchsgilio staff. Gall buddsoddiad pellach mewn deall ac ymgorffori'r dull therapiwtig gorau sicrhau y gall gwasanaethau gefnogi pobl ifanc sy'n wynebu heriau a meithrin perthnasoedd. Darparwyd cyllid ychwanegol ar gyfer adnodd allgymorth iechyd meddwl person ifanc i gefnogi pobl ifanc sy'n dioddef o broblemau iechyd meddwl ac i roi cymorth ac arweiniad i staff sy'n cefnogi pobl ifanc
Dengys data'r Llwybr Llety â Chymorth mai mewn llety brys, sef ateb tymor byr, y mae pobl yn aros y lleiaf o amser. Serch hynny, mae'n debyg bod rhwystrau rhag symud ymlaen o lety brys. Gallai hyn fod oherwydd diffyg opsiynau symud ymlaen priodol gan olygu nad oes gan y person ifanc fawr o ddewis ond aros yn hirach nag sydd ei angen. Effaith hyn yw prinder llety brys sydd ar gael i bobl ifanc bellach mewn argyfwng.
Dengys data'r Llwybr Llety â Chymorth fod adegau pan nad yw pobl ifanc yn cael cynnig llety yn y lle cyntaf oherwydd ystod o anghenion neu risg lluosog. Canran fechan o'r ffigurau cyffredinol yw hyn, ac yn y pen draw, mae'r bobl ifanc hyn yn cael llety. Ceir hefyd nifer o bobl ifanc sy'n tynnu'n ôl o'r broses, ac mae gwaith pellach ar y gweill i ddeall hyn yn fanylach a darparu atebion h.y. a ydynt yn tynnu'n ôl oherwydd hyd yr aros i gael y llety y mae arnynt ei eisiau neu a ydyn nhw'n cael cymorth i helpu i drwsio perthnasoedd teuluol sy'n eu galluogi i aros gartref.
Mae'n bwysig cofio bod y gwasanaethau presennol, i lawer o bobl ifanc, yn cwrdd â'u hanghenion cymorth a llety. Mae datblygiadau diweddar yn cynnwys cyflwyno fflatiau hyfforddi, ehangu llety hunangynhwysol a reolir, model tai â chymorth parhaol ar gyfer pobl ifanc (Tai yn Gyntaf) ac ehangu Llety â Chymorth i ddarparu llety a chymorth i bobl ifanc sydd ag anghenion lluosog. Mae buddsoddi mewn llety a reolir, fflatiau hyfforddi a llety â chymorth parhaol fel petai'n arwain at ganlyniadau dymunol ac yn adlewyrchu'r hyn sy'n bwysig i bobl ifanc, h.y. llai o symud, annibyniaeth, y cymorth cywir ar yr adeg gywir.
Mae'r rhan fwyaf o fodelau cyfredol yn cynnwys symud sawl gwaith i bobl ifanc drwy lwybr llety. Fodd bynnag, mae datblygiad y model tai â chymorth parhaol sydd yn y cyfnod peilot yn archwilio model tai tymor hir neu barhaol. Gan mai yn y cyfnod peilot y mae o hyd, nid oes casgliadau eto wedi'u gwneud ynghylch a yw'n 'gweithio.' Drwy ystyried cyfyngiadau modelau gwasanaeth mwy traddodiadol yn unol â'r anghenion a gyflwynir, gellid sicrhau mwy o gymhwysedd a hyblygrwydd adnoddau a gallu gwell i ddiwallu anghenion lluosog. Byddai hyn yn cael ei wella drwy ddull cymryd risg a rennir i ddiwallu anghenion pobl ifanc sy'n symud i ffwrdd o ddull "parod at denantiaeth".
Mae llety a brynir yn ôl y galw yn opsiwn costus a ddefnyddir i ymateb i lety a chymorth i bobl ifanc gymhleth nad allant gael at fodelau gwasanaeth eraill oherwydd cymhlethdod anghenion neu ddiffyg argaeledd. Er bod prynu yn ôl y galw yn ddeniadol ac yn ymatebol yn y lle cyntaf; lleoliad llai o faint lle mae gan bobl ifanc drefniadau cymorth mwy pwrpasol ar waith nad ydynt yn effeithio ar bobl ifanc eraill. Fodd bynnag, nid yw'r canlyniadau cyffredinol mor ddymunol; mae pobl ifanc yn fwy tebygol o symud sawl gwaith ac yn fwy tebygol o fod ag angen parhaus am gymorth a llety. Mae hyn yn rhannol oherwydd bod llety a brynir yn ôl y galw yn cefnogi pobl ifanc hyd at 18 oed yn unig. Bydd comisiynu yn y dyfodol yn ceisio mynd i'r afael ag anghenion llety a chymorth pobl ifanc sydd ag anfanteision lluosog i wella canlyniadau i bobl ifanc a lliniaru risg y costau cynyddol sy'n gysylltiedig â phrynu yn ôl y galw.
Mae cydnabod materion penodol i Abertawe sy'n dylanwadu ar bobl ifanc yn hanfodol; yn lleol defnyddir y dull diogelu cyd-destunol i ddeall ac ymateb i dueddiadau megis llinellau sirol a heriau acíwt a welir mewn amgylcheddau dinesig. Yn Abertawe hefyd mae mwyfwy o bobl ifanc yn ymuno â'r system ofal yn hŷn a chanddynt anghenion cymhleth lluosog. Mae'r dull diogelu cyd-destunol yn bwysig wrth ystyried cynlluniau ar gyfer y dyfodol a datblygu opsiynau llety a chymorth i bobl ifanc; mae angen meddwl yn ofalus am leoliad llety yn ogystal â'r gymysgedd o bobl ifanc a dylid cynnal asesiad risg er mwyn cael canlyniadau dymunol i bobl ifanc yn gyson.
Mae'r Dadansoddiad Data Llwybr Llety â Chymorth llawn ar gael yn y ddogfen Datganiad o Angen
Strategaeth VAWDASV Abertawe
Yn ystod chwe mis cyntaf 2020/21, cyfyngwyd ar wasanaethau am fod mesurau cyfyngiadau symud mewn grym, ac roedd llai o weithgarwch a symud ar draws y boblogaeth. Gallai hyn fod wedi arwain at drafferthion i bobl sy'n destun cam-drin domestig gael at wasanaethau yn ystod y cyfnod clo, gan olygu bod ganddynt lai o gyfleoedd i adrodd neu adael. Efallai bod llai o gyswllt wyneb yn wyneb wedi arwain at lai o gymorth ac anogaeth i symud ymlaen.
Nododd gwasanaethau lloches hefyd drafferthion yn ystod y pandemig, gan gynnwys yr angen i amddiffyn iechyd goroeswyr agored i niwed a oedd eisoes yn y gwasanaeth, a rhai ohonynt yn hunanynysu efallai. Hefyd, gall yr angen am gyfarpar diogelu personol ychwanegol a glanhau dwfn mannau cymunedol a lloches cyn y gellid lletya goroeswr newydd arwain at leihau'r mannau sydd ar gael.
Fodd bynnag, roedd cynnydd yn y galw am gyngor a chymorth VAWDASV yn y gymuned. Mae fframwaith monitro VAWDASV Abertawe wedi nodi cynnydd sylweddol mewn atgyfeiriadau i gynlluniau VAWDASV sy'n cynnig cymorth a chyngor ffôn ac wyneb yn wyneb (cyfyngedig yn ystod y Pandemig) i fenywod sy'n destun cam-drin domestig. Roedd y cynlluniau hefyd yn nodi cynnydd mewn menywod â salwch meddwl, teimladau hunanladdol a chymhlethdod anghenion. Cafodd yr anhawster o ran cefnogi menywod sy'n wynebu anghenion cymorth lluosog sy'n methu cynnal arosiadau mewn llety lloches neu sy'n methu cael lle mewn lloches oherwydd lefel yr anghenion cymorth ei nodi fel maes allweddol sy'n peri pryder.
Cydnabyddir bod rhai unigolion yn cael anawsterau wrth geisio cael cymorth. Mae gweithwyr arbenigol wedi cael eu recriwtio i gefnogi pobl hŷn, dynion a dioddefwyr LHDTC+ i hybu ymwybyddiaeth, darparu cyngor a gwybodaeth, hyrwyddo a gweithredu mesurau diogelwch a mynd i'r afael â'r rhwystrau rhag cael cymorth gan gynnwys stigma a diffyg darpariaeth. Bydd yr wybodaeth a'r data a geir yn helpu i wella gwasanaethau VAWDASV er mwyn sicrhau bod cymorth ar gael i bob unigolyn sy'n defnyddio darpariaeth cam-drin domestig.
Mae Cynghorwyr Trais Domestig Annibynnol (IDVA) yn gweithio gyda dioddefwyr cam-drin domestig risg uchel, gan ddarparu gwasanaeth arbenigol gyda ffocws ar ddiogelwch, cymorth llys ac eiriolaeth. Daw'r mwyafrif helaeth o atgyfeiriadau gan yr heddlu, sy'n dangos mai hon o hyd yw'r brif ffynhonnell gyswllt i ddioddefwyr risg uchel wrth adrodd. Nid yw atgyfeiriadau IDVA wedi lleihau ond maent wedi cynyddu'n gyson o'r naill flwyddyn i'r llall er gwaethaf y pandemig; mae swyddi IDVA ychwanegol wedi'u creu er mwyn ateb y galw cynyddol.
Mae'n bwysig nodi nad oes angen i bawb sy'n destun VAWDASV fynd trwy'r llwybr digartrefedd. Ni ddylai pobl sy'n destun VAWDASV orfod symud cartref i deimlo'n ddiogel. Mae ymrwymiad ledled Abertawe i fynd i'r afael ag ymddygiad cyflawnwyr cam-drin domestig, gyda sawl ymyriad achrededig ar gael gan gynnwys Equilibrium, DRIVE, Meithrin Perthnasoedd Gwell a chyllid ychwanegol ar gyfer gweithiwr Cymorth Tai i weithio gyda chyflawnwyr. Un o brif amcanion Strategaeth VAWDASV Abertawe yw dwyn cyflawnwyr i gyfrif a darparu cyfleoedd i newid eu hymddygiad yn seiliedig ar ddiogelwch dioddefwyr.
Cafwyd mwy o gyllid i ddarparu opsiynau amgen i fenywod aros yn ddiogel yn eu cartref drwy gynyddu'r cyllid ar gyfer mesurau caledu targed. Mae Strategaeth VAWDASV wedi nodi'r blaenoriaethau comisiynu canlynol yn seiliedig ar yr amcanion strategol sy'n cysylltu â Strategaeth y Rhaglen Cymorth Tai.
- Llety a chymorth angen cymhleth / anfantais luosog
- Llety i'r rhai y mae camfanteisio rhywiol yn effeithio arnynt
- Darparu cymorth i bobl hŷn
- Cymorth yn benodol i ddioddefwyr gwrywaidd
- Ymwybyddiaeth a chymorth arbenigol i bobl LHDTC
- Atal cychwynnol
Mae dadansoddiad llawn o Ddogfen Fonitro VAWDASV ar gael yn y ddogfen Datganiad o Angen
Nifer y bobl ddigartref a gafwyd mewn angen blaenoriaeth o dan y Ddeddf Tai oherwydd salwch meddwl/ anabledd dysgu | 16/17 | 17/18 | 18/19 | 19/20 | 20/21 |
Agored i niwed oherwydd salwch meddwl/anableddau dysgu | 23 | 25 | 30 | 50 | 49 |
Nifer yr aelwydydd a gafodd gymorth yn ystod y flwyddyn | 17/18 | 18/19 | 19/20 | 20/21 |
---|---|---|---|---|
Anawsterau dysgu a materion iechyd meddwl | 74 | 108 | 90 | 138 |
Iechyd Meddwl
Mae Iechyd Meddwl yn gyson uchel ymhlith yr anghenion cymorth a nodwyd gan unigolion mewn cynlluniau cymorth ar draws pob math o ddarpariaeth gwasanaeth yn fframwaith canlyniadau'r Grant Cymorth Tai. Mae hefyd ymhlith y prif resymau dros benderfyniadau digartrefedd angen blaenoriaeth.
Mae profiadau gweithredol yn adrodd enghreifftiau o ymddygiad a bregusrwydd oherwydd materion iechyd meddwl yn effeithio ar ddiogelwch, bregusrwydd, a gallu i gynnal llety a chael eu symud ymlaen heb gymorth amlasiantaeth priodol.
Ymhlith pobl sy'n cyflwyno eu hunain yn ddigartref, byddai'r mwyafrif sydd ag anghenion iechyd meddwl yn cael eu rheoli drwy'r meddyg teulu a gwasanaethau iechyd meddwl gofal sylfaenol. Fodd bynnag, mae'n debyg bod yr unigolion hyn yn wynebu heriau wrth gael y cymorth priodol gan y Gwasanaethau Iechyd, gan gynnwys anhawster cofrestru gyda meddygfeydd teulu oherwydd diffyg cartref sefydlog a/neu fathau o brawf adnabod y gofynnir amdanynt megis trwyddedau gyrru, pasbort neu filiau cyfleustodau, ac o ganlyniad fe'u rhwystrir rhag cael at y llwybrau atgyfeirio iechyd meddwl sylfaenol ac eilaidd sef trwy atgyfeiriad meddyg teulu yn unig.
I rai, mae problemau iechyd meddwl yn cyd-ddigwydd gyda chamddefnyddio sylweddau. Ystyrir yn aml mae hunan-feddyginiaethu yw hyn, ac mae'r unigolion hynny'n wynebu mwy byth o anawsterau yn ceisio cael at gymorth clinigol. Gall heriau fel cysgu ar y stryd a symud drwy lety brys dros dro gyflwyno rhwystrau ychwanegol o ran cadw cyswllt. Mae cwblhau ceisiadau ar-lein heb ffonau clyfar na chredyd ffôn a chludiant i apwyntiadau hefyd yn gallu cyflwyno trafferthion ychwanegol. Mae hyn yn effeithio ar wasanaethau digartrefedd statudol yr Awdurdod Lleol, darparwyr Gwely a Brecwast a staff cymorth heb eu cofrestru sy'n aml wedi'u gadael yn rhoi cymorth i bobl mewn trallod iechyd meddwl heb fawr o arbenigedd meddygol/clinigol.
Mae Abertawe wedi ymateb i'r heriau hyn trwy ffurfio cysylltiadau agos â'r feddygfa deulu gofal sylfaenol uwch, sy'n cynnal nyrs allgymorth gyffredinol i'r digartref a nyrs allgymorth iechyd meddwl ran-amser i'r digartref. Yn 2020 drwy gyllid Cam 2 a'r cynnydd yn y Grant Cymorth Tai yn 2021/22, ariannodd yr Awdurdod ail Nyrs Allgymorth Iechyd Meddwl i'r Digartref anstatudol ran-amser a dau weithiwr camddefnyddio sylweddau allgymorth anstatudol arbenigol i weithio gyda'r garfan ddigartref. Yn ogystal, mae'r Awdurdod Lleol yn trafod gyda'r Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed i gynnal nyrs allgymorth iechyd meddwl anstatudol i weithio gydag ieuenctid digartref, wedi'i hariannu gan y Grant Cymorth Tai, i weithio'n benodol gyda'r ystod oedran 16 a hŷn sy'n cyflwyno eu hunain yn ddigartref ac sy'n cael eu rhoi mewn tai brys a thai â chymorth dros dro. Mae Abertawe hefyd wedi comisiynu unedau ychwanegol o lety â chymorth dros dro ar gyfer pobl ddigartref sydd â phroblemau iechyd meddwl.
Iechyd Meddwl Eilaidd - Gwasanaethau'r Grant Cymorth Tai
Mae Cyfleoedd am Lety a Chymorth yn Abertawe (OASIS) yn cynnig ystod gymysg o wasanaethau cymorth a llety dros dro a thymor hwy sy'n canolbwyntio ar adfer, sy'n agored i atgyfeiriadau gan y tîm Iechyd Meddwl Cymunedol a llety â chymorth i'r rhai sy'n cael eu rhyddhau o'r ysbyty/gofal preswyl neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref yn y gymuned. Mae dull porth/panel canolog o ymdrin â dyrannu a rhestri aros.
Dengys dadansoddiad o ddata OASIS gynnydd yn yr amser a dreulir mewn llety â chymorth dros dro. Gellir priodoli hyn i heriau o ran cyflenwi llety symud ymlaen hunangynhwysol (mae'r rhan fwyaf yn bobl sengl y mae angen llety 1 ystafell wely arnynt) ac felly llai o argaeledd ar gyfer atgyfeiriadau brys.
Pan fydd anghenion cymorth yn parhau ond ar lefel is mae'n ymddangos bod angen llety â chymorth tymor hwy. Hoeliwyd sylw ar yr angen am lety tymor hwy yn ystod y pandemig. Ceir rhestr aros am lety â chymorth tymor hwy ar gyfer llety a rennir gan fenywod yn unig. Mae'r ddarpariaeth bresennol wedi dangos llai o alw oherwydd rhannu'r llety (ystafelloedd ymolchi a rennir). O hyn ymlaen, byddai unrhyw ddarpariaeth newydd a rennir i gyd yn cynnwys ystafelloedd ymolchi ensuite.
Mae Abertawe eisoes wedi bwrw ymlaen â rhywfaint o ail-ddarparu'r llety presennol gan symud tuag at fodel clwstwr gwasgaredig o lety hunangynhwysol gydag unedau hunangynhwysol ychwanegol wedi'u gwneud ar gael yng Ngwanwyn 2022.
Anabledd Dysgu.
Mae nifer o bobl sy'n cael eu hystyried yn agored i niwed ac mewn angen blaenoriaeth ag anawsterau dysgu yn cyflwyno eu hunain yn ddigartref. Mae'r unigolion hyn yn wynebu heriau sylweddol ac mae gofyn cymorth arnynt er nad ydynt wedi bodloni cymhwysedd clinigol gwasanaethau gofal cymdeithasol ac iechyd eilaidd. Mae hyn yn ychwanegu dimensiwn arall at grŵp angen cymhleth sy'n cyflwyno heriau i sicrhau llety parhaol priodol.
Anabledd Dysgu Eilaidd - gwasanaethau a ariennir gan y Grant Cymorth Tai a'r Gwasanaethau Cymdeithasol
Pan fydd unigolion yn bodloni cymhwysedd am wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol eilaidd mae amrywiaeth o ddarpariaeth Byw â Chymorth yn darparu gwasanaethau cymorth sy'n gysylltiedig â thai i ryw 290 o bobl mewn llety â chymorth tymor hir. Mae darpariaeth Byw â Chymorth wedi cael ei hail-gomisiynu'n ddiweddar i bontio gwasanaeth i 8 darparwr a benodwyd i fframwaith cymeradwy sy'n cyflenwi gwasanaethau ar draws parthau daearyddol. Mae'r model hwn yn canolbwyntio ar integreiddio cymunedol, gan wneud defnydd mwy effeithiol o rwydweithiau anffurfiol a sicrhau'r dilyniant gorau posibl i fwy o annibyniaeth.
Y prif newidiadau ym mhatrymau'r galw yw bod angen cynyddol am wasanaethau byw â chymorth. Mae hyn oherwydd y disgwyliadau uwch i unigolion ag anabledd dysgu allu cael gafael ar batrymau byw arferol a gallu cael eu tenantiaeth eu hunain. Prif feysydd y tueddiadau sy'n dod i'r amlwg yw bod mwy o unigolion â mwy o anghenion cymorth ac iechyd yn cael at lety â chymorth a mwy o unigolion gydag ymddygiadau heriol.
Mae'r ceisiadau i gael llety â chymorth yn y sector anabledd dysgu yn deillio o fod yn fodel cyflawni llwyddiannus a theuluoedd ac eiriolwyr unigolion yndatgan mai hyn y mae ar yr unigolyn ei eisiau ac yn cyd-fynd a canllawiau cenedlaethol - 'Datblygu arfer gwell a blaengar Bwrdd Comisiynu Cenedlaethol Mawrth 2019'.
2c Casgliad
Mae angen i ni gofio sut mae'r pandemig wedi effeithio ar y canfyddiadau yn yr asesiad anghenion a sut rydym yn cynllunio anghenion strategol y dyfodol o ystyried y cynnydd posibl mewn digartrefedd dros y blynyddoedd nesaf. Yn seiliedig ar yr wybodaeth o'r asesiad anghenion ceir nifer o feysydd blaenoriaeth y byddwn yn canolbwyntio arnynt gan gynnwys:
- Yr angen i neilltuo adnoddau i fynd i'r afael â'r cynnydd mewn cyflwyniadau digartrefedd ac yn benodol y cynnydd mewn angen am lety dros dro.
- Ystyried cynyddu'r cyflenwad llety addas dros dro yn y tymor byr a'r tymor canolig a hynny i bobl sengl a theuluoedd, a thrwy hynny leihau'r angen am lety gwely a brecwast.
- Cynyddu lefelau llety parhaol, sy'n fforddiadwy ac yn addas i ddiwallu anghenion pob aelwyd ddigartref.
- Angen parhau i ganolbwyntio ar atal digartrefedd, yn hytrach na delio â sefyllfaoedd argyfyngus.
- Mabwysiadu dull ailgartrefu cyflym er mwyn lleihau digartrefedd mynych a darparu cynnig mwy cadarn a fydd yn galluogi darparwyr tai i dderbyn aelwydydd digartref. Gan gynnwys pobl ifanc a'r rhai sydd ag anghenion cymhleth.
- Gweithio mewn partneriaeth â gwasanaethau iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau i wella'r cynnig cymorth a llety i'r rhai ag anghenion cymhleth.
- Parhau i edrych ar ffyrdd arloesol o ddileu cysgu ar y stryd.
- Gweithio gyda gwasanaethau VAWDASV i ddatblygu nifer o gamau gweithredu wrth fynd i'r afael â cham-drin domestig.
- Sicrhau bod yr holl gymorth tai yn cael ei roi 'ar gais' ac mewn pryd i osgoi'r angen am sefyllfaoedd argyfyngus.
- Mae gweithio mewn partneriaeth, yn lleol ac yn rhanbarthol, yn hanfodol os ydym am atal digartrefedd.
- Datblygu cynllun comisiynu i drawsnewid darpariaeth gwasanaethau yn y dyfodol sy'n adlewyrchu'r anghenion a'r blaenoriaethau a nodwyd yn yr asesiad anghenion ac yn gwella canlyniadau i bobl sy'n ddigartref.
- Datblygu cyfres o fesurau a fydd yn llywio anghenion a blaenoriaethau ac adrodd yn gywir am y cynnydd tuag at ddod â digartrefedd i ben a chefnogi Fframwaith Canlyniadau Digartrefedd newydd LlC.
- Parhau i ddatblygu ac ehangu Amgylchedd wedi'i Lywio gan Seicoleg (PIE) a dulliau wedi'u llywio gan drawma ar draws y sector tai a chymorth.
- Ymgorffori egwyddorion a gweithgareddau cyd-gynhyrchu wrth ddatblygu a darparu gwasanaethau.
3. Blaenoriaethau Strategol
Dyma flaenoriaethau strategol Abertawe o ran atal digartrefedd a chymorth yn gysylltiedig â thai dros y pedair blynedd nesaf. Er eu bod wedi'u rhifo, nid ydynt wedi'u rhestru mewn unrhyw drefn flaenoriaeth:
Blaenoriaeth Strategol 1
Cryfhau a chynyddu gwasanaethau ar waith i atal digartrefedd.
Pam mae'n flaenoriaeth?
Ymyrryd ac atal yn gynnar yw'r ffordd fwyaf effeithiol o osgoi digartrefedd. Nod y Strategaeth yw targedu atal drwy leihau posibilrwydd problemau'n codi, targedu cymorth at grwpiau o bobl a allai fod mewn mwy o berygl, a darparu ymyriadau i osgoi problemau'n gwaethygu. Mae argaeledd opsiynau yn y gymuned yn arf effeithiol er mwyn ymyrryd ac atal digartrefedd yn gynnar.
Sut y caiff ei chyflenwi?
Mae Cydlynu Ardal Leol yn Abertawe yn ddull ymyrryd cynnar pwysig i bobl allu dod o hyd i gymorth a chefnogaeth a meithrin perthynas o fewn y Gymuned. Nod cymorth/cyllid rolau Cydlynu Ardal Leol yw cryfhau cymunedau, lleihau cyfranogiad gwasanaethau statudol, ac osgoi gwaethygu materion sy'n arwain at sefyllfaoedd argyfwng, pobl yn dod yn ddigartref a / neu angen ymyrraeth statudol. Ein nod yw cynnig gwasanaeth i bob ardal gymunedol yn Abertawe.
Darparwyd mwy o gymorth hefyd i atal digartrefedd a deall y rhwystrau i bobl sy'n anoddach eu cyrraedd. Cyflenwyd hyn drwy amrywiaeth o wasanaethau ychwanegol sydd wedi eu hariannu gan y Grant Cymorth Tai gan gynnwys:
- Gweithiwr Prosiect SWAN - cymorth i fenywod y mae'r diwydiant rhyw yn cam-fanteisio arnynt
- Gweithiwr cymorth VAWDASV i bobl LHDTC+ / Gwrywod / Pobl Hŷn
- Gweithiwr cymorth llety i helpu gwrywod sy'n cyflawni cam-drin domestig
- Adnodd Hawliau Lles Arbenigol i gefnogi darpariaeth Digartrefedd a'r Grant Cymorth Tai
Er mwyn cynrychioli'n well y gwasanaeth gwell a gynigir i denantiaid, mae gwasanaeth Tai Gwarchod Cyngor Abertawe bellach yn cael ei alw'n Wasanaethau Byw'n Annibynnol. Mae systemau ar alwad yn cael eu huwchraddio o analog i ddigidol, a fydd yn caniatáu technoleg fwy cynorthwyol i denantiaid ac yn eu helpu i barhau i fyw yn annibynnol. Penodwyd tasgmon hefyd i gynorthwyo trigolion gyda mân dasgau fel newid bylbiau golau neu osod silff a fydd yn cynorthwyo rhai tenantiaid llai abl neu'r rhai sydd heb deulu gan roi mwy o hyder iddynt fyw yn annibynnol.
Mae hyrwyddo Opsiynau Tai, digartrefedd, cyngor ar dai a gwasanaethau cymorth tenantiaeth gan gynnwys yn y cyfryngau cymdeithasol a'r wasg yn hanfodol er mwyn hybu ymwybyddiaeth a gwella hygyrchedd cyflym gwasanaethau i atal digartrefedd ac annog pobl i chwilio am gymorth ar y cyfle cyntaf.
Blaenoriaeth strategol 2
Sicrhau bod cymorth priodol ar gael ar yr adeg gywir i bobl sydd mewn perygl o ddigartrefedd neu'n ddigartref.
Pam mae hyn yn flaenoriaeth?
Gall argaeledd a hygyrchedd cymorth sy'n gysylltiedig â thai o ansawdd da fod yn hanfodol ar gychwyn tenantiaeth i ailsefydlu rhywun pan gynigir llety sefydlog iddo ac yn ystod tenantiaeth fel offeryn i atal problemau rhag gwaethygu.
Mae yna bobl yn y gymuned sy'n wynebu heriau wrth symud tuag at argyfwng a fydd yn effeithio ar eu gallu i gynnal eu llety. Mae'n hanfodol bod atgyfeiriadau am gymorth yn ymatebol, gan weithio ochr yn ochr â gwasanaethau landlord i gynnig cymorth ar y cyfle cyntaf i atal unrhyw anawsterau rhag gwaethygu. Mae ymyrraeth argyfwng gyflym hefyd yn elfen hanfodol o ddarparu cymorth a bu'n hynod effeithiol wrth atal achosion o droi allan.
Yn ystod ymgynghoriad, bu pobl ddigartref yn rhoi adborth am eu profiad o fyw mewn llety Gwely a Brecwast wrth aros i symud ymlaen i lety sefydlog. Dywedon nhw wrthym "allwch chi ddim byw bywyd da" a chrybwyllwyd dirywiad yn eu hiechyd meddwl a'u hiechyd corfforol a chynnydd mewn camddefnyddio sylweddau. Y teimlad oedd y dylid neilltuo cymorth cyn gynted ag y cawsant eu rhoi mewn llety brys dros dro.
Sut y caiff ei chyflenwi?
Bydd darpariaeth barhaus cymorth ymatebol a hygyrch yn helpu i fynd i'r afael â materion ar y cyfle cyntaf, atal materion rhag gwaethygu, a galluogi pobl i gynnal eu llety ac atal digartrefedd.
Bydd data'n cael ei gasglu a'i fonitro'n well er mwyn monitro'r galw a sicrhau tegwch o ran darparu cymorth a'i argaeledd ar draws yr holl grwpiau cleientiaid.
Defnyddir casgliadau o'r adolygiad meddwl trwy systemau i lywio datblygiad llwybr symlach cyson i unigolion gael mynediad a symud ymlaen o lety dros dro; gyda'r nod o leihau faint o amser mae pobl yn ei dreulio mewn llety dros dro a sicrhau bod y cymorth cywir ar gael i ddiwallu anghenion unigol.
Cafwyd cynnydd mewn adnoddau ar gyfer ailgartrefu cyflym i wella argaeledd cymorth rhagweithiol, meithrin ymgysylltu, datblygu sgiliau a hyder a chefnogi mynediad at wasanaethau priodol eraill i sefydlogi a symud ymlaen i lety tymor hwy sefydlog.
Blaenoriaeth Strategol 3
Mabwysiadu dull Ailgartrefu Cyflym.
Pam mae hyn yn flaenoriaeth?
"Lle nad yw dulliau atal wedi gweithio, mae Ailgartrefu Cyflym wedyn yn hanfodol i leihau effaith gyrydol digartrefedd a sicrhau nad yw'n cael ei ailadrodd. Dylid llwyr werthfawrogi buddion tai diogel, sefydlog a hunangynhwysol i bobl sydd wedi cael profiad o ddigartrefedd neu wedi bod mewn perygl o ddigartrefedd. Dylai mwyafrif y bobl sy'n cael profiad o ddigartrefedd gael cartrefi o'r fath cyn gynted â phosib. Bydd hyn yn helpu i osgoi effeithiau ansefydlogi ac ymylu digartrefedd maith neu arosiadau maith mewn lleoliadau brys neu dros dro wrth barhau'n ddigartref. Mae ailgartrefu cyflym yn seiliedig ar ddull systematig o ddeall pa dai sydd eu hangen, sut mae'r tai hynny am gael eu hariannu, eu datblygu a'u dyrannu i bobl sy'n cael eu hunain yn ddigartref. Mae'r dull hwn, pan gaiff ei gymhwyso'n iawn, yn golygu y bydd yr angen am sawl math o lety dros dro yn lleihau ac, os bydd ei angen, bydd am gyfnod byrrach nag ar hyn o bryd. "Cynlluniau pontio ailgartrefu cyflym: canllawiau i awdurdodau lleol a'u partneriaid (llyw.cymru) Hydref Llywodraeth Cymru 2021.
Yn Abertawe, fel ardaloedd Awdurdod Lleol eraill, mae mwy o bobl nag erioed o'r blaen mewn llety brys dros dro ac mae cyflwyniadau digartref wedi cynyddu. Cafwyd cynnydd cyson hefyd yn yr amser y mae unigolion yn ei dreulio mewn llety dros dro a Gwely a Brecwast. Mae pobl sy'n cael profiad o ddigartrefedd wedi dweud bod cyfnodau estynedig mewn llety dros dro, yn enwedig llety Gwely a Brecwast, yn cael effaith negyddol ar eu hiechyd a'u lles ac yn arwain at anghenion cynyddol a chanlyniadau negyddol.
Sut y caiff ei chyflenwi?
Canolbwynt cymorth ailgartrefu cyflym yw helpu pobl i symud i lety sefydlog gan sicrhau bod y cymorth cywir ar waith. Mae'n ofynnol i bob awdurdod lleol ddatblygu Cynllun Pontio Ailgartrefu Cyflym mewn partneriaeth â rhanddeiliaid allweddol. Bydd y cynllun pontio 5-mlynedd yn nodi sut y bydd Cyngor Abertawe yn symud tuag at ddarparu modelau llety a chymorth mwy cynaliadwy sy'n diwallu anghenion pawb; symud i ffwrdd o ddefnyddio llety dros dro o blaid system sy'n asesu anghenion yn gyflym ac yn nodi'r opsiwn mwyaf priodol sy'n ateb anghenion a dymuniadau'r unigolyn. Mae Adolygiad Comisiynu Tai â Chymorth Llety Dros Dro hefyd ar y gweill gyda'r nod o ailffurfio ac ailwampio llety â chymorth dros dro gan symud tuag at opsiynau mwy cymunedol.
Mae Abertawe eisoes wedi cyflwyno elfennau o ddull Ailgartrefu Cyflym yn ystod y pandemig e.e., drwy gyflwyno Cymorth Ailgartrefu Cyflym i'r rhai mewn llety Gwely a Brecwast ac ynghlwm wrth gynlluniau llety â chymorth dros dro. Mae'r gweithredu'n destun monitro agos drwy gasglu data rheolaidd a mesurau data ychwanegol gan gynnwys monitro'r defnydd o lety dros dro a hyd yr amser a dreulir yno. Cynhelir cyfarfodydd Adolygiad Ailgartrefu Cyflym gyda phartneriaid hefyd yn rheolaidd i ddysgu o brofiadau, gwella canlyniadau a goresgyn heriau.
Tai yn Gyntaf yw un math o'r dull ailgartrefu cyflym. Mae Abertawe eisoes wedi comisiynu ac estyn ei darpariaeth Tai yn Gyntaf ymhellach. Mae ail gynllun Tai yn Gyntaf i bobl ifanc hefyd ar waith wedi'i ariannu'n uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru.
Blaenoriaeth strategol 4
Parhau i ddatblygu a gwella gwaith partneriaeth â rhanddeiliaid allweddol er mwyn sicrhau dull cydgysylltiedig o atal digartrefedd.
Pam mae hyn yn flaenoriaeth?
Nid problem tai yn unig mo atal a lleddfu digartrefedd. Mae'n gofyn bod ystod o sefydliadau statudol, trydydd sector a sector gwirfoddol yn cydweithio i fod yn effeithiol wrth leihau digartrefedd. Dyma rai o'r asiantaethau partner allweddol:
Y Gwasanaeth Carchardai a'r Gwasanaeth Prawf: Mae nifer uchel o bobl sy'n gadael y carchar yn ddigartref adeg eu rhyddhau o hyd.
Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Gall pobl ag anghenion iechyd a gofal cymdeithasol fod ymhlith y rhai mwyaf agored i niwed ac mae angen gwasanaethau eraill arnynt i allu cynnal llety sefydlog yn y gymuned. Dylai fod protocolau 'Rhyddhau o'r Ysbyty' cadarn ar waith gan ystyried anghenion tai. Bydd hyn yn helpu i atal oedi cyn rhyddhau cleifion a chyflwyniadau digartref yn uniongyrchol o'r ysbyty.
Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig a Landlordiaid Rhentu Preifat: i wella mynediad at gyflenwad tai i bobl ddigartref ac i gefnogi pontio i Ddull Ailgartrefu Cyflym o ymdrin â digartrefedd.
Asiantaethau'r Trydydd Sector a'r Sector Gwirfoddol -darparu gwasanaethau cymorth wedi'u comisiynu a heb eu comisiynu yn darparu cymorth sy'n gysylltiedig â thai i'r digartref a Gwasanaethau eraill.
Sut y caiff ei chyflenwi?
Bydd Fforwm Cydweithredol Digartrefedd a'r Grant Cymorth Tai yn parhau i gael ei gefnogi a'i hwyluso gan yr Awdurdod Lleol gan ddarparu cyfleoedd i randdeiliaid allweddol hysbysu a dylanwadu ar ddatblygiad blaenoriaethau ac ymatebion strategol i atal a lleddfu digartrefedd.
Bydd parhau â'r Gell Gydgysylltu Amlasiantaeth a sefydlwyd yn ddiweddar yn gyfraniad hanfodol at ddeall a nodi materion, blaenoriaethau, camau gweithredu ac atebion yn enwedig mewn perthynas â chysgu ar y stryd, camddefnyddio sylweddau a chael at wasanaethau iechyd meddwl.
Bydd timau Tai a'r Grant Cymorth Tai yn parhau i fod yn bresennol yn y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol a'r Fforwm Tai Rhanbarthol i lywio a chefnogi'r gwaith o ddatblygu blaenoriaethau strategol ar draws tai, iechyd a gofal cymdeithasol gan sicrhau trawsnewid rhanbarthol a lleol i ddwyn gwell canlyniadau i ddinasyddion.
Bydd gwaith pellach yn cael ei wneud gyda'r Gwasanaeth Prawf a phartneriaid allweddol yn y sector gwirfoddol i adolygu effeithiolrwydd y Llwybr Carcharorion yn flynyddol.
Mae'r Awdurdod Lleol wedi datblygu perthynas adeiladol â Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig sy'n gweithredu o fewn ffiniau Abertawe i ddiwallu anghenion aelwydydd digartref. Wrth symud ymlaen bydd gwaith pellach yn cael ei wneud i wella mynediad at dai a dyrannu llety gan gynnwys mwy o gydredeg polisïau dyrannu.
Bydd yr Awdurdod Lleol yn parhau i weithio mewn partneriaeth â Gofal Sylfaenol a rhwydweithiau meddygon teulu i wella opsiynau i bobl â phroblemau iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau. Bydd hyn hefyd yn cynnwys gweithio mewn partneriaeth â'r Bwrdd Cynllunio Ardal i archwilio opsiynau cyllido i sefydlu a chynnal tîm anghenion cymhleth aml-asiantaeth.
Blaenoriaeth strategol 5
Gweithio mewn partneriaeth i gryfhau'r ddarpariaeth gymorth i bobl ag anghenion cymhleth, gan gynnwys iechyd meddwl, anabledd dysgu, camddefnyddio sylweddau a VAWDASV.
Pam mae'n flaenoriaeth?
Nid problem tai yn unig mo atal a lleddfu digartrefedd. I rai, mae hon yn broblem fwy cymhleth. Wrth y gair 'cymhleth', rydym yn golygu bod gan yr unigolion digartref fwy nag un angen cymorth arbenigol a hyd at bedwar ohonynt, a gallant gynnwys anghenion iechyd a gofal cymdeithasol yn ychwanegol at eu digartrefedd a'u hanghenion cymorth tai. Defnyddir termau megis cyd-ddigwydd, diagnosis deuol, anghenion lluosog sy'n gorgyffwrdd sydd heb eu diwallu (MOUN) a phobl â heriau lluosog.
Mae'r unigolion hyn yn cyflwyno eu hunain yn ddigartref, a hynny'n aml mewn argyfwng heb fod gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn cymryd rhan neu ar ôl methu ymgysylltu â nhw. Fe'u disgrifir yn aml fel rhai sy'n llithro drwy'r rhwyd neu rhwng y bylchau mewn gwasanaethau.
Gall pobl gydag anghenion iechyd a gofal cymdeithasol fod ymhlith y mwyaf agored i niwed, ac mae gwasanaethau eraill yn hanfodol i allu cynnal llety sefydlog yn y gymuned. Os nad ydynt yn bodloni meini prawf ar gyfer gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol eilaidd, efallai fod ganddynt anghenion gofal cymdeithasol cymwys ynghylch gwybodaeth a chyngor ac anghenion ymyrraeth ac atal yn gynnar o dan y Ddeddf Gofal Cymdeithasol a Llesiant ac anghenion Diogeliadau Amddiffyn Rhyddid. Bydd angen i'r gwasanaeth Cymorth Tai ac Iechyd a Gofal gydweithio i sicrhau bod pobl yn cyrraedd eu hannibyniaeth fwyaf ac i atal anghenion rhag cynyddu lle bo hynny'n bosib.
Mae data digartrefedd yn dangos cynnydd mewn cyflwyniadau gan bobl sydd ag anghenion lluosog yn enwedig Iechyd Meddwl, Anableddau Dysgu a Chamddefnyddio Sylweddau. Mae llawer ohonynt mewn cylch ailadroddus o ddigartrefedd, gan aros mewn llety dros dro am gyfnod rhy hir a / neu gael eu troi allan. Mae llai o bobl yn cysgu ar y stryd, ond mae cyrraedd atebion i bobl ag anghenion niferus yn her o hyd.
Roedd fframwaith canlyniadau'r Grant Cymorth Tai hefyd yn dangos nifer uchel o bobl yn cael problemau iechyd meddwl ar draws pob maes gwasanaeth. Datgelodd rhyw 15% o'r bobl sy'n cael cymorth oherwydd eu hiechyd meddwl hefyd broblemau camddefnyddio sylweddau. Datgelodd dros hanner y defnyddwyr gwasanaeth mewn llety dros dro tymor byr broblemau camddefnyddio sylweddau. Mae'r Uned Cymorth Tenantiaeth, sef y llwybr canolog at gymorth fel y bo'r angen, hefyd wedi nodi cynnydd mewn atgyfeiriadau am gymorth iechyd meddwl.
Crybwyllwyd anhawster yn cael at gymorth iechyd meddwl sylfaenol ac eilaidd i bobl sy'n ddigartref neu mewn perygl o ddigartrefedd yn aml fel her sylweddol gan randdeiliaid a phobl sy'n defnyddio gwasanaethau o fewn yr Adolygiad o Feddwl trwy Systemau o lety â chymorth dros dro. Mae'r anhawster wrth gael at gymorth yn gwaethygu os yw unigolion hefyd yn cael problemau camddefnyddio sylweddau.
Yn ogystal, y rhai sydd â phroblemau camddefnyddio sylweddau difrifol yn aml yw'r anoddaf i ddod o hyd i lety cynaliadwy iddynt. Comisiynwyd darpariaeth Tai yn Gyntaf yn ddiweddar yn Abertawe i'r rhai â'r anghenion mwyaf cymhleth. Mae canfyddiadau allweddol yr unigolion a gefnogir yn dangos canlyniadau cadarnhaol gyda phobl yn cael at gymorth ac yn ymsefydlu yn eu tenantiaeth. Mae darparu llety parhaol gyda chymorth yn ei le wedi dangos llwyddiant o ran lleihau cylch mynych digartrefedd a defnyddio llety dros dro. Fodd bynnag, er mwyn cynnal hyn, mae gwasanaethau cofleidiol eraill yn hanfodol.
Mae gwybodaeth am ganlyniadau'r Grant Cymorth Tai ac adborth gan ddarparwyr wedi nodi dirywiad yn iechyd meddwl pobl ifanc. Mae dulliau therapiwtig bellach yn cael eu gwreiddio'n ymarferol ac mae dull PIE sy'n cael ei lywio gan drawma wrth ddarparu cymorth bellach yn ofyniad cytundebol ar gyfer darpariaeth a ariennir gan y Grant Cymorth Tai. Mae adnodd arbenigol i ddarparu cymorth iechyd meddwl i bobl ifanc mewn llety â chymorth dros dro yn cael ei ddatblygu, a hefyd i ddarparu cymorth a datblygu sgiliau gweithwyr cymorth.
Sut y caiff ei chyflenwi?
Mae'n hanfodol cael y gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol statudol i weithio gyda'r sector tai i fynd i'r afael â'r anghenion hyn fel y gall y sector Tai ddarparu llety sefydlog. Rhestrir y meysydd allweddol ar gyfer gwaith pellach isod:
Gofal Iechyd Sylfaenol: Mae pobl sy'n ddigartref yn parhau i wynebu heriau a rhwystrau ychwanegol wrth geisio cael at wasanaethau gofal iechyd sylfaenol fel meddygon teulu oherwydd natur dros dro llety brys dros dro fel Gwely a Brecwast. Yn aml, nid ydynt yn cael neu ni allant gael at yr asesiad ar gyfer cymhwysedd clinigol am wasanaethau eilaidd oherwydd y rhwystrau hyn a chymhlethdod yr angen.
Comisiynwyr Gwasanaeth Iechyd Eilaidd: Mae nifer o bobl ddigartref hefyd yn cael problemau Iechyd Meddwl, Anableddau Dysgu a Chamddefnyddio Sylweddau. Mae gwasanaethau cofleidiol ymyrryd ac asesu a thrin mewn argyfwng yn hanfodol er mwyn galluogi atebion tai sefydlog a chynaliadwy. Ar gyfer carfan lai o faint, gall y materion iechyd hyn gyd-ddigwydd. Oherwydd y materion trawsbynciol yma, bydd gofyn gweithio ar lefel ranbarthol yn y Bwrdd Partneriaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol a chyda gwasanaethau'r Bwrdd Cynllunio Ardal Rhanbarthol ar gyfer Camddefnyddio Sylweddau.
Mae manyleb ARWAIN a ddatblygwyd gan randdeiliaid yn nodi sut olwg fyddai ar wasanaeth amlddisgyblaethol priodol ar gyfer y rhanbarth. Yn y cyfamser, mae Abertawe wedi ymrwymo cyllid y Grant Cymorth Tai i gynnal a chynyddu gwasanaethau allgymorth iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau arbenigol a chymwys i'r digartref fel blaenoriaeth. Mae'n parhau i fod yn flaenoriaeth defnyddio gwasanaethau statudol i fynd i'r afael ag anghenion unigolion digartref sy'n wynebu rhwystrau ychwanegol rhag cael at wasanaethau prif ffrwd ac sy'n disgyn rhwng bylchau oherwydd eu cymhlethdod.
Gofal Cymdeithasol: Gall pobl sy'n ddigartref neu sydd dan fygythiad digartrefedd yn ogystal ag anghenion cymorth tai hefyd fod ag anghenion gofal cymdeithasol cymwys ynghylch gwybodaeth a chyngor ac anghenion ymyrraeth ac atal cynnar a Diogeliadau Amddiffyn Rhyddid. Bydd angen i wasanaethau Cymorth Tai a Gofal Cymdeithasol weithio gyda'i gilydd i sicrhau bod pobl yn cyrraedd eu hannibyniaeth fwyaf posibl ac atal anghenion rhag cynyddu lle bo hynny'n bosib.
Pobl Ifanc: Un o nodau allweddol yr adolygiad comisiynu pobl ifanc yw sicrhau bod opsiynau llety a chymorth yn gallu ymateb i bobl ifanc sydd ag anghenion cymhleth. Mae prosiect Tai yn Gyntaf wedi'i dreialu yn Abertawe gydag arwyddion cynnar o ganlyniadau llwyddiannus i bobl ifanc. Mae adolygiad o brosiect Tai yn Gyntaf gyda'r potensial i ehangu'r ddarpariaeth ar y gweill.
VAWDASV: O'r menywod a gafodd gymorth o fewn darpariaeth cam-drin domestig, nododd 33% iechyd meddwl fel angen cymorth. Amlygodd adborth rhanddeiliaid gan sefydliadau arbenigol VAWDASV yr anhawster i ddiwallu anghenion llety a chymorth menywod ag anghenion cymhleth, gan gynnwys problemau iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau, o fewn modelau darparu presennol. Sefydlwyd grŵp gorchwyl a gorffen aml-asiantaeth yn rhan o Grŵp Arweinyddiaeth VAWDASV i ddatblygu opsiynau llety a chymorth i fenywod ag anghenion cymhleth sy'n destun cam-drin domestig.
Blaenoriaeth strategol 6
Parhau i gynyddu'r cyflenwad o lety addas a fforddiadwy.
Pam mae hyn yn flaenoriaeth?
Un peth sy'n sylfaenol i atal a lleddfu digartrefedd yw cael at gyflenwad o lety addas, fforddiadwy o ansawdd da (o fewn Cyfradd y Lwfans Tai Lleol). Ar hyn o bryd, mae'r galw am lety 1 ystafell wely yn llawer mwy na'r cyflenwad. Mae hyn wedi arwain at bobl yn aros mewn llety brys dros dro a llety â chymorth dros dro yn hirach na'r angen. Mae tuedd gynyddol mewn ceisiadau digartrefedd a gostyngiad yn y cyfraddau diwedd tenantiaeth mewn tai cymdeithasol. Mae'n mynd yn anoddach hefyd i bobl ddod o hyd i lety yn y Sector Rhentu Preifat oherwydd bod rhenti'n cynyddu a'r Lwfans Tai Lleol wedi'i rewi. Mae cyflwyno'r Ddeddf Rhentu Cartrefi 2016 sy'n cynyddu diogelwch daliadaeth yn beth cadarnhaol, ond pryderir y gallai hyn gael effaith negyddol ar barodrwydd landlordiaid rhentu preifat i letya pobl yr ystyrir eu bod yn denantiaid sy'n cyflwyno mwy o risg. Mae cynyddu mynediad a sicrhau'r cyflenwad mwyaf posibl o lety 1 ystafell wely fforddiadwy yn hanfodol er mwyn pontio'n llwyddiannus i ddull ailgartrefu cyflym a arweinir gan dai.
Sut y caiff ei chyflenwi?
Mae Rhaglen Mwy o Gartrefi'r Awdurdod Lleol wedi gosod targed cyflenwi 10 mlynedd ar gyfer 1000 o gartrefi Cyngor newydd o 2021-2031. Mae'r Awdurdod Lleol hefyd yn parhau i ddatblygu'r rhaglen gaffael sy'n cynnwys blaenoriaethu fflatiau 1 ystafell wely. Bydd yr eiddo ychwanegol yn helpu i leddfu'r argyfwng uniongyrchol ac yn cynorthwyo i leihau nifer yr aelwydydd sengl mewn llety Gwely a Brecwast. Mae'r rhaglen hefyd yn caffael fflatiau a thai mwy o faint i gynyddu'r cyflenwad cyffredinol mewn ardaloedd o angen ar gyfer aelwydydd mwy o faint.
Disgwylir i'r 4 Landlord Cymdeithasol Cofrestredig presennol sydd yn yr ardal i ddatblygu yn Abertawe ddarparu dros 4000 o gartrefi newydd dros y 10 mlynedd nesaf. Bydd yr Awdurdod Lleol a'r Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yn parhau i weithio mewn partneriaeth i sicrhau bod cynifer â phosibl o gartrefi ar gael i aelwydydd digartref.
Bydd yr Awdurdod Lleol hefyd yn parhau i archwilio atebion gyda'r holl landlordiaid gan gynnwys y sector rhentu preifat i fynd i'r afael â materion yn ymwneud â mynediad a fforddiadwyedd y stoc bresennol. I gynyddu ymhellach y cyflenwad eiddo rhentu preifat addas a fforddiadwy bwriedir sefydlu cynllun gosod cymdeithasol ar gyfer eiddo sector preifat yn Abertawe.
Defnyddio llai o lety Gwely a Brecwast yn un o brif flaenoriaethau'r Strategaeth. Nod y cynnydd dros dro yn y cyflenwad o lety dros dro a ddarperir i bobl sengl a theuluoedd yw lleihau'r ddibyniaeth ar lety gwely a brecwast. Yn ogystal, bydd datblygu llety VAWDASV arbenigol i fenywod sy'n ei chael yn anodd cael at y ddarpariaeth bresennol a'i chynnal yn sicrhau bod menywod sy'n agored i niwed yn cael y cymorth a'r llety priodol i ddiwallu eu hanghenion.
Blaenoriaeth strategol 7
Gweithio gyda defnyddwyr gwasanaeth a rhanddeiliaid i gyflwyno mecanweithiau rheolaidd ar gyfer ymgysylltu a chyd-gynhyrchu i lywio'r gwaith o ddatblygu a gwella gwasanaethau
Pam mae hyn yn flaenoriaeth?
Mae Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Abertawe wedi datblygu Strategaeth Gydgynhyrchu i geisio gwreiddio cyd-gynhyrchu a rhoi mwy o lais, dewis a rheolaeth i'r bobl sy'n defnyddio gwasanaethau. Mae'r Strategaeth yn nodi camau allweddol i weithredu'r model Cydgynhyrchu gorau posibl. Mae rhoi cyd-gynhyrchu ar waith yn newid diwylliannol a bydd yn cymryd amser i'w fabwysiadu'n llawn felly bydd prosesau'n cael eu hadolygu a'u datblygu'n barhaus i sicrhau bod cyd-gynhyrchu'n gwneud gwahaniaeth go iawn a bod y broses yn dilyn egwyddorion y cytunwyd arnynt.
Sut y caiff ei chyflenwi?
Mae egwyddorion cyd-gynhyrchu wedi'u cynnwys mewn adolygiadau comisiynu drwy ddarganfod yr hyn sy'n gweithio'n dda, yr hyn nad yw'n gweithio'n dda a'r hyn sy'n bwysig i bobl er mwyn sicrhau bod pobl sy'n defnyddio gwasanaethau yn dylanwadu ar gynllunio a darparu gwasanaethau yn y dyfodol. Bydd y dull gweithredu hwn hefyd yn cynnwys digwyddiadau gyda rhanddeiliaid i archwilio'r hyn sy'n gweithio'n dda a sut y gellid cynllunio'r ddarpariaeth yn well yn y dyfodol.
Mae cydgynhyrchu'n ofyniad safonol mewn contractau a manylebau gwasanaeth cysylltiedig ac mae'n cael ei fesur fel rhan o ddarparu gwasanaethau effeithiol. Mae gofyn sut y bydd darparwyr yn rhoi cyd-gynhyrchu ar waith wrth ddarparu gwasanaethau yn gwestiwn datganiad dull sefydledig o fewn tendrau; mae gwaith pellach hefyd ar y gweill i gynnwys pobl sy'n defnyddio gwasanaethau yn y broses gaffael.
Mae dulliau cydgynhyrchu hefyd yn cael eu cyflwyno i wella'r ddarpariaeth bresennol o wasanaethau, er enghraifft cyd-gynhyrchu safonau ar gyfer llety, a darpariaeth gwasanaethau, gan sicrhau yr ymgysylltir â'r ystod lawn o bobl sy'n defnyddio gwasanaethau.
Blaenoriaeth strategol 8
Cryfhau'r cymorth a'r llety a ddarperir i bobl ifanc.
Pam mae hyn yn flaenoriaeth?
Mae adolygiad comisiynu cymorth a llety pobl ifanc ar y gweill ar hyn o bryd. Bu canfyddiadau'r adolygiad yn allweddol i ddeall anghenion, gofynion a phennu blaenoriaethau i sicrhau bod opsiynau cymorth a llety yn y dyfodol yn diwallu anghenion pobl ifanc ac yn atal digartrefedd pan fo hynny'n bosib.
Dangosodd data ac adborth gan rhanddeiliaid fod cynnydd sylweddol wedi bod yn nifer y bobl ifanc sy'n cael problemau gyda'u hiechyd meddwl.
Ceir hefyd nifer o bobl ifanc nad oes modd eu lletya oherwydd cymhlethdod angen a/neu ddiffyg argaeledd mewn modelau darparu presennol.
Sut y caiff ei chyflenwi?
Roedd y Llwybr Llety â Chymorth (SAP), sy'n rheoli'r holl atgyfeiriadau ar gyfer llety, yn cofnodi mai perthnasoedd teuluol, bod yn ifanc ac yn agored i niwed a digartrefedd oedd yr anghenion cymorth mwyaf cyffredin a nodwyd. Dengys hyn fod cyfryngu teuluol i atal digartrefedd a /neu sicrhau bod rhwydweithiau cymorth yn cael eu cynnal yn gallu bod yn elfen hanfodol o'r opsiynau sydd ar gael i bobl ifanc sy'n ddigartref neu mewn perygl o ddigartrefedd.
Comisiynwyd gweithwyr trosiannol sy'n gweithio o fewn llety â chymorth dros dro er mwyn gwella cyfraddau symud ymlaen a chynyddu argaeledd lleoliadau. Cyflwynwyd Fflatiau Hyfforddi hefyd i roi cyfle i bobl ifanc ddatblygu sgiliau er mwyn byw yn annibynnol.
Nododd y Llwybr â Chymorth fod 78% o bobl ifanc yn 16 neu 17 oed adeg atgyfeirio. Mae angen gwneud gwaith dadansoddi pellach i ddeall beth sy'n digwydd i bobl ifanc dros 18 oed sy'n cael profiad o ddigartrefedd i sicrhau bod opsiynau llety a chymorth yn ateb anghenion pob grŵp oedran.
Darparwyd cyllid ychwanegol ar gyfer adnodd allgymorth iechyd meddwl i gefnogi pobl ifanc a hefyd i roi cymorth ac arweiniad i gefnogi gweithwyr sy'n gweithio gyda phobl ifanc.
Mae datblygu opsiynau i bobl ifanc sydd ag anfanteision lluosog yn flaenoriaeth i'r strategaeth. Datblygwyd cynllun peilot Tai yn Gyntaf ar gyfer pobl ifanc ac, er ei bod yn ddyddiau cynnar ar y model, mae wedi dangos canlyniadau cadarnhaol i'r bobl ifanc sydd wedi'u lletya. Mae darpariaeth Llety â Chymorth a Mwy hefyd wedi'i chyflwyno i estyn y cynllun presennol i ddarparu gwell cymorth i bobl ifanc sydd ag anghenion mwy cymhleth.
Blaenoriaeth strategol 9
Darparu ymatebion cadarn i gefnogi pobl sy'n cysgu ar y stryd a dileu'r angen i unigolion gysgu ar y stryd.
Pam mae hyn yn flaenoriaeth?
Un o brif amcanion y Strategaeth yw dileu'r angen i bobl gysgu ar y stryd yn Abertawe. Rhagwelir yn gryf, wrth symud ymlaen, y bydd cyfarwyddeb atal angen blaenoriaeth Llywodraeth Cymru yn parhau mewn grym, gyda newid posibl i'r ddeddfwriaeth yn y tymor hwy.
Gwnaed cryn gynnydd yn ystod dechrau'r pandemig o ran lleihau'r niferoedd sy'n cysgu ar y stryd, gyda chyfnodau pan nad oedd neb o gwbl yn cysgu ar y stryd. Fodd bynnag, mae cysgu ar y stryd yn dechrau cynyddu'n araf eto. Mae hyn o ganlyniad i unigolion yn cyflwyno ystod o anghenion cymorth cymhleth gan gynnwys problemau iechyd meddwl, anableddau dysgu, a chamddefnyddio sylweddau yn cyd-ddigwydd. Er gwaethaf ymdrechion i reoli ymddygiad gwrthgymdeithasol, cafwyd hefyd achosion o droi pobl allan o lety brys dros dro mewn amgylchiadau eithriadol.
Er gwaethaf cynigion o lety brys, yn ogystal â mathau eraill o lety sydd ar gael, mae rhai unigolion wedi dewis cysgu ar y stryd. Mae gwaith wedi dechrau i ddeall anghenion a dewisiadau unigolion ymhellach i sicrhau bod opsiynau ar gael i bawb sy'n ddigartref.
Mae Abertawe wedi ymrwymo i gynnig llety brys dros dro o fewn 24 awr i gael gwybod am rywun yn cysgu ar y stryd, gyda dull dim ail noson allan. Fodd bynnag, daw'n fwyfwy anodd dod o hyd i lety dros dro brys. Cyrhaeddodd nifer yr unigolion y rhoddwyd llety brys dros dro iddynt nifer uwch nag erioed ym mis Mawrth 2022.
Sut y caiff ei chyflenwi?
Bydd y dull gweithredu yn Abertawe i lwyddo i leihau'r angen i gysgu ar y stryd yn cynnwys parhau ag ymateb brys cadarn i bobl sy'n cysgu ar y stryd. Bydd estyniad y Gwasanaeth Ymyrryd i Bobl sy'n Cysgu ar y Stryd i 7 diwrnod yr wythnos i nodi, ymateb ac ymgysylltu â Rhai sy'n Cysgu ar y Stryd a weithredwyd yn ystod y pandemig yn cael ei gynnal.
Bydd adolygiad o'r darpariaethau penodol sydd ar gael ar gyfer pobl sy'n cysgu ar y stryd yn cael ei gynnal mewn partneriaeth â rhanddeiliaid i sicrhau bod adnoddau atal ac ymyrryd cynnar effeithiol ar waith gan gynnwys cymorth priodol i osgoi'r angen i gysgu ar y stryd.
Caiff prosesau casglu a monitro data eu hadolygu a'u gwella er mwyn deall ac ymateb i anghenion a gofynion a gyflwynir. Byddwn hefyd yn gweithredu mecanweithiau i ymgysylltu'n barhaus â phobl sydd wedi cysgu ar y stryd i sicrhau bod y ddarpariaeth yn diwallu eu hanghenion yn effeithiol.
Drwy ddatblygu porth atgyfeirio canolog ar gyfer llety â chymorth dros dro, y nod fydd darparu llwybr effeithiol i gynorthwyo pobl ddigartref i gael y cymorth a'r llety cywir i ddiwallu eu hanghenion gan leihau tebygolrwydd ailadrodd digartrefedd a phosibilrwydd cysgu ar y stryd.
4. Ymgysylltu â rhanddeiliaid
4a Rhanddeiliaid yr ymgysylltir â hwy
Fel rhan o ddatblygu'r strategaeth defnyddir ystod o wahanol fecanweithiau i roi cyfleoedd i randdeiliaid ddylanwadu ar ddatblygiad gwasanaethau digartrefedd a chymorth yn y dyfodol.
Disgrifir y gwahanol ddulliau ymgysylltu a chydweithio isod:
4b. Adborth gan randdeiliaid
Defnyddwyr Gwasanaeth
Arolwg Cleientiaid
Cwblhawyd arolwg i gasglu barn pobl sy'n defnyddio neu sydd wedi defnyddio, yn y ddwy flynedd ddiwethaf, wasanaethau digartrefedd a chymorth tai. Diben yr arolwg oedd casglu barn y bobl sydd wedi defnyddio gwasanaethau cymorth tai a chael profiad o ddigartrefedd fel eu bod yn cael cyfle i ddylanwadu ar ddatblygiad gwasanaethau digartrefedd a chymorth yn y dyfodol. Roedd y canfyddiadau'n llywio'r blaenoriaethau strategol a'r camau sydd eu hangen i'w cyflawni. Datblygwyd fersiwn hawdd ei darllen i sicrhau'r ymateb gorau posibl a sicrhau bod safbwyntiau a phrofiadau'n cael eu hystyried o amrywiaeth o grwpiau cleientiaid.
Ymgynghoriad â Defnyddwyr Gwasanaeth fel rhan o'r Adolygiad o Feddwl trwy Systemau
Fel rhan o'r Adolygiad o Lety Dros Dro, bu Cyngor Abertawe yn trafod gydag ymgynghorwyr i gynnal adolygiad o'r llwybr llety â chymorth dros dro o safbwynt yr hyn sy'n bwysig i bobl sy'n cael gwasanaeth.
Bu tîm gwaith maes yn ymgynghori â 47 o unigolion sydd wedi bod trwy lety dros dro gan ofyn ystod o gwestiynau penodol am yr hyn sy'n bwysig iddyn nhw er mwyn helpu i ganfod a yw'r system bresennol yn crisialu'r hyn sy'n bwysig a sut y gallem wella. Helpodd adborth gan y tîm gwaith maes i ddiffinio diben, gwerth gwaith ac egwyddorion allweddol wrth ddarparu llety â chymorth dros dro. Mae'r themâu allweddol a'r dysgu o'r sgyrsiau gyda phobl sydd wedi defnyddio llety â chymorth dros dro wedi cyfrannu at gasgliadau'r Adolygiad o Feddwl trwy Systemau a hwyluswyd gan ymgynghorwyr allanol ac wedi llywio asesiad anghenion y Rhaglen Cymorth Tai.
Rhanddeiliaid
Arolwg Rhanddeiliaid
Helpodd arolwg gyda rhanddeiliaid i lunio'r blaenoriaethau strategol ar gyfer gwasanaethau cymorth a ariennir gan y Grant Cymorth Tai ac atal digartrefedd am y pedair blynedd nesaf. Defnyddiwyd canfyddiadau'r arolwg i lywio'r Strategaeth a'r camau sydd eu hangen i'w chyflawni.
Ar ôl cael a dadansoddi'r ymatebion o'r ymgynghoriad â rhanddeiliaid a defnyddwyr gwasanaeth, trafodwyd ac adolygwyd blaenoriaethau yn Fforwm Cydweithredol y Grant Cymorth Tai a Digartrefedd.
Adolygiad o Feddwl trwy Systemau
Fel rhan o'r Adolygiad o Lety Dros Dro, bu Cyngor Abertawe yn ymgysylltu ag ymgynghorwyr i gynnal adolygiad o'r llwybr llety â chymorth dros dro. Roedd yr adolygiad o safbwynt yr hyn sy'n bwysig i bobl sy'n cael gwasanaeth gan gynnwys barn pobl sy'n gweithio o fewn y gwasanaeth. Cynhaliwyd ymgynghoriad gyda chyfanswm o 28 o staff a phartneriaid allweddol yn y trydydd sector a'r sector statudol. Gofynnwyd set safonol o gwestiynau i ddeall sut deimlad yw gweithio yn y gwasanaeth, er mwyn deall sut mae gwasanaethau'n cael eu cynllunio a'u rheoli. Mae'r themâu allweddol a'r gwersi a ddysgwyd o'r ymgynghoriad â staff wedi cyfrannu at gasgliadau'r Adolygiad a byddant yn llywio'r gwaith o ailwampio gwasanaethau yn y dyfodol.
Crynodeb Cyffredinol o Ganfyddiadau Allweddol
Bydd manylion llawn y canfyddiadau o'r holl brosesau ymgynghori ar gael ar gais. Ar draws yr holl ymatebion i'r ymgynghoriad, defnyddiwyd safbwyntiau a materion clir, cyffredin a ddaeth i'r amlwg i ddatblygu'r blaenoriaethau a'r camau gweithredu strategol ar gyfer y strategaeth.
5. Asesiadau o effaith
5a Proses asesu effaith
Un o brif egwyddorion y strategaeth hon yw sicrhau mynediad cydradd at wasanaethau a hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol a chydlyniant cymunedol.
Cwblhawyd dogfen sgrinio Asesiad Effaith Integredig yn rhan o Strategaeth y Rhaglen Cymorth Tai.
Bydd ymgysylltu, ymgynghori a chyd-gynhyrchu yn cael eu hymgorffori wrth ddatblygu a chyflawni'r Rhaglen Cymorth Tai yn y dyfodol mewn cydweithrediad â rhanddeiliaid allweddol i sicrhau dull cydgysylltiedig o atal digartrefedd a darparu cymorth cysylltiedig â thai gan anelu yn y pen draw at wella canlyniadau pobl.
Mae'r camau a nodwyd yn ceisio cefnogi unigolion i oresgyn unrhyw anghydraddoldeb o ran cael at dai fforddiadwy a chefnogi unigolion sy'n agored i niwed i gynnal cartrefi sefydlog i adeiladu eu dyfodol ynddynt. Rhagwelir y bydd effaith y Rhaglen Cymorth Tai yn arwain at wella gwasanaethau ac yn gwbl gadarnhaol i unigolion sy'n cael profiad o ddigartrefedd nawr ac yn y dyfodol.
6. Gweithredu, monitro a adolygu y Strategaeth
6a Gweithio gyda phartneriaid
Mae nifer o gysylltiadau strategol lleol allweddol y mae angen i Strategaeth y Rhaglen Cymorth Tai eu gwneud er mwyn bod yn gwbl effeithiol. Datblygwyd y Strategaeth a'r Cynllun Gweithredu mewn partneriaeth â'r rhanddeiliaid sy'n gyfrifol am y strategaethau a'r cynlluniau hyn ac mae'r Cynllun Gweithredu yn adlewyrchu anghenion a blaenoriaethau y maent wedi eu nodi. Disgrifir rhai o'r dulliau partneriaeth allweddol isod.
Cell Cydgysylltu Gwasanaethau Digartrefedd Abertawe
Ar ddechrau'r pandemig, yn ôl canllawiau Llywodraeth Cymru, sefydlwyd Cell Digartrefedd aml-asiantaeth i helpu i gydlynu ymateb y sector digartrefedd i'r heriau a gododd oherwydd y pandemig. I ddechrau, canolbwyntiodd y grŵp hwn ar faterion gweithredol i raddau helaeth a darparodd fforwm hynod effeithiol i ddatblygu cydweithio rhagorol yn ystod y pandemig parhaus. Mae'r Gell bellach yn datblygu ei rôl strategol a bu'n ddefnyddiol wrth nodi materion / blaenoriaethau/ camau gweithredu i'w cynnwys o fewn y strategaeth, yn enwedig o ran cysgu ar y stryd, camddefnyddio sylweddau a chael at wasanaethau iechyd meddwl. Bydd y grŵp yn parhau i gyfarfod wrth symud ymlaen.
Cydweithio â Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig
Mae'r Awdurdod Lleol wedi parhau i ddatblygu perthynas gref â'r tri phrif bartner landlord cymdeithasol cofrestredig sy'n gweithredu yn yr ardal. Adlewyrchir hyn yn y cynnydd yn nifer y dyraniadau a wnaed i ymgeiswyr digartref i eiddo landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ers dechrau'r pandemig. Cafwyd cydweithio arbennig o gryf yn rhan o Gam 1 a Cham 2, gan gynnwys cyfuniad o gaffaeliadau, adeiladau newydd a chynnydd yn lefel y stoc tai â chymorth dros dro.
Mae'r Strategaeth Symud Ymlaen yn parhau i sicrhau bod yr holl ddarparwyr tai allweddol yn cynorthwyo'n uniongyrchol i symud pobl ymlaen o dai â chymorth i lety parhaol ac rydym yn awyddus i gryfhau'r dull hwn fel rhan o'r adolygiad meddwl trwy systemau o dai â chymorth. Yn ogystal, mae'r Cytundeb Enwebu yn cael ei fonitro'n agos i sicrhau bod pob darparwr yn cyrraedd ei dargedau Enwebu yn gyson. Mae angen ystyried adolygu'r cytundeb hwn er mwyn sicrhau bod anghenion ymgeiswyr digartref yn parhau i gael eu diwallu.
Mae trafodaethau cynnar wedi'u cynnal gyda phartneriaid landlord cymdeithasol cofrestredig i ystyried sut y gallwn symleiddio mynediad at dai a dyrannu llety. Mae nod hirdymor o ddatblygu pwynt mynediad cyffredin a sicrhau bod polisïau dyrannu yn cydredeg yn well â'i gilydd.
Cyd-fforwm Cydweithredol Digartrefedd a'r Grant Cymorth Tai
Nod y fforwm yw sicrhau bod gan randdeiliaid allweddol fforwm cydnabyddedig sy'n hwyluso cydweithio a chyd-gynhyrchu gyda chomisiynwyr lleol. Mae'r Fforwm yn gyfle i randdeiliaid lywio a dylanwadu ar ddatblygiad y strategaeth ddigartrefedd ac ymatebion gwasanaeth i fodloni'r blaenoriaethau. Mae hefyd yn gyfle i rwydweithio, rhoi cyhoeddusrwydd i gyflawniadau cadarnhaol a rhannu arferion gorau.
Grŵp Arweinyddiaeth VAWDASV
Goruchwylir Strategaeth VAWDASV Abertawe gan Grŵp Arweinyddiaeth VAWDASV. Mae'r Grŵp Arweinyddiaeth yn cynnwys cyfranogiad gwych gan ystod o bartneriaid gan gynnwys Iechyd, Addysg, y Comisiynydd Heddlu a Throseddu, Darparwyr, Gwasanaethau Cymdeithasol, yr Heddlu, Diogelwch Cymunedol, Tai, Digartrefedd, a Thîm y Grant Cymorth Tai.
HHAVGP (Cynllun Iechyd Digartrefedd a Grwpiau Agored i Niwed )sef grŵp aml-asiantaeth lleol sy'n ceisio sicrhau bod Safonau Iechyd Llywodraeth Cymru ar gyfer Grwpiau Digartref ac Agored i Niwed yn cael eu gweithredu er mwyn gwella canlyniadau iechyd i bobl sy'n cysgu ar y stryd a grwpiau eraill sy'n agored i niwed.
Grŵp Comisiynu'r Grant Cymorth Tai
Mae gwariant y Grant Cymorth Tai yn cael ei oruchwylio gan Grŵp Comisiynu Grant Cymorth Tai Abertawe gyda chynrychiolwyr o'r sector Tai, Gwasanaethau Cymdeithasol, Comisiynu, y Gwasanaeth Prawf ac Iechyd. Mae'r Grŵp yn cwrdd o leiaf bob chwarter i gytuno ar flaenoriaethau, adolygu cynnydd ar wariant a gwneud penderfyniadau cyllido yn ymwneud â'r Grant Cymorth Tai. Mae hyn yn cynnwys comisiynu gwasanaethau newydd, dad-gomisiynu gwasanaethau, ystyried ceisiadau codiad contract a chynllunio caffael a rheoli rhaglen y Grant Cymorth Tai.
Dull Rhanbarthol Gorllewin Morgannwg
Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gorllewin Morgannwg
Mae'r Bwrdd hwn yn darparu arweinyddiaeth wrth wneud penderfyniadau, arweiniad, dylanwad a chymorth i sicrhau bod Gwasanaethau Tai, Iechyd, a Gofal yn cael eu darparu'n llwyddiannus i bobl yng Ngorllewin Morgannwg. Ar hyn o bryd, mae'r Bwrdd yn datblygu Strategaeth Iechyd, Tai a Gofal Cymdeithasol ar gyfer y rhanbarth.
Roedd y Grant Cymorth Tai yn cael ei oruchwylio'n flaenorol gan Bwyllgor Cydweithredol Rhanbarthol a ailenwyd wedyn yn Grŵp Cydweithredol Cymorth Tai Rhanbarthol. Er mwyn gwella integreiddio mewn gwaith ar draws y rhanbarth, daethpwyd â'r Grŵp Cydweithredol Cymorth Tai Rhanbarthol a'r Grŵp Iechyd, Tai a Gofal Cymdeithasol at ei gilydd i ffurfio'r Bartneriaeth Tai Rhanbarthol (RHP) a'r Fforwm Tai Rhanbarthol (RHF). Mae'r llywodraethu newydd yn cynnwys dau grŵp newydd:
- YGrŵp Partneriaeth Tai Rhanbarthol (RHP)sy'n darparu cyfeiriad strategol ar gyfer ffrwd waith tai'r Bartneriaeth Ranbarthol.
- Y Fforwm Tai Rhanbarthol (RHF)sy'n adrodd i'r Bartneriaeth honno. Y prif bwrpas yw llywio datblygiad cydgynhyrchiol y strategaeth/cynlluniau gweithredu rhanbarthol ar gyfer tai, cymorth cysylltiedig â thai, trawsnewid iechyd a gofal cymdeithasol, drwy ddod â sefydliadau, dinasyddion a gofalwyr ynghyd o bob rhan o'r rhanbarth.
Bwrdd Cynllunio Ardal Gorllewin Morgannwg (APB) -sy'n gyfrifol am gynllunio, comisiynu, a monitro gwasanaethau camddefnyddio sylweddau ar lefel ranbarthol.
Grŵp Diagnosis Deuol
Yn rhan o ymrwymiad y Bwrdd Cynllunio Ardal i wella gwasanaethau gydag unigolion sydd â diagnosis deuol, sefydlwyd grŵp llywio aml-asiantaeth i ddatblygu a gweithredu strategaeth i wella gwasanaethau i unigolion sydd â diagnosis deuol o salwch meddwl a chamddefnyddio sylweddau.
6b Ffynonellau ariannu
Bydd y blaenoriaethau a nodir yn y strategaeth hon yn cael eu hariannu yn bennaf o gyfres o ddyraniadau grant gan Lywodraeth Cymru (LlC).
- Mae'rGrant Cymorth Taiyn gyfuniad gan Lywodraeth Cymru o dri grant sydd eisoes yn bodoli, sef y Grant Cefnogi Pobl, y Grant Atal Digartrefedd, a Gorfodi Rhentu Doeth Cymru. Dyraniad Grant Cymorth Tai Llywodraeth Cymru i Gyngor Abertawe ar gyfer 2021/2022 yw £ 18,489,233 gyda dyraniad dangosol 3 blynedd arall ar gyfer rhag-gynllunio fel a ganlyn:
- 2022-23 - £18,489,233
- 2023-24 - £18,489,233
- 2024-25 - £18,489,233
- Grant Atal Digartrefedd -O fis Ebrill 22 bydd hwn yn pontio dros gyfnod o 2 flynedd i brif raglen y Grant Cymorth Tai.
- Cronfa Arloesi Ieuenctid
- Grant Plant a Chymunedau
- Grant Cymorth Refeniw Awdurdodau Lleol
6c Trefniadau monitro, adolygu a gwerthuso
Mae Strategaeth y Rhaglen Cymorth Tai yn amlinellu sut mae'r Cyngor a'i bartneriaid yn bwriadu mynd i'r afael â digartrefedd rhwng y blynyddoedd 2022 a 2026. Bydd y cynnydd tuag at gyflawni nodau ac amcanion y strategaeth yn cael ei fesur a'i fonitro yn rheolaidd. Er mwyn cyflawni hyn bydd y gweithgareddau canlynol yn cael eu cynnal:
- Bydd y cynllun gweithredu yn cael ei adolygu yn flynyddol a chynnydd yn cael ei adrodd i Aelodau'r Cabinet
- Cynhyrchir diweddariad blynyddol gan gynnwys cynnydd y cynllun gweithredu a'r ystadegau digartrefedd allweddol diweddaraf.
- Cynhelir diwrnod adolygu blynyddol gyda Fforwm y Grant Cymorth Tai a Digartrefedd.
- Yn ogystal â'r adolygiad blynyddol o gynnydd, bydd mesurau perfformiad allweddol yn cael eu defnyddio i fonitro llwyddiant a chynnydd parhaus y strategaeth yn Abertawe.
Bydd mesurau priodol pellach yn cael eu datblygu dros amser wrth i'r cynllun gweithredu gael ei ddiweddaru.
7. Cynllun Gweithredu Strategaeth y Rhaglen Cymorth Tai
Mae Cynllun Gweithredu Strategaeth y Rhaglen Cymorth Tai yn nodi'r camau sy'n ofynnol i gyflawni'r blaenoriaethau strategol yn adran 3 sydd ynghlwm fel atodiad.
Atodiad A - Cynllun Gweithredu Strategaeth y Rhaglen Cymorth Tai 2022-2026