Eglwys y Bedyddwyr Pantygwydr
Lle Llesol Abertawe - Renew at The Stream
Ar gau ddydd Mawrth 17 Rhagfyr, 2.00pm - 4.00pm, yna bydd yn ailagor yn ôl yr arfer ddydd Mawrth 7 Ionawr
Dydd Mawrth 2.00pm - 4.00pm
Mae pob un ohonom yn cael diwrnodau pan rydym yn teimlo ein bod wedi cael llond bola o bethau - problemau ar ein meddwl, yn rhiant neu'n ofalwr, neu am gael ychydig o gwmni. Mae Renew@ The Stream yn cynnig lle cynnes a diogel sy'n groesawgar ac yn gynhwysol â'r nod o wella lles emosiynol. Gallwch rannu hobïau a gweithgareddau, dysgu rhywbeth newydd, gwneud ffrindiau newydd neu gael hoe gyda phaned o de neu goffi. Defnyddiwch ein lle tawel ar gyfer myfyrdod personol neu gallwch ddewis ymuno â ni am gyfnod byr o fyfyrio ar Salm.
- WiFi am ddim
- Mynedfa / lleoliad hygyrch
- Toiledau / toiledau hygyrch / cyfleusterau newid cewynnau
- Gemau / gemau bwrdd
- Mae lluniaeth ar gael
- te, coffi a diod ffrwythau am ddim a bisgedi a theisennau ar gael - gallwch dalu'r hyn y gallwch ei fforddio
- Dŵr yfed ar gael
- Mae croeso i ymwelwyr ddod â'u bwyd / diodydd eu hunain
- Papurau newydd a chylchgronau
- Cyngor, gwybodaeth a chyfeirio
- mae ein lle wedi'i seilio ar '5 ffordd at les' y GIG (cysylltu, bod yn fywiog, bod yn sylwgar, dal ati i ddysgu a rhoi) a gallwn weithio mewn partneriaeth â chydlynwyr ardaloedd lleol, gwasanaethau iechyd meddwl a chyrff trydydd sector i gyfeirio at ffynonellau cymorth.