Toglo gwelededd dewislen symudol

Ffotograffiaeth briodas mewn parciau a mannau agored

Gallwch wneud cais i gael tynnu eich lluniau priodas yn rhai o'n parciau a'n mannau agored hardd.

Mae gan Abertawe barciau a mannau gwyrdd hardd a fydd yn sicrhau bod eich diwrnod yn un arbennig iawn ac yn darparu cefndir syfrdanol ac unigryw ar gyfer lluniau diwrnod eich priodas.

Os ydych chi'n bwriadu tynnu lluniau o ddiwrnod eich priodas yn un o'n parciau neu'n mannau agored, bydd angen i chi lenwi'r ffurflen gais isod, gan fod angen caniatâd i dynnu lluniau priodas ar unrhyw dir y mae Cyngor Abertawe'n berchen arno neu'n ei reoli.

Bydd angen talu'r ffi ymgeisio, sef £35 ynghyd â TAW ar ôl i'ch cais gael ei gymeradwyo. Er mwyn llogi tir y cyngor, bydd yn ofynnol i chi lofnodi cytundeb indemniad ac rydym yn argymell eich bod yn prynu yswiriant atebolrwydd cyhoeddus.

Sylwer: Ni ddylid cadarnhau eich dyddiad/amser/lleoliad arfaethedig nes eich bod wedi derbyn cadarnhad ysgrifenedig gan y cyngor.

Cais am ffotograffiaeth priodasau Cais am ffotograffiaeth priodasau

Mae rhai o'n lleoliadau mwyaf poblogaidd ar gyfer ffotograffiaeth priodasau yn cynnwys y canlynol

  • Cabanau traeth, Bae Langland
  • Gerddi Botaneg, Parc Singleton
  • Bae Bracelet
  • Parc Brynmill
  • Bae Caswell
  • Gerddi Clun
  • Parc Cwmdoncyn
  • Theatr y Grand
  • Parc Treforys
  • Traeth a slip y Mwmbwls
  • Traeth Llangynydd
  • Castell Ystumllwynarth
  • Barc Llewellyn
  • Parc Ravenhill
  • Traeth Rhosili
  • Parc Singleton
  • Amgueddfa Abertawe
  • Bae y Tri Chlogwyn
Close Dewis iaith