Toglo gwelededd dewislen symudol

Prosiect Angori Cefnogi Cymunedau

Cyllid grant ar gyfer prosiectau cymunedol/trydydd sector.

Mae amrywiaeth o grantiau ar gael i gefnogi grwpiau a sefydliadau lleol I wella mannau, cyfleusterau a gweithgareddau cymunedol lleol. Bydd grantiau'n cefnogi datblygu cyfalaf cymdeithasol, datblygiadau sy'n seiliedig ar asedau a gwirfoddoli sy'n creu effaith.

Cronfa Grantiau Cymunedol a Thrydydd Sector bellach ar agor

Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU (UKSPF) yn biler canolog o Agenda Lefelu i Fyny Llywodraeth y DU ac yn darparu cyllid ar gyfer buddsoddiad lleol. Mae CGGA yn gweithio gyda Chyngor Abertawe i alluogi'r sector i gyrchu cyllid grant (cyfanswm dyraniad o £1 miliwn).

Cronfa COAST (Creu cyfleoedd ar draws Abertawe gyda'n gilydd)

Mae Cronfa COAST yn adeiladu ar rowndiau blaenorol COAST a'i rhagflaenwyr. Mae'n ceisio darparu gweithgareddau am ddim neu fforddiadwy i bobl sy'n preswylio neu'n cael eu cefnogi yn Abertawe.
Close Dewis iaith