Prosiect Angori Gwledig
Olynydd-brosiect i'r Rhaglen Datblygu Gwledig sy'n darparu cyllid ar gyfer datblygu cymunedol gwledig, gweithgareddau wedi'u seilio ar y newid yn yr hinsawdd a sero net a gweithgareddau busnes gwledig.
Bydd y Prosiect Angori Gwledig yn darparu arian grant yng nghymunedau gwledig Abertawe er mwyn gwneud y canlynol:
- buddsoddi mewn prosiectau cyfalaf ynni adnewyddadwy ar raddfa fach
- cynyddu bioamrywiaeth drwy brosiectau glasu gwledig, mentrau tyfu cymunedol ac ailddefnyddio ardaloedd nad ydynt yn cael eu defnyddio
- cefnogi prosiectau gwirfoddoli er mwyn cynnwys gwahanol randdeiliaid mewn cymunedau gwledig
- comisiynu astudiaethau dichonoldeb â chynlluniau wedi'u costio er mwyn sicrhau bod cymorth ariannol ar gael ar gyfer y dyfodol
- creu marchnadoedd gwledig a llwybrau gwledig i ymwelwyr, mentrau a fyddai'n cynyddu nifer yr ymwelwyr â strydoedd mawr mewn ardaloedd gwledig
Bellach ar gau (Ionawr 2024)
Medi 2024
Cyfle newydd i gyflwyno cais am gyllid ar gyfer digwyddiadau gwledig cymunedol:
Cyllid ar gyfer ardaloedd gwledig Cyllid ar gyfer ardaloedd gwledig
Addaswyd diwethaf ar 30 Medi 2024