Toglo gwelededd dewislen symudol

Gostyngiad elusennol i ardrethi busnes

Mae elusennau a sefydliadau nid er elw yn gymwys i dderbyn gostyngiad o hyd at 100% ar eu hardrethi busnes.

Elusennau

Gall elusennau cofrestredig a Chlybiau Chwaraeon Amatur Cymunedol cofrestredig gyflwyno cais am ostyngiad elusennol, sy'n ostyngiad o 80% gorfodol ar eich ardrethi.

Hefyd, mae gan y cyngor y disgresiwn i dalu tuag at yr 20% sy'n weddill o'ch bil trethi gyda chymorth trethi dewisol.

Sefydliadau nid er elw

Caiff sefydliadau nid er elw wneud cais am gymorth trethi dewisol a chael cymorth hyd at 100% ar eu bil trethi. Bydd lefel y cymorth a roddir yn dibynnu ar fath eich sefydliad.

Y math o sefydliadau a gaiff elwa ar hyn yw:

  • clybiau a meysydd chwaraeon amatur
  • canolfannau a neuaddau cymunedol
  • canolfannau cymunedol lles ac addysgol
  • sefydliadau ieuenctid
  • grwpiau celfyddydau, cerddoriaeth, crefyddol, dyngarol

Polisi Rhyddhad Ardrethi yn ôl Disgresiwn

Sut i gyflwyno cais

Cais am ryddhad ardrethi busnes ar gyfer elusennau (PDF, 417 KB)
(mae'r ffurflen hon ar gyfer elusennau ac yn cynnwys cymorth elusennol gorfodol a dewisol)

Cais am gymorth trethi ar gyfer sefydliadau chwaraeon (PDF, 380 KB)

Beth i'w anfon atom i gefnogi'ch cais am gymorth

Beth bynnag yw math eich sefydliad, pan anfonwch eich ffurflen gais atom, mae'n rhaid i chi gynnwys:

  • copi o weithred yr ymddiriedolaeth neu brint o gyfansoddiad ysgrifenedig y sefydliad
  • copi o'r cyfrifon diweddaraf oni bai eu bod ar gael ar-lein
  • datganiad o fanylion y gweithgarwch a'r gwaith a wneir yn yr adeilad

Dychwelwch eich cais a'ch dogfennau ategol i'r:

Pennaeth Cyllid a Chyflwyno, Dinas a Sir Abertawe, Is-adran Ardrethi Busnes, Canolfan Ddinesig, Oystermouth Road, Abertawe SA1 3SN.

Polisi Rhyddhad Ardrethi yn ôl Disgresiwn

Rhaid ystyried pob cais am gymorth yn unigol. Fodd bynnag, mae'n briodol llunio polisïau arweiniad i ddarparu fframwaith er cysondeb.
Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 08 Mawrth 2024