Toglo gwelededd dewislen symudol

Cymorth trethi dewisol i elusennau a sefydliadau eraill

Rhaid ystyried pob cais am gymorth yn unigol. Fodd bynnag, mae'n briodol llunio polisïau arweiniad i ddarparu fframwaith er cysondeb.

Yn unol â hynny, mae'r polisïau cyffredinol i'w hystyried mewn ceisiadau am gymorth dewisol fel a ganlyn:

  1. Caiff cymorth trethi dewisol o dan ddarpariaethau Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 ei roi i sefydliadau cymwys.
  2. Dyfernir 20% o gymorth dewisol fel arfer i sefydliadau sy'n gymwys i dderbyn cymorth gorfodol o 80% os nad oes gan y sefydliad far trwyddedig.
  3. Rhaid i sefydliad sy'n cynnal bar trwyddedig allu dangos nad yw'r bar yn brif atyniad nac yn atyniad sylweddol i'r rhan fwyaf o'r aelodau.
  4. Dylid bod yn ystyriol yn achos sefydliad sy'n annog pobl o grwpiau lleiafrifol yn y gymuned i ymaelodi, e.e. pobl ifanc, menywod, grwpiau henoed, pobl ag anableddau, a lleiafrifoedd ethnig.
  5. Fel arfer dylai aelodaeth fod yn agored i bob rhan o'r gymuned.
  6. Os yw cyfleusterau ar gael i bobl ar wahân i aelodau, yna bydd hyn fel arfer yn achos am ystyriaeth fwy gofalus.
  7. Os yw'r sefydliad yn darparu hyfforddiant neu addysg, byddai hyn fel arfer o fantais wrth ystyried y cais.
  8. Os yw'r sefydliad yn darparu cyfleusterau y byddai'n rhaid i'r cyngor eu darparu fel arall, bydd y cais yn derbyn ystyriaeth fwy ffafriol.
  9. Byddai unrhyw gymorth a roddir yn para fel arfer am gyfnod o dair blynedd.
  10. Ni fydd siopau parhaol sy'n gwneud elw a gynhelir gan elusennau fel arfer yn gymwys.

Atodiad A

Cymorth trethi dewisol i glybiau chwaraeon

  1. Caiff y cymorth hwnnw ei gyfrifo ar gymhareb yr aelodau sy'n chwarae - gan gynnwys aelodau iau - i'r aelodaeth gyfan, ond gyda'r eithriadau canlynol
    1. Os bydd enillion y bar o dan £100,000 y flwyddyn, telir cymorth trethi llawn.
    2. Os bydd enillion y bar dros £100,000 ond o dan £125,000, telir 75% o'r cymorth trethi.
    3. Os bydd enillion y bar dros £125,000 ond o dan £150,000, telir 50% o'r cymorth trethi.
    4. Mewn achosion sy'n berthnasol i 2 ac 3 uchod, byddai cymhareb yr aelodau sy'n chwarae i'r aelodaeth gyfan yn cael ei chyfrifo a byddai'r dull sy'n arwain at y swm mwyaf o gymorth yn berthnasol.
  2. Yn achos chwaraeon y mae angen cryn dipyn o arian i gymryd rhan ynddynt, mae'n rhaid i glybiau allu dangos bod trefniadau ganddynt i alluogi'r gymuned gyfan fod yn aelodau ac i gymryd rhan.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 11 Ionawr 2024