Gwybodaeth ar gyfer cyfranogwyr y Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff
Croesi i'r Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff
Mae'r gweithwyr ymarfer corff proffesiynol yma i'ch cefnogi ar eich taith gyda'r Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff.
Bydd cyfranogwyr yn dechrau gydag asesiad un i un neu asesiad grŵp lle byddwch yn siarad â'r gweithwyr ymarfer corff proffesiynol ac yn penderfynu ar eich opsiynau.
Bydd cyfranogwyr sy'n cael eu hatgyfeirio i'r cynllun yn cael cyfle i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau sy'n cynnwys sesiynau mewn cadair, dosbarthiadau ffitrwydd, sesiynau yn y dŵr ac yn y gampfa. Mae'r dosbarthiadau hyn yn para hyd at awr (oddeutu) ac maent ar gyfer grwpiau bach o bobl.
Côd Ymddygiad Cyfranogwyr Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff Abertawe
Mae'r cynllun atgyfeirio'n para rhwng 4 - 16 wythnos, yn dibynnu ar y rheswm dros yr atgyfeiriad, ac fe'i darperir yn ein canolfannau hamdden partner.
- Hazel Court, Sgeti: (Lleoliad cymunedol) Sketty Park Drive, Abertawe SA2 8BP
Pris pob dosbarth Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff yw £2.50 y sesiwn.
Amserlen Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff Abertawe gyfredol sy'n cynnwys lleoliad, diwrnodau, amserau a manylion darparu.
Bydd y gweithiwr ymarfer corff proffesiynol yn eich cefnogi ar eich taith gyda chyngor ac arweiniad.
Holiadur Llwybr Gadael y Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff: ar gyfer yr holiadur sydd i'w gwblhau gan gyfranogwyr y cynllun 16 wythnos ar ôl i'r cynllun ddod i ben, cliciwch yma Holiadur NERS 16 wythnos (Yn agor ffenestr newydd).
Opsiynau Llwybr Gadael
Ar ôl i'r cyfranogwyr gwblhau'r rhaglen, rhoddir yr opsiwn iddynt barhau â rhaglen bersonol a all gynnwys
- Aelodaeth am bris gostyngol gyda'n partner Freedom Leisure - Gwella bywydau drwy hamdden Freedom Leisure Freedom Leisure (Yn agor ffenestr newydd) (chwiliwch am eich canolfan hamdden am ragor o wybodaeth).
- Cymunedau Iach yn Freedom Leisure: Freedom Leisure Healthy Communities Swansea (Yn agor ffenestr newydd)
- Cysylltu â'r cynllun Chwaraeon ac Iechyd Oedolion Hŷn Actif, sy'n cynnig gweithgarwch corfforol a chwaraeon i bobl dros 60 oed yn Abertawe: Oedolion Hŷn Actif
- Beth am fynd am dro iach?
- Sesiynau Gweithgareddau Chwaraeon ac Iechyd: Chwaraeon ac Iechyd Abertawe gallwch archebu tocynnau drwy Sport and Health Ticketsource (Yn agor ffenestr newydd)
Cysylltu â'r Tîm Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff (NERS)