Cynllun Hawliau Dynol a Chydraddoldeb Strategol Cynllun gweithredu Amcan Dau
Plant a Theuluoedd sy'n Agored i Niwed - Deall beth sy'n bwysig i blant a theuluoedd a chydweithio i ddod o hyd i atebion creadigol.
Amcan DauPlant a Theuluoedd sy'n Agored i Niewed - Deall beth sy'n bwysig i blant a theuluoedd a chydweithio i ddod o hyd i atebion creadigol. | |||
Byddwn yn... | |||
Nodweddion Gwarchodedig Perthnasol: Oedran. Egwyddor Hawliau Dynol Perthnasol: Cyfranogiad,Grymuso | |||
Ffrâm amser | Gweithred | Perchennog y Weithred | Mesur Llwyddiant |
---|---|---|---|
Blwyddyn 1 | Cyflwyno ein Strategaeth Cefnogi Teuluoedd i Aros Gyda'n Gilydd. Byddwn yn cyflawni hyn erbyn:
| Julie Davies Prif Swyddog: Grŵp Prif Swyddogion | Llai o blant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal yn ein system. Mae'r plant a'r bobl ifanc hynny sydd eisoes yn derbyn gofal neu ar fin derbyn gofal, gyda ni am lai o amser. Gweithlu sefydlog, medrus a phrofiadol gyda digon o gapasiti, sy'n hyderus, yn cael cefnogaeth dda ac yn cael eu rheoli'n dda. Ymyrraeth ac ataliad cynnar i blant, pobl ifanc a theuluoedd ar gyrion gofal. Ymarfer effeithiol ar draws continwwm angen - asesiad cymesur, ymyrraeth, a gwaith uniongyrchol; gwneud penderfyniadau cadarn; Cynllunio taflwybr / dyfodol parhaol clir. Casglu a rhannu defnydd effeithiol o ddata a gwybodaeth ar ein system bresennol. Digon o gapasiti a defnydd effeithiol o adnoddau i gyflawni'r hyn sy'n bwysig i blant, pobl ifanc a theuluoedd. |
Blwyddyn 2 | Fel yr uchod | Julie Davies Prif Swyddog: Principal Officer Group | Fel yr uchod |
Blwyddyn 3 | Fel yr uchod | Julie Davies Prif Swyddog: Principal Officer Group | Fel yr uchod |
Blwyddyn 4 | Fel yr uchod | Julie Davies Prif Swyddog: Principal Officer Group | Fel yr uchod |
Byddwn yn... | |||
Nodweddion Gwarchodedig Perthnasol:Oedran. Egwyddor Hawliau Dynol Perthnasol:Cyfranogiad, Grymuso, Plannu, Atebolrwydd, Peidio â gwahaniaethu. | |||
Ffrâm amser | Gweithred | Perchennog y Weithred | Mesur Llwyddiant |
Blwyddyn 1 | Cynnal ymgynghoriad statudol ar gyfer y strategaeth lleoedd arbenigol. | Rhodri Jones Prif swyddog: Kate Phillips | Ymgynghoriad wedi'i gwblhau gyda mewnbwn wedi'i dderbyn gan drawstoriad o randdeiliaid a strategaeth wedi'i datblygu ac ar waith. |
Adolygu'r dull ysgol gyfan o ymdrin ag iechyd emosiynol a lles seicolegol:
| Rhodri Jones Prif swyddog: Helen Howells | Iechyd emosiynol a lles seicolegol (EHPW) wedi'i ymgorffori drwy'r dull ysgol gyfan. | |
Ymgymryd â phroses gomisiynu i gaffael gwasanaeth cwnsela sy'n addas i'r diben. | Rhodri Jones Prif swyddog: Rheolwr Gwasanaeth | Model gwasanaeth newydd wedi'i weithredu a'i effaith wedi'i weld ar y dysgwyr. Gwell presenoldeb ar draws ysgolion Abertawe. Gwell ymddygiad ar draws ysgolion Abertawe. | |
Gweithredu model cyflawni gwasanaeth Addysg heblaw yn yr ysgol (EHY). Hyrwyddo presenoldeb:
| Rhodri Jones Prif swyddog: Simon Burman-Rees | Llai o waharddiadau (cyfnod penodol a pharhaol) | |
Hyrwyddo cynhwysiad:
| Rhodri Jones Prif swyddog: Helen Howells | ||
Blwyddyn 2 | Fel yr uchod | Rhodri Jones | Fel yr uchod |
Blwyddyn 3 | Fel yr uchod | Rhodri Jones | Fel yr uchod |
Year 4 | Fel yr uchod | Rhodri Jones | Fel yr uchod |
Byddwn yn... Cyd-gynhyrchu atebion creadigol gyda phlant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal i gyflawni ein haddewidion rhianta corfforaethol. | |||
Nodweddion Gwarchodedig Perthnasol: Oedran Egwyddor Hawliau Dynol Perthnasol: Cyfranogiad, Grymuso, Plannu, Atebolrwydd | |||
Ffrâm amser | Gweithred | Perchennog y Weithred | Mesur Llwyddiant |
Blwyddyn 1 | Bydd y Swyddog Cyfranogiad a Hawliau Plant yn ymgysylltu â phlant a phobl ifanc i hyrwyddo dealltwriaeth o'r addewidion Rhianta Corfforaethol ac i gasglu rhagor o wybodaeth i gefnogi datblygiad drwy 'Heriau Rhianta Corfforaethol'. | Julie Davies / Linzi Margetson Prif swyddog: Louise Beckett | Mae plant, pobl ifanc, aelodau a swyddogion wedi mynychu a chymryd rhan mewn Heriau Rhianta Corfforaethol. |
Mae'r Addunedau'n canolbwyntio ar "sut beth yw bywyd gorau" i'n poblogaeth â Phrofiad Gofal yn Abertawe ac yn canolbwyntio ar 7 maes allweddol:
Mae'r Her Rhianta Corfforaethol yn gyfle i blant a phobl ifanc â phrofiad o ofal ddod at ei gilydd a chymysgu gyda phlant a phobl ifanc eraill sydd â phrofiad o ofal, y rhai sy'n gwneud penderfyniadau ac aelodau o'r gymuned. Mae'r Dyddiau Her yn fodd o weld y bobl a'r Gweithwyr Cymdeithasol hynny y tu allan i'w hamgylchedd arferol neu i weld y rhai sy'n gwneud penderfyniadau y tu allan i'r cyfarfodydd mwy strwythuredig y byddant yn arfer cyfarfod ynddynt. Mae'r dyddiau'n cynnwys gweithdai, gemau, gweithgareddau rhyngweithiol, cyflwyniadau, a sgyrsiau lle gall plant a phobl ifanc gasglu a rhannu eu barn, eu profiadau a'u syniadau. | Gallu dangos tystiolaeth o gyflawni camau gweithredu perthnasol yn erbyn pob Addewid. | ||
Blwyddyn 2 | Gan adeiladu ar yr adborth gan blant a phobl ifanc, bydd Aelodau a Swyddogion wedi nodi camau gweithredu ar gyfer gwella a datblygu gwasanaethau i gefnogi cyflawni'r nodau gafodd eu hadnabod yn yr addewidion. | Julie Davies / Linzi Margetson Prif swyddog: Louise Beckett | Cynllun Gwaith Rhianta Corfforaethol â Ffocws sy'n ymgorffori camau gweithredu gan bob Cyfarwyddiaeth ar draws Cyngor Abertawe i gefnogi cyflawni'r addewidion. Ymgysylltu parhaus â phlant a phobl ifanc i sicrhau bod ganddynt lais wrth ddatblygu'r camau gweithredu a siapio'r gweithredoedd. Gallu dangos tystiolaeth o gyflawni camau gweithredu perthnasol yn erbyn pob Addewid |
Blwyddyn 3 | Plant a Phobl Ifanc i weithio gyda'r Swyddog Cyfranogiad a Hawliau Plant i adolygu'r cynnydd yn erbyn y Cynllun Gwaith Rhianta Corfforaethol a darparu cyfarwyddyd pellach ar weithgareddau datblygu/gwella sydd i'w gwneud. | Julie Davies / Linzi Margetson Prif swyddog: Louise Beckett | Bydd plant a phobl ifanc yn cael cyfleoedd i adolygu'r addewidion a symud ymlaen yn eu herbyn yn yr Heriau Rhianta Corfforaethol blynyddol. Gallu dangos tystiolaeth o gyflawni camau gweithredu perthnasol yn erbyn pob Addewid. |
Blwyddyn 4 | Monitro ac adolygu cynnydd, camau gweithredu a datblygiadau parhaus yn erbyn y Cynllun Gwaith Rhianta Corfforaethol i gyflawni'r addewidion. | Julie Davies / Linzi Margetson Prif swyddog: Louise Beckett | Fel yr uchod |
Byddwn yn... | |||
Nodweddion Gwarchodedig Perthnasol: Oedran, Anabledd Egwyddor Hawliau Dynol Perthnasol: Cyfranogiad, Grymuso, Plannu, Atebolrwydd, Peidio â gwahaniaethu | |||
Ffrâm amser | Gweithred | Perchennog y Weithred | Mesur Llwyddiant |
Blwyddyn 1 | Ymgynghori ar y Strategaeth Hygyrchedd Addysg ddrafft a chymryd y drafft terfynol i'r Cyngor i'w gymeradwyo. | Rhodri Jones Prif swyddog: Pam Cole | Nifer yr ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad. Drafft terfynol wedi'i gymeradwyo gan y Cyngor |
Peilota'r Archwiliad Hygyrchedd i Ysgolion yn ystod tymor yr haf (2024) cyn ei gyflwyno i bob ysgol. | Adborth wedi'i dderbyn gan ysgolion ac offeryn archwilio terfynol wedi'i ddatblygu a'i roi i ysgolion. | ||
Cyhoeddi templed Cynllun Hygyrchedd i ysgolion a darparu cymorth i sicrhau bod gan bob ysgol Gynllun ar waith. | Pob ysgol â chynllun hygyrchedd ar waith. | ||
Cyflawni yn erbyn y camau gweithredu cymeradwy yn y Strategaeth Hygyrchedd. | Yr holl gamau gweithredu wedi'u cyflawni | ||
Blwyddyn 2 | Fel yr uchod | Rhodri Jones Prif swyddog: Pam Cole | Fel yr uchod |
Blwyddyn 3 | Fel yr uchod | Rhodri Jones Prif swyddog: Pam Cole | Fel yr uchod |
Blwyddyn | Fel yr uchod | Rhodri Jones Prif swyddog: Pam Cole | Fel yr uchod |
Byddwn yn... | |||
Nodweddion Gwarchodedig Perthnasol: Oedran Egwyddor Hawliau Dynol Perthnasol: Cyfranogiad, Grymuso, Plannu, Atebolrwydd, Peidio â gwahaniaethu | |||
Ffrâm amser | Gweithred | Perchennog y Weithred | Mesur Llwyddiant |
Blwyddyn 1 | Ailsefydlu'r "Rhwydwaith Hawliau Plant" fel "Rhwydwaith Gwybodaeth Hawliau Plant" gan ddefnyddio Mailchimp i ganiatáu diweddariadau newyddion misol ac i gyfeirio at gyfleoedd lleol, rhanbarthol a chenedlaethol i ymarferwyr. | Jane Whitmore Prif swyddog: Julie Gosney
| Mae cyfathrebu'n cael ei gryfhau, mae rhanddeiliaid yn rhan o'r gwaith parhaus mewn perthynas â'r Cynllun Hawliau Plant. Llwyfan wedi'i sefydlu i gyfathrebu digwyddiadau, sesiynau a gweithgareddau, gan roi adborth ar yr hyn y mae plant a phobl ifanc yn ei ddweud wrthym. |
Parhau â'r "Sgwrs Fawr" wedi'i hadnewyddu a'i hailfodelu i ddarparu seilwaith ledled y Sir, er mwyn galluogi gwell cyfathrebu am gyfleoedd i blant a phobl ifanc gael eu clywed yn lleol. | Cynnal Erthygl 12 o'r CCUHP i glywed llais plant a phobl ifanc ar faterion sy'n effeithio ar eu bywydau. | ||
Blwyddyn 2 | Parhau i godi ymwybyddiaeth a chynyddu gwybodaeth am hawliau plant (CCUHP) o fewn Timau'r Cyngor drwy ddatblygu modiwl hyfforddi ar-lein a chysylltu â gwaith ehangach y "Ddinas Hawliau Dynol." | Jane Whitmore Prif swyddog: Julie Gosney
| Mwy o wybodaeth ac ymwybyddiaeth o'r CCUHP ar draws pob cyfarwyddiaeth, a fydd yn ei dro yn cefnogi'r dystiolaeth a'r mewnbwn ym mhroses IIA'r Cyngor. |
Archwilio cyfleoedd ar gyfer mwy o ddefnydd o iaith syml/adrodd hygyrch er mwyn sicrhau y gall plant a phobl ifanc gymryd rhan mewn cyfleoedd i lunio gwasanaethau lleol. | Dull cynhwysol o alluogi plant a phobl ifanc i gael eu hysbysu fel rhanddeiliaid cyfartal mewn prosesau gwneud penderfyniadau lleol a rhanbarthol. | ||
Blwyddyn 3 | Parhad a datblygiad pellach o gamau gweithredu a nodwyd ar draws blynyddoedd 1 a 2. | Jane Whitmore Prif swyddogion: Julie Gosney/Mark Gosney | Fel blynyddoedd 1 a 2. |
Blwyddyn 4 | Parhad a datblygiad pellach o gamau gweithredu a nodwyd ar draws blynyddoedd 1 a 2.
| Jane Whitmore Prif swyddogion: Julie Gosney/Mark Gosney | Fel blynyddoedd 1 a 2. |