Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - Nadolig a'r Flwyddyn Newydd

Gwybodaeth am wyliau'r banc - Nadolig a'r Flwyddyn Newydd Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor, casgliadau ailgylchu a chysylltiadau brys.

Cynllun Hawliau Dynol a Chydraddoldeb Strategol Cynllun gweithredu Amcan Pump

Cydraddoldeb a Hawliau Dynol - Gweithio gyda'n partneriaid i greu a chofleidio gweledigaeth o ddinas fywiog, amrywiol, cyfiawn a diogel lle mae pawb yn cyfrif.

 

Amcan Pump

Cydraddoldeb a Hawliau Dynol -Gweithio gyda'n partneriaid i greu a chofleidio gweledigaeth o ddinas fywiog, amrywiol, cyfiawn a diogel lle mae pawb yn cyfrif.

Byddwn yn...
Datblygu gwell dealltwriaeth a chydnabyddiaeth o hawliau diwylliannol, gan gefnogi'r lles, y cyfleoedd a'r perthnasoedd rhwng pobl â nodweddion gwarchodedig.

Nodweddion Gwarchodedig Perthnasol: Pob un

Egwyddor Hawliau Dynol Perthnasol: Cyfranogiad, Plannu, Grymuso, Atebolrwydd, Peidio â gwahaniaethu

Ffrâm amser

Gweithred

Perchennog y Weithred

Mesur Llwyddiant

Blwyddyn 1

Mae'r Gwasanaethau Diwylliannol yn llunio strategaeth ddiwylliannol gydweithredol i gynrychioli hunaniaethau amrywiol. Bydd y cynllun cynhwysol hwn, a gyd-gynhyrchwyd gyda mewnbwn cymunedol, yn amlinellu gweithgareddau y gellir eu gweithredu a chanlyniadau mesuradwy. Mae'n diffinio diwylliant yn eang, gan gwmpasu'r celfyddydau, treftadaeth, creadigrwydd, chwaraeon a lles, digwyddiadau, twristiaeth a llyfrgelloedd.

Er mwyn cyflawni'r nod hwn, bydd y strategaeth ddiwylliannol yn cynnwys:

  • Pwysleisio hawliau diwylliannol.
  • Ffurfio neu gryfhau partneriaethau gya sefydliadau sy'n hyrwyddo hawliau diwylliannol.
  • Denu cymunedau i ddeall eu hanghenion.
  • Cynnwys hyrwyddo hawliau diwylliannol o fewn fframwaith monitro'r strategaeth.

Tracey McNulty

Prif swyddog: Nerys Evans

Cwblhau'r strategaeth ddiwylliannol.

Ffurfioli partneriaethau gyda sefydliadau hawliau diwylliannol perthnasol.

Cofnodion o adborth a mewnbwn cymunedol a gasglwyd yn ystod gweithgareddau ymgysylltu.

Sefydlu fframwaith gan gynnwys olrhain a mesur cynnydd ar hyrwyddo hawliau diwylliannol.

Blwyddyn 2

Gweithredu rhaglenni peilot sy'n cynnwys ystyriaeth ar gyfer hyrwyddo hawliau diwylliannol a lles. Gall cynlluniau peilot fod yn newydd, yn barhad neu'n esblygiad o raglenni cyfredol.

Tracey McNulty

Prif swyddog:Nerys Evans

Gweithredu a chwblhau rhaglenni peilot yn llwyddiannus.

Monitro a gwerthuso effeithiolrwydd rhaglenni peilot.Dadansoddiad o effaith rhaglenni peilot ar ddangosyddion hawliau diwylliannol a lles.
Addasu a mireinio strategaethau yn seiliedig ar adborth.Addasu a gwella strategaethau yn seiliedig ar ganfyddiadau gwerthuso.
Cynnal ymgysylltiad cymunedol i gyd-fynd ag anghenion a blaenoriaethau sy'n esblygu.Ymgysylltu parhaus a chyfranogiad cymunedau amrywiol mewn mentrau diwylliannol.

Blwyddyn 3

Cynyddu neu barhau â rhaglenni peilot llwyddiannus i gyrraedd poblogaethau mwy neu gymunedau ychwanegol.

Tracey McNulty

Prif swyddog: Nerys Evans

Cyrhaeddiad parhaus neu gynyddol ac effaith rhaglenni a mentrau hawliau diwylliannol.

Ehangu partneriaethau gyda sefydliadau a rhanddeiliaid sydd wedi ymrwymo i hyrwyddo hawliau diwylliannol.Twf yn nifer ac amrywiaeth partneriaethau sy'n cefnogi hyrwyddo hawliau diwylliannol.
Cryfhau strategaethau allgymorth i ymgysylltu â chymunedau heb wasanaethau digonol neu sydd wedi eu hymyleiddio.Gwell hygyrchedd a chynhwysiant gwasanaethau diwylliannol ar gyfer cymunedau sydd heb wasanaethau digonol.

Blwyddyn 4

Gwerthuso effaith ac effeithiolrwydd cyffredinol y strategaeth ddiwylliannol ar hawliau diwylliannol.

Tracey McNulty

Prif swyddog: Nerys Evans

Cwblhau adroddiad sy'n cofnodi canlyniadau ac effaith y strategaeth ddiwylliannol mewn perthynas â hawliau diwylliannol.

Adnabod meysydd cryfder a meysydd i'w gwella yn seiliedig ar ganfyddiadau.

Adnabod argymhellion y gellir eu gweithredu ar gyfer y dyfodol.

Datblygu cynllun cynaliadwyedd i sicrhau bod hawliau diwylliannol yn parhau i gael eu gweithredu drwy wasanaethau diwylliannol.

Cyfathrebu llwyddiannau a gwersi a ddysgwyd i randdeiliaid a'r gymuned ehangach.

Lledaenu canfyddiadau gwerthuso a straeon llwyddiant i godi ymwybyddiaeth a chefnogaeth ar gyfer mentrau hawliau diwylliannol.

Byddwn yn...
Ymwreiddio egwyddorion hawliau dynol ar draws ein gwaith, gan rymuso trigolion ac ymwelwyr Abertawe i gefnogi eu hawliau.

Nodweddion Gwarchodedig Perthnasol: Pob un

Egwyddor Hawliau Dynol Perthnasol: Cyfranogiad, Plannu, Grymuso, Atebolrwydd, Peidio â gwahaniaethu.

Ffrâm amser

Gweithred

Perchennog y Weithred

Mesur Llwyddiant

Blwyddyn 1

Cyfranogiad
Rhoi cyfle i bobl ddweud eu dweud ar strategaethau newydd pan fyddant yn cael eu creu neu eu hadnewyddu.

Hyrwyddo a defnyddio'r strategaeth gyd-gynhyrchu a'r pecyn cymorth yn llwyddiannus. (Fel yn y trydydd ymrwymiad neu "Byddwn..." isod).

Dysgu gan sefydliadau eraill sut y maent yn ymgynghori ac yn ymgysylltu'n llwyddiannus a rhannu ein profiad gyda nhw.

Grymuso
Rhoi'r wybodaeth sydd ei hangen ar bobl iddynt i ddylanwadu ar benderfyniadau sy'n effeithio arnyn nhw.

Parhau i roi gwybodaeth i drigolion ac ymwelwyr am eu Hawliau Dynol a pham eu bod yn bwysig yn eu bywydau bob dydd.

Plannu
Creu cynllun a ffordd ymlaen i ddatblygu pecyn dysgu i sicrhau bod gan ein harweinwyr a'n staff wybodaeth gyfredol am Hawliau Dynol a helpu i ddeall sut y gall fod o fudd i waith ein sefydliad.

Adolygu'r prosesau mewnol presennol o ran creu polisïau, gan sicrhau bod cysylltiadau penodol yn cael eu gwneud â Hawliau Dynol.

Sicrhau bod adnoddau ar gael i gefnogi a hyrwyddo Hawliau Dynol.

Atebolrwydd
Sefydlu panel Rhanddeiliaid Hawliau Dynol i weithredu fel cyfaill beirniadol ar gyfer ein gwaith Dinas Hawliau Dynol.

Cyhoeddi diweddariad blynyddol hygyrch sy'n dangos sut rydym wedi gweithio tuag at wireddu Hawliau Dynol yn Abertawe.

Darparu diweddariad cynnydd bob deufis i Fwrdd Cydraddoldeb Strategol a Chenedlaethau'r Dyfodol Cyngor Abertawe a bob tri mis i Grŵp Llywio Dinas Hawliau Dynol Abertawe.

Lee Wenham

Prif swyddog: Adele Dunstan a'r Bwrdd Cydraddoldeb Strategol a Chenedlaethau'r Dyfodol

Ymgysylltu ystyrlon ac ymgorffori adborth y cyhoedd yn ddilys mewn strategaethau terfynol.

Swyddogion polisi yn defnyddio cyd-gynhyrchu i greu strategaethau lle bo hynny'n briodol. Enghreifftiau o ymgysylltiad effeithiol a chynhwysol.

Arfer gorau wedi'i rannu ar draws sefydliadau.

Mae'r wybodaeth a roddir gan y Cyngor yn glir ac yn hawdd ei deall.

Parhau i ddosbarthu Hawliau i'r cyhoedd yn eich canllaw poced a chanllaw i sefydliadau ar ddull sy'n seiliedig ar Hawliau Dynol. Cymryd rhan a gwelededd mewn digwyddiadau ymgysylltu â'r cyhoedd.

Cytuno ar y cynllun a'r ffordd ymlaen.

Asesiad Effaith Integredig wedi'i ddiweddaru gyda iaith Hawliau Dynol a dull sy'n seiliedig ar Hawliau Dynol wedi'i gynnwys.

Swyddog ymroddedig yn cydlynu Hawliau Dynol o fewn y Cyngor.

Panel rhanddeiliaid amrywiol gyda'r cyfarfod cyntaf ym mis Rhagfyr 2024.

Cynhyrchu adroddiad hygyrch a'i gyflwyno i banel rhanddeiliaid Hawliau Dynol Abertawe a'i wneud yn  gyhoeddus, gyda bylchau wedi'u nodi.

Dadansoddir cynnydd, rhennir arfer gorau, nodir bylchau.

 

Peidio â gwahaniaethuCynnal statws Dinas Noddfa gan sicrhau bod egwyddorion Dinas Noddfa wedi'u hymgorffori yng ngwasanaethau'r Cyngor.

Carol Morgan
Prif swyddog: Helen Clancy

Cyflawni dyfarniad Dinas Noddfa Abertawe (yn adnewyddu 2024) am 3 blynedd.  Enghreifftiau o arfer da wedi'u nodi a'u cofnodi.

Blwyddyn 2

Fel yr uchod,

Gweithredu Ymrwymiadau HRC, nodi bylchau gyda phanel Rhanddeiliaid.

Plannu
Datblygu pecyn dysgu i sicrhau bod gan ein harweinwyr a'n staff wybodaeth gyfredol am Hawliau Dynol a helpu i ddeall sut y gall fod o fudd i waith ein sefydliad.

Peidio â gwahaniaethu

Sicrhau fod gan staff yr wybodaeth ddiweddaraf am y Ddeddf Cydraddoldeb a'r Ddeddf Hawliau Dynol a'u bod yn derbyn hyfforddiant rheolaidd i gynyddu eu hymwybyddiaeth o wahanol grwpiau o anghenion pobl. (fel yn yr ymrwymiad neu "Byddwn yn..." yn Amcan 6 ar y Gweithle).

Hyrwyddo asesiadau effaith integredig wedi'u diweddaru gyda'r agweddau Hawliau Dynol cryfach.

Lee Wenham

Prif swyddog: Adele Dunstan / Bwrdd Cydraddoldeb Strategol a Chenedlaethau'r Dyfodol

Bylchau wedi'u nodi a gweithredoedd wedi'u cynhyrchu.

Datblygu pecyn dysgu. 

Cynnal ein hadolygiad o becynnau hyfforddiant mewnol gydag Adnoddau Dynol.

Mae staff yn ymwybodol o asesiadau effaith integredig wedi'u diweddaru, ac fe'u defnyddir mewn ffordd ystyrlon.

Blwyddyn 3

Fel yr uchod,

Gweithredu Ymrwymiadau HRC, nodi bylchau gyda phanel Rhanddeiliaid.

Plannu
Hyrwyddo pecyn dysgu i sicrhau bod gan ein harweinwyr a'n staff wybodaeth gyfredol am Hawliau Dynol a helpu i ddeall sut y gall fod o fudd i waith ein sefydliad.

Lee Wenham

Prif swyddog: Adele Dunstan / Bwrdd Cydraddoldeb Strategol a Chenedlaethau'r Dyfodol

Bylchau wedi'u nodi a gweithredoedd wedi'u cynhyrchu.

Mae staff yn fedrus ac yn gwybod sut i ddefnyddio a gwreiddio dull sy'n seiliedig ar Hawliau Dynol wrth greu polisi.

Blwyddyn 4

Fel yr uchod

Gweithredu Ymrwymiadau HRC, nodi bylchau gyda phanel Rhanddeiliaid.

Lee Wenham

Prif swyddog: Adele Dunstan / Bwrdd Cydraddoldeb Strategol a Cheneldlaethau'r Dyfodol

Bylchau wedi'u nodi a gweithredoedd wedi'u cynhyrchu.

Byddwn yn...
Ymgynghori, ymgysylltu, a chynnwys ein cymunedau yn effeithiol wrth ddylunio a chyflawni ein polisïau a'n gwasanaethau i sicrhau eu bod yn diwallu anghenion pobl.

Nodweddion Gwarchodedig Perthnasol: Pob un

Egwyddor Hawliau Dynol Perthnasol: Cyfranogiad, Plannu, Grymuso, Atebolrwydd, Peidio â gwahaniaethu.

Ffrâm amserGweithredPerchennog y WeithredMesur Llwyddiant
Blwyddyn 1Hyrwyddo strategaeth a phecyn cymorth Cyd-gynhyrchu a mecanweithiau ymgysylltu eraill.

Bwrdd Cydraddoldeb Strategol a Chenedlaethau'r Dyfodol

Enghreifftiau o ymgysylltiad effeithiol a chynhwysol.
Blwyddyn 2Adrodd ar lwyddiant a nodi unrhyw fylchau, Bwrdd i gefnogi bylchau.

Bwrdd Cydraddoldeb Strategol a Chenedlaethau'r Dyfodol

Fel yr uchod
Blwyddyn 3Fel yr uchod.

Bwrdd Cydraddoldeb Strategol a Chenedlaethau'r Dyfodol

Fel yr uchod
Blwyddyn 4Fel yr uchod.

Bwrdd Cydraddoldeb Strategol a Chenedlaethau'r Dyfodol

Fel yr uchod
Byddwn yn...
Datblygu a chyflawni strategaeth sgiliau Cymraeg gan sicrhau bod ysgolion yn cael eu cefnogi i ddatblygu sgiliau dysgwyr, fel y gallant siarad Cymraeg yn hyderus pan fyddant yn gadael yr ysgol.

Nodweddion Gwarchodedig Perthnasol: Oedran, yr Iaith Gymraeg.

Egwyddor Hawliau Dynol Perthnasol: Cyfranogiad, Plannu, Grymuso, Atebolrwydd, Peidio â gwahaniaethu.

Ffrâm amserGweithredPerchennog y WeithredMesur Llwyddiant
Blwyddyn 1

Cyflawni'r blaenoriaethau a nodir yng nghynllun cyflawni'r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (WESP).

Datblygu strategaeth i gefnogi ysgolion i hyrwyddo addysgeg effeithiol mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg a Saesneg.

Datblygu cynigion ar gyfer ehangu nifer y lleoedd cyfrwng Cymraeg sydd ar gael yn yr awdurdod lleol.

Cyflawni strategaeth farchnata sy'n hyrwyddo manteision bod yn ddwyieithog ac addysg cyfrwng Cymraeg.

Cyflawni camau o'r cynllun cyflawni i greu mwy o leoedd i blant meithrin/plant tair oed i dderbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg.

Cyflawni camau o'r cynllun cyflawni i greu mwy o leoedd i blant Derbyn/plant pump i oed dderbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg.

Cyflawni camau gweithredu o'r cynllun cyflawni i sicrhau bod mwy o blant yn parhau i wella eu sgiliau iaith Gymraeg wrth drosglwyddo o un cyfnod o'u haddysg statudol i un arall.

Cyflawni camau gweithredu o'r cynllun cyflawni i sicrhau bod mwy o ddysgwyr yn astudio ar gyfer cymwysterau asesedig yn y Gymraeg (fel pwnc) ac mewn pynciau drwy gyfrwng y Gymraeg.

Cyflawni camau gweithredu o'r cynllun cyflawni i greu mwy o gyfleoedd i ddysgwyr ddefnyddio'r Gymraeg mewn gwahanol gyd-destunau yn yr ysgol. 

Cyflawni camau gweithredu o'r cynllun cyflawni i sicrhau cynnydd yn narpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg i ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol. 

Cyflawni camau gweithredu o'r cynllun cyflawni i gynyddu nifer y staff addysgu sy'n gallu addysgu'r Gymraeg (fel pwnc) ac addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.

Rhodri Jones

Prif swyddog(ion): Sarah Hughes, David Thomas a Nia Ward

Canran yr ysgolion sy'n gweithredu rhaglen Siarter Iaith a lefelau hyfedredd dysgwyr yn y Gymraeg sy'n cael eu mesur wrth iddynt symud ar hyd y continwwm iaith.

Cynnydd yng nghanran y dysgwyr/teuluoedd sy'n dewis addysg cyfrwng Cymraeg yn y Meithrin a'r Derbyn.

Cyfraddau cadw plant mewn addysg Gymraeg o'r cynradd i'r uwchradd.

Data asesu sy'n dangos gwelliant mewn hyfedredd iaith Gymraeg ar draws gwahanol gyfnodau addysg.

Adborth gan athrawon ar effeithiolrwydd rhaglenni pontio i gefnogi datblygiad yr iaith Gymraeg.

Cynnydd yn nifer y dysgwyr sy'n dewis cymwysterau wedi'u hasesu mewn pynciau Cymraeg.

Cynnydd yn argaeledd pynciau a addysgir drwy gyfrwng y Gymraeg.

Cynnydd mewn gweithgareddau a chlybiau allgyrsiol lle defnyddir y Gymraeg.

Cynnydd mewn addysgu a chymorth arbenigol drwy gyfrwng y Gymraeg i ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol.

Cynnydd yn nifer yr athrawon sy'n cwblhau hyfforddiant neu ddatblygiad proffesiynol mewn addysgu'r Gymraeg.

Blwyddyn 2Fel yr uchod

Rhodri Jones

Prif swyddog(ion): Sarah Hughes, David Thomas a Nia Ward

Fel yr uchod
Blwyddyn 3Fel yr uchod

Rhodri Jones

Prif swyddog(ion): Sarah Hughes, David Thomas a Nia Ward

Fel yr uchod
Blwyddyn 4As above

Rhodri Jones

Prif swyddog(ion): Sarah Hughes, David Thomas a Nia Ward

Fel yr uchod

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 21 Hydref 2024