Toglo gwelededd dewislen symudol

Mae angen ID ffotograffig er mwyn pleidleisio

Bydd angen i bleidleiswyr yng Nghymru ddangos ID ffotograffig er mwyn pleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio ar gyfer rhai etholiadau.

Etholiadau y bydd arnoch angen ID ffotograffig ar eu cyfer

  • Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu
  • Is-etholiadau Senedd y DU
  • Deisebau adalw
  • Etholiadau cyffredinol Senedd y DU

Ni fydd yn rhaid i bleidleiswyr yng Nghymru ddangos ID ffotograffig wrth bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio yn etholiadau'r Senedd neu mewn etholiadau cynghorau lleol.

Beth gallwch ei ddefnyddio fel ID ffotograffig

  • pasbort y Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd neu'r Gymanwlad
  • trwydded yrru'r Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd neu'r Gymanwlad
  • rhai pasys teithio rhatach megis pas bws person hŷn neu gerdyn Oyster 60+

Gellir dod o hyd i restr lawn yn: Sut i bleidleisio: prawf adnabod ffotograffig angenrheidiol (GOV.UK) (Yn agor ffenestr newydd)

Bydd modd i bleidleiswyr ddefnyddio ID nad yw'n gyfredol os oes dal modd eu hadnabod o'u llun.

Beth i'w wneud os nad oes gennych ID ffotograffig

Bydd unrhyw un nad oes ganddynt ID a dderbynnir yn gallu gwneud cais am ID yn rhad ac am ddim (Tystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr) drwy fynd i: Cyflwynwch gais am ddull adnabod â llun i bleidleisio (GOV.UK) (Yn agor ffenestr newydd)

Rhagor o wybodaeth