Toglo gwelededd dewislen symudol

IRONMAN 70.3 Abertawe

Cynhelir treiathlon IRONMAN 70.3 Abertawe ddydd Sul 14 Gorffennaf 2024

Ironman Swansea

Ironman Swansea
 

Gall athletwyr a gwylwyr ddisgwyl llwybr gwych mewn cyrchfan rasys sy'n cynnig golygfeydd godidog gyda'r dociau hanesyddol, penrhyn Gŵyr, bryniau tonnog gwyrdd, porfeydd ac amaethyddiaeth gyfoethog Abertawe wledig. Gall athletwyr a'u teuluoedd a'u ffrindiau hefyd fwynhau'r golygfeydd ar hyd glannau eang Bae Abertawe, y Mwmbwls a phenrhyn hardd Gŵyr.

Bydd athletwyr sy'n cymryd rhan yn IRONMAN 70.3 Abertawe'n nofio 1.2 milltir (1.9km) yn Noc Tywysog Cymru cyn beicio ar hyd cwrs un ddolen 56 milltir o hyd (90km). Bydd athletwyr yn beicio drwy'r Mwmbwls ar hyd ffyrdd sy'n cadw at glogwyni arfordirol Gŵyr cyn beicio drwy Abertawe wledig ac yna ar hyd Bae Abertawe i'r ddinas. O fan hyn, byddant yn dychwelyd i Abertawe wrth iddynt baratoi ar gyfer trosglwyddo yn yr Ardal Forol wrth ymyl yr Afon Tawe. Yn olaf, bydd athletwyr yn dilyn cwrs rhedeg dwy ddolen 13.1 milltir (21.1km) sy'n mynd â nhw o ganol y ddinas, heibio Arena lliw aur trawiadol newydd Abertawe, tuag at y Mwmbwls cyn mynd yn ôl tuag at y llinell derfyn yn y Marina.

Rhagor o wybodaeth (Yn agor ffenestr newydd)

Cau ffyrdd ar gyfer Ironman 70.3 Abertawe

Close Dewis iaith