Toglo gwelededd dewislen symudol

Lleoliadau chwaraeon eraill

Mae nifer o leoliadau eraill yn Abertawe sy'n darparu cyfleusterau gwych ar gyfer amrywiaeth o chwaraeon.

Leisure and Sports Centres (IS)
Pwll Cenedlaethol Cymru Abertawe (Yn agor ffenestr newydd)

Mae Pwll Cenedlaethol Cymru'n cynnwys pwll 50m llawn, a phwll 25m ac mae'n darparu amrywiaeth o gyrsiau a gwersi.

 

Clwb Bowls Dan Do Abertawe (Yn agor ffenestr newydd)

Mae gan y clwb bowls nifer o leiniau, oriel wylio, caffi a bar, a hefyd maes parcio am ddim. Mae hefyd yn cynnal cystadlaethau rhyngwladol yn aml.

 

Canolfan Tenis Abertawe (Yn agor ffenestr newydd)

Mae'r Ganolfan Tenis yn cynnwys nifer o gyrtiau dan do ac awyr agor o safon, a hefyd gampfa newydd sbon. 

 

Canolfan Chwaraeon Pentrehafod a Pwll Nofio

Cyfleuster lleol yn cynnig rhaglen amrywiol o weithgareddau i'r holl deulu. Rheolir Neuadd Chwaraeon a Phwll Nofio Pentrehafod gan y cyngor.

Dod o Hyd i Ni
Ysgol Gyfun Pentrehafod, Heol Pentremawr, Yr Hafod, Abertawe SA1 2NN

Ffôn: Neuadd Chwaraeon 01792 455387
Pwll Nofio 01792 641935
Ymholiadau yn Ystod y Dydd 01792 588079

 

adiZone

Ychwanegwyd y cyfleuster aml-gamp at Ganolfan Chwaraeon Pentrehafod fel rhan o Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain 2012.

AdiZone yw enw'r cyfleuster aml-gamp, a ddyluniwyd ar ffurf logo Llundain 2012, a chafodd ei greu gan Adidas ar gyfer gemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain 2012.

Mae'r adiZone yn cynnwys:

  • campfa awyr agored fawr,
  • man pêl-fasged,
  • man pêl-droed,
  • wal ddringo,
  • wal adlam tenis a
  • man dull rhydd ar gyfer aerobeg, dawns a chrefft ymladd.

 

Amcanion adiZone
Nod y cyfleuster gwych hwn yw creu cyfleoedd chwaraeon a gweithgareddau corfforol ac annog pobl ifanc a theuluoedd i gymryd rhan ynddynt. Mae'r cyfleuster am ddim i bawb ei ddefnyddio, gan ei wneud yn hygyrch i bawb.

Bydd y cyfleuster yn dod ag ysgolion, clybiau a chymunedau lleol at ei gilydd.

Cwblhau Prosiect
Mae adiZone bellach wedi'i gwblhau a gellir defnyddio'r cyfleusterau yno.

Close Dewis iaith