Canolfannau hamdden a chwaraeon Abertawe
Mae gan Abertawe nifer o ganolfannau hamdden a chwaraeon ar draws y ddinas. Mae ein holl ganolfannau hamdden a chwaraeon mawr yn cael eu rheoli gan ein partner Freedom Leisure sy'n cynnig amrywiaeth eang o weithgareddau, cyfleusterau ac opsiynau aelodaeth.

Canolfan Chwaraeon Llandeilo Ferwallt
P'un a ydych am gadw'n heini ar yr offer newydd yn y gampfa, mwynhau gyda ffrindiau mewn dosbarth ymarfer corff i grŵp, neu drefnu parti penblwydd i'ch plentyn, mae digon o ddewis ac amrywiaeth yn Llandeilo Ferwallt. Rheolir Canolfan Chwaraeon Llandeilo Ferwallt gan ein partner Freedom Leisure.
Canolfan Hamdden Cefn Hengoed
Mae amrywiaeth o ddosbarthiadau ymarfer corff ac ystafell ffitrwydd llawn cyfarpar ar gael yng Nghefn Hengoed. Mae hefyd nifer o gaeau chwaraeon, neuadd amlbwrpas a champfa. Rheolir Canolfan Hamdden Cefn Hengoed gan ein partner Freedom Leisure.
Canolfan Hamdden Treforys
Pwll 25 metr, clwb rhedeg i fenywod poblogaidd, rhaglen ffitrwydd wych i oedolion, yn ogystal â chyfarpar ffitrwydd penigamp yn y gampfa a llawer o weithgareddau i blant hefyd. Rheolir Canolfan Hamdden Treforys gan ein partner Freedom Leisure.
Canolfan Hamdden Pen-lan
Mae Canolfan Hamdden Pen-lan yn gyfleuster cymunedol arbennig gyda phwll nofio wyth lôn gwych, amrywiaeth eang o ddosbarthiadau ffitrwydd a champfa sy'n llawn y cyfarpar diweddaraf. Rheolir Canolfan Hamdden Penlan gan ein partner Freedom Leisure.
Canolfan Hamdden Penyrheol
Mae Canolfan Hamdden Penyrheol yn cynnig rhaglen ffitrwydd helaeth ar gyfer oedolion a phobl ifanc. Mae hefyd yn cynnig rhaglen nofio ac mae cyrtiau sboncen ar gael i'w llogi, yn ogystal â nifer o gyfleusterau chwaraeon eraill. Rheolir Canolfan Hamdden Penyrheol gan ein partner Freedom Leisure.
Yr LC
Yn gartref i barc dŵr dan do mwyaf Cymru, mae gan yr LC hefyd beiriant syrffio dan do, wal ddringo dan do, neuadd chwaraeon, campfa a sba. Rheolir yr LC gan ein partner Freedom Leisure.
Neuadd Chwaraeon a Phwll Nofio Pentrehafod
Cyfleuster lleol sy'n cynnig rhaglen amrywiol o weithgareddau i'r holl deulu.
Pwll Cenedlaethol Cymru Abertawe
Mae Pwll Cenedlaethol Cymru Abertawe'n cynnig pwll nofio 50 metr o'r radd flaenaf yn ogystal â phwll hyfforddi 25 metr. Mae'n darparu ar gyfer amrywiaeth o alluoedd nofio, ac mae gwersi a sesiynau hyfforddi ar gael.
Canolfan Tenis Abertawe
Mae'r ganolfan tennis yn cynnig nifer o gyrtiau dan do ac yn yr awyr agored o ansawdd uchel, yn ogystal â champfa.
Clwb Bowls Dan Do Abertawe
Mae stadiwm bowls dan do Abertawe'n cynnig chwe llain, oriel wylio fawr, caffi, bar ac ystafell achlysuron, yn ogystal â digon o fannau parcio am ddim.
Map o ganolfannau hamdden a chwaraeon
Map sy'n dangos lleoliadau canolfannau hamdden a chwaraeon.
Dewis iaith
Addaswyd diwethaf ar 22 Medi 2025