Toglo gwelededd dewislen symudol

Datganiadau i'r wasg Mawrth 2023

Ceisiadau bellach ar agor ar gyfer pecyn ariannu gwerth £16.2m

Mae sefydliadau yn Abertawe'n cael eu gwahodd i wneud cais am gyllid o hyd at £16.2 miliwn.

Arweiniad i helpu sefydliadau i hyrwyddo hawliau dynol

Mae arweiniad newydd bellach ar gael i sefydliadau yn Abertawe sydd am gael rhagor o wybodaeth am hawliau dynol a sut y gallent eu rhoi ar waith a'u hyrwyddo yn eu gweithgareddau o ddydd i ddydd.

Rhagor o gymorth i deuluoedd y ddinas yng nghyllideb y cyngor

Mae rhagor o ardaloedd chwarae cymunedol, gwasanaethau bysus am ddim yn ystod y gwyliau ysgol a phrydau ysgol am ddim i fwy o blant yn yr arfaeth ar gyfer Abertawe dros y misoedd i ddod.

Pobl Abertawe'n agor eu 'cartrefi a'u calonnau' i ffoaduriaid Wcráin

Mae dros 100 o aelwydydd yn Abertawe'n noddi ffoaduriaid y bu'n rhaid iddynt adael y gwrthdaro yn eu mamwlad ar hyn o bryd, fel y gall menywod, plant a theuluoedd gael llety diogel ac addas - ond mae angen mwy o noddwyr arnom.

Tenantiaid i elwa o fuddsoddiad mewn cartrefi cynhesach

Mae cymunedau ar draws Abertawe wedi bod yn elwa o ddegau ar filiynau o bunnoedd o fuddsoddiad i helpu i foderneiddio'u cartrefu a'u cadw'n gynnes.

Côr Heneiddio'n Dda newydd eisoes yn taro'r nodyn iawn

Mae côr newydd a ffurfiwyd i annog pobl hŷn i adael y tŷ a chymdeithasu eisoes yn taro'r nodyn iawn.

Chwifio baner paradreiathlon Cymru â balchder cyn i'r digwyddiad ddychwelyd i Abertawe

Mae athletwr rhyngwladol a enillodd ddigwyddiad mawr yn Abertawe y llynedd wedi siarad am sut mae chwaraeon wedi'i helpu ar ôl iddo gael anafiadau a newidiodd ei fywyd mewn gwrthdrawiad traffig ar y ffordd.

Gŵyl Croeso'n llwyddiant ysgubol

Daeth miloedd o bobl i ddathliad blynyddol Abertawe o bopeth Cymreig - Croeso.

Maen nhw'n ôl! Mae'r Red Arrows yn dychwelyd i Abertawe

​​​​​​​Bydd tîm Red Arrows byd enwog yr RAF yn dychwelyd i Abertawe i ddiddanu'r dorf yn Sioe Awyr Cymru'r haf hwn.

Peidiwch â cholli'r cyfle i gael haf llawn blodau

Does dim llawer o amser ar ôl i'r preswylwyr hynny sydd am sicrhau bod ganddynt erddi lliwgar yr haf hwn, gydag ychydig o gymorth gan wasanaeth basgedi crog enwog Cyngor Abertawe.

Rhwystr ieithyddol yn cael ei chwalu wrth i awduron gyflwyno gwobrau

Mae awdur a darlunydd o Abertawe wedi rhoi gwên mawr ar wyneb plant diolch i gystadleuaeth a gynhaliwyd gan wasanaeth llyfrgelloedd Cyngor Abertawe.

Dewch i fwynhau awyr iach yn un o'n trysorau gwyrdd

Os nad ydych chi wedi ymweld ag un o drysorau gwyrdd Abertawe ym Mharc Gwledig Clun ers sbel, dyma'r amser i fynd.
Close Dewis iaith