Toglo gwelededd dewislen symudol

Paratoi ar gyfer Argyfyngau

Gall argyfyngau effeithio ar unrhyw un gydag ychydig neu ddim rhybudd. Gall paratoi helpu i leihau'r effeithiau ar fywydau pobl, lleihau'r angen am gefnogaeth gan eraill a'ch galluogi i gefnogi aelodau diamddiffyn eich stryd a'ch cymuned.

Gall argyfyngau megis llifogydd, tân, ffrwydradau nwy a bygythiadau o fom olygu bod yn rhaid i chi adael eich cartref am gyfnodau byr. Nid yw digwyddiadau eraill megis tarfu ar y gwasanaethau hanfodol rydym yn dibynnu arnynt (megis dŵr, trydan, telathrebu a rhwydweithiau teithio) neu fod yn sownd oherwydd tywydd garw neu salwch bob amser yn argyfwng, ond gallant effeithio ar ein bywydau bob dydd.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am sut i baratoi ar-lein yn Prepare (GOV.UK) (Yn agor ffenestr newydd)

P'un a ydych chi'n aros neu'n gadael, bydd pacio cit argyfwng bach yn eich helpu. Cadwch y cit mewn man diogel yn eich cartref lle gallwch ei gyrraedd yn hawdd: Cynllun argyfwng ar gyfer yr aelwyd (Word doc, 70 KB)

4 prif berygl yn ein hardal

Mae risgiau'n rhan anochel o fywyd pob dydd ond mae rhai risgiau'n fwy amlwg na rhai eraill. Rydym wedi nodi'r risgiau canlynol fel blaenoriaeth ar gyfer ardal Abertawe. Nid yw hyn yn golygu y byddant yn digwydd, ond rydym yn gwybod y gallant ddigwydd ac rydym wedi rhoi trefniadau ar waith i leihau eu heffaith ar y gymuned a'r amgylchedd.

1. Pandemig

Rydym wedi dysgu cymaint yn ystod y pandemig. Gwnaeth bob un ohonom newidiadau i'r ffordd rydyn ni'n gweithio, byw a chymdeithasu, i amddiffyn ein gilydd ac i gadw Cymru'n ddiogel.  Gellir defnyddio'r newidiadau hyn i'n hamddiffyn rhag y Coronafeirws yn y dyfodol, ond hefyd rhag heintiau resbiradol eraill fel y ffliw a norofeirws.

Os ydym i gyd yn parhau gyda'r ymddygiadau amddiffynnol canlynol, gallwn barhau i gadw ein gilydd a Chymru'n ddiogel:

  • ewch i gael eich brechu
  • cynnal hylendid dwylo da
  • os oes gennych unrhyw symptomau ffliw, arhoswch gartref a chyfyngwch ar eich cysylltiad ag eraill
  • dylech gwrdd â phobl eraill yn yr awyr agored os yw'n bosib
  • pan fyddwch dan do, dylech gynyddu'r awyriad a gadael awyr iach i mewn

I gael rhagor o wybodaeth a chyngor, ewch i wefan GIG 111 Cymru (Yn agor ffenestr newydd) neu ffoniwch 111.

2. Llifogydd

Cyn llifogydd

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am sut i baratoi ar-lein yn: Paratoi ar gyfer llifogydd (Cyfoeth Naturiol Cymru) (Yn agor ffenestr newydd)

Gwiriwch eich perygl llifogydd 

Gallwch ddarganfod y perygl llifogydd yn eich ardal drwy ddefnyddio'r gwasanaeth 'Gweld eich risg llifogydd yn ôl côd post' neu drwy edrych ar y map ar-lein yn Llifogydd (Cyfoeth Naturiol Cymru) (Yn agor ffenestr newydd). Neu cysylltwch ag Ymholiadau Cyffredinol Cyfoeth Naturiol Cymru drwy ffonio 0300 065 3000 neu e-bostio ymholiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk i ofyn am gopi caled.

Cofrestrwch i dderbyn rhybuddion llifogydd

Gallwch gofrestru i dderbyn rhybuddion llifogydd ar gyfer llifogydd o afonydd neu'r môr am ddim ar-lein yn Llifogydd (Cyfoeth Naturiol Cymru) (Yn agor ffenestr newydd) neu ffoniwch Floodline ar 0345 988 1188.

Beth i'w wneud os ydych chi ar fin dioddef llifogydd

  1. Paratowch i symud pobl ac anifeiliaid anwes yn eich eiddo i le diogel.
  2. Symudwch eitemau pwysig, , gwerthfawr a rhai â gwerth personol.
  3. Symudwch neu ychwanegwch bwysau at unrhyw eitemau mawr neu rydd yn yr awyr agored neu yn eich gardd.
  4. Rhowch gatiau llifogydd ac offer diogelu eraill ar waith.
  5. Diffoddwch gyflenwadau nwy, trydan a dŵr.
  6. Peidiwch â chyffwrdd â phlygiau a ffynonellau trydan eraill wrth sefyll mewn dŵr llifogydd.
  7. Symudwch eich car i dir uwch neu y tu allan i'r ardal perygl llifogydd.

Helpwch i atal dŵr rhag dod i mewn i'ch eiddo

  1. Rhwystrwch ddŵr sy'n dod i mewn trwy ddrysau a ffenestri gyda chlustogau neu fagiau plastig wedi'u llenwi â phridd neu wrthrychau trwm.
  2. Gorchuddiwch briciau awyru a thyllau awyru.
  3. Rhwystrwch sinciau, baddonau a thoiledau a gosodwch wrthrychau trwm arnynt.
  4. Datgysylltwch beiriannau golchi a pheiriannau golchi llestri o'r cyflenwadau dŵr a thrydan.
  5. Rhwystrwch fewnbibellau dŵr gyda thyweli neu frethynnau.

Lleihau difrod os bydd dŵr yn dod i mewn i'ch eiddo

  1. Symudwch rygiau ac eitemau ysgafn o ddodrefn.
  2. Taflwch eich llenni dros y rheilen, yn bell o'r llifddwr. 
  3. Codwch eitemau na allwch eu symud gyda briciau neu baled a gorchuddiwch y gwaelod gyda phlastig.

Cyngor ar lifogydd Cyngor ar lifogydd

3. Tywydd garw

Gall tywydd garw amharu ar ein bywydau bob dydd ac mae gwahanol fathau o dywydd garw gan gynnwys eira, rhew, glaw trwm, gwyntoedd cryfion, niwl a thywydd poeth.

Yn y cyfnod cyn ac yn ystod tywydd garw, bydd y Swyddfa Dywydd yn cyhoeddi ac yn diweddaru rhybuddion o dywydd garw ar ei gwefan. Mae Gwasanaeth Rhybudd o Dywydd Garw Cenedlaethol y Swyddfa Dywydd yn cyhoeddi rhybuddion melyn, ambr a choch, sy'n cynghori pryd i fod yn ymwybodol, pryd i fod yn barod a phryd i weithredu. Gellir dod o hyd i ragolygon manwl a chyngor ar wefan y Swyddfa Dywydd (Yn agor ffenestr newydd) ac ar ei ap ffonau symudol, neu gallwch eu dilyn ar Facebook. Bydd marchnadoedd newyddion lleol yn darparu'r wybodaeth ddiweddaraf am y tywydd ac unrhyw darfu ar ffyrdd ac i gludiant cyhoeddus ac ysgolion.

Tywydd oer iawn

Yn ystod misoedd y gaeaf, mae'n bwysig eich bod chi'n barod:

  1. Gwiriwch fod eich cerbyd yn barod ar gyfer y gaeaf. Yn ystod eira ac amodau rhewllyd, dylech yrru pan fo'n angenrheidiol yn unig ond os oes angen i chi yrru, dilynwch restr wirio gyrru yn ystod y gaeaf yr RAC (Yn agor ffenestr newydd) i sicrhau bod eich cerbyd yn barod.
  2. Gwnewch gynlluniau amgen ar gyfer gofal plant yn ystod tywydd eithafol rhag ofn y bydd rhaid i feithrinfa neu ysgol eich plentyn gau.
  3. Gwiriwch fod eich gwres yn gweithio'n iawn a sicrhewch fod gennych fynediad at gyflenwadau tanwydd digonol, yn enwedig os ydych chi'n dibynnu ar gyflenwadau olew, nwy petrolewm hylifedig neu bren. Gall tywydd oer fod yn risg i'ch iechyd, yn enwedig os ydych chi dros 65 oed neu os oes gennych gyflyrau iechyd felly dylid cynhesu'ch cartref i 18 gradd Celsius.
  4. Pan fydd hi'n oer, gwisgwch sawl haen denau o ddillad i ddal gwres y corff yn hytrach nag un haen drwchus a gwisgwch ddillad wedi'u gwneud o gotwm, gwlân neu ddeunyddiau cnuog i gynnal gwres y corff. Cofiwch wisgo het os ewch chi allan yn yr awyr agored - mae llawer o wres y corff yn cael ei golli o'r pen.
  5. Mae toriadau pŵer yn fwy tebygol yn ystod y gaeaf felly gwnewch yn siŵr fod gennych gyflenwad o dortshis a/neu lusernau gwersylla ar gyfer goleuadau brys, popty nwy gwersylla neu ddulliau eraill o goginio os ydych chi'n dibynnu'n llwyr ar drydan a radio wedi'i bweru gan fatri (sicrhewch fod gennych chi fatris newydd) er mwyn derbyn bwletinau gwybodaeth radio lleol rheolaidd.

Tywydd poeth iawn

Ond mae angen i chi baratoi ar gyfer mwy na'r tywydd oer yn unig. Mae cyfnodau hir o dywydd poeth iawn yn peri risgiau iechyd difrifol a gall cysylltiad eithafol â thymereddau uchel ladd. Mae'r rhai sydd fwyaf agored i niwed yn cynnwys pobl hŷn, plant ifanc iawn  a phobl â chyflyrau meddygol sydd eisoes yn bodoli.

Mae nifer o gamau y gallwch eu cymryd i atal eich hun, eich teulu neu eich ffrindiau rhag mynd yn sâl yn ystod tywydd poeth:

Cadwch allan o'r gwres:

  • ceisiwch aros dan do, yn enwedig rhwng hanner dydd a 3pm.
  • dylech osgoi gweithgareddau awyr agored egnïol fel chwaraeon, DIY neu arddio. Os nad yw hyn yn bosib, gwnewch hynny yn ystod cyfnodau oerach y dydd.
  • defnyddiwch eli haul er mwyn helpu i atal llosgi yn yr haul, gwisgwch grys-t neu ddillad llac eraill a gwisgwch het i gysgodi eich pen a sbectol haul i amddiffyn eich llygaid.

Dadgynhesu:

  • yfwch ddigon o ddŵr, o leiaf wyth gwydraid y dydd. Dylech osgoi alcohol, te neu goffi oherwydd gallant eich gwneud yn ddadhydradedig.
  • cymerwch faddon neu gawod oer neu sblasiwch eich wyneb gyda dŵr oer i'ch oeri.
  • gall gwyntyllau trydan ddarparu rhywfaint o ryddhad, ond dylech eu defnyddio os oes angen yn unig.
  • cadwch ystafelloedd yn y cysgod ac yn oer trwy gau bleindiau a llenni ac agor ffenestri ac arhoswch yn rhannau oeraf yr adeilad gymaint â phosibl

Cadwch lygad ar bobl eraill:

  • cadwch lygad ar bobl ynysig, oedrannus, sâl neu ifanc iawn a sicrhewch eu bod yn gallu cadw'n oer.
  • sicrhewch nad yw babanod, plant neu bobl oedrannus yn cael eu gadael ar eu pennau eu hunain mewn ceir llonydd.
  • cadwch lygad ar gymdogion oedrannus neu sâl, teulu neu ffrindiau bob dydd os yw'n bosib.
  • byddwch yn effro a ffoniwch feddyg neu'r gwasanaethau cymdeithasol os oes rhywun yn teimlo'n sâl neu os oes angen cymorth pellach.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth a chyngor ar effeithiau tywydd eithafol ar iechyd ar: Y Tywydd ac Iechyd (Iechyd Cyhoeddus Cymru) (Yn agor ffenestr newydd)

4. Damweiniau diwydiannol

Mae nifer o safleoedd diwydiannol mawr yn ardal Abertawe a gallai damwain yn un o'r lleoliadau hyn gael effaith ar y bobl yn y cyffiniau agos. Os ydych chi'n byw neu'n gweithio'n agos at un o'r safleoedd diwydiannol hyn, dylech dderbyn gwybodaeth o'r safle'n rheolaidd i'ch cynghori ar y camau i'w cymryd os bydd damwain a sut y byddwch chi'n cael gwybod os bydd damwain yn digwydd.

Yn gyffredinol, mae'r cyngor i'w ddilyn os oes damwain ar safle diwydiannol mawr fel a ganlyn:

  1. Ewch i mewn i dŷ neu adeilad yn syth ac arhoswch dan do nes eich bod yn clywed neges fod popeth yn glir.
  2. Caewch yr holl ddrysau a ffenestri allanol, diffoddwch systemau gwres canolog ac awyru. 
  3. Arhoswch yn yr ystafell sydd bellaf o'r safle diwydiannol, yn ddelfrydol i fyny'r grisiau.
  4. Gwrandewch ar newyddion lleol i dderbyn gwybodaeth a'r diweddaraf. 
  5. Peidiwch â ffonio'r gwasanaethau brys oni bai bod gennych argyfwng meddygol, gan fod angen cadw'r llinellau ffôn yn glir.
  6. Gellir gofyn am gyngor meddygol cyffredinol drwy ffonio 111 neu drwy ymweld â gwefan GIG 111 Cymru (Yn agor ffenestr newydd).

Manylion cyswllt defnyddiol

Ar gyfer unrhyw argyfwng lle mae perygl i fywyd, ffoniwch 999 ar unwaith. 

Cysylltiadau brys Cysylltiadau brys

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 27 Mawrth 2025