Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Prosiect amddiffyn arfordir y Mwmbwls - cwestiynau cyffredin

Cwestiynau cyffredin am y gwaith sy'n cael ei wneud ar amddiffynfeydd morol y Mwmbwls.

 

Cefndir

Pam mae angen amddiffynfa fôr well ar y Mwmbwls? 

Rydym am amddiffyn cymuned ac eiddo'r Mwmbwls rhag llifogydd er budd preswylwyr, busnesau ac ymwelwyr yn awr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Heb amddiffynfeydd môr newydd bydd y perygl o lifogydd yn dal i gynyddu.

Mae newid yn yr hinsawdd yn gwneud i lefelau'r môr godi - ac mae hynny'n golygu siawns uwch o lifogydd i rai pobl a busnesau sydd yn agos at lan môr y Mwmbwls.

Ar gyfer y cynllun hwn, aseswyd cyflwr yr amddiffynfeydd presennol, y tueddiadau llanw disgwyliedig, problemau amgylcheddol a sut y gellid adeiladu amddiffynfeydd newydd. Gwnaethom werthuso cyfres o opsiynau a chostau. O ganlyniad i hynny, ein hymagwedd yw cyflwyno cynllun a fydd yn lleihau'r perygl o lifogydd yn sylweddol dros y ganrif nesaf ac a fydd yn ategu'r prom poblogaidd.

Pwy sy'n dweud y gallai rhannau o'r Mwmbwls orlifo? Ble mae'r dystiolaeth?

Mae'n ffaith bod lefelau'r môr yn codi oherwydd newid yn yr hinsawdd. Darparodd ymchwil a wnaed gan Arup Consulting ar ein rhan yn 2017 a 2018 dystiolaeth fod nifer o eiddo'r Mwmbwls mewn perygl o lifogydd oherwydd lefelau môr cynyddol nawr a thros y blynyddoedd nesaf.

Mae'r prom yn eithaf isel, ac mae'n eithaf cyffredin i ni brofi dŵr y môr ar y droedffordd. Yn ystod cyfnodau llanwau uchel, rydym yn aml wedi rhoi "boncyffion atal" ar draws agoriadau yn waliau'r meysydd parcio sydd wedi'u gosod ychydig yn ôl o'r morglawdd. Cost flynyddol gyfartalog y mesur atal llifogydd eilaidd anffurfiol hwn oedd tua £10,000, gyda'r boncyffion atal yn cael eu defnyddio tua deg gwaith y flwyddyn.

Oes rhaid gwella'r morglawdd mewn gwirionedd?

Oes! Er ein bod yn gwneud gwaith cynnal a chadw parhaus, mae'r morglawdd mewn cyflwr gwael oherwydd ei oedran - mae craciau sylweddol ynddo, mae rhannau o sylfeini'r morglawdd wedi'u dadorchuddio ac mae posibilrwydd y gallai'r morglawdd fethu mewn storm fawr.

Mae uchder presennol y wal hefyd yn rhy isel i atal digwyddiadau dŵr a ragwelir oherwydd newid yn yr hinsawdd rhag dod dros ben yr amddiffynfeydd. Mae prif garthffosydd yn rhedeg o dan y prom, sy'n cael ei gadw gan yr amddiffynfeydd; gallai methiant y morglawdd niweidio'r amgylchedd naturiol yn ogystal â chartrefi a busnesau.

Beth yn union sydd mewn perygl?

Cartrefi, busnesau, cyfleusterau cymunedol, adnoddau'r cyngor (wrth i ni gynnal a chadw ac atgyweirio'r hen amddiffynfeydd presennol) a'r incwm a geir o dwristiaeth ar gyfer yr ardal. Cyn i ni ddechrau ar y cynllun hwn, gwnaethom nodi tua 79 eiddo â mwy nag un siawns mewn 10 o brofi llifogydd llanwol.

Mae'r cynnydd parhaus yn lefelau'r môr yn golygu y rhagwelir y bydd y nifer hwn yn cynyddu dros y degawdau nesaf, gyda'r dyfnderoedd a ragwelir a'r tebygolrwydd o lifogydd yn cynyddu'n sylweddol. Byddai hyn wedi rhwystro mynediad hanfodol i rannau o'r Mwmbwls a Phen y Mwmbwls gan gynnwys gorsaf y bad achub.

Pa ardal yn union sydd dan sylw ar gyfer y gwaith?

Mae ardal y cynllun yn estyn o'r llithrfa ar ochr Abertawe o Verdi's i faes parcio Sgwâr Ystumllwynarth. Yn y degawdau diwethaf mae'r Mwmbwls wedi'i warchod gan ddau fath o amddiffynfeydd arfordirol; morglawdd fertigol concrit màs 0.5km o hyd sy'n rhedeg o Sgwâr Ystumllwynarth i'r lawnt fowlio ac adeiledd cynnal 0.7km ar oleddf, sy'n rhedeg o'r lawnt fowlio ynMae llwybrau ffyrdd o leoliadau yn Llandeilo Ferwallt a'r cyffiniau'n parhau i fod ar agor - yn ogystal â'r rhai o gyfeiriad Abertawe. Bydd meysydd parcio, busnesau a chartrefi'n parhau i fod ar agor ac yn hygyrch. agos at Verdi's. Ein cyfrifoldeb ni yw cynnal ac atgyweirio'r amddiffynfeydd.

A pha welliannau ydych chi'n eu gwneud?

Bydd y prosiect yn cyfuno amddiffynfeydd arfordirol gwell â gwelliannau i'r prom wrth y prif forglawdd.  Bydd yn cefnogi creu ardal y glannau gynaliadwy, fioamrywiol ac yn darparu ased i'r gymuned leol yn ogystal ag atyniad i ymwelwyr.

Bydd ein cynllun yn:

  • codi'r prom i un lefel gan ei fod ar hyn o bryd yn gostwng yn raddol o'r ddau ben (Verdi's ac Oyster Wharf) hyd at oddeutu hanner metr yn y rhan ganol
  • cryfhau'r prif adeiledd - bydd hyn yn cynnwys prif wal fertigol mewn rhai lleoliadau a wal gynnal ogwyddol newydd (neu adeiledd cerrig) yn lle'r wal gynnal ogwyddol bresennol 
  • gosod wal isel, gyda chanllaw, yn debyg i'r un ym maes parcio Sgwâr Ystumllwynarth, yn lle'r rheiliau presennol 

Y nod yw bod yn sensitif i'r Mwmbwls fel cyrchfan glan môr i ymwelwyr wrth amddiffyn y bobl a'u heiddo.

 

Cyllid

Pwy sy'n talu am y prosiect hwn - a beth yn union y caiff y cyllid ei ddefnyddio ar ei gyfer?

Sicrhawyd cyllid ar gyfer amddiffynfeydd newydd gan Lywodraeth Cymru. Mae'r gwaith allweddol y bydd y cyllid hwn yn cael ei ddefnyddio ar ei gyfer yn cynnwys:

  1. Cryfhau ac atgyweirio'r morglawdd (h.y. y brif amddiffynfa) a chreu waliau a rheiliau newydd ar ben yr adeiledd hwn, yn ogystal ag ansawdd wal sy'n wynebu'r môr sy'n ceisio rhoi hwb i ecoleg leol, yn dilyn ymchwil gan Brifysgol Abertawe.
  2. Codi lefel rhannau isaf y prom i uchder cyson. Ar hyn o bryd mae'n disgyn - yn ddiarwybod ond yn sylweddol - i'w lefel isaf ger llithrfa Southend.
  3. Ailwynebu'r prom
  4. Ehangu'r prom fel bod ei led yn o leiaf 6m. Ar hyn o bryd, mae rhannau mwy cul yn cynnwys yr ardal ger y lawnt fowlio.
  5. Creu amddiffynfeydd eilaidd (gan gynnwys waliau isel a thwmpathau glaswelltog) ar hyd llawer o hyd y cynllun. Mae angen gwneud hyn i sicrhau bod yr amddiffynfeydd mor effeithiol â phosib - y dewis arall fyddai codi uchder y prif amddiffynfeydd yn sylweddol. Bydd arglawdd glaswelltog/wedi'i dirlunio'n cael ei gyflwyno lle bydd digon o led ar gael, a bydd hefyd yn cynnig gwell golygfeydd o'r bae i ymwelwyr. Bydd y waliau isel eilaidd yn darparu cyfleoedd ar gyfer seddi a phlannu ychwanegol. Mae'r ateb yn cynnwys gwella waliau calchfaen isel mewn rhai mannau.
  6. Creu cilfachau parcio newydd ar ochr orllewinol Mumbles Road.

 

Dyluniad ac effeithiau amgylcheddol

Pwy benderfynodd ar ddyluniad morglawdd cychwynnol y prosiect? 

Roedd tîm y prosiect - sy'n cael ei reoli gan ein tîm priffyrdd a thrafnidiaeth - wedi edrych ar opsiynau, gan roi ystyriaeth i faterion fel cost, ymarferoldeb y gwaith adeiladu, effaith weledol, yr amgylchedd ac agweddau allweddol eraill. Roedd eu hystyriaethau wedi helpu i benderfynu ar yr ateb a ffefrir.

Ymgynghorom â'r cyhoedd yn 2019. Dangosodd yr ymateb fod dymuniad i ni roi ystyriaeth ofalus i nifer o bwyntiau allweddol, gan gynnwys effaith weledol y cynllun newydd ac effaith y gwaith ar y gymuned. Ystyriwyd y rhain yn ein gwaith canlyniadol a oedd yn cynnwys y ni a'n hymgynghorwyr, Amey, yn gweithio tuag at gynllun, yr oeddem wedyn wedi'i ddangos i'r cyhoedd a rhanddeiliaid pwysig eraill.

Pwy benderfynodd ar ddyluniad terfynol y cynllun?

Yn dilyn gwaith parhaus, cyflwynwyd opsiynau i gabinet y cyngor er mwyn iddo wneud y penderfyniad terfynol. Cafodd y cyhoedd a rhanddeiliaid allweddol eraill gyfle sylweddol i ddylanwadu ar y cynllun drwy ymgynghoriadau, gan gynnwys y broses gynllunio ffurfiol. 

Ymhlith y rheini sy'n cael y newyddion diweddaraf ac y gofynnir iddynt wneud sylwadau mae'r: Llywodraeth Ganolog a Llywodraeth Cymru, aelodau'r cyngor, Cyngor Cymuned y Mwmbwls, y cyhoedd, preswylwyr y Mwmbwls, perchnogion tir lleol, busnesau lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru ac eraill.

Sut cyfrifwyd y dimensiynau?

Er mwyn pennu uchder angenrheidiol yr amddiffynfa sylfaenol, gwnaed y gwaith modelu gan Goleg Imperial Llundain.

Pa welliannau sy'n cael eu gwneud fel rhan o'r gwaith ar y morglawdd a'r prom?

Mae'r rhain wedi'u llunio gan bobl a busnesau'r Mwmbwls.

Heblaw am ddarparu gwell amddiffynfeydd i amddiffyn y gymuned, bydd y broses yn cyflwyno seddi newydd, gwaith ailwynebu, tirlunio, plannu a gwelliannau amgylcheddol eraill. Mae'r prom yn boblogaidd gydag ymwelwyr a phreswylwyr ond mae ei led yn gyfyngedig mewn rhai mannau; bydd cael gwared ar fannau cyfyng yn golygu y bydd y prom yn fwy diogel ac atyniadol ac yn fwy hygyrch i gerddwyr a beicwyr. Mae mynediad i'r blaendraeth ar gyfer cerddwyr a defnyddio cychod wedi'i gyfyngu hyd yn hyn i ddwy res gul o risiau serth a dwy lithrfa; byddwn yn gwella'r mynediad. 

Mae preswylwyr y Mwmbwls hefyd wedi awgrymu syniadau ar gyfer sut gallai'r lle edrych a'r defnydd o ardaloedd allweddol yn agos i'r morglawdd yn y dyfodol; mae materion yn cynnwys parcio, teithio llesol, tirlunio, goleuadau a chwarae.

Un o bwyntiau gwerthu unigryw'r Mwmbwls yw ei olygfa o'r môr o'r prom - oni fydd hyn yn cael ei effeithio?

Na fydd! Bydd ein cynllun yn golygu y byddwch yn gallu parhau i gerdded, beicio, chwarae a sglefrio rhwng Knab Rock a maes parcio Sgwâr Ystumllwynarth, gyda golygfeydd panoramig o Fae Abertawe. 

Ydym, rydym yn adeiladu waliau yn lle'r rheiliau - ond bydd y waliau hyn o uchder cymedrol a byddant yn amddiffyn y bobl, y busnesau a'r cyfleusterau ar adegau pan allai llifogydd ddigwydd fel arall. Ein bwriad yw rhoi canllawiau ar y waliau.

A fyddwch chi'n adeiladu allan i'r môr?

Na fyddwn. Polisi ein Cynllun Rheoli Traethlin yw "cadw'r llinell", sef peidio ag ymestyn isadeiledd na datblygiad newydd i'r môr. Mae hyn yn rhoi'r cyfle mwyaf i gynnal y gymuned a'i hasedau naturiol ac adeiledig. Nid yw gwneud dim yn opsiwn, ac nid yw symud y llinell amddiffyn yn ôl yn opsiwn chwaith - y naill ffordd neu'r llall byddai colled asedau, yn enwedig y rhai y tu ôl i ardaloedd sydd wedi'u hamddiffyn ar hyn o bryd. Pe baem yn adeiladu allan i'r môr, byddai ardal y traeth yn cael ei cholli ac o bosib byddai rhagor o aflonyddwch tonnau.

Oni fydd hyn yn golygu bod rhagor o goncrit yn yr amgylchedd lleol - glan môr llai naturiol?

Roedd prosiect o'r enw The Sea-Hive, a arweiniwyd gan Brifysgol Abertawe, yn cynnwys treialu amrywiaeth o deils môr hecsagonol gyda phatrymau wedi'u codi arnynt a oedd yn dynwared arwynebau creigiau naturiol a bywyd gwyllt morol. Dyluniwyd y teils i ddarparu'r uchafswm arwynebedd i fywyd môr ei ddefnyddio, a dynwared amgylchedd naturiol. Diben y prosiect oedd deall pa arwynebedd sy'n darparu'r cartref gorau i fywyd gwyllt fel gwymon, cregyn crachod a chreaduriaid eraill. Profwyd 13 patrwm gwahanol. Dewiswyd y patrwm mwyaf effeithiol ar gyfer cynnal bywyd gwyllt i orchuddio arwyneb y morglawdd. Mae paneli gweadog bellach yn cael eu gosod ar ben Sgwâr Ystumllwynarth i'r prosiect.

Bydd gwyrddni'n cael ei ychwanegu at y prom. Mae'r cynllun yn ceisio darparu tua 40 coeden newydd ar hyd y promenâd. Bydd rhywogaethau sy'n frodorol i'r ardal leol yn cael eu plannu mewn ardaloedd wedi'u tirlunio, ac mae rhai planhigion eisoes yn tyfu rhwng craciau'r waliau calchfaen.

Byddwn yn cynnal atyniad y Mwmbwls fel cyrchfan i ymwelwyr ac fel lle i fyw a gwneud busnes, felly rydym yn gweithio'n galed gydag eraill i gyflawni'r opsiwn gorau.

A fydd y prom yr un lled o hyd?

Cyn y cynllun hwn, roedd lled y prom yn amrywio, gan olygu bod mannau cul lle mae wedi culhau'n sylweddol.  Rydym yn bwriadu gwneud y prom yr un lled ar ei hyd, fel y gall pawb ddilyn ymagwedd rhannu â gofal wrth ei ddefnyddio; gan gynnwys teuluoedd gyda phlant sydd am chwarae, beicwyr a'r rhai â phroblemau symudedd. Cymeradwywyd hwn fel rhan o'r broses gynllunio. 

Ydych chi'n bwriadu newid yr ardal o gwmpas Gerddi Hennebont?

Bydd ardal werdd yn aros yma. Caiff ei hailfodelu i gynnig gwell amddiffynfeydd arfordirol a golygfeydd o'r môr i'r cyhoedd. Cymeradwywyd hyn fel rhan o'r broses gynllunio.

Sut bydd y prosiect hwn yn effeithio ar goed?

Nid ydym am golli unrhyw goed yn ystod y cam adeiladu - ac rydym yn bwriadu i lan môr y Mwmbwls fod yn wyrddach. Caiff mannau gwyrdd a choed ychwanegol eu gosod fel rhan o'r cynllun. Mae'r cynllun yn ceisio darparu tua 40 coeden newydd ar hyd y promenâd. 

Caiff rhywogaethau a ddewiswyd yn arbennig i adlewyrchu'r ardal leol a'r amgylchedd glan môr eu plannu yn yr ardaloedd sydd wedi'u tirlunio.

A fydd unrhyw wefrwyr cerbydau trydan yn y lleoedd parcio newydd fel rhan o'r cynllun hwn?

Rydym yn trafod y mater hwn a byddwn yn cyhoeddi'r penderfyniadau'n fuan. Yn y cyfamser, mae gennym ddarpariaeth ar gyfer cerbydau trydan mewn nifer o leoliadau, gan gynnwys meysydd parcio Knab Rock a'r Llaethdy: Cerbydau trydan

 

Effaith ar breswylwyr ac ymwelwyr

Yn ystod y gwaith, oni fydd hyn yn golygu llawer o dryblith i'r gymuned?

Fel unrhyw brosiect adeiladu mawr, bydd tryciau a pheiriannau eraill ar y safle. Mae ein hymgynghorwyr a'n prif gontractwyr yn brofiadol yn y math hwn o waith ac yn gwybod bod yn rhaid iddynt fod yn ystyriol o bobl sy'n byw ac yn gweithio yn y Mwmbwls ac ymwelwyr â'r ardal.

Mae gwaith ar y prom yn digwydd fesul cam - bydd rhannau helaeth o'r prom yn aros ar agor ar unrhyw adeg. Bydd eu gwaith yn cael yr effaith leiaf ar y Mwmbwls a'r ardal o'i gwmpas.

Maent am wneud gwaith da ac maent am i'r gymuned deimlo'n gadarnhaol amdano ac wedi'i sicrhau bod hwn yn gynllun ar gyfer llwyddiant tymor hir y Mwmbwls.

Parcio

A fydd hyn yn cael effaith ddilynol ar barcio?

Bydd cannoedd o leoedd parcio ar gael o hyd yn ardal glan môr y Mwmbwls.  Bydd lleoliad y lleoedd parcio'n newid gan gynnig gwell golygfeydd o'r môr i gerddwyr a beicwyr. Cymeradwywyd hyn fel rhan o'r broses gynllunio.

Beth sy'n digwydd i'r cychod sydd wedi parcio ar y prom yn y gorffennol?

Bydd cychod yn parhau i barcio ar lan y môr, ger tafarn y Pilot. Bydd yr ardal parcio cychod yn Southend yn cael ei thirlunio i gynnig gwell amddiffynfeydd arfordirol a golygfeydd o'r môr i'r cyhoedd. Cymeradwywyd hyn fel rhan o'r broses gynllunio. 

Yn ystod y gwaith adeiladu, lle gall modurwyr barcio yn y Mwmbwls?

Gall modurwyr barhau i ddefnyddio Maes Parcio'r Llaethdy (gyferbyn â bwyty Mumtaz ar Mumbles Rd), Maes Parcio Sgwâr Ystumllwynarth (gyferbyn â the White Rose), a lefel uchaf Maes Parcio'r Chwarel (oddi ar Mumbles Rd, gyferbyn â Maes Parcio'r Llaethdy). Maent yn agos at y prom, Newton Road ac Oyster Wharf.

Cyn i waith ddechrau ar y morglawdd ei hun, crëwyd cilfachau parcio parhaol ychwanegol ar y stryd ar hyd Mumbles Road, ger Gerddi Southend.

Dros gyfnod y cynllun, bydd rhai cilfachau parcio'n cael eu symud fesul cam o leoliadau fel Maes Parcio'r Blaendraeth, Teras y Promenâd a Maes Parcio Southend i leoliadau cyfagos ar ac o amgylch Mumbles Road.

Mae Maes Parcio Knab Rock ar agor ac yn hygyrch o hyd, yn ogystal â'r meysydd parcio a weithredir yn breifat yn Sgwâr Ystumllwynarth ac ar Bier y Mwmbwls.

Gallwch barcio ar ochr y ffordd yn y Mwmbwls. Bydd busnesau a chartrefi'n aros ar agor ac yn hygyrch. Rhoddir yr wybodaeth ddiweddaraf i breswylwyr, sefydliadau a busnesau lleol.

Sawl lle parcio fydd yn cael eu colli'n barhaol o ganlyniad i'r cynllun hwn? 

Erbyn diwedd y prosiect, bydd yr ardal glan y môr (rhwng y pier a maes parcio'r chwarel) yn cynnwys mwy na 630 o leoedd parcio ffurfiol i geir a cherbydau eraill. Bydd gyrwyr a theithwyr yn parhau i fwynhau mynediad cyflym i'r prom a'r strydoedd, busnesau, atyniadau a gwasanaethau cyfagos.

Bydd lleoliadau parcio'n cynnwys Maes Parcio Sgwâr Ystumllwynarth, Maes Parcio'r Llaethdy, Maes Parcio'r Chwarel, Maes Parcio Knab Rock, parcio ym Mhier y Mwmbwls yn ogystal â pharcio ar ymyl y ffyrdd ar ochrau deheuol a gogleddol Mumbles Road.

O fewn hyn, bydd nifer sylweddol o leoedd parcio am ddim; bydd lleoedd parcio y mae angen talu ar eu cyfer, sy'n cael eu rheoli gan y cyngor yn parhau i gael eu prisio'n gystadleuol mewn perthynas â lleoedd parcio tebyg mewn ardaloedd tebyg.

Bydd strydoedd cefn y Mwmbwls yn parhau i elwa o barcio ar y stryd fel y maent ar hyn o bryd - gyda rhai yn anghyfyngedig a rhai'n gyfyngedig. 

Er y bydd nifer o leoedd yn cael eu colli i helpu i amddiffyn y gymuned rhag lefelau môr cynyddol, byddwn yn sicrhau bod yr ardal glan y môr yn parhau i elwa o gannoedd o leoedd parcio. Fel rhan o'r prosiect amddiffynfeydd môr, rydym yn ystyried y ddarpariaeth barcio hygyrch ar gyfer y dyfodol yn ofalus.

Ar ôl i'r cynllun gael ei gwblhau, byddwn yn parhau i archwilio - gyda phobl, busnesau a sefydliadau lleol - atebion pellach ar gyfer parcio a mynediad i'r Mwmbwls. 

Bydd y Mwmbwls yn hygyrch i draffig y ffordd a cherddwyr a beicwyr sy'n defnyddio'r Prom o hyd, ac i wasanaethau bysus rheolaidd drwy gydol y gwaith ac ar ôl hynny.

Traffig a mynediad

Yn ystod y gwaith adeiladu, sut gall pobl fynd i'r Mwmbwls ac oddi yno?

Ni fydd y gwaith yn effeithio ar lwybrau traffig presennol i'r Mwmbwls, a disgwylir cyn lleied o darfu â phosib.

Yn yr ardaloedd ar hyd y prom lle mae gwaith byw yn cael ei wneud, caiff cerddwyr a beicwyr eu dargyfeirio oddi ar y prom am bellter byr. Bydd y dargyfeiriadau wedi'u marcio'n glir a bydd arwyddion ar waith. Gofynnir i feicwyr ddod oddi ar eu beiciau drwy'r ardaloedd dargyfeirio byr am resymau diogelwch - neu ddefnyddio'r ffordd i barhau â'u taith.

Disgwylir i Drên Bach y Bae tymhorol Abertawe, pan fydd yn rhedeg, weithredu gan ddilyn llwybr ychydig yn fyrrach i'r Mwmbwls, gan ddod i ben yn ardal Maes Parcio'r Llaethdy (gyferbyn â bwyty Mumtaz ar Mumbles Road).

Mae llwybrau ffyrdd o leoliadau yn Llandeilo Ferwallt a'r cyffiniau'n parhau i fod ar agor - yn ogystal â'r rhai o gyfeiriad Abertawe. Bydd meysydd parcio, busnesau a chartrefi'n parhau i fod ar agor ac yn hygyrch.

Yn ystod y gwaith adeiladu, a fydd unrhyw darfu ychwanegol ar draffig yn y Mwmbwls ac o'i gwmpas?

Mae'r cyngor a'n contractwyr yn gweithio i osgoi unrhyw effaith andwyol ar draffig - ac i leihau unrhyw darfu. Gall fod adegau o oedi ar y ffyrdd gan fod deunyddiau adeiladu ac yn y blaen yn cael eu dosbarthu. Fodd bynnag, disgwylir cyn lleied o darfu â phosib o ganlyniad i hyn ac rydym yn bwriadu i drefniadau fel hyn gael eu gwneud y tu allan i oriau brig.

Mae llwybrau ffyrdd o leoliadau yn Llandeilo Ferwallt a'r cyffiniau'n parhau i fod ar agor - yn ogystal â'r rheini o gyfeiriad Abertawe. Bydd meysydd parcio, busnesau a chartrefi yn aros ar agor ac yn hygyrch o hyd.

 

Y dyfodol

Sut olwg fydd ar Mumbles Road yn y dyfodol?

Bydd Mumbles Road yn parhau i fod yn system ddwyffordd sy'n caniatáu mynediad i gartrefi, busnesau, gwasanaethau, atyniadau a digwyddiadau lleol. Bydd yn o leiaf 6m o led, sy'n cydymffurfio â chanllawiau cenedlaethol cyfredol i'w defnyddio gan bob math o draffig. Mae Ffordd y Brenin yng nghanol y ddinas - llwybr traffig llawer prysurach sy'n cael ei ddefnyddio'n rheolaidd gan gerbydau cludiant cyhoeddus mwy a thraffig safleoedd adeiladu - wedi'i greu i'r un canllawiau sef rhai'r Adran Drafnidiaeth. Bydd Mumbles Road yn addas o hyd ar gyfer llif traffig y Mwmbwls. Mae rhai lleoedd parcio glan môr presennol yn cael eu symud nesaf at y ffordd i helpu i wneud lle ar gyfer yr amddiffynfeydd eilaidd.

Felly beth yw'r cynlluniau ar gyfer dyfodol y Prom?

Y nod yw bod yn sensitif i'r Mwmbwls fel cyrchfan glan môr i ymwelwyr wrth amddiffyn y bobl a'u heiddo. Bydd ein gwaith ar y Prom yn gwneud y Mwmbwls yn fwy deniadol i bobl leol ac ymwelwyr, gyda glan môr mwy diogel a hygyrch. Bydd yn gwella ansawdd yr ardal ac yn ei gwneud hi'n haws i'r cyhoedd symud rhwng y Prom a mannau cyfagos fel ardal chwarae i blant Gerddi Southend. Bydd arwynebedd y Prom yn gadarn ac wedi'i ddylunio i bara amser hir. Mae trafodaethau dylunio'n parhau. 

Bydd y promenâd i'r de o Oyster Wharf yn dod yn fwy hygyrch gyda mannau mynediad rheolaidd i gerddwyr i gysylltu'r promenâd â'r busnesau a'r defnyddiau presennol ar hyd Mumbles Road. Bydd nifer o hybiau beiciau yn cael eu lleoli yn rheolaidd ar hyd y promenâd. Bydd y rhain yn cynnwys rheseli a mannau cynnal a chadw beiciau yn ogystal â chadw'r llochesi presennol yn Oyster Wharf a Verdi's. Bydd mynediad i'r traeth yn cael ei gynnal a'i wella er mwyn darparu gwell mynediad i ddefnyddwyr.

Mae'r celfi ar hyd glan môr y Mwmbwls wedi'u dewis yn ofalus i atgyfnerthu hanes y dref a darparu mwy o gyfleoedd i bobl o bob gallu gymdeithasu'n rhwydd. Bydd nodweddion mannau cyhoeddus yn cyfeirio at dreftadaeth gyfoethog yr ardal, gan gynnwys cyfeiriad at reilffordd Abertawe i'r Mwmbwls a'i phwysigrwydd i'r diwydiant pysgota lleol. Bydd arwyddion dehongli diddorol ac addysgiadol ar hyd y prom yn rhoi cyfle i'r cyhoedd ymgysylltu â gorffennol, presennol a dyfodol y Mwmbwls.

Bydd y Prom ar ei newydd wedd yn adlewyrchu treftadaeth y Mwmbwls. Bydd nodweddion yn cynnwys cyfeiriadau at fusnes wystrys yr ardal, ei diwydiant pysgota, a'r rheilffordd hanesyddol. Cafodd pobl y Mwmbwls - ac ymwelwyr - gyfle i ddylanwadu ar y themâu hyn yn ystod ymgynghoriad cyhoeddus yn y blynyddoedd cyn y gwaith adeiladu. Gallant barhau i ddweud eu dweud mewn sesiynau galw heibio rheolaidd a gynhelir drwy gydol y cam adeiladu. Mae'r gwelliannau sy'n cael eu gwneud fel rhan o'r gwaith ar y morglawdd a'r Prom wedi cael eu harwain gan syniadau pobl a busnesau y Mwmbwls. Maent wedi lleisio barn ar faterion fel seddi newydd, ailwynebu, tirlunio, plannu a gwelliannau amgylcheddol eraill.  

Mae preswylwyr y Mwmbwls wedi rhoi syniadau ar gyfer sut bydd yr ardal yn edrych yn y dyfodol a'r defnydd o fannau allweddol ger y morglawdd; gallai materion gynnwys parcio, teithio llesol, tirlunio, goleuadau a chwarae.

Fyddwch chi'n adfer y cyrtiau tennis i gyflwr defnyddiol unwaith bydd y gwaith wedi'i gwblhau?

Mae'r cyrtiau tennis yn cael eu defnyddio dros dro fel caeadle ar gyfer y gwaith hanfodol hwn ar yr amddiffynfa fôr. Mae eu hagosrwydd at y prom yn helpu contractwyr i leihau symudiadau ar ffyrdd lleol. Ein cytundeb â'r contractwyr yw unwaith y cwblheir y gwaith y flwyddyn nesaf, y bydd y cyrtiau'n cael eu dychwelyd i Gyngor Abertawe. Rydym yn buddsoddi oddeutu £30m - gyda Llywodraeth Cymru - i uwchraddio'r amddiffynfeydd môr, gan greu promenâd newydd yn y broses. Mae felly'n bwysig ein bod yn ymgynghori â'r gymuned ehangach - gan gynnwys busnesau a phreswylwyr y Mwmbwls ac ymwelwyr â'r pentref - i ddeall eu hanghenion a'u dymuniadau ar gyfer y safle hwn.

Beth yw'r cynlluniau o ran seddi ar gyfer y prom ar ei newydd wedd?

Bydd llawer mwy o amrywiaeth nag a fu yn y degawdau diwethaf! Bydd yn cynnwys cymysgedd o'r canlynol:

  • meinciau picnic hygyrch wedi'u gosod yn ôl o'r brif ffordd drwodd
  • meinciau parc a seddi lled dwbl heb gefn sy'n caniatáu golygfeydd 360 gradd yn arddull hen seddi tramiau:
    • bydd yr holl feinciau a osodir yn newydd
    • lle bo'n bosib, cysylltwyd â pherchnogion placiau coffa gyda'r opsiwn i ddychwelyd eu placiau iddynt neu o bosib eu hailosod ar fainc newydd ger eu lleoliad presennol
    • mae holl feinciau Cyngor Cymuned y Mwmbwls yn cael eu dychwelyd iddynt gyda chefnogaeth i'w gosod mewn lleoliadau eraill
  • seddi pren cilfachog yn y planwyr drws nesaf i Oyster Wharf a maes parcio Ystumllwynarth
  • blociau gwenithfaen gwastad mawr a fydd yn ffurfio copin y wal amddiffynnol eilaidd lefel isel ar y prom

Pa fath o arwyneb fydd gan y prom ar ei newydd wedd?

Bydd arwyneb tarmac llyfn sy'n treulio'n dda - mae'n dda i'r rhai sy'n cerdded, yn beicio neu'n defnyddio sgwteri symudedd a chadeiriau olwyn. Bydd y prom tua 6m o led, heb y llinell wen oedd yno dros y blynyddoedd diwethaf, felly bydd lle i bawb sy'n mwynhau'r awyr iach a golygfeydd panoramig o'r môr. Yr ethos fydd rhannu gyda gofal, fel gyda llwybrau cerdded/beicio allweddol eraill o amgylch Abertawe, er enghraifft llwybr Dyffryn Clun rhwng Blackpill a Thre-gŵyr a llwybrau glan afon Tawe.

Beth yw'r cynlluniau o ran goleuadau ar gyfer y prom ar ei newydd wedd?

Bydd y goleuadau ar hyd prom y Mwmbwls yn cael eu diweddaru gyda lampau mwy ynni-effeithlon. Bydd math newydd o golofnau sy'n fwy gwydn a fydd yn cyd-fynd ag esthetig datblygiad y prom a bydd goleuadau sy'n hongian rhwng Mumtaz a bwyty'r Mermaid. Bydd yn golygu bod y prom yn hygyrch ac yn cael ei ddefnyddio'n eang gyda'r hwyr. Rydym yn dylunio'r goleuadau ar hyn o bryd, gan roi sylw i adborth rydym wedi'i dderbyn gan bobl o sawl ymgynghoriad cyhoeddus. Byddwn yn cyhoeddi'r cynnydd maes o law.

Pa fath o gyfleusterau sbwriel fydd ar y prom ar ei newydd wedd?

Bydd biniau newydd yn caniatáu i ddefnyddwyr gael gwared ar eu heitemau diangen mewn ffordd gyfrifol, gan gynnwys er mwyn cael gwared ar wastraff cŵn. Byddant yn cyd-fynd â gweithdrefnau gwaredu gwastraff presennol y Cyngor.

Pa fath o gelfweithiau cyhoeddus fydd ar y prom ar ei newydd wedd?

Bydd celfweithiau cyhoeddus newydd yn dathlu treftadaeth ac adnoddau naturiol y Mwmbwls; byddant yn ymddangos ar ochr y tir ar ben rhai rhannau o'r prif forglawdd.Mae'r celfweithiau'n cael eu dylunio gan artist o Abertawe ar hyn o bryd, gan roi sylw i adborth rydym wedi'i dderbyn gan bobl o sawl ymgynghoriad cyhoeddus - a byddwn yn cyhoeddi'r dyluniadau maes o law.

Beth am y mannau gwyrdd ar y prom ar ei newydd wedd?

Mae'r holl goed presennol wedi'u cadw, a bydd llawer o blanhigion newydd yn cael eu plannu. Bydd hyn yn cynnwys llwyni, tyweirch, perthi a choed ar hyd glan y môr mewn dysglau plannu newydd ac o amgylch y wal galchfaen sy'n ffurfio'r system amddiffynfa fôr eilaidd. Mae'r gwaith plannu'n cael ei gynllunio er mwyn cael effaith drwy gydol y flwyddyn, heb fod angen llawer o waith cynnal a chadw. Bydd yn addas ar gyfer amodau arfordirol yr ardal.

Pam nad yw'r wal isel ar y prom ar ben y wal gynradd yn cael ei hadeiladu'r holl ffordd i'r rhan o'r morglawdd ar oleddf presennol yn Norton?

Dangosodd y gwaith modelu arbenigol gan Goleg Imperial Llundain fod lefelau presennol y ddaear yn yr ardal hon - gyda'r arglawdd uwch y tu ôl iddo - yn ddigonol i amddiffyn y preswylwyr a'r busnesau rhag lefelau môr cynyddol yn y dyfodol.

Close Dewis iaith