
Siopa'n Lleol yn Abertawe
Rydym yn annog preswylwyr lleol i siopa'n lleol a chefnogi'u busnesau annibynnol lleol.
Helpwch i gefnogi'ch busnesau a'ch cymuned leol #siopwchynlleolsiopwchynabertawe
Mae siopa'n lleol yn helpu i gefnogi'r economi leol, yn creu swyddi ac yn rhoi hwb i gymunedau lleol.
Er enghraifft, petai bawb yn Abertawe'n gwario £5 ychwanegol bob wythnos yn eu stryd fawr leol, byddai hynny'n cynhyrchu £53 miliwn* dros gyfnod o flwyddyn ar gyfer economi Abertawe.
Nawr bod pobl yn gweithio gartref, dyma'r amser perffaith i ailddarganfod yr hyn sydd ar eich stryd fawr leol.
I ddangos eich cefnogaeth ar gyfer ymgyrch Siopa'n Lleol yn Abertawe, rhannwch fideo o'ch hunan ar y cyfryngau cymdeithasol gyda neges fer yn dweud pwy ydych chi a pham rydych chi'n siopa'n lleol yn Abertawe - a chofiwch gynnwys y stwnshnod #siopwchynlleolsiopwchynabertawe.
Caiff busnesau eu hannog hefyd i bostio fideo o'ch busnes ar gyfryngau cymdeithasol gyda neges fer am eich busnes a'r nwyddau/gwasanaethau rydych chi'n eu cynnig, ac unrhyw gynigion arbennig - a chofiwch gynnwys y stwnshnod #siopwchynlleolsiopwchynabertawe
Siopwch yn Lleol Siopwch yn Nhreforys
Mae gan Dreforys ystod o siopau, o siopau gemwaith, siopau atgyweirio esgidiau, gwerthwyr blodau a siopau anrhegion i siopau trin gwallt os ydych am faldodi'ch hun yn dilyn diwrnod o siopa.