Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Trais yn y cartref

Cam-drin yn y cartref yw pan fo unigolyn yn dioddef cam-drin corfforol, seicolegol, emosiynol, rhywiol neu ariannol gan bartner presennol, partner blaenorol neu aelod o'r teulu sy'n oedolyn.

Gall gynnwys trais gan fab, merch neu unrhyw un arall y mae ganddo berthynas agos neu berthynas waed â'r sawl sy'n dioddef/goroesi.

Gall dioddefwyr brofi cyfuniad o ymddygiad cas, er enghraifft:

  • Trais corfforol
  • Bygwth neu fychanu ar lafar
  • Cam-drin seicolegol ac emosiynol megis ynysu rhag rhai annwyl neu waradwyddo
  • Trais rhywiol
  • Rheolaeth ariannol megis cadw arian yn ôl

Gall dynion a menywod ddioddef cam-drin yn y cartref. Mae'n bwysig cofio nad eich bai chi ydyw; y sawl sy'n cam-drin sydd â'r broblem - nid chi.

Swgwrsfot #DydychChiDdimArEichPenEichHun

Os ydych yn poeni am eich sefyllfa eich hun neu rydych yn pryderu am rywun arall, mae gennym sgwrsfot sy'n helpu i'ch arwain at y cyngor cywir.

Sgwrsfot Dydych Chi Ddim Ar Eich Pen Eich Hun Sgwrsfot Dydych Chi Ddim Ar Eich Pen Eich Hun

 

Strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Trais Rhywiol Abertawe 2023-2026

Pob dinesydd yn Abertawe i fod yn ddiogel, yn hapus ac yn iach ac yn byw heb ofn trais, camfanteisio, aflonyddu a cham-drin, yn ei holl ffurfiau.

Relate

Mae'n cynnig cwnsela ar berthnasoedd, a chwnsela i blant a phobl ifanc.

Hafan Cymru

Cymdeithas Tai elusennol sy'n darparu llety a chefnogaeth i fenywod, dynion, eu plant a phobl ifanc ledled Cymru.

Live Fear Free Helpline

Llinell gymorth Bwy Heb Ofn. Llinell gymorth ar gyfer dioddefwyr cam-drin domestig a thrais rhywiol.

Cymorth i Fenywod Abertawe

Grymuso, diogelwch a chymorth i fenywod a phlant sy'n dioddef cam-drin domestig. Darperir cefnogaeth hefyd i fenywod y camfanteisiwyd arnynt yn rhywiol sy'n chwilio am gymorth.

Bawso

Yn darparu gwasanaethau arbenigol i gymunedau BME.

Dyn Cymru

Mae prosiect Dyn Cymru ddiogelach yn darparu cymorth i ddynion heterorywiol, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol sy'n dioddef cam-drin domestig gan bartner.

Hourglass - gweithredu ar gam-drin yr henoed

Darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth i'r rhai sy'n wynebu (neu sydd mewn perygl o niwed), yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth a hyrwyddo atal effeithiol.

Samaritans yng Nghymru

Cymorth emosiynol i'r rhai sy'n cael teimladau o drallod neu anobaith, gan gynnwys y rhai a allai arwain at hunanladdiad - 24/7, 365 diwrnod y flwyddyn.

Childline

Yn darparu cefnogaeth a chyngor emosiynol i blant mewn perthynas ag amrywiaeth eang o faterion.

Sgwrsfot Dydych Chi Ddim Ar Eich Pen Eich Hun

Mae gennym sgwrsfot sy'n helpu i'ch arwain at y cyngor cywir, 24 awr y dydd.

Stop It Now!

Yn helpu i atal camfanteisio'n rhywiol ar blant.

Mind

Os ydych yn byw gyda rhywun â phroblem iechyd meddwl, neu'n cefnogi rhywun sy'n cefnogi person â phroblem iechyd meddwl, mae cael mynediad at yr wybodaeth gywir yn hanfodol.