Y Cysylltfuriau
Tynnu'r llen
Mae'r Llenfuriau neu'r Cysylltfuriau o ddiwedd y 13eg Ganrif yn ymestyn o'r Rhes Ogledd-orllewinol i'r Porthdy, ac o'r Porthdy i Floc y Capel. Ychwanegwyd yr Adeiladau Mewnol tua dechrau'r 14eg Ganrif.
Adeiladwyd y Barics yn erbyn y Cysylltfur dwyreiniol, ond bu adeilad arall yno cyn hynny. Mae'r hyn a allai fod yn Gegin wedi'i godi yn erbyn y Cysylltfur deheuol. Roedd yno ddau le tân mawr mewn cilfachau yn y Cysylltfur ac un lle tân yn y talcen gorllewinol. Mae drws yn y Cysylltfur yn arwain at Garderobe (geudy neu doiled).