Hanes Castell Ystumllwynarth
Mae Castell Ystumllwynarth yn dyddio'n ôl i'r 12fed ganrif ac mae'n llawn hanes.
Mae'r adeilad cynharaf yn dal i fod yng Nghastell Ystumllwynarth sef y gorthwr yn y bloc canolog, ac mae'n dyddio o ddechrau'r 12fed ganrif.
Fe'i defnyddiwyd fel preswylfa Arglwyddi Mers Gŵyr, ac ymosodwyd arno'n rheolaidd gan y Cymry lleol. Yn y ddeuddegfed ganrif, Iarll Warwig a'i deulu oedd yn berchen arno'n bennaf. Ym 1203, rhoddwyd Arglwyddiaeth Gŵyr i'r teulu de Breos a fu'n teyrnasu tan y 1320au pan gafodd ei drosglwyddo i ddwylo'r teulu de Mowbray drwy Alina de Breos a briododd John de Mowbray. Collodd y teulu de Mowbrays Gŵyr i'r teulu Beauchamp am beth amser oherwydd penderfyniad cyfreithiol ac ym 1461 fe'i trosglwyddwyd i'r teulu Herbert, y teulu Somerset ac yna i Ddugiaid Beaufort cyn ei drosglwyddo ym 1927 i Gorfforaeth Abertawe. Cyngor Abertawe sy'n gyfrifol amdano heddiw, gyda Chyfeillion Castell Ystumllwynarth yn gyfrifol am gynnal y castell o ddydd i ddydd yn ystod y tymor agored.
Hanes Byr
1106 - daeth Henry Beaumont, Iarll Warwig yn Arglwydd cyntaf Gŵyr; pan rannodd yr ardal ymhlith ei ddilynwyr, rhoddwyd maenordy Ystumllwynarth i'r teulu de Londres.
1116 - Goresgynnwyd Gŵyr gan Gruffydd ap Rhys ap Tewdwr a llosgwyd Castell Ystumllwynarth ganddo.
1136 - Trechwyd Hywel ap Maredudd gan fyddin Normanaidd fawr ar gomin Garngoch
1189 - Ysbeiliwyd Gŵyr gan yr Arglwydd Rhys o'r Deheubarth
1192 - Rhoddodd yr Arglwydd Rhys warchae ar Abertawe am ddeng wythnos
1203 - Rhoddwyd Gŵyr i William de Breos gan y Brenin Ioan.
1215 - Ymosododd Rhys Grug ac Rhys Ieuanc, cynghreiriad Llywelyn ap Iorwerth, ar Abertawe ac yna cipiwyd Ystumllwynarth ganddynt.
1257 - Ysbeiliwyd Gŵyr gan Llywelyn ap Gruffydd
1284 - Cwblhawyd atgyweiriadau ac estyniadau helaeth i'r castell ar gyfer ymweliad Edward 1 ar 10 ac 11 Rhagfyr.
1287 - Ymosododd Rhys ap Maredudd ar Abertawe a'i llosgi, a chipiodd Gastell Ystumllwynarth.
1302 - Ceisiodd William de Langton ddod â chwynion yn erbyn y brenin ac fe'i herwgipiwyd gan John Iweyn, stiward Castell Ystumllwynarth a'i gadw'n garcharor nes iddo dynnu'i honiadau'n ôl.
1302 ac 1314 - Llofnododd William de Breos fond a dau grant yn Ystumllwynarth.
1329 - Dyddiwyd trosglwyddiad gan Alina de Mowbray yn Ystumllwynarth
1334 ac 1350 - Roedd John, mab Alina, yn Ystumllwynarth a rhoddodd grantiau i abatai Nedd a Margam.
1403 - 1405 - Rheolwyd Gŵyr gan Owain Glyndŵr.
1451 - Syr Hugh Johnys oedd cwnstabl Castell Ystumllwynarth
1461 - Daeth Gŵyr i law'r teulu Herbert.
1927 - Trosglwyddwyd Castell Ystumllwynarth i Gorfforaeth Abertawe gan Ddug Beaufort
1989 - Sefydlwyd Cyfeillion Castell Ystumllwynarth