Toglo gwelededd dewislen symudol

Trefniadaeth Ysgolion - Cynnig i gyfuno ysgolion cynradd Blaen-y-maes a Phortmead - cwestiynau cyffredin

Pam mae'r cynnig hwn yn cael ei wneud?
Pryd bydd hyn yn digwydd?
A fydd Ysgol Gynradd Blaen-y-maes ac Ysgol Gynradd Portmead yn parhau i fod ar agor nes bod yr ysgol newydd yn cael ei hadeiladu?
Ym mhle bydd y safle arfaethedig newydd?
A fydd gan yr ysgol newydd ddarpariaeth Dechrau'n Deg, dosbarth meithrin rhan-amser a Chyfleuster Addysgu Arbenigol?
Sut bydd yr ysgol newydd o fudd i ddisgyblion?
Pam mae'r cyngor yn bwriadu cyfuno'r ysgolion cyn symud i'r ysgol newydd?
Pa gefnogaeth fydd yn cael ei rhoi i ddisgyblion i'w paratoi ar gyfer pontio i'r ysgol newydd?
A fydd gwisg ysgol newydd?
Beth fydd enw'r ysgol newydd?
Sut yr ymgynghorir â'r disgyblion?
Sut gallaf fynegi fy marn?

 

Pam mae'r cynnig hwn yn cael ei wneud?

Mae'r cynnig hwn yn rhan o gynllun strategol ehangach ar gyfer ysgolion yn Abertawe yn gyffredinol ac ardal Penderri yn benodol.

Bydd cyfuno Ysgol Gynradd Blaen-y-maes ac Ysgol Gynradd Portmead ar y safleoedd presennol yn galluogi datblygu ysgol newydd yn y dyfodol i gynnwys yr holl ddisgyblion o'r cymunedau presennol ar un safle.

Y cynllun felly yw adeiladu ysgol newydd sbon o'r radd flaenaf ar dir yn ardal bresennol Ysgol Gynradd Blaen-y-maes. Er nad yw'r adeilad ysgol newydd yn rhan o'r ymgynghoriad hwn, cyfuno'r ddwy ysgol yw'r cam cyntaf tuag at wireddu'r cynllun hwnnw.

Pryd bydd hyn yn digwydd?

Rydym yn ymgynghori ar y cynnig hwn rhwng 31 Mawrth 2025 a 15 Mai 2025, ac oes caiff ei gymeradwyo, rydym yn cynnig cyfuno'r ddwy ysgol ym mis Medi 2027 ar y safleoedd presennol. Y cynllun tymor hwy yw agor yr adeilad newydd yn 2031.

A fydd Ysgol Gynradd Blaen-y-maes ac Ysgol Gynradd Portmead yn parhau i fod ar agor nes bod yr ysgol newydd yn cael ei hadeiladu?

Bydd y ddwy ysgol ar agor o hyd ac yn gweithredu i raddau helaeth fel y maent ar hyn o bryd, gan wasanaethu eu cymunedau. Ychydig iawn o newid fydd i'r rhieni a'r disgyblion. Bydd disgyblion yn parhau i gael eu haddysgu ar safleoedd eu hysgolion presennol tan 2031. Fodd bynnag, os cytunir ar y cynnig, bydd y ddwy ysgol yn dod yn un ysgol yn ffurfiol, gydag un corff llywodraethu ac un pennaeth yn gweithredu ar draws y ddau safle o fis Medi 2027.

Ym mhle bydd y safle arfaethedig newydd?

Y cynllun presennol yw rhoi adeilad newydd yr ysgol yn agos at safle presennol Ysgol Gynradd Blaen-y-maes.

A fydd gan yr ysgol newydd ddarpariaeth Dechrau'n Deg, dosbarth meithrin rhan-amser a Chyfleuster Addysgu Arbenigol?

Bydd.

Sut bydd yr ysgol newydd o fudd i ddisgyblion?

Bydd yr ysgolion sydd wedi'u cyfuno yn darparu'r buddion canlynol i ddisgyblion:

  • Mynediad i ddisgyblion i gyfleusterau ar y ddau safle.
  • Darparu tîm staff mwy a all ddarparu mwy o hyblygrwydd o ran cwmpasu'r cwricwlwm cyfan. Gall roi mwy o gyfleoedd i staff ddatblygu eu sgiliau wrth iddynt rannu arfer gorau o'r ddwy ysgol bresennol, a gall eu galluogi i wneud y defnydd gorau o arbenigedd staff.

Bydd y cynllun tymor hwy ar gyfer ysgol newydd yn darparu cyfleusterau ysgol modern ar gyfer yr 21ain ganrif sydd wedi'u dylunio'n arbennig i ddiwallu anghenion plant. Bydd gwell amgylcheddau dysgu dan do ac yn yr awyr agored. Bydd yr holl staff a disgyblion yn cael y cyfle i helpu i lywio dyluniad adeilad newydd yr ysgol.

Pam mae'r cyngor yn bwriadu cyfuno'r ysgolion cyn symud i'r ysgol newydd?

Mae llawer o fanteision i i gyfuno'r ddwy ysgol cyn symud i'r ysgol newydd. Bydd yn gwneud y broses o bontio i'r ysgol newydd yn rhwyddach i ddysgwyr oherwydd bydd y ddwy ysgol yn gallu dechrau gweithredu fel un, gydag un ethos ysgol gyfan a pholisïau a gweithrefnau a rennir. Bydd hyn yn darparu cyfleoedd ychwanegol i ddisgyblion a staff rannu cyfleusterau ac adnoddau. Bydd cyfuno cynnar hefyd yn cefnogi ac yn helpu i lywio cynllun yr ysgol newydd.

Pa gefnogaeth fydd yn cael ei rhoi i ddisgyblion i'w paratoi ar gyfer pontio i'r ysgol newydd?

Bydd cefnogaeth yn cael ei rhoi i ddisgyblion i'w helpu i baratoi ar gyfer symud i'w hadeilad ysgol newydd a bydd hyn yn cynnwys sesiynau dan arweiniad athrawon, diwrnodau pontio ac ymweliadau â'r safle newydd.

Ymgynghorir â disgyblion drwy'r holl broses a gofynnir iddynt am eu syniadau ynghylch dyluniad yr ysgol.

A fydd gwisg ysgol newydd?

Y corff llywodraethu dros dro fydd yn penderfynu ar hyn, a byddant yn ystyried barn a syniadau'r disgyblion yn ei gylch. Cynghorir y corff llywodraethu i ystyried canllawiau Llywodraeth Cymru ar wisg ysgol a chaniatáu cyfnod pontio / cyflwyno unrhyw wisg ysgol newydd. Gall disgyblion cymwys gael cyllid grant drwy Grant Hanfodion Ysgol (Grant Gwisg Ysgol - PDG - Mynediad yn flaenorol) Llywodraeth Cymru.

Beth fydd enw'r ysgol newydd?

Y corff llwydraethu dros dro fydd yn penderfynu ar hyn, a byddant yn ystyried barn a syniadau'r disgyblion yn ei gylch.

Sut yr ymgynghorir â'r disgyblion?

Bydd cyfle i ddisgyblion y ddwy ysgol gymryd rhan yn y broses ymgynghori yn ystod sesiynau ymgynghori dosbarth a gynhelir yn yr ysgolion gyda chymorth gan eu hathrawon. Bydd yr adborth gan ddisgyblion yn ystod y sesiynau hyn yn cael ei goladu a'i ystyried. Mae papur ymghynghori â disgyblion, sy'n amlinellu'r cynnig mewn fformat syml, hefyd ar gael ac mae'n cynnwys slip ymateb disgybl y gallant ei lenwi a'i anfon os ydynt yn dymuno.

Gall disgyblion gyrchu arolwg ar-lein drwy ddilyn y ddolen ganlynol: Ffurflen ymateb i ddisgyblion

Sut gallaf fynegi fy marn?

Rydym yn ymgynghori ar y cynnig hwn rhwng 31 Mawrth 2025 a 15 Mai 2025. Mae'r ddogfen ymgynghori lawn i'w chael ar y wefan ac mae'n cynnwys gwybodaeth am yr holl ffyrdd y gallwch fynegi eich barn wrthym, gan gynnwys arolwg ar-lein, mynd i gyfarfod ymgynghori neu ysgrifennu / anfon e-bost atom: Cynnig i gyfuno ysgolion cynradd Blaen-y-maes a Phortmead

Gallwch hefyd ofyn am gopi caled o'r papur ymgynghori gan yr ysgol neu drwy e-bostio trefniadaethysgolion@abertawe.gov.uk

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 04 Ebrill 2025