Toglo gwelededd dewislen symudol

Grant gwisg ysgol - blwyddyn ysgol mis Medi 2022 i fis Mehefin 2023

Wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru i gynorthwyo teuluoedd ar incymau isel.

Mae'n bosib y bydd gan deuluoedd â phlant sy'n cael prydau ysgol am ddim traddodiadol ac sy'n derbyn budd-dal cymwys hefyd hawl i dderbyn cymorth tuag at eu biliau dŵr gan Dŵr Cymru.

 

Mae'r grant ar gael i blant sy'n derbyn prydau ysgol am ddim ar hyn o bryd. Nid yw disgyblion sy'n cael prydau ysgol am ddim oherwydd trefniadau amddiffyn wrth bontio yn gymwys ar gyfer y cyllid hwn.

Mae'r grant hwn yn berthnasol i'r grwpiau blwyddyn canlynol:

  • Derbyn i flwyddyn 11.
  • Plant sy'n derbyn gofal (sy'n mynychu ysgol yn Abertawe).
  • Y rheini yr ystyrir nad oes ganddynt hawl i arian cyhoeddus.

Am flwyddyn yn unig bydd cynllun y Grant Datblygu Disgyblion - Mynediad yn cael ei godi £100 fesul dysgwr sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim.

Mae £225 ar gael ar gyfer pob dysgwr cymwys ac eithrio'r rheini ym Mlwyddyn 7, a fydd yn gymwys i £300.

Dyliad gwario'r grant ar:

  • Wisg ysgol gan gynnwys cotiau ac asgidiau;
  • Cit chwaraeon ysgol gan gynnwys esgidiau;
  • Offer TG: gliniadur a thabledi YN UNIG (dim ond mewn sefyllfa gyfyngedig y dylid defnyddio'r Grant Datblygu Disgyblion - Mynediad, lle nad yw ysgol yn gallu benthyca offer i'r teulu);
  • Gwisg ysgol ar gyfer gweithgareddau cyfoethogi, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, sgowtiaid; geidiaid; cadlanciau; crefft ymladd; chwaraeon; celfyddydau perfformio neu ddawns;
  • Offer e.e. bagiau ysgol, deunydd ysgrifennu;
  • Offer arbenigol ar gyfer gweithgareddau'r cwricwlwm newydd fel Dynlunio a Thechnoleg;
  • Offer ar gyfer teithiau ar ôl oriau ysgol fel dysgu awyr agored e.e. dillad dwrglos.

Gellir gwneud ceisiadau o 1 Gorffennaf 2022 hyd at 30 Mehefin 2023 a gall ceisiadau gymryd hyd at 7 diwrnod i'w prosesu.

 

Gwneud cais ar lein - grant gwisg ysgol Grant gwisg ysgol - ar-lein

 

Os oes angen cymorth arnoch, cysylltwch â schooluniformgrant@swansea.gov.uk neu ffoniwch 01792 636611.

 


GROW

Gwisg Ysgol - Newydd ac wedi'i hailgylchu

Mewn partneriaeth gydag ysgolion lleol yn Abertawe, rydym wedi sefydlu prosiect ABC123 sy'n ymwneud a gwisgoedd ysgol fforddiadwy. Derbyniwn wisgoedd nad oes eu hangen bellach, eu golchi ac wedyn yn eu hailwerthu am ffracsiwn o gost gwisgoedd newydd.

Ar hyn o bryd mae gennym nifer fawr o wisgoedd ar gael yn ein hadeilad yng nghanol y dref: Uned 12 Canolfan Siopa Dewi Sant, Abertawe ac mi fyddwn yn eich croesawu i ddod i weld beth sydd ar gael. Rydym yn edrych ymlaen at eich gweld neu fe allwch roi galwad ffon ar 01792 712888 neu 07494 966980. 

Ffôn: 01792 712888

E-bost: info@growcymru.org.uk

Close Dewis iaith