Abertawe Gydnerth
Creu cymuned wyrddach a chryfach.
Mae'r hinsawdd yn newid, ac rydym eisoes yn gweld yr effeithiau. Rydym yn profi gaeafau cynhesach a gwlypach a hafau poethach a sychach, y disgwylir iddynt ddod yn arferol.
Rydym yn gwybod ein bod yn debygol o wynebu mwy o dywydd garw, a dyna pam mae angen i ni ddechrau cynllunio fel ein bod yn barod i ymateb i heriau os a phryd y byddant yn codi. Dim ond os ydym yn dod at ein gilydd i greu gweledigaeth gadarnhaol ac yn dechrau llunio map ffordd ar gyfer Abertawe gydnerth y gellir cyflawni hyn.
Gweithredu cadarnhaol sydd eisoes ar y gweill
- Amddiffynfeydd môr y Mwmbwls, a adeiladwyd i amddiffyn rhag lefelau môr cynyddol
- Mae rhaglenni Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol yn datblygu'n dda yng Ngellifedw, Clydach, Clun, Cilâ, Treforys, Gorseinon a Sandfields
- Ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe ynghylch sut i ddarparu'r wybodaeth angenrheidiol i gymdeithas fel y gall ragweld ac amddiffyn rhag bygythiad tanau gwyllt
- Prosiect Ynni Penderi ym Mlaen-y-Maes, y prosiect ôl-osod ynni adnewyddadwy mwyaf o'i fath yn y DU, sy'n ôl-osod hyd at 600 o gartrefi gyda thechnoleg newydd i helpu i arbed arian ar filiau ynni ond hefyd i sicrhau bod cartrefi'n barod at y dyfodol.
Newid yn yr hinsawdd yn Abertawe: pryderon allweddol
Mae Abertawe'n adnabyddus am ei thirweddau amrywiol hardd a'i chymunedau bywiog ac fel y mae pawb yma'n gwybod, mae glaw a thymheredd cymedrol yn rhan graidd o'i chymeriad arfordirol.
Fodd bynnag, mae effeithiau newid yn yr hinsawdd eisoes yn cael eu teimlo. Dros y blynyddoedd diweddar, mae Abertawe wedi profi llifogydd, stormydd eithafol a thanau gwyllt.
Ar draws Cymru, roedd tymheredd cyfartalog y tir yn y degawd 2010-2019 0.9°C yn gynhesach nag yn y cyfnod rhwng canol y 1970au i ganol y 2010au, gan godi i 10°C yn hytrach na 9°C (Netherwood, A., 2021). Y mwyaf nodedig yw'r achosion cynyddol o dymereddau uchaf yr haf yng Nghymru. Er enghraifft, yn haf 2021 cyhoeddodd y Swyddfa Dywydd y rhybudd gwres eithafol cyntaf ledled Cymru, gan gynnwys yn Abertawe.
Mae hyn yn golygu bod newid yn yr hinsawdd yn broblem leol yn ogystal â phroblem fyd-eang, sy'n cael effeithiau lleol sylweddol yn enwedig i aelodau mwyaf diamddiffyn ein cymuned.
Disgwylir i hafau poeth ddod yn fwy cyffredin. Erbyn 2050, gall bob yn ail haf fod mor boeth â haf 2022, lle cafwyd yr haf poethaf hyd yma.
- Bydd lefel y môr yn parhau i godi yn yr 21ain ganrif hyd yn oed os yw allyriadau nwyon tŷ gwydr yn gostwng yn gyflym.
- Bydd mwy o lifogydd yn achosi difrod i eiddo ac yn bygwth isadeiledd Abertawe.
- Tywydd eithafol - Bydd effeithiau cynyddol stormydd a glaw trwm yn effeithio ar gymunedau ac isadeiledd yn yr ardal
- Pwysau ar adnoddau dŵr - bydd llai o law yn ystod yr haf a thymheredd uwch yn achosi pwysau ar adnoddau dŵr i gymunedau trefol a gwledig
- Ffyrdd a thrafnidiaeth - bydd tarfu cynyddol sy'n gysylltiedig â'r hinsawdd yn bygwth isadeiledd trafnidiaeth Abertawe, gan effeithio ar ein gallu i deithio o gwmpas ond gall hefyd effeithio ar ddarparu nwyddau a gwasanaethau.
- Pwysau ar gynefinoedd naturiol - er y gallai Cymru fod mewn llai o berygl o danau gwyllt o gymharu â rhanbarthau eraill, mae amlder cynyddol y digwyddiadau hyn o ganlyniad i newid yn yr hinsawdd yn peri risg gynyddol i gynefinoedd a chymunedau naturiol Abertawe.
- Iechyd a lles - gall newid yn amodau'r hinsawdd, fel cynnydd mewn tywydd poeth, gael effeithiau uniongyrchol ac anuniongyrchol ar iechyd preswylwyr Abertawe.
Addasu i newid
'Y gallu i ymaddasu' yw gallu unigolion, sefydliadau a chymunedau i addasu i ddifrod posib, manteisio ar gyfleoedd, neu ymateb i ganlyniadau (Panel Rhynglywodraethol ar y Newid yn yr Hinsawdd, 2018).
Mae angen i ni hefyd ystyried bod effeithiau hinsawdd yn cael effeithiau anghyfartal, ac yn achos llawer o risgiau hinsawdd, effeithir fwyaf ar y rhai mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas yn aml.
Er enghraifft, mae gwres eithafol yn fwy tebygol o effeithio ar bobl â chyflyrau iechyd. Neu efallai y bydd rhai pobl sy'n byw mewn eiddo sy'n destun perygl llifogydd yn ei chael hi'n anoddach ymateb i lifogydd, er enghraifft:
- drwy ei chael hi'n anodd cael mynediad at fesurau i ddiogelu eu cartrefi,
- wrth gyflawni gweithredoedd corfforol fel codi bagiau tywod, ac
- wrth ddod o hyd i yswiriant
Pam y mae arnom angen i chi gymryd rhan
Bydd angen ymdrech gydweithredol i greu Abertawe Gydnerth er mwyn ein galluogi i ddeall y darlun llawn, a dechrau meddwl am ffyrdd y gallem fynd i'r afael â heriau'r dyfodol.
Er mwyn gwneud hyn, rydym am weithio gyda phobl o bob rhan o Abertawe i'n helpu i ddatblygu strategaeth i'n galluogi i ymateb i newid yn yr hinsawdd, yn awr ac yn y dyfodol.
Mae angen i ni greu gweledigaeth ar gyfer Abertawe sy'n nodi sut y gallwn fod yn hyblyg yn wyneb newid, er mwyn gallu adfer o adfyd yn y dyfodol.
Rydym felly'n dod â sefydliadau, cymunedau a phreswylwyr ynghyd i'n helpu i archwilio'r materion a'r cyfleoedd, ac i ddechrau llunio map ffordd ar gyfer Abertawe fwy cydnerth.
Bydd hyn yn archwilio ystod o ystyriaethau yng nghyd-destun ymaddasu i'r hinsawdd, megis:
- sut rydym yn creu cymunedau iach a chynaliadwy,
- sut y gallwn feithrin lleoedd bywiog a diogel i bobl fyw a gweithio, a
- sut rydym yn gwella ac yn diogelu natur a'n hamgylchedd.
Mae angen i'n strategaeth yn y dyfodol fod â lles wrth ei chraidd, yn ogystal â sicrhau bod anghenion pawb yn cael eu hadlewyrchu ar draws pob rhan o gymdeithas. Yn benodol, mae angen i hyn gynnwys cenedlaethau'r dyfodol gan y bydd y penderfyniadau a wnawn heddiw yn effeithio arnyn nhw fwyaf.
Cofrestru ar gyfer gweithdy yn eich ardal
Dewch ynghyd i ddeall yr heriau y bydd Abertawe'n eu hwynebu yn ystod y blynyddoedd nesaf o ganlyniad i batrymau tywydd sy'n newid, sut y bydd yn effeithio arnoch a sut y gallwn weithio gyda'n gilydd i ddod o hyd i atebion.
Rydym am glywed am eich profiadau, eich syniadau a'ch myfyrdodau am sut y gallwn sicrhau bod Abertawe'n ffynnu wrth ymateb i'r her hon.
Canlyniad y gweithdai fydd adroddiad a fydd yn sail i strategaeth ynghylch sut y gall Abertawe ddod yn fwy gydnerth, gan ymateb i'r argyfwng hinsawdd wrth ddiwallu anghenion ein cymuned.
Cynhelir ein gweithdai ar draws Abertawe gyda grwpiau trafod Cymraeg a Saesneg, a darperir lluniaeth ysgafn hefyd. Yn ddelfrydol, byddwch yn ymuno â'r gweithdy sy'n agosaf at eich cymuned leol.
Rhif gweithdy | Dyddiad | Amser | Lleoliad |
Gweithdy 1 | Dydd Llun 9 Medi 2024 | 2.00pm - 4.30pm | Canolfan Gymunedol Trallwn, Heol Bethel, Trallwn, Abertawe, SA7 9QP |
Gweithdy 2 | Dydd Llun 9 Medi 2024 | 6.30pm - 9.00pm | Canolfan Gymunedol Mayhill, Heol Mayhill, Mayhill, Abertawe, SA1 6TD |
Gweithdy 3 | Dydd Iau 12 Medi 2024 | 6.00pm - 8.30pm | Tycoch Coleg, Heol Tycoch, Sgeti, Abertawe, SA2 9EB |
Gweithdy 4 | Dydd Gwener 13 Medi 2024 | 1.30pm - 4.00pm | Ysgol Gynradd Llanrhidian, Llanrhidian, Abertawe, SA3 1EH |
Gweithdy 5 | Dydd Gwener 13 Medi 2024 | 6.00pm - 8.30pm | Capel Hope Siloh, 53 Heol St Teilo, Pontarddulais, SA4 8SY |
Gweithdy 6 | Dydd Sadwrn 14 Medi 2024 | 2.00pm - 4.30pm | Canolfan Dylan Thomas, Lle Somerset, Abertawe, SA1 1RR |
Gweithdy 7 | Dydd Mawrth 24 Medi 2024 | 2.00pm - 4.30pm | Canolfan Adnoddau Forge Fach, Heol Hebron, Clydach, SA6 5EJ |
Gweithdy 8 | Dydd Mawrth 24 Medi 2024 | 6.00pm - 8.30pm | Neuadd Goffa Treforys, Heol Gwernen, Treforys, SA6 6JR |
Gweithdy 9 | Dydd Mercher 25 Medi 2024 | 3.00pm - 5.30pm | Neuadd Hamdden Cilâ Uchaf, Lôn Fairwood, Cilâ Uchaf, SA2 7HP |
Gweithdy 10 | Dydd Mercher 25 Medi 2024 | 7.00pm - 9.30pm | Neuadd Gymunedol Pennard, Heol Pennard, Pennard, Southgate, SA3 2AD |
Gweithdy 11 | Dydd Iau 26 Medi 2024 | 2.00pm - 4.30pm | Canolfan Ostreme, Rhodfa Castell, Y Mwmbwls, SA3 4BA |
Gweithdy 12 | Dydd Iau 26 Medi 2024 | 6.30pm - 9.00pm | Neuadd Rechabite Tre-gŵyr, Stryd yr Eglwys, Tre-gŵyr, Abertawe, SA4 3EA |
Mae'r dyddiad cau i gofrestru ar gyfer y gweithdai bellach wedi mynd heibio. Fodd bynnag, os hoffech fynychu un o'r digwyddiadau a restrir uchod o hyd, e-bostiwch swanseaworkshops@grasshopper-comms.co.uk neu ffoniwch 01792 001552 a gallwn gadarnhau a oes lleoedd ar ôl ac archebu lle i chi.
Os na allwch fynychu gweithdy, rydym eisiau clywed eich safbwynt am greu Abertawe wyrddach a chryfach o hyd. Llenwch y ffurflen adborth fer hon erbyn dydd Gwener 4 Hydref fan bellaf.
Ariennir Abertawe Gydnerth gan Gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU ac fe'i darperir gan Grŵp Llofnodwyr Hinsawdd Abertawe.
Er mwyn i Abertawe gyrraedd y nod o fod yn Sero Net erbyn 2050 mae angen i ni i gyd weithio gyda'n gilydd. Dyna pam y mae Cyngor Abertawe wedi sefydlu'r Grŵp Llofnodwyr Siarter Hinsawdd i weithio ar y cyd ac yn strategol ar draws ein sir ar y daith i fod yn Sero Net. Bydd yr holl waith ar gyfer 2050 sy'n cael ei gyflawni gan Gyngor Abertawe yn deillio o'r grŵp hwn.
Mae'r grŵp hefyd yn arwain ar Gam 3 Cynllun Llesiant Abertawe ar gyfer y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.