Addysg ddewisol yn y cartref - beth os oes gan fy mhlentyn anghenion dysgu ychwanegol?
Mae'r un weithdrefn yn berthnasol os oes gan eich plentyn ddatganiad o AAA neu Gynllun Datblygu Unigol (CDU) ac mae'n mynychu ysgol brif ffrwd.
Fodd bynnag, os yw eich plentyn yn mynd i ysgol arbennig, dan drefniadau a wneir gan awdurdod lleol, ac rydych yn dymuno'i addysgu yn y cartref, dylech ysgrifennu i'r ysgol gan ddweud eich bod yn dymuno addysgu eich plentyn mewn lleoliad heblaw yn yr ysgol. Bydd yr ysgol yn hysbysu'r ALI o'ch dymuniadau ond ni fydd yn tynnu enw'r plentyn oddi ar y gofrestr nes ei fod wedi derbyn cytundeb gan yr Awdurdod Lleol.
Mae'n bwysig eich bod yn ysgrifennu at yr Awdurdod Lleol i ddweud wrthynt am eich penderfyniad i addysgu yn y cartref. Bydd hyn yn eu galluogi i gynnig cyngor wrth gyflawni nodau CDU.
Yn y naill achos neu'r llall, mae'n rhaid bod yr addysg a ddarperir gennych yn bodloni nodau'r datganiad AAA neu amcanion y CDU. Bydd yr Awdurdod Lleol yn parhau i gynnal adolygiad blynyddol am hyd y datganiad/cynllun datblygu unigol. Bydd hyn yn nodi a yw geiriad y datganiad/cynllun datblygu unigol yn dal i fod yn briodol, a oes angen iddo aros ar waith ac yw'r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol yn diwallu anghenion y plentyn. Bydd angen i'r ALl fod yn fodlon bod y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol yn cael ei chyflwyno. Lle nad yw rhieni'n gallu darparu'r holl ddarpariaeth ddysgu ychwanegol sydd ei hangen ar gyfer anghenion y plentyn, bydd angen i'r ALl ystyried sut y gellir sicrhau'r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol. Mewn rhai achosion, gallai fod drwy ddarpariaeth ychwanegol a drefnir gan yr ALl i ategu'r addysg sy'n cael ei darparu gan y rhiant gartref, neu gallai fod yn ddarpariaeth hyfforddiant i helpu'r rhiant i gyflwyno'r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol gartref. Mewn achosion eraill, efallai bydd angen i'r ALl arfer ei swyddogaethau addysg i sicrhau addysg i'r plentyn mewn ysgol benodol.
Mae gennych hawl i apelio o hyd i Dribiwnlys Addysg Cymru: https://tribiwnlysaddysg.llyw.cymru/
Pan ddaw ALl i wybod, neu fel arall pan fo'n ymddangos i'r ALl y gall fod gan blentyn sy'n cael ei addysgu yn y cartref (heblaw am blentyn sy'n derbyn gofal) y mae'n gyfrifol amdano anghenion dysgu ychwanegol (ADY), mae'n rhaid i'r ALl benderfynu p'un a oes gan y plentyn ADY neu beidio. Os yw'n penderfynu bod gan y plentyn ADY, mae'n rhaid iddo baratoi a chynnal CDU. Dylai'r ALl sy'n paratoi neu'n adolygu'r CDU weithio gyda'r plentyn a rhiant y plentyn i nodi'r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol briodol a'i sicrhau. Mae hyn yn cynnwys nodi'r math o ddarpariaeth ddysgu ychwanegol sy'n ofynnol i ddiwallu anghenion y plentyn a pha un a fydd y rhiant yn gallu'i chyflwyno (naill ai'n uniongyrchol neu drwy drefnu i rywun arall ei chyflwyno).