Toglo gwelededd dewislen symudol

Addysg Gymraeg yn Abertawe - cwestiynau cyffredin

Cwestiynau cyffredin.

Beth yw addysg cyfrwng Cymraeg?

Mae addysg cyfrwng Cymraeg yn darparu cyfleoedd i blant a phobl ifanc ddod yn rhugl yn yr iaith Gymraeg trwy astudio ystod eang o bynciau a disgyblaethau yn y Gymraeg. Bydd sgiliau Saesneg eich plentyn hefyd yn cael eu datblygu mewn gwersi Saesneg a thrwy brofi rhai agweddau ar y cwricwlwm yn Saesneg.

Nid ydym yn siarad Cymraeg gartref - a fyddai fy mhlentyn yn teimlo'n chwithig?

Ddim o gwbl. Mewn gwirionedd, nid yw'r mwyafrif helaeth o blant mewn addysg cyfrwng Cymraeg yn Abertawe yn siarad Cymraeg gartref. Ac i rai ohonynt, iaith heblaw'r Saesneg yw prif iaith y cartref.

Felly mae dod o gefndir di-Gymraeg yn gwbl gyffredin ac mae'r cwricwlwm wedi'i gynllunio gyda hynny mewn golwg.

Astudiaeth achos 1: YouTube - Samantha Goulder's story (Yn agor ffenestr newydd)

Astudiaeth achos 2: YouTube - Laura Lewis' story (Yn agor ffenestr newydd)

Sut galla i helpu fy mhlentyn gyda gwaith cartref os nad ydw i'n siarad Cymraeg?

Gan nad yw'r rhan fwyaf o blant yn siarad Cymraeg gartref, mae ysgolion cyfrwng Cymraeg yn brofiadol iawn wrth gefnogi disgyblion a rhieni.

Ar gyfer disgyblion iau, rhoddir cyfarwyddiadau gwaith cartref yn ysgrifenedig yn y Gymraeg a'r Saesneg. Pan fyddant yn hyn, bydd y plant yn gallu esbonio eu gwaith i'w rhieni eu hunain. Mewn gwirionedd, mae ymchwil yn awgrymu y gall ymdrin a'u gwaith mewn dwy iaith helpu plant i ddeall y pwnc y maent yn ei astudio.

A allaf ddysgu Cymraeg ochr yn ochr a'm plentyn?

Mae rhai rhieni, ar ol dewis ysgol cyfrwng Cymraeg i'w plentyn, yn penderfynu dysgu Cymraeg hefyd. Mae'n gyfle gwych i ddysgu gyda'ch gilydd, i ymarfer eich sgiliau iaith a'ch gilydd a threulio amser gwerthfawr gyda'ch gilydd.

Mae cyrsiau Cymraeg i Oedolion ar gael ledled Abertawe, ac maent yn addas ar gyfer dysgwyr ar bob lefel. Am ragor o wybodaeth, ewch i'r gwefannau canlynol: www.swansea.ac.uk/learnwelsh (Yn agor ffenestr newydd).

Ble mae'r ysgolion cyfrwng Cymraeg yn Abertawe?

Mae rhestr lawn o'n holl ysgolion cyfrwng Cymraeg ar gael yma: Dod o hyd i fanylion cyswllt yr ysgol.

Beth yw'r cynlluniau ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg yn Abertawe yn y dyfodol?

Mae Cyngor Abertawe wedi datblygu ei Gynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg sy'n darparu manylion ar ein cynlluniau am gyfnod o 3 blynedd. Mae'r cynllun llawn ar gael yma: WESP.

Close Dewis iaith