Adolygiad o'r Cynllun Datblygu Lleol
I sicrhau bod Cynlluniau Datblygu Lleol (CDLlau) yn gyfredol, mae'n ofynnol i gynghorau adolygu eu cynlluniau o leiaf unwaith bob pedair blynedd.
Mae'r Awdurdod Cynllunio wedi cynhyrchu Adroddiad Adolygu CDLl Abertawe (pdf) sy'n nodi canfyddiadau adolygiad cynhwysfawr a gynhaliwyd o'r CDLl presennol. Mae'r Adroddiad Adolygu'n nodi'r llwybr gweithdrefnol priodol ar gyfer cynhyrchu CDLl Newydd Abertawe (CDLlN), ac yn nodi materion allweddol i'w hystyried wrth fynd â'r broses ddisodli yn ei blaen.
Roedd fersiwn ddrafft o'r Adroddiad Adolygu yn destun cyfnod ymgynghoriad cyhoeddus tan 20 Ebrill 2023. Ystyriwyd yr holl sylwadau ar y fersiwn ddrafft a gwnaed y newidiadau priodol cyn i'r fersiwn derfynol gael ei chymeradwyo gan y cyngor ar 6 Gorffennaf 2023.