Toglo gwelededd dewislen symudol

Adran 6 dyletswydd bioamrywiaeth a chydnerthedd ecosystemau cynllun gweithredu (Ionawr 2023 - Rhagfyr 2025)

Ers 2015, mae Cyngor Abertawe (ynghyd â phob corff cyhoeddus arall) wedi cael mwy o gyfrifoldebau a dyletswyddau cyfreithiol i gynnal a gwella'r amgylchedd naturiol a bioamrywiaeth.

Tree planting in Clyne Gardens

Er mwyn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth ganlynol: 

Mae dyletswydd gyfreithiol ar Gyngor Abertawe i adrodd i Lywodraeth Cymru bob 3 blynedd yn amlinellu'r camau a gymerwyd i gydymffurfio â'r Ddyletswydd Bioamrywiaeth Statudol, a elwir yn Adroddiad Adran 6. Mae Cyngor Abertawe wedi darparu Adroddiadau Adran 6 ar gyfer y blynyddoedd 2016-2019 a 2020-2022.

Dyma'r Cynllun Gweithredu Dyletswydd Bioamrywiaeth a Chydnerthedd Ecosystemau Adran 6 (Cynllun Gweithredu Adran 6 o hyn allan) Adran 6 i gynorthwyo adrodd yn y dyfodol. Cyn hyn, roedd amcan corfforaethol y Cyngor ar gyfer 'Amddiffyn a Gwella ein Hadnoddau Naturiol a Bioamrywiaeth' yn darparu fframwaith strategol lefel uchel a oedd yn nodi'r camau allweddol y byddai'r Cyngor yn eu cymryd i gyflawni ei Ddyletswydd Bioamrywiaeth.

Pam fod angen Cynllun Adran 6 arnom?

Gwnaeth Gyngor Abertawe ddatgan Argyfwng Natur ym mis Tachwedd 2021, yn fuan wedi i'r Senedd hefyd ddatgan un ar lefel genedlaethol ym mis Mehefin 2021. Mae Cyngor Abertawe'n berchen ar ardal sylweddol o asedau tir felly mae cryn gyfle i'r Cyngor roi camau gweithredu ar waith ar gyfer adfer natur yn Abertawe.  Mae'r cynllun hwn wedi blaenoriaethu camau gweithredu allweddol y gall y cyngor eu cymryd sy'n cael yr effaith gadarnhaol orau ar natur yn Abertawe.

Mae Cynllun Gweithredu Adfer Natur Lleol Abertawe (CGAN lleol) a gyhoeddwyd yn 2023 yn nodi 25 Thema Gweithredu ar gyfer Adfer Natur yn Abertawe. Mae Cyngor Abertawe'n aelod allweddol o Bartneriaeth Natur Leol Abertawe ac yn ogystal â helpu i gydlynu camau gweithredu cydweithredol drwy'r Bartneriaeth bydd yn cyfrannu at gyflawni CGAN lleol Abertawe drwy ei Gynllun Gweithredu Adran 6.

Bydd y cynllun Adran 6 hefyd yn cyfrannu at nifer o gynlluniau/strategaethau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol eraill sy'n cydnabod pwysigrwydd bioamrywiaeth, a'r buddion ehangach y gall eu darparu i bobl gan gynnwys:

Strwythur y cynllun a phwyntiau allweddol i'w nodi

  • Mae llawer o'r camau gweithredu yn dibynnu ar, ac yn amodol ar, y cyllid sydd ar gael a'r adnoddau staff. 
  • Mae'r adrannau canlynol yn amlinellu tablau o gamau gweithredu y mae'r Cyngor yn bwriadu eu datblygu dros gyfnod adrodd Cynllun Adran 6. 
  • Mae'r cynllun gweithredu isod yn nodi'r gwaith y byddwn yn ei wneud o nawr tan fis Rhagfyr 2025 i gyflawni ein hymrwymiadau i gynnal a gwella Bioamrywiaeth. 
  • Mae camau gweithredu wedi'u nodi o dan chwe amcan allweddol Cynllun Gweithredu Adfer Natur Cymru, sef y prif benawdau yn y tabl gweithredu isod. 
  • Nodir Themâu Gweithredu CGAN lleol Abertawe a drafodir yng ngholofn 2. Mae'n werth darllen a chyfeirio at CGAN lleol Abertawe gan ei fod yn rhoi trosolwg o adferiad byd natur yn Abertawe. 
  • Mae adrannau neu dimau allweddol sy'n bennaf gyfrifol am gamau gweithredu a restrir yn y cynllun wedi'u nodi yng ngholofn 3.
  • Mae rhai o'r camau gweithredu a restrir yn uchelgeisiol ac yn rhai hirdymor, nid ydym yn disgwyl eu cwblhau i gyd erbyn Rhagfyr 2025.
  • Mae camau gweithredu eraill yn adlewyrchu'r gwaith o ddydd i ddydd sydd eisoes yn cael ei wneud sy'n cyfrannu at adferiad byd natur.
  • Mae cynllun adran 6 yn gyfrifoldeb i bawb ond mae'r Tîm Cadwraeth Natur yn hapus i gefnogi a chynghori.

Monitro a diweddaru'r cynllun

Mae'r cynllun gweithredu hwn yn ddogfen fyw a gaiff ei hadolygu a'i hadrodd yn rheolaidd trwy'r Bwrdd Rhaglen Newid yn yr Hinsawdd ac Adfer Natur ac adroddiadau blynyddol ar y Cynllun Corfforaethol. Gellir ychwanegu camau gweithredu ychwanegol yn ôl yr angen.

Bydd yr adroddiad monitro Adran 6 nesaf yn cael ei gyhoeddi ym mis Ionawr 2026 a bydd yn cael ei gyfuno â fersiwn wedi'i diweddaru o'r cynllun gweithredu hwn.

Lle mae newidiadau sylfaenol i bolisi, terminoleg, neu ddatblygiadau yn ein dealltwriaeth o ecosystemau, mae'n bosibl y caiff y cynllun hwn ei ddiweddaru i adlewyrchu'r newidiadau hynny ar unrhyw adeg.

Amcan 1 CGAN: Ennyn a chefnogi cyfranogiad a dealltwriaeth er mwyn i fioamrywiaeth fwrw gwreiddiau yn y broses benderfynu ar bob lefel
Camau Gweithredu Adfer Natur Cyngor AbertaweMynd i'r afael â themâu gweithredu'r CGAN lleolAdran(nau)/tîm(au) allweddol
1a. Cyflwyno hyfforddiant adfer natur allanol, digwyddiadau codi ymwybyddiaeth addysgiadol a'r gwyddorau i ddinasyddion ar gyfer cymunedau, grwpiau, ysgolion a busnesau.1.1; 1.2Cadwraeth Natur ac AHNE
1b. Cyflwyno hyfforddiant pwrpasol ar fioamrywiaeth ac isadeiledd gwyrdd i staff y cyngor ac aelodau etholedig.  1.2; 1.4Cadwraeth Natur, Tirwedd
1c. Codi ymwybyddiaeth o fygythiadau i natur ac ymdrechion adfer natur cadarnhaol trwy lwyfannau cyfryngau cymdeithasol swyddogol y cyngor, ei wefan ac eraill.1.1Cyfathrebu, Cadwraeth Natur, AHNE
1d. Cymryd rhan mewn hyfforddiant adfer natur ar-lein.1.1; 1.2; 1.4Yr holl staff ac Aelodau Etholedig
1e. Ymgysylltu a chefnogi aelodau etholedig, gan gynnwys yr hyrwyddwr bioamrywiaeth, ar faterion a chyfleoedd adfer natur perthnasol o fewn eu wardiau a'u cyfrifoldebau portffolio.1.2; 1.4Cadwraeth Natur, Aelodau Etholedig
1f. Hwyluso adrannau'r cyngor sydd â chyfrifoldebau rheoli tir ac adeiladau i ymgymryd â rheolaeth briodol yn y tymor byr, y tymor canolig a'r tymor hir a chamau gweithredu i wella bioamrywiaeth.1.3; 1.4Parciau, Tai, Cadwraeth Natur, Ysgolion, Gwasanaethau Cymdeithasol, Priffyrdd, Eiddo Corfforaethol, Rheoli Adeiladu, Mynwentydd, Hawliau Tramwy
1g. Rhaid i benderfyniadau cynllunio gynnal a gwella bioamrywiaeth trwy ystyried yr holl wybodaeth berthnasol sydd ar gael a all gynnwys rhywogaethau a chynefinoedd o brif bwysigrwydd, SINCs, cydnerthedd ecosystemau, a chanllawiau cynllunio atodol perthnasol.1.4Cynllunio a Chynllunio Strategol, Cadwraeth Natur (cyngor) Swyddogion SAB, Swyddogion Coed
1h. Parhau i wreiddio adferiad byd natur o fewn Cynlluniau Corfforaethol, y Cynllun Llesiant, a'r Cynllun Datblygu Lleol Newydd presennol ac yn y dyfodol, i sicrhau ei fod yn cael ei ystyried wrth wneud penderfyniadau ac yn cael ei flaenoriaethu ar yr un lefel â'r Argyfwng Hinsawdd.1.4Polisi Cynllunio, Newid yn yr Hinsawdd

 

Amcan 2 CGAN: Diogelu rhywogaethau a chynefinoedd sydd o'r pwys mwyaf a'u rheoli'n well
Camau Gweithredu Adfer Natur Cyngor AbertaweMynd i'r afael â themâu gweithredu'r CGAN lleolAdran(nau)/tîm(au) allweddol
2a. Sicrhau bod data cywir a chyfredol yn cael ei gasglu ar safleoedd natur gwarchodedig statudol ym mherchnogaeth y cyngor i fonitro cyflwr a llywio ymyriadau rheoli ac adfer natur priodol. 2.1; 5.1Cadwraeth Natur, AHNE
2b. Fel yr awdurdod cyfrifol, cynnal adolygiad o Safleoedd o Bwysigrwydd Cadwraeth Natur (SINCs) yn unol â chanllawiau perthnasol. Dechrau ail-arolygu'r 73 o Safleoedd o Bwysigrwydd ar gyfer Cadwraeth Natur sydd o dan berchnogaeth y cyngor i raddau helaeth neu'n rhannol yn rheolaidd er mwyn cynnal data cywir a chyfredol sy'n llywio ymyriadau rheoli a chadwraeth.2.1; 5.1Cadwraeth Natur, AHNE
2c. Archwilio adeiladau presennol y cyngor a cheisio gosod o leiaf un nodwedd nythu ystlumod ac adar ar bob adeilad addas, presennol a newydd, sy'n eiddo i'r cyngor neu sy'n cael ei brydlesu gan y cyngor.2.2; 2.3; 3.1Cadwraeth Natur, Gwasanaethau Adeiladu, Ysgolion, Mwy o Gartrefi
2d. Paratoi, gweithredu a monitro cynlluniau rheoli ar gyfer SINCs a Gwarchodfeydd Natur Lleol sy'n eiddo i'r Cyngor ynghyd â mannau gwyrdd cyhoeddus eraill gan gynnwys traethau a pharciau, lle y bo hynny'n briodol ac mae cyllid yn caniatáu.2.1: 2.2Cadwraeth Natur, Parciau, ac adrannau deiliadaeth tir perthnasol eraill

 

Amcan 3 CGAN: Gwneud ein hamgylchedd naturiol yn fwy cydnerth drwy adfer cynefinoedd sydd wedi'u diraddio a chreu cynefinoedd
Camau Gweithredu Adfer Natur Cyngor AbertaweMynd i'r afael â themâu gweithredu'r CGAN lleolAdran(nau)/tîm(au) allweddol
3a. Ehangu'r cynllun rheoli dolydd blodau gwyllt presennol (torri a chasglu) ar draws tir addas y cyngor, lle mae cyllid ac adnoddau'n caniatáu.3.1; 3.2Cadwraeth Natur, Parciau
3b. Gweithio'n gorfforaethol a chyda rhanddeiliaid i barhau i weithredu Strategaeth Isadeiledd Gwyrdd canol y ddinas a pharatoi a mabwysiadu'r strategaethau isadeiledd gwyrdd ar gyfer y sir gyfan.3.5Cadwraeth Natur, Tirwedd, Cynllunio a Chynllunio Strategol, Rheoli Datblygu, Adfywio Economaidd, Gwasanaethau Parciau, Priffyrdd a Draenio   
3c. Gwella rheolaeth safleoedd y mae'r cyngor yn berchen arnynt i wella eu cyflwr a chydnerthedd ecosystemau yn gyffredinol.3.3; 3.4; 2.2; 3.2Cadwraeth Natur, Parciau, ac adrannau deiliadaeth tir perthnasol eraill
3d. Cynyddu a monitro gorchudd canopi coed ledled y sir gan ddefnyddio data mapio cyfleoedd perthnasol.3.5; 3.2Pob adran tirfeddiannol 
3e. Blaenoriaethu a chyflawni elfennau adfer natur cynllun rheoli AHNE Gŵyr, o fewn ac o amgylch yr AHNE.3.1; 3.1:2AHNE, Cadwraeth Natur
3g. Sicrhau bod Cynllun y Gronfa Teithio Llesol yn cynnal ac yn gwella bioamrywiaeth yn ei holl waith arfaethedig wrth symud ymlaen.3.2Teithio Llesol, Cadwraeth Natur, Cynllunio a Chynllunio Strategol
3h. Archwilio cyfleoedd i ddatgan, gwella a rheoli Gwarchodfeydd Natur Lleol newydd ar dir sy'n eiddo i'r Cyngor er mwyn cyfrannu at dargedau 30x30 CGAN lleol Abertawe a LlC.3.3Cadwraeth Natur, AHNE
3i. Gweithio gydag ysgolion i gefnogi'r gwaith o gyflawni gwelliannau i fioamrywiaeth ac isadeiledd gwyrdd ar diroedd ysgolion3.3; 3.4; 2.2; 3.2Addysg, Eiddo Corfforaethol Ysgolion, Cadwraeth Natur, Parciau

 

Amcan 4 CGAN: Mynd i'r afael â'r prif bwysau ar rywogaethau a chynefinoedd
Camau Gweithredu Adfer Natur Cyngor AbertaweMynd i'r afael â themâu gweithredu'r CGAN lleolAdran(nau)/tîm(au) allweddol
4a. Gostwng a lleihau'r defnydd o blaladdwyr a chwynladdwyr a ddefnyddir yng ngweithrediadau'r cyngor lle mae dewisiadau amgen dichonadwy ar gael.4.1Parciau, Cadwraeth Natur
4b. O fewn cwmpas cyfrifoldebau'r cyngor lleihau achosion o lygredd dŵr, pridd ac aer. 4.1Tîm llygredd, Priffyrdd, Cadwraeth Natur, Tirwedd (GI)
4c. Gwella ymhellach gaffael cynaliadwy ar draws holl wasanaethau'r cyngor fel bod bioamrywiaeth yn cael ei chynnal a'i gwella.4.6Caffael
4d. Creu nodyn cyfarwyddyd Golau Artiffisial yn y Nos (ALAN) ar gyfer y cyngor cyfan mewn cydweithrediad â'r holl adrannau/timau perthnasol i leihau effaith llygredd golau'r cyngor a chynyddu cydnerthedd ecosystemau trwy leihau rhwystrau llygredd golau i rywogaethau.4.1Cadwraeth Natur, Tai, Priffyrdd, Cynllunio a Chynllunio Strategol, AHNE, tîm Goleuadau Stryd
4e. Datblygu a defnyddio rhestr wirio i sicrhau bod gweithgareddau a digwyddiadau a drefnir gan y cyngor yn lleihau aflonyddwch/difrod i gynefinoedd a rhywogaethau. 4.4; 4.6Cadwraeth Natur, Digwyddiadau Arbennig, Arall
4f. Rheoli Rhywogaethau Estron Goresgynnol (INNS) ar dir y cyngor.  Blaenoriaethu safleoedd gwarchodedig gan gyfrannu at reolaeth effeithiol ar gyfer 30x30.4.2Cadwraeth Natur, Parciau
4g. Creu nodyn cyfarwyddyd am ganclwm Japan ar gyfer y cyngor cyfan mewn cydweithrediad â'r holl adrannau/timau perthnasol i reoli'r rhywogaeth ar dir y cyngor.4.2Cadwraeth Natur, Parciau
4h. Codi ymwybyddiaeth o INNS yn fewnol yn y cyngor, yn enwedig o ran casglu gwastraff ymyl y ffordd a rheoli INNS ar dir y cyngor. 4.2; 1.2Parciau a Gwastraff, Cadwraeth Natur
4i. Cefnogi camau gweithredu sy'n gweithio tuag at Gynllun Sero Net 2030 i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, sydd hefyd yn helpu adferiad byd natur.4.3Pob aelod o staff/adran
4j. Defnyddio llwyfannau cyfryngau swyddogol, ynghyd â deunydd twristiaeth a hyrwyddo ymwelwyr i godi ymwybyddiaeth o sut gall twristiaeth a'r cyhoedd gyfrannu at aflonyddwch bywyd gwyllt a chynghori ar sut i leihau effeithiau yn Abertawe.4.4; 1.4Cadwraeth Natur, CBEEMS, Cyfathrebu, Digwyddiadau Marchnata Twristiaeth a Chymorth
4k.  Cynyddu cysylltedd a chydnerthedd ecolegol gan ddefnyddio data perthnasol (fel mapio cydnerthedd ecosystemau a mapio wardiau) i nodi meysydd blaenoriaeth ar gyfer gwella ac atal unrhyw golledion pellach i ardaloedd cysylltedd allweddol.4.5; 3.1Cadwraeth Natur, pob adran â deiliadaeth tir
4l. Sicrhau bod yr holl ddata ecolegol sydd ar gael yn cael ei ystyried wrth ddyrannu safleoedd ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol newydd, yn ogystal ag adnabod unrhyw fylchau yn y data a gwneud gwaith i lenwi'r bylchau. 4.5Cadwraeth Natur, Cynllunio
4m. Archwilio ffyrdd y gall digwyddiadau arbennig, megis digwyddiadau sy'n denu torf fawr, wrthbwyso effeithiau negyddol ar natur trwy liniaru a/neu gyfrannu'n ariannol at adferiad byd natur yn Abertawe.4.4; 4.1; 2.2Cadwraeth Natur, Digwyddiadau Marchnata Twristiaeth a Chymorth

 

NRAP Objective 5: Improve our evidence, understanding and monitoring
Camau Gweithredu Adfer Natur Cyngor AbertaweMynd i'r afael â themâu gweithredu'r CGAN lleolAdran(nau)/tîm(au) allweddol
5a. Parhau â'r Cytundeb Lefel Gwasanaeth (CLG) blynyddol gyda Chanolfan Cofnodion Bioamrywiaeth De-ddwyrain Cymru (SEWBReC) i gynnal mynediad at gofnodion rhywogaethau a chynefinoedd cyfoes er mwyn gallu defnyddio'r dystiolaeth orau sydd ar gael ar gyfer gwneud penderfyniadau.5.2Cadwraeth Natur, Cynllunio a Chynllunio Strategol
5b. Cefnogi datblygu mecanweithiau a chynlluniau newydd sy'n defnyddio data amgylcheddol lleol i nodi a thargedu cyfleoedd adfer natur.4.5Cadwraeth Natur, AHNE eraill?
5c. Sicrhau bod yr holl adroddiadau arolwg ecolegol a ariennir gan y cyngor yn cael eu darparu i'r tîm Cadwraeth Natur a bod data'n cael ei gyflwyno i SEWBReC gan gontractwyr.5.1Cadwraeth Natur, Cynllunio a Chynllunio Strategol, Datblygu ac Adfywio Ffisegol, Ystadau
5d. Ymchwilio i fecanweithiau ar gyfer sicrhau cydymffurfiaeth ag amodau cynllunio sy'n ymwneud â bioamrywiaeth.1.4; 2.3; 4.5Cadwraeth Natur, Cynllunio a Chynllunio Strategol.

 

*Mae camau gweithredu 2a, 2b a 6c yn gorgyffwrdd â'r amcan hwn hefyd*

Amcan 6 CGAN: Rhoi fframwaith llywodraethu ar waith a chefnogi ei gyflwyno
Camau Gweithredu Adfer Natur Cyngor AbertaweMynd i'r afael â themâu gweithredu'r CGAN lleolAdran(nau)/tîm(au) allweddol
6a. Parhau i fod yn aelod arweiniol o Bartneriaeth Natur Leol Abertawe a chydlynu a chynorthwyo aelodau eraill wrth gyflawni Cynllun Gweithredu Adfer Natur Leol Abertawe.6.1; 6.3; 5.3Nature Conservation, AONB, Elected Members
6b. Chwilio am gyfleoedd i ddod o hyd i fwy o gyllid refeniw craidd a chyfalaf ar gyfer adfer byd natur drwy geisiadau grant, codi ffioedd a chyfraniadau o gyllidebau mewnol eraill, cytundebau Adran 106, gan gynnwys gweinyddu a chydgysylltu'r gwaith o ddarparu grant Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Llywodraeth Cymru.6.2; 6.3Nature Conservation, Planning and Strategic Planning
6c. Holl adrannau'r cyngor i adrodd yn flynyddol ar waith a wnaed i gyflawni'r camau uchod, drwy fwrdd rhaglen a grŵp llywio'r CCNR, adroddiad adran 6 a chynllun newydd i'w gyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn Rhagfyr 2025.6.2All sections
6d. Mae Adfer Natur wedi'i wreiddio yng Nghynllun Llesiant y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.1.4; 6.2Nature Conservation

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 25 Medi 2024