Toglo gwelededd dewislen symudol

ADY - Byddardod

Byddardod yw anallu unigolyn i glywed synau'n ddigonol.

Gall hyn fod oherwydd datblygiad amhriodol, niwed neu glefyd i unrhyw ran o'r mecanwaith clyw. Mae dau brif fath o fyddardod: Achosir byddardod synwyrnerfol gan broblem yn y glust fewnol (y cochlea fel arfer) ac mae'n barhaol, ac achosir byddardod dargludol gan broblem yn y glust allanol neu'r glust ganol (yn aml gan gwyr neu hylif, fel clust ludiog), a rhywbeth dros dro ydyw fel arfer ond gall fod yn barhaol.

Nid yw llawer o bobl fyddar yn ystyried eu hunain yn anabl, ond yn hytrach, yn gweld eu hunain yn rhan o'r Gymuned Fyddar gyda'u hiaith, eu diwylliant a'u hanes eu hunain. Mae Iaith Arwyddion Prydain yn iaith leiafrifol gydnabyddedig ac mae'n iaith gyntaf llawer o bobl fyddar yn y DU. Mae'n iaith weledol gyda'i gramadeg a'i geirfa'i hun, ac mae wedi'i chynnwys yn y Cwricwlwm i Gymru.

Arwyddion cyffredinol

  • Lleferydd a synau eraill yn aneglur
  • Anhawster deall geiriau, yn enwedig yn erbyn sŵn cefndir neu pan fydd mewn torf
  • Anhawster clywed cytseiniaid
  • Hepgor rhai synau wrth siarad (er enghraifft, hepgor neu amnewid cytseiniaid)
  • Gofyn yn aml i eraill siarad yn arafach, yn gliriach ac yn uwch
  • Angen troi sain y teledu neu'r radio i fyny
  • Tynnu'n ôl o sgyrsiau
  • Osgoi rhai lleoliadau cymdeithasol.

Camau nesaf

Os ydych chi'n poeni y gall fod gan eich plentyn / person ifanc anawsterau clyw sy'n effeithio ar ei ddysgu, cysylltwch â'ch meddyg teulu a siaradwch ag ysgol / coleg eich plentyn / person ifanc. Siaradwch â'r athro dosbarth neu'r Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY) a byddant yn gallu gweithio gyda chi a phennu'r hyn sy'n digwydd nesaf. Os yw'ch plentyn dan 5 oed, mae angen i chi siarad â'ch Ymwelydd Iechyd.

Os nad yw'ch plentyn yn yr ysgol eto ac mae gennych chi bryderon am ei glyw, cysylltwch â'ch meddyg teulu i holi am brawf clyw. Mae Tîm Addysg y Byddar hefyd ar gael i roi cyngor ar gyfer plant cyn oed ysgol, gallwch anfon e-bost atynt yn ALNIT@abertawe.gov.uk

Iaith Arwyddion Prydain yn Abertawe

Mae Iaith Arwyddion Prydain yn iaith weledol gyda'i gramadeg, ei geirfa a'i strwythur ieithyddol ei hun.
Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 02 Gorffenaf 2024