ADY - Iaith Arwyddion Prydain yn Abertawe
Mae Iaith Arwyddion Prydain yn iaith weledol gyda'i gramadeg, ei geirfa a'i strwythur ieithyddol ei hun.
Mae'n iaith leiafrifol frodorol, ac mae gan ddefnyddwyr Iaith Arwyddion Prydain byddar eu diwylliant a'u cymuned fyddar unigryw eu hunain. Iaith Arwyddion Prydain yw iaith gyntaf llawer o bobl fyddar yn y DU, a yma yng Nghymru ceir tafodiaith Iaith Arwyddion Prydain ranbarthol unigryw.
Y Blynyddoedd Cynnar
Dangoswyd bod mynediad cynnar at Iaith Arwyddion Prydain yn cael effaith gadarnhaol ar ddatblygiad iaith mewn plant byddar ac mae'n opsiwn rydym yn ei annog ochr yn ochr ag ymyriadau eraill.
Rydym yn darparu cymorth i rieni babanod byddar neu blant a hoffai ddysgu Iaith Arwyddion Prydain. Mae modd cael gafael ar adnoddau a chefnogaeth sydd ar gael drwy athro'ch plentyn. Rydym hefyd yn annog rhieni sy'n dysgu Iaith Arwyddion Prydain i wneud cysylltiadau â'r gymuned fyddar leol a rheini eraill plant byddar.
Iaith Arwyddion Prydain yn y Cwricwlwm i Gymru
Mae'r Cwricwlwm i Gymru'n cynnwys canllawiau ar gyfer ysgolion sy'n addysgu Iaith Arwyddion Prydain. Mae hyn cynnwys Iaith Arwyddion Prydain i ddysgwyr byddar sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain fel eu hiaith gyntaf, yn ogystal â rhai eraill sy'n dysgu Iaith Arwyddion Prydain fel trydedd iaith neu iaith ddilynol.
Bydd dysgwyr byddar sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain fel eu hiaith gyntaf yn dilyn disgrifiadau o ddysgu sy'n cyd-fynd â disgwyliadau'r Gymraeg a'r Saesneg.
Mae'r Cwricwlwm i Gymru'n nodi'r disgwyliad y bydd pob dysgwr yn dysgu Cymraeg, Saesneg ac o leiaf un iaith arall o'r ysgol gynradd. Mae'r diffiniad o ieithoedd rhyngwladol yn cynnwys Iaith Arwyddion Prydain, felly mae gan ysgolion y dewis i addysgu Iaith Arwyddion Prydain fel iaith ryngwladol. Mater i ysgolion unigol fydd penderfynu wrth iddynt gynllunio'u cwricwlwm.
Ar gyfer pob ysgol sy'n dysgu Iaith Arwyddion Prydain (fel iaith gyntaf i ddysgwyr byddar neu fel iaith ryngwlladol), mae canllawiau Iaith Arwyddion Prydain yn pwysleisio'r angen am dystiolaeth ac arbenigedd cadarn. Dylai datblygu cwricwlwm Iaith Arwyddion Prydain fod yn broses o gydawduro sy'n ystyried ac yn cynnwys: y gymuned fyddar, tiwtoriaid Iaith Arwyddion Prydain, athrawon y byddar, ymchwil addysgol, ymchwiliad proffesiynol, tystiolaeth ac arbenigedd a rennir, partneriaeth â sefydliadau addysg bellach ac addysg uwch, a dysgu proffesiynol.