Toglo gwelededd dewislen symudol

ADY - Gwasanaethau dydd i oedolion ifanc ag ADY / anabledd dysgu

Mae nifer o wahanol wasanaethau dydd ar gyfer oedolion ifanc sydd ag ADY neu anabledd dysgu.

Er mwyn darganfod pa wasanaethau sydd fwyaf addas i chi, bydd angen i chi gysylltu â'r Tîm Anableddau Dysgu Cymunedol a fydd yn trafod eich cymhwyster a'ch anghenion / deilliannau. Gall hyn arwain at neilltuo gweithiwr cymdeithasol i chi. Bydd yn trafod yr anghenion a'r gefnogaeth y mae eu hangen arnoch chi a'ch teulu. Mae'n bosib y bydd yn trefnu asesiad a bydd ystod o opsiynau'n cael eu hystyried a all gynnwys gwasanaeth dydd.

Ble mae'r gwasanaethau dydd?

Maen nhw i'w cael ym mhob cwr o Abertawe. Maent yn cynnig cefnogaeth i oedolion ag ADY neu anabledd dysgu mewn amryw o ffyrdd gwahanol yn seiliedig ar anghenion a chanlyniadau.

Ydw i'n gallu galw heibio un o'r gwasanaethau dydd?

Nac ydych, mae pob gwasanaeth dydd yn cael ei sefydlu i gefnogi anghenion penodol; bydd angen i chi gael eich asesu cyn mynd i wasanaeth dydd er mwyn sicrhau eu bod yn gallu cefnogi'ch anghenion.

 

Gwasanaethau dydd sy'n cael eu rhedeg gan y cyngor
Gwasanaeth Datblygu CymdeithasolMae'n cefnogi oedolion ag anabledd dysgu i ddatblygu sgiliau byw a sgiliau cymdeithasol annibynnol.
Gwasanaeth Dydd a Chanolfan Asesu GlandŵrMae hyn yn cynnig gwasanaeth asesu, gan gyfeirio unigolion ag anabledd dysgu i gefnogaeth addas ar ôl asesiad sgiliau o'u galluoedd a'u hanghenion cefnogi. Mae hefyd cyn cynnig gwasanaeth dydd i helpu i ddatblygu sgiliau cymdeithasol a chynyddu annibyniaeth
Gwasanaeth Dydd Tŷ LafantMae'r gwasanaeth hwn yn cefnogi oedolion sydd ag anabledd dysgu uchel. Mae'n rhoi cefnogaeth i hyd at 15 o bobl bob dydd ac yn eu cefnogi mewn gweithgareddau i'w cadw'n heini ac yn iach. Mae hefyd yn hybu ac yn helpu i ddatblygu sgiliau annibyniaeth, cymdeithasol, a bywyd diddiol.
Gwasanaeth Dydd West CrossMae'r gwasanaeth hwn yn rhoi cefnogaeth i oedolion ag anabledda dysgu, sy'n arbenigo mewn Anhwylder ar y Sbectrwm Awtistig (ASD). Mae hefyd yn hybu ac yn helpu i ddatblygu sgiliau byw'n annibynnol, cymdeithasol, a bywyd dyddiol.
Gwasanaeth Dydd Dwys WhitethornsMae'r gwasanaeth hwn yn darparu cefnogaeth lefel uwch i oedolion ag anabledd dysgu a chydag ymddygiadau sy'n herio hybu annibyniaeth a sgiliau byw cymdeithasol a sgiliau byw dyddiol
Gwasanaeth Datblygu GwaithMae'r gwasanaeth hwn yn cynnig cefnogaeth i oedolion sydd ag anabledd dysgu, ac yn eu helpu i ennill sgiliau ar gyfer y byd gwaith.
Gwasanaeth Dydd Maes-glasMae'r gwasanaeth hwn yn cefnogi oedolion sydd ag anableddau dysgu cymhleth, anghenion cyfathrebu a symudedd. Mae'n cynnig gweithgareddau therapiwtig a chymunedol i helpu unigolion i ennill neu gynnal sgiliau cyfathrebu a byw bob dydd, wrth gefnogi anghenion iechyd.
Gwasanaeth Dydd GellifedwMae'r gwasanaeth hwn yn cefnogi oedolion sydd ag anableddau dysgu cymhleth, anghenion cyfathrebu a symudedd. Mae'r gweithgareddau a ddarperir gan amlaf yn therapiwtig i helpu unigolion i ennill neu gynnal sgiliau cyfathrebu a byw bob dydd, wrth gefnogi anghenion iechyd.
Gwasanaeth Dydd Trewarren

Mae'r gwasanaeth hwn yn cefnogi oedolion sydd ag anableddau dysgu cymhleth, anghenion cyfathrebu a symudedd. Mae'n cynnig gweithgareddau therapiwtig a chymunedol i helpu unigolion i ennill neu gynnal sgiliau cyfathrebu a byw bob dydd wrth gefnogi anghenion iechyd hefyd.

Gwasanaeth Dydd ParkwayMae'r gwasanaeth hwn yn cefnogi oedolion sydd ag anableddau dysgu cymhleth ac anghenion iechyd cymhleth, cyfathrebu a symudedd. Mae'n cynnig cymorth iechyd therapiwtig, clinigol a gweithgareddau yn y gymuned er mwyn helpu unigolion i gynnal eu hiechyd, ennill neu gynnal sgiliau cyfathrebu a byw bob dydd.
Gorwelion NewyddMae'n cefnogi oedolion sydd ag anabledd corfforol ac anabledd dysgu / nam ar y synhwyrau y mae angen lefel uchel o ofal arnynt i hyrwyddio'u lles corfforol ac emosiynol. Cysylltwch â'r Pwynt Mynediad Cyffredin ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol (PMC) os ydych yn teimlo bod hyn yn briodol i chi.

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 14 Mawrth 2023