ADY - Nam Amlsynhwyraidd
Mae gan blant a phobl ifanc sydd â nam amlsynhwyraidd namau ar eu golwg a'u clyw.
Mae llawer o blant / bobl ifanc hefyd yn wynebu heriau eraill, fel cyflyrau meddygol neu anableddau corfforol.
Arwyddion cyffredinol
Colli golwg:
- Rhwbio llygaid yn gyson neu gochni llygaid cronig
- Sensitifrwydd i olau eithafol
- Craffu, cau un llygad, neu lygaid wedi'u camleoli
- Canolbwyntio gwael neu'n cael anhawster dilyn gwrthrychau
- Anallu i weld gwrthrychau o bell
- Anallu i ddarllen bwrdd gwyn neu fwrdd du etc., neu'n cael anhawster darllen
- Llygaid yn edrych yn gymylog
- Un llygad yn fwy na'r llall, neu canhwyllau'r llygaid yn feintiau gwahanol
- Rydych yn sylwi ar newid yn y ffordd y mae llygaid eich plentyn / person ifanc yn edrych fel arfer
- Mae'n ymddangos bod eich plentyn / person ifanc yn gogwyddo'i ben yn gyson pan fydd yn edrych ar bethau.
Colli clyw:
- Diffyg sylw - nid yw'ch plentyn / person ifanc yn cydnabod pan fyddwch chi'n siarad neu pan fydd yn clywed synau o gwmpas y tŷ
- Gorfod bod yn agosach at siaradwr neu deledu
- Nid yw'n ymateb i synau uchel
- Syndod pan fo'r plentyn / person ifanc yn clywed ei enw
- Gall hyn gael effaith ar ddatblygiad lleferydd.
Camau nesaf
Os ydych chi'n poeni y gall fod gan eich plentyn / person ifanc nam amlsynhwyraidd sy'n effeithio ar ei ddysgu, siaradwch â'r athro dosbarth neu'r Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY) a byddant yn gallu gweithio gyda chi a phennu'r hyn sy'n digwydd nesaf. Os yw'ch plentyn dan 5 oed, mae angen i chi siarad â'ch Ymwelydd Iechyd.