Toglo gwelededd dewislen symudol

ADY - Pontio

Mae symud o un cam o'r ysgol i gam arall yn gyfnod o newid. I blant ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY), mae angen cynllunio'r cyfnodau pontio hyn yn ofalus.

Beth yw pontio?

Pontio yw symud o un cam neu gyfnod addysg i un arall. Weithiau gall hyn gynnwys symud ysgol neu leoliad.

Mae pontio'n amser o newid. I blant a phobl ifanc ag anghenion ychwanegol, mae angen cynllunio'r pontio'n ofalus. Mae'n bwysig bod anghenion eich plentyn / person ifanc yn cael eu hystyried ar bob cam o'r cyfnod pontio. Byddwch chi a'ch plentyn / person ifanc yn cymryd rhan ym mhob cam o'r broses bontio.

Beth yw'r camau pontio?

Gall yr hyn y mae pontio'n ei gynnwys ddibynnu ar anghenion y plentyn / person ifanc. Gall gynnwys:

  • Seddau newydd
  • Athrawon newydd
  • Grwpiau blwyddyn newydd
  • Amserau cinio
  • Egwyliau
  • Ystafelloedd dosbarth newydd
  • Ysgolion newydd

Beth yw pontio?

Mae'r cyfnod pontio'n edrych yn wahanol i ddisgyblion gwahanol yn ôl eu hanghenion. Am ragor o wybodaeth, siaradwch ag ysgol/â choleg eich plentyn / person ifanc.

Pa gyfleoedd sydd i bobl ifanc ag ADY ar ôl iddynt adael yr ysgol?

Gall pobl ifanc adael yr ysgol yn gyfreithiol ar ddiwedd mis Mehefin yn y flwyddyn ysgol pan fyddant yn cyrraedd 16 oed.

O'r cam hwn, gallant fel arfer wneud eu penderfyniadau eu hunain am yr hyn y maent am ei wneud. Fodd bynnag, bydd angen cefnogaeth ar rai i wneud cynlluniau. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein tudalennau ôl-16.

Pwy arall all helpu?

Os oes gennych chi unrhyw bryderon am bontio, mae nifer o bobl sy'n gallu'ch helpu. Gallwch gysylltu ag unrhyw un o'r canlynol:

 

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 14 Ebrill 2023