ADY - Ysgolion cynradd
Gall fod yn benderfyniad anodd dewis yr ysgol sydd fwyaf addas ar gyfer eich plentyn / person ifanc.
Ble dylai fy mhlentyn / mherson ifanc fynd i'r ysgol?
Weithiau gall dewis lleoliad ar gyfer eich plentyn / person ifanc fod yn un o'r pethau anoddaf y bydd angen i chi ei wneud. Y tymor ar ôl i'ch plentyn droi'n bump oed, mae ganddo'r hawl cyfreithiol i gael addysg.
Bydd mwyafrif y dysgwyr yn derbyn eu haddysg mewn ysgol yn eu hardal leol. Rhaid i bob lleoliad wneud addasiadau i helpu dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol i gael mynediad at y cwricwlwm.
Sut rydw i'n dewis ysgol?
Mae'n bwysig dewis lleoliad sy'n addas i'ch plentyn / person ifanc. Dyma rai pethau i'w hystyried:
- Gallwch ddechrau drwy chwilio am ysgolion yn agos atoch ar-lein, gallwch ddod o hyd i fanylion cyswllt ysgolion Abertawe yma
- Ewch i ymweld ag o leiaf ddau leoliad fel bod gennych rywbeth i'w gymharu.
- Oes gan y lleoliad yr holl bethau sydd eu hangen ar eich plentyn / person ifanc yn barod?
- Ceisiwch gadw meddwl agored nes eich bod wedi edrych ar yr holl bosibiliadau.
- Siaradwch ag unrhyw weithwyr proffesiynol sy'n ymwneud â'ch plentyn / person ifanc, gallai'r rhain gynnwys athrawon arbenigol neu'r seicolegydd addysg.
Beth y dylwn i ei ystyried wrth ymweld ag ysgol?
- Faint o ddisgyblion fyddai yn nosbarth fy mhlentyn / person ifanc?
- Faint o blant / bobl ifanc sydd ag anghenion ychwanegol sydd yn yr ysgol ar hyn o bryd?
- A yw tiroedd / cyfleusterau'r ysgol yn darparu mannau mynediad hygyrch?
- Beth fydd yr ysgol yn ei wneud i sicrhau bod yr holl staff yn gwybod am anghenion uigol fy mhlentyn / person ifanc?
- Sut mae'r ysgol yn trefnu cefnogaeth ychwanegol ar gyfer plant / pobl ifanc y mae ei hangen arnynt?
- Sut byddaf i'n rhan o'r cynllunio ar gyfer anhenion fy mhlentyn / person ifanc ac wrth adolygu ei gynnydd?
- Sut bydd y plant eraill / pobl ifanc yn cael eu helpu i ddeall anghenion fy mhlentyn / person ifanc?
- Sut bydd fy mhlentyn / person ifanc yn cael ei helpu i ymgartrefu yn yr ysgol a gwneud ffrindiau?
- Sut byddaf yn cael y diweddaraf am yr hyn sy'n digwydd yn yr ysgol?
- Sut bydd yr ysgol yn sichrau bod fy mhlentyn / mherson ifanc yn cael y cyfle i gymryd rhan ym hob un o feysydd y cwricwlwm ac mewn gweithgareddau allgyrsiol (fel clybiau amser cinio ac ar ôl ysgol a gwibdeithiau).
Cofiwch, gall eich profiad chi o fywyd ysgol effeithio ar y ffordd rydych chi'n gweld yr ysgol. Ceisiwch roi'r teimladau hyn o'r neilltu ac edrych ar yr ysgol o safbwynt eich plentyn / person ifanc.
Gallwch ddod o hyd i wybodaeth fanwl am wneud cais am le yn yr ysgol ar ein tudalennau derbyniadau ysgol.
Ydy Cyngor Abertawe yn darparu cludiant i fy mhlentyn / mherson ifanc fynychu ei ysgol gynradd?
Mae'r cyngor yn darparu cludiant rhwng y cartref a'r ysgol i ddysgwyr ag ADY lle rydym wedi penderfynu ar leoliad sy'n bellach na'r pellter statudol (2 filltir neu fwy). Ni fydd lleoliad sy'n seiliedig ar ddewis rhieni'n gymwys am gludiant rhwng y cartref a'r ysgol.
Lle nad yw plentyn / person ifanc yn gymwys i gael cludiant am ddim ac mae rhieni / gofalwyr yn barnu bod yr amgylchiadau'n gwbl eithriadol gellir gwneud cais am gymorth yda chludiant.
Gallwch ddod o hyd i wybodaeth fanwl am gludiant ysgol ar ein tudalennau cludiant ysgol.