Toglo gwelededd dewislen symudol

Aelodaeth y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus

Mae gan y bwrdd bedwar sefydliad sy'n aelodau statudol y mae gofyn iddynt gymryd rhan yn ôl y gyfraith.

Mae nifer o gyrff cyhoeddus eraill wedi'u gwahodd i gymryd rhan fel cyfranogwyr.

Dyma sefydliadau'r bwrdd:

  • Cyngor Abertawe (Aelod Statudol)
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe (Aelod Statudol)
  • Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (Aelod Statudol)
  • Cyfoeth Naturiol Cymru (Aelod Statudol)
  • Llywodraeth Cymru (Cyfranogwr Gwahoddedig)
  • Prif Gwnstabl Heddlu De Cymru (Cyfranogwr Gwahoddedig)
  • Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru (Cyfranogwr Gwahoddedig)
  • Cynrychiolydd o'r Gwasanaeth Prawf  (Cyfranogwr Gwahoddedig)
  • Gwasanaethau Gwirfoddol Cyngor Abertawe (Cyfranogwr Gwahoddedig)
  • DVLA (Cyfranogwr Gwahoddedig)
  • Coleg Gŵyr (Cyfranogwr Gwahoddedig)
  • Canolfan Byd Gwaith (Cyfranogwr Gwahoddedig)
  • Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant Abertawe (Cyfranogwr Gwahoddedig)
  • Prifysgol Abertawe (Cyfranogwr Gwahoddedig)
  • Cyngor Celfyddydau Cymru (Cyfranogwr Gwahoddedig)
  • Iechyd Cyhoeddus Cymru (Cyfranogwr Gwahoddedig)

Yn ogystal, caiff y cyrff canlynol eu gwahodd i ddod i gyfarfodydd fel partneriaid:

  • Fforwm Busnes Abertawe
  • Partneriaeth Adfywio Economaidd Abertawe
  • Bwrdd Gweithredol PPI Abertawe
  • Fforwm yr Amgylchedd, Abertawe
  • Dinas Iach/Partneriaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles
  • Partneriaeth Abertawe Mwy Diogel
  • Partneriaeth Ddysgu Abertawe

Bob blwyddyn, mae'r bwrdd yn adolygu ei aelodaeth i sicrhau bod y sefydliadau priodol yn cael eu cynnwys, gan ddibynnu ar y blaenoriaethau a bennwyd ganddo.  Wrth adolygu ei aelodaeth, bydd y bwrdd yn rhoi sylw arbennig i'r nodau llesiant cenedlaethol i sicrhau eu bod yn cael eu cynnwys yn ddigonol gan aelodaeth y bwrdd.

Close Dewis iaith