Arweiniad Cyffredinol i Fwrdd y Gwasanaethau Cyhoeddus
Mae'r bwrdd yn gwneud gwahaniaeth drwy sicrhau fod gwasanaethau cyhoeddus yn gweithio gyda'i gilydd i fynd i'r afael â'r un blaenoriaethau.
Mae gan y bwrdd bedair prif dasg:
- Llunio a chyhoeddi asesiad o gyflwr lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol yn ninas a sir Abertawe.
- Llunio a chyhoeddi Cynllun Lles lleol ar gyfer Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe sy'n amlinellu amcanion lleol a'r camau y mae'n cynnig eu cymryd i'w cyflawni.
- Cymryd yr holl gamau rhesymol i gyflawni'r amcanion lleol a osodwyd.
- Llunio a chyhoeddi adroddiad blynyddol sy'n nodi cynnydd y bwrdd wrth geisio cyflawni'r amcanion lleol.
Yr Egwyddor Datblygu Cynaliadwy
Datblygu cynaliadwy yw prif egwyddor gweithgareddau'r bwrdd. Mae hyn yn golygu gweithio mewn ffordd sy'n ceisio sicrhau y diwellir anghenion presennol heb gyfaddawdu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain.
Yn benodol, mae datblygu cynaliadwy'n golygu ystyried y ffyrdd o weithio canlynol:
- Y tymor hir - cydbwyso anghenion tymor byr â'r angen i ddiogelu'r gallu i ddiwallu anghenion tymor hir hefyd.
- Ataliaeth - gweithredu i atal problemau rhag codi neu waethygu.
- Integreiddio - sicrhau fod pob asiantaeth cyhoeddus yn ystyried y nodau llesiant cenedlaethol ac amcanion cyrff cyhoeddus eraill wrth bennu eu blaenoriaethau eu hunain.
- Cydweithio - gweithio gydag unrhyw un a allai helpu sefydliad i gyflawni ei amcanion lles.
- Cynnwys - cynnwys pobl sydd â diddordeb mewn cyflawni'r nodau lles a sicrhau bod y bobl hynny'n adlewyrchu amrywiaeth yr ardal leol.
Ymrwymiadau Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus
Mae cyfres o ymrwymiadau yn sail i waith y bwrdd, ac mae'n rhaid i holl aelodau a chyfranogwyr y bwrdd ymrwymo iddynt pan fyddant yn ymuno. Mae'r ymrwymiadau hyn y tu hwnt i'r dyletswyddau cyfreithiol sydd gan y sefydliadau gwahanol.
Aelodaeth y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus
Mae gan y bwrdd bedwar sefydliad sy'n aelodau statudol y mae gofyn iddynt gymryd rhan yn ôl y gyfraith.
Dewis iaith
Addaswyd diwethaf ar 24 Tachwedd 2022