Toglo gwelededd dewislen symudol

Casglu deunydd ailgylchu a gwastraff mewn tywydd gwyntog

Er mwyn helpu i atal sbwriel a chadw eich cymuned yn daclus, dilynwch yr awgrymiadau ailgylchu hyn pan fydd y tywydd yn gwaethygu.

  • Os yw eich cynwysyddion ailgylchu dim ond yn hanner llawn ac y gallwch ymdopi, ystyriwch aros tan yr wythnos ganlynol pan all y tywydd fod yn well i'w gadael allan
  • Rhowch eich cynwysyddion gwastraff ac ailgylchu allan ar fore'r casgliad mor agos at 6.00am â phosib ond heb fod yn hwyrach na hynny a chasglwch nhw cyn gynted â phosib ar ôl y casgliad.
  • Lle bynnag y bo modd, rhowch y cynwysyddion mewn man cysgodol, er enghraifft yn erbyn ffens neu wal, er mwyn ei amddiffyn rhag y gwynt ac rhowch eitemau trymach o gwmpas ac ar ben unrhyw sachau a chynwysyddion ysgafnach.
  • Gwnewch yn siŵr bod y strapiau felcro ar y bagiau pinc ailddefnyddiadwy wedi'u rhoi'n sownd yn ei gilydd i leihau'r posibilrwydd o eitemau plastig yn cael eu chwythu allan o'r bag.
  • Bydd nodi rhif neu enw'ch tŷ ar eich cynwysyddion ailddefnyddiadwy yn ei wneud yn haws i'r criwiau casglu a'ch cymdogion eu dychwelyd.
  • Bydd ein criwiau yn codi deunydd y maent wedi'u gollwng a efallai y gallant godi eitemau sydd wedi'u chwythu yn agos at gynwysyddion, ond ni allant bob amser godi eitemau sydd wedi chwythu bellteroedd maith i lawr y stryd. Os gwelwch yn dda, gwnewch bopeth y gallwch i atal gwastraff rhag cael ei chwythu gan y gwynt, a rhowch wybod am unrhyw broblemau sbwriel difrifol.

Diolch i chi am ailgylchu ac am helpu i gadw eich cymdogaeth yn lân ac yn daclus.

Close Dewis iaith