Toglo gwelededd dewislen symudol

Amodau a Thelerau trwydded i godi sgaffaldau/hysbysfyrddau/ffensys ar briffordd

Os cewch drwydded i godi sgaffaldau / hysbysfyrddau/ffensys dros dro mae'n amodol ar y canlynol.

Rhaid i chi gymryd pob rhagofal angenrheidiol i ddiogelu cerddwyr a phob traffig arall (sicrhewch fod polion yn cael eu paentio'n felyn a bod esgidiau'n cael eu gosod ar fariau). Rhaid i fannau cerdded gael eu goleuo'n ddigonol pan fo'n dywyll, gyda goleuadau ychwanegol yn cael eu darparu gan y trwyddedai os oes angen.

Darparu troedffordd briodol heb rwystr i gerddwyr (h.y. dim rakers yn rhwystro'r droedffordd/dim rakers ochr) dan y sgaffaldau, gan gadw 2.1 metr o le uwch ben gyda gorchudd llawn uwchben a lled clir 1.2 metr o droedffordd. Os nad oes modd osgoi defnyddiorakers, yna mae'n rhaid darparu ffordd arall ar gyfer cerddwyr wrth ymyl y sgaffaldau gan ddefnyddio atalfeydd etc. Rhaid cadw at ddarpariaeth adrannau 65 a 124 o Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991 ar gyfer yr holl waith ar y briffordd, neu'r gwaith sy'n effeithio arni ar bob achlysur.

Rhaid i chi dderbyn cyfrifoldeb am unioni unrhyw niwed i'r droedffordd neu'r ffordd gerbydau oherwydd y sgaffaldau/ffensys.

Rhaid cael caniatâd ymlaen llaw gan Adran Goleuadau Cyhoeddus ar gyfer gwaith sy'n amgylchynu colofnau goleuo.Mae'n rhaid i ni gael mynediad 24 awr i'r colofnau hyn at ddibenion cynnal a chadw neu mewn argyfwng.

Mae'n rhaid darparu rheolaeth goleuadau traffig pan fydd ffordd gerbydau wedi'i chyfyngu i un lôn yn ystod gwaith codi sgaffaldau.

Rhaid i chi dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gais neu weithred a all godi oherwydd y sgaffaldau/ffensys.

Rhaid i chi dynnu'r sgaffaldau/hysbysfyrddau/ffensys cyn gynted ag y bydd y gwaith wedi'i gwblhau.

Rhaid cadw'r droedffordd ddynodedig yn glir drwy'r amser.

Mae tâp adlewyrchu yn ofynnol ar byst y sgaffaldau neu ar gorneli'r hysbysfyrddau/ffensys er mwyn rhybuddio cerddwyr neu ddefnyddwyr ffyrdd.

Rhaid i chi gydymffurfio â gofynion Deddf Priffyrdd 1980, is adran 175a (Pobl Anabl). Rhaid i waith beidio â rhwystro llwybr i bobl ddall ac anabl yn ddiangen. Dylid darparu rampiau ac atalfeydd  lle bo angen i'w hamddiffyn a'u harwain.

Rhaid codi'r sgaffaldau y tu allan i oriau gwaith (h.y. ar ôl 6.00pm a chyn 8.00am neu ar ddydd Sul yn unig) os ydynt mewn ardal siopa neu i gerddwyr, a bod malurion yn cael eu rhwydo o'r lefel gyntaf ymlaen.

Mae'n rhaid dilyn yr amodau a'r telerau y cytunwyd arnynt gyda swyddogion y cyngor/cynrychiolwyr yn ystod cyfarfodydd safle a/neu unrhyw ohebiaeth arall.

Mae'n rhaid sicrhau bod enw a rhif ffôn y cwmni yn weladwy ar bob sgaffald at ddibenion argyfwng.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 13 Awst 2021