Caniatâd i osod sgaffaldiau / hysbysfyrddau / ffensys ar briffordd
Os ydych yn bwriadu gosod sgaffaldau, hysbysfyrddau neu ffensys ar unrhyw ran o briffordd gyhoeddus yn Abertawe, bydd angen trwydded arnoch gennym.
Ni roddir trwyddedau os bydd gosod y sgaffald, yr hysbysfwrdd neu'r ffensys mynd yn groes i unrhyw ddarpariaeth yn Neddf Priffyrdd 1980.
Bydd angen i chi gael yswiriant atebolrwydd cyhoeddus gwerth o leiaf £5 miliwn. Rhaid cyflwyno copi cyfredol o'ch tystysgrif yswiriant gyda'ch cais. Byddwch yn gallu lanlwytho fersiwn electronig fel rhan o'r ffurflen.
Amodau a Thelerau trwydded i godi sgaffaldau/hysbysfyrddau/ffensys ar briffordd