Toglo gwelededd dewislen symudol

Apelio yn erbyn Hysbysiad o Dâl Cosb (PCN)

Gallwch herio'ch tâl cosb am barcio os ydych yn teimlo y rhoddwyd hwn ar gam.

Mae tri cham i hyn:

  • Her anffurfiol i'r cyngor:
  • Cyflwyno sylwadau ffurfiol i'r cyngor
  • Apêl i'r Tribiwnlys Cosbau Traffig os nad yw'r sylwadau a gyflwynwyd i'r cyngor yn llwyddo

Herio'n anffurfiol

Dylech ysgrifennu cyn gynted a bo modd i'r cyfeiriad a roddir ar y PCN.Yn ogystal gallwch wneud her anffurfiol trwy ddefnyddio ein ffurflen arlein: Gwneud her anffurfiol yn erbyn Hysbysiad o Dâl Cosb (PCN) Cofiwch gynnwys eich enw llawn, eich cyfeiriad post, rhif cofrestru'ch cerbyd a rhif yr Hysbysiad o Dâl Cosb o frig yr hysbysiad (sy'n dechrau gyda WJ). Bydd angen i chi roi'r rhesymau pam rydych yn credu na ddylai'r PCN fod wedi'i roi neu pam y dylai gael ei ganslo.

Mae rhwymedigaeth gyfreithiol ar y cyngor i ystyried yr holl heriau anffurfiol a dderbynnir. Os ydych yn cyflwyno her anffurfiol o fewn 14 diwrnod o ddyddiad cyflwyno'r PCN, bydd cyfnod y gostyngiad yn cael ei ohirio nes bod y cyngor yn gallu ymdrin â'ch gohebiaeth - ymdrinnir â phob achos yn ei dro.

Mae Swyddogion Gorfodi Sifil yn cofnodi holl amgylchiadau cyflwyno PCN. Rhaid ystyried y gallant hefyd gofnodi tystiolaeth ffotograffig o safle'r cerbyd.

Byddwn yn ateb gan roi gwybod i chi a yw'r her anffurfiol wedi'i derbyn, ac os felly, caiff y PCN ei ganslo. Os na dderbynnir yr her, ar yr amod eich bod wedi cyflwyno'r her o fewn 14 diwrnod o dderbyn y PCN, rhoddir 14 diwrnod arall i chi i dalu'r PCN ar y gyfradd ostyngol (£35 neu £25). 

Gellir gwneud ymholiadau cyffredinol am faterion parcio dros y ffôn. Fodd bynnag, ni allwn dderbyn heriau neu sylwadau dros y ffôn na thrwy e-bost. Mae'n rhaid cyflwyno heriau a sylwadau yn erbyn rhoi PCN yn ysgrifenedig.

Sylwadau ffurfiol

Ni allwch gyflwyno sylwadau ffurfiol yn erbyn PCN nes i chi dderbyn Hysbysiad i'r Perchennog.

Nawr mae'n rhaid i chi ddewis yr hyn i'w wneud nesaf. Gallwch naill ai:

  • Dalu'ch PCN o fewn 28 niwrnod i dderbyn yr Hysbysiad i'r Perchennog (os ydych yn talu'r PCN, byddwch wedi derbyn y gosb ac ni allwch gyflwyno sylwadau), neu
  • Gyflwyno sylwadau ffurfiol i'r cyngor i ganslo'ch PCN.

Chi sy'n dewis beth rydych chi am ei wneud - ond beth bynnag y gwnewch, peidiwch â gwneud dim byd - ni fydd PCN yn diflannu os ydych yn ei anwybyddu - bydd yn costio mwy i chi yn y pen draw.

Cyflwyno sylwadau ffurfiol i'r cyngor

Mae Hysbysiad i'r Perchennog wedi'i anfon atoch chi oherwydd credir mai chi yw'r  person neu'r cwmni sy'n geidwad cofrestredig y cerbyd. Rhoddir yr wybodaeth hon i'r cyngor fel arfer gan yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA). Fodd bynnag, mae gan y cyngor hawl gyfreithiol i anfon Hysbysiad i'r Perchennog i'r person y mae'n credu yw perchennog/ceidwad y cerbyd ar adeg y tramgwydd.
O dan Ddeddf Rheoli Traffig 2004 (Rhan 6) ceidwad/perchennog y cerbyd sy'n gyfrifol am unrhyw PCN a roddir iddo, ni waeth pwy oedd yn gyrru.I gyflwyno sylwadau ffurfiol, mae'n rhaid i chi:

  • Gyflwyno'r sylwadau'n ysgrifenedig, neu: Cyflwyno sylwadau ffurfiol i'r cyngor
  • Nodi ar ba sail rydych am i'r PCN gael ei ganslo, a
  • Gwneud hynny o fewn 28 niwrnod i dderbyn yr Hysbysiad i'r Perchennog

Nodi'ch achos yn glir ac yn syml. Os oes gennych dystiolaeth i gefnogi'ch honiadau, megis derbynebau, ffotograffau (gyda'r dyddiad a'r amser wedi'u hargraffu arnynt o ddewis) ac unrhyw ddatganiadau gan dystion, anfonwch hwy gyda'ch ffurflen. Anfonwch gopïau'n unig a chadwch y gwreiddiol mewn man diogel.
Os nad ydych yn credu eich bod yn bodloni un o'r seiliau cyfreithiol ar gyfer cyflwyno sylwadau, gallwch nodi'ch achos o hyd, oherwydd gall y cyngor arfer ei ddisgresiwn a chanslo'r PCN os oedd argyfwng neu amgylchiadau eithriadol.

Beth nesaf?

Os yw'r cyngor yn derbyn eich sylwadau, byddwch yn derbyn llythyr yn eich hysbysu o hyn (Hysbysiad o Dderbyn) ac ni fyddwch bellach yn atebol am y tâl cosb.
Gall y PCN gael ei ganslo hefyd, oni bai bod ceidwad/perchennog newydd wedi'i nodi (o bosib o ganlyniad i'ch sylwadau), a fydd wedyn yn atebol am dalu'r tâl cosb.
Os gwrthodir eich sylwadau, anfonir llythyr atoch yn esbonio pam. Gelwir hyn yn Hysbysiad o Wrthod sylwadau. Gyda'r llythyr hwn, byddwch hefyd yn derbyn ffurflen o'r enw Hysbysiad o Apêl sy'n caniatáu i chi apelio i'r Dyfarnwr Parcio.

Rydych wedi derbyn 'Hysbysiad o Wrthod'

Mae hyn yn golygu nad yw'r cyngor wedi derbyn eich dadl y dylid canslo'r PCN.Nawr mae'n rhaid i chi ddewis beth i'w wneud nesaf.

Gallwch naill ai:

  • Dalu'ch PCN o fewn 28 niwrnod i dderbyn yr Hysbysiad o Wrthod.Os ydych yn talu'r PCN byddwch wedi derbyn y gosb ac ni allwch gyflwyno apêl i'r Tribiwnlys Cosbau Traffig.
  • Cyflwyno apêl i'r Tribiwnlys Cosbau Traffig.

Cyflwyno apêl i'r Tribiwnlys Cosbau Traffig

Mae'r Tribiwnlys Cosbau Traffig yn gorff sy'n annibynnol ar y cyngor. Mae dyfarnwyr yn bobl a chanddynt o leiaf bum mlynedd o brofiad cyfreithiol sy'n ystyried y dystiolaeth ar gyfer apeliadau yn erbyn PCN a roddir gan gynghorau. Mae eu penderfyniad hwy'n derfynol ac yn rhwymol o ran y ddau barti.

Ynghyd â'r Hysbysiad o Wrthod Sylwadau, anfonir Hysbysiad o Apêl atoch.Mae'n rhaid i chi gyflwyno apêl i'r Tribiwnlys Cosbau Traffig gan ddefnyddio'r ffurflen hon. Cofiwch na allwch gyflwyno apêl i'r Tribiwnlys Cosbau Traffig oni bai eich bod wedi cyflwyno sylwadau i'r cyngor a'u bod wedi'u gwrthod.

Pan fyddant yn derbyn 'Hysbysiad o Apêl', bydd staff y Tribiwnlys Cosbau Traffig yn gwneud rhai gwiriadau sylfaenol ac os yw popeth yn iawn, caiff ei chofrestru fel apêl ffurfiol. Ar ôl hyn bydd sawl peth yn digwydd:

  • Anfonir cydnabyddiaeth ffurfiol atoch fod yr apêl wedi'i derbyn a'i chofrestru. Os ydych wedi gofyn am benderfyniad drwy'r post, cewch eich hysbysu o'r wythnos y penderfynir ar eich apêl.
  • Hysbysir y cyngor bod apêl wedi'i chyflwyno a rhoddir 21 diwrnod iddo gyflwyno'i dystiolaeth i'r dyfarnwr.
  • Os ydych wedi gofyn am apêl bersonol, bydd staff y Tribiwnlys Cosbau Traffig yn trefnu y caiff ei chlywed yn y gwrandawiad priodol nesaf mewn lleoliad o'ch dewis, a bydd yn rhoi o leiaf 21 diwrnod o rybudd i chi o'r union ddyddiad, amser a lleoliad.

Gwrandawiadau post
Mewn apêl drwy'r post, bydd y dyfarnwr yn ystyried yr apêl yn seiliedig ar y dystiolaeth ysgrifenedig rydych chi a'r cyngor wedi'i chyflwyno'n unig. Anfonir penderfyniad ysgrifenedig i'r ddau barti fel arfer o fewn wythnos o benderfynu'r achos.

Gwrandawiadau personol
Mae gwrandawiadau personol fel arfer yn para tua 15 munud ac fe'u cynhelir mewn lleoliad sy'n annibynnol ar y cyngor. Gallwch ddewis cael gwrandawiad i'ch apêl bersonol yn unrhyw un o'r lleoliadau a restrir ar y ffurflen 'Hysbysiad o Apêl', ni waeth ble roddwyd y PCN.

Mae apeliadau parcio'n agored i'r cyhoedd, ac mewn egwyddor, gall unrhyw un fod yn bresennol fel arsylwr, er bod hyn yn anghyffredin. Mae'r gweithrediadau'n gymharol anffurfiol. Y rhai sy'n bresennol fel arfer yw'r dyfarnwr, yr apelydd (chi) a chynrychiolydd y cyngor (er efallai bydd y cyngor yn dewis cyflwyno'i sylwadau'n ysgrifenedig). Bydd cyfle gennych i gyflwyno'ch achos i'r dyfarnwr ac ateb unrhyw gwestiwn mae'n ei ofyn i chi. Er nad oes gofyn i'r rhai sy'n cymryd rhan roi eu tystiolaeth dan lw, atgoffir pob parti o'i ddyletswydd i ddweud y gwir ar bob adeg.

Gallwch ddewis dod â pherthynas neu gefnogwr gyda chi i apêl bersonol. Hefyd, caiff tystion gymryd rhan. Oherwydd natur anffurfiol y gweithrediadau, anaml y mae angen cynrychiolaeth gyfreithiol. Ar ddiwedd y gwrandawiad, bydd y dyfarnwr bron bob amser yn rhoi ei benderfyniad. Caiff y penderfyniad ei gadarnhau'n ysgrifenedig i chi a'r cyngor, fel arfer o fewn 7 niwrnod.
 
Ar ôl y gwrandawiad
Os ydych yn ennill eich apêl a chaiff eich atebolrwydd am y tâl cosb ei ganslo, dyma ddiwedd ar y mater fel arfer.Os ydych yn colli'ch apêl, mae'n rhaid i chi dalu'r tâl sy'n ddyledus i'r cyngor.
Mae gan y dyfarnwr y pŵer i ystyried y cais am gostau o'r naill barti a'r llall. Fodd bynnag, mae'r rhain yn hynod brin ac os dyfernir costau, mae'r symiau cysylltiedig fel arfer yn fach.

Wedi colli'ch apêl?

Peidiwch â gwneud dim byd.

  • Os ydych yn apelio i'r dyfarnwr parcio annibynnol ond yn colli'ch apêl, neu'n dewis peidio ag apelio os yw'r cyngor yn gwrthod eich sylwadau, bydd rhaid i chi dalu'r tâl cosb o fewn 28 niwrnod i dderbyn  hysbysiad ysgrifenedig o'r penderfyniad.
  • Os nad ydych yn talu o fewn 28 niwrnod, gall y cyngor anfon dogfen o'r enw 'Tystysgrif Tâl' atoch a fydd yn cynyddu'r tâl cosb 50%. Bydd gennych 14 diwrnod i dalu'r tâl uwch. 
  • Os nad ydych yn talu'r swm uwch o fewn 14 diwrnod, gall y cyngor wneud cais i gofrestru'r tâl fel dyled yn y Llys Sirol, ac yn yr achos hwn, bydd mwy o daliadau'n berthnasol.

Bydd hawl gan y cyngor i fynd ar drywydd y ddyled drwy'r llysoedd. Cesglir dyledion gan feilïod a fydd hefyd yn codi eu taliadau eu hunain.

Cwyno am y cynllun parcio.

Gwneud her anffurfiol yn erbyn Hysbysiad o Dâl Cosb (PCN)

Dylech roi gwybod i ni cyn gynted ag y bo modd os ydych am apelio yn erbyn hysbysiad gorfodi parcio.

Cyflwyno sylwadau ffurfiol i'r cyngor

Ni allwch gyflwyno sylwadau ffurfiol yn erbyn PCN nes i chi dderbyn Hysbysiad i'r Perchennog.
Close Dewis iaith